Gwnaed
12 Mawrth 2009
Yn dod i rym
6 Ebrill 2009
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Rhestru) (Cymru) (Diwygio) 2009 a daw i rym ar 6 Ebrill 2009.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2.–(1) Mae Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Rhestru) (Cymru) 2007 yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 1 o Ran 1 o'r Atodlen hepgorer–
(a) "Arts Institute at Bournemouth, The";
(b) "Ashridge Management College";
(c) "Belfast Institute of Further and Higher Education";
(ch) "Birmingham College of Food, Tourism and Creative Studies";
(d) "Birmingham International College";
(dd) "Central College";
(e) "Coleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin"
"Josia Mason College";
(f) "Keighley College";
(ff) "Limavady College of Further and Higher Education";
(g) "London School of Accountancy and Management";
(ng) "Newry City Institute";
(h) "North Down and Ards Institute";
(i) "Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWI)";
(j) "Norwich School of Art and Design";
(l) "Omagh College";
(ll) "Pershore Group of Colleges";
(m) "Saxon College";
(n) "Suffolk College";
(o) "Athrofa Addysg Uwch Abertawe";
(p) "UHI Millenium Institute"; ac
(ph) "Westminster College of Computing".
(3) Yn adran 1 o Ran 1 o'r Atodlen yn lle–
(a) "Brooklands College", rhodder "Brooklands Technical College";
(b) "City Literacy Institute", rhodder "City Lit";
(c) "Coleg Llandrillo", rhodder "Coleg Llandrillo (a elwir Coleg Llandrillo)";
(ch) "East Durham and Houghall Community College", rhodder "East Durham College";
(d) "Lauder College", rhodder "Cornegie College";
(dd) "Otley College", rhodder "Otley College of Agriculture and Horticulture";
(e) "Regents Theological College", rhodder "Regents Theological College, Nantwich";
(f) "St John Rigby College, rhodder "St John Rigby Roman Catholic Sixth Form College";
(ff) "Stockport College", rhodder "Stockport College of Further and Higher Education";
(g) "Tresham Institute of Further and Higher Education", rhodder "Tresham Institute";
(ng) "Trinity and All Saints College", rhodder "Leeds Trinity and All Saints";
(h) "Warwickshire College", rhodder "Warwickshire College, Royal Leamington Spa, Rugby and Moreton Morrell"; ac yn lle
(i) "Yorkshire Coast College", rhodder "Yorkshire Coast College of Further and Higher Education".
(4) Yn adran 1 o Ran 1 o'r Atodlen mewnosoder yn y man priodol–
(a) "Alpha Meridian College";
(b) "Belfast Metropolitan College";
(c) "Brittin College";
(ch) "City of London College";
(d) "Clydebank College";
(dd) "Court Theatre Training Company";
(e) "E Thames Graduate School";
(f) "London College of Business";
(ff) "North West Regional College";
(g) "Northern Regional College";
(ng) "Royal London College";
(h) "Resource Development International";
(i) "School of Psychotherapy and Counselling Psychology";
(j) "South Eastern Regional College";
(l) "Southern Regional College";
(ll) "South West College";
(m) "Stephenson College";
(n) "TASMAC London School of Business";
(o) "Thurrock and Basildon College";
(p) "Wessex Institute of Technology";
(ph) "West London".
(5) Yn adran 2 o Ran 1 o'r Atodlen hepgorer–
(a) "Armagh College of Further and Higher Education";
(b) "Barking and Dagenham Borough Council";
(c) "Brooklands College";
(ch) "Castlereagh College of Further and Higher Education";
(d) "Causeway College of Further and Higher Education";
(dd) "East Antrim Institute of Further and Higher Education";
(e) "East Down Institute of Further and Higher Education";
(f) "Fermanagh College";
(ff) "Lisburn Institute";
(g) "London Academy for Higher Education";
(ng) "North East Institute of Further and Higher Education";
(h) "North West Institute of Further and Higher Education";
(i) "Thurrock and Basildon College";
(j) "Upper Bann Institute of Further and Higher Education"; ac
(l) "Waltham Forest College".
(6) Yn adran 2 o Ran 1 o'r Atodlen yn lle–
(a) "Ashton Sixth Form College", rhodder "Ashton-Under-Lyne Sixth Form College";
(b) "Bourneville College", rhodder "Bourneville College of Further Education";
(c) "Cirencester College", rhodder "Cirencester Tertiary College";
(ch) "Dudley College", rhodder "Dudley College of Technology";
(d) "Halton College" rhodder "Riverside College Halton";
(dd) "Highbury College" rhodder "Highbury College, Portsmouth";
(e) "Mid-Cheshire College", rhodder "Mid-Cheshire College of Further Education";
(f) "North West Kent College", rhodder "North West Kent College of Technology";
(ff) "Orpington College", rhodder "Orpington College of Further Education";
(g) "Park Lane College", rhodder "Park Lane College, Leeds";
(h) "Plymouth College of Further Education", rhodder "City College, Plymouth";
(i) "Richard Huish College", rhodder "Richard Huish College, Taunton";
(j) "Sir George Monoux College", rhodder "Sir George Monoux Sixth Form College";
(l) "Stroud College in Gloucestershire", rhodder "Stroud College of Further Education";
(ll) "York College of Further and Higher Education", rhodder "York College".
(7) Yn adran 2 o Ran 1 o'r Atodlen mewnosoder yn y man priodol–
(a) "Coleg Harlech WEA (N)";
(b) "Creative Academy";ac
(c) "Kaplan Aspect".
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
12 Mawrth 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio'r rhestr o gyrff a geir yng Ngorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Rhestru) (Cymru) 2007 ("Gorchymyn 2007").
Mae Gorchymyn 2007 yn rhestru enw pob corff nad yw'n gorff cydnabyddedig o fewn adran 216(4) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 ond yr ymddengys i Weinidogion Cymru ei fod naill ai–
(a) yn darparu cwrs sydd yn baratoad at ddyfarnu gradd gan gorff cydnabyddedig o'r fath ac a gymeradwyir gan y corff hwnnw neu ar ei ran; neu
(b) yn goleg cyfansoddol, yn ysgol, yn neuadd neu'n sefydliad arall sy'n rhan o brifysgol sy'n gorff cydnabyddedig.
Ystyr "cyrff cydnabyddedig" yw prifysgolion, colegau neu gyrff eraill a awdurdodir gan Siarter Frenhinol neu gan Ddeddf Seneddol neu oddi tani i roi graddau, a chyrff eraill y mae'r cyrff hynny'n caniatáu iddynt am y tro weithredu ar eu rhan wrth ddyfarnu graddau.
Mae'r Gorchymyn hwn yn diweddaru'r rhestr o gyrff a geir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwnnw. Caiff nifer o gyrff eu hepgor o'r Atodlen gan nad ydynt bellach yn darparu cyrsiau a gymeradwyir gan gorff cydnabyddedig neu ar ei ran. Mae'r Atodlen yn cynnwys cyrff nad oeddynt wedi'u rhestru mewn Gorchmynion blaenorol, ond sydd bellach yn darparu cyrsiau a gymeradwyir gan sefydliad cydnabyddedig neu ar ei ran. Cafodd nifer o fân newidiadau hefyd eu gwneud i'r Atodlen i gymryd ystyriaeth o newidiadau i enwau a gafodd eu gwneud ers pan wnaed Gorchymyn 2007.