Gwnaed
24 Mehefin 2009
Yn dod i rym
1 Hydref 2009
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 11, 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 a pharagraffau 21 a 24 o Atodlen 2 iddi(1) yn gwneud Gorchymyn hwn.
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Byrddau Iechyd Lleol (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) (Cymru) 2009 a daw i rym ar 1 Hydref 2009.
(2) Yn y Gorchymyn hwn;
"Byrddau newydd" ("new Boards") yw'r Byrddau Iechyd Lleol hynny a restrir yng ngholofn 2 o'r Atodlen;
"hen Fyrddau" ("old Boards") yw'r Byrddau Iechyd Lleol hynny a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodlen;
ystyr "Bwrdd newydd perthnasol" ("relevant new Board") mewn perthynas â hen Fwrdd a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yw'r Bwrdd newydd a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno mewn perthynas â'r hen Fwrdd hwnnw;
ystyr "y dyddiad trosglwyddo" ("transfer date") yw 1 Hydref 2009;
2. Trosglwyddir unrhyw berson a oedd yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn cael ei gyflogi gan yr hen Fwrdd i'r Bwrdd newydd perthnasol ar y dyddiad trosglwyddo.
3. Ar y dyddiad trosglwyddo trosglwyddir holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau hen Fwrdd, i'r graddau na chyfeirir atynt yn erthygl 2, i'r Bwrdd newydd perthnasol gan gynnwys heb gyfyngiad y ddyletswydd i baratoi'r cyfrifon sydd heb eu cwblhau gan yr hen Fwrdd a chyflawni'r holl ddyletswyddau statudol mewn perthynas â'r cyfrifon hynny.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Mehefin 2009
Erthygl 1(2)
Colofn 1 | Colofn 2 |
---|---|
Yr Hen Fwrdd Iechyd Lleol(2) | Y Bwrdd Iechyd Lleol Newydd(3) |
Bwrdd Iechyd Lleol Ynys Môn | Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr |
Bwrdd Iechyd Lleol Blaenau Gwent | Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan |
Bwrdd Iechyd Lleol Pen-y-bont ar Ogwr | Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg |
Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Caerffili | Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan |
Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd | Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro |
Bwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin | Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda |
Bwrdd Iechyd Lleol Ceredigion | Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda |
Bwrdd Iechyd Lleol Conwy | Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr |
Bwrdd Iechyd Lleol Sir Ddinbych | Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr |
Bwrdd Iechyd Lleol Sir y Fflint | Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr |
Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd | Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr |
Bwrdd Iechyd Lleol Merthyr Tudful | Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf |
Bwrdd Iechyd Lleol Sir Fynwy | Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan |
Bwrdd Iechyd Lleol Castell-Nedd Port Talbot | Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg |
Bwrdd Iechyd Lleol Casnewydd | Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan |
Bwrdd Iechyd Lleol Sir Benfro | Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda |
Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Rhondda Cynon Taf | Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf |
Bwrdd Iechyd Lleol Abertawe | Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg |
Bwrdd Iechyd Lleol Tor-faen | Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan |
Bwrdd Iechyd Lleol Bro Morgannwg | Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro |
Bwrdd Iechyd Lleol Wrecsam | Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau ar 1 Hydref 2009 oddi wrth y Byrddau Iechyd Lleol a ddiddymwyd gan Orchymyn y Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/ 778 (Cy.66)) i'r Byrddau Iechyd Lleol newydd a sefydlwyd ar 1 Mehefin 2008 gan y Gorchymyn hwnnw.