Gwnaed
21 Mai 2009
Yn dod i rym
1 Hydref 2009
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 18 a 204(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 28(1) o Atodlen 3 iddi(1) ac wedi cwblhau'r ymgynghoriad a ragnodir o dan baragraff 28(3) o'r Atodlen i'r Ddeddf honno(2) yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diddymu) (Cymru) 2009 a daw i rym ar 1 Hydref 2009.
2. Mae Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a restrir yng ngholofn 1 i'r Atodlen yn cael eu diddymu ac mae'r Gorchmynion cyfatebol a restrir yng ngholofn 2 i'r Atodlen yn cael eu dirymu.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
21 Mai 2009
Erthygl 2
Ymddiriedolaeth GIG | Gorchymyn Ymddiriedolaeth GIG |
---|---|
Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe Bro Morgannwg | Gorchymyn Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe Bro Morgannwg (Sefydlu) 2008 (O.S. 2008/716 (Cy.75)) |
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf | Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf (Sefydlu) 2008 (O.S. 2008/717 (Cy.76)) |
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro | Gorchymyn Sefydlu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro 1999 (O.S. 1999/3451 (Cy.49)) |
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Gwent | Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Gwent (Sefydlu) (O.S. 1998/3321) |
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda | Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda (O.S. 2008/712 (Cy.73)) |
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru | Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwladol Gogledd Cymru (Sefydlu) 2008 (O.S. 2008/1648 (Cy.160)) |
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Orllewin Cymru | Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Orllewin Cymru (Sefydlu) (O.S. 1998/3314) |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer diddymu saith Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru ar 1 Hydref 2009 ac ar gyfer dirymu'r gorchmynion sefydlu perthnasol.