Gwnaed
9 Mai 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Mai 2009
Yn dod i rym
5 Mehefin 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 30(1) o Ddeddf Addysg 1997(1) fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu) 2005(2) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(3) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Swyddogaethau mewn perthynas â Chymwysterau Allanol (Cymru) 2009.
(2) Mae'n gymwys o ran Cymru.
(3) Daw i rym ar 5 Mehefin 2009.
(4) Yn y Gorchymyn hwn, mae cyfeiriadau at baragraffau yn gyfeiriadau at baragraffau o adran 30(1) o Ddeddf Addysg 1997.
2.–(1) Mae'r swyddogaethau a osodir ym mharagraffau (a) i (c), (d) ac (ea) i'r graddau y maent yn ymwneud â chymwysterau galwedigaethol cenedlaethol i'w harfer gan Weinidogion Cymru yn unig.
(2) Mae'r swyddogaethau a osodir ym mharagraffau (e) ac (f) i'r graddau y maent yn ymwneud â chymwysterau galwedigaethol cenedlaethol i'w harfer gan Weinidogion Cymru yn unig.
John Griffiths
Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
9 Mai 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn ymwneud ag adran 30 o Ddeddf Addysg 1997 ac yn benodol â'r swyddogaethau a restrir yn adran 30(1) i'r graddau y maent yn ymwneud â chymwysterau galwedigaethol cenedlaethol. Datgenir yn adran 30(1C) fod rhai penodol o'r swyddogaethau hynny ((a) i (c), (d) ac (ea)) yn arferadwy gan Weinidogion Cymru (mae swyddogaethau'n arferadwy ganddynt bellach yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006) yn gyfamserol â'r Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm; a bod swyddogaethau penodol eraill ((e) ac (f)) yn arferadwy gan yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm yn unig.
Dyma'r swyddogaethau sy'n arferadwy yn gyfamserol â'r Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm: adolygu pob agwedd ar gymwysterau galwedigaethol cenedlaethol; darparu cymorth a chyngor i bersonau sy'n darparu cyrsiau sy'n arwain at gymwysterau o'r fath gyda golwg ar gynnal safonau uchel; cyhoeddi gwybodaeth sy'n ymwneud â chymwysterau o'r fath; datblygu a chyhoeddi meini prawf ar gyfer achredu cymwysterau o'r fath; datblygu gweithdrefnau ar gyfer parhau i achredu os yw unrhyw berson yn peidio â bod yn gydnabyddedig. Dyma'r swyddogaethau sy'n arferadwy gan yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm yn unig: achredu cymwysterau galwedigaethol cenedlaethol a gwneud trefniadau ar gyfer profion.
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi fod y ddwy set o swyddogaethau i'w harfer gan Weinidogion Cymru yn unig.