Gwnaed
12 Mawrth 2009
Yn dod i rym
6 Ebrill 2009
1.–(1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) (Diwygio) 2009 a daw i rym ar 6 Ebrill 2009.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2.–(1) Mae Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2007(3) yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn.
3. Yn yr Atodlen hon–
(a) hepgorer–
(i) "Henley Management College"; a
(ii) "University of Paisley".
(b) yn lle–
(i) "Buckinghamshire Chilterns University College", rhodder "Buckinghamshire New University";
(ii) "University of Central England in Birmingham", rhodder "Birmingham City University";
(iii) "College of St. Mark and St. John, Plymouth, The" rhodder "University College Plymouth, St. Mark and St. John";
(iv) "University College for the Creative Arts at Canterbury, Epsom, Farnham, Maidstone and Rochester" rhodder "University for the Creative Arts";
(v) "Newman College of Higher Education, Birmingham", rhodder "Newman University College".
4. Yn yr atodlen, mewnosoder yn y man priodol–
(a) "Arts Institute at Bournemouth, The";
(b) "Ashridge (Bonar Law Memorial) Trust (a elwir hefyd "Ashridge")";
(c) "Coleg Prifysgol y Drindod (Trinity University College)"
(ch) "University College Birmingham";
(d) "Prifysgol Glyndŵr (Glyndŵr University)";
(dd) "Norwich University College of the Arts";
(e) "Prifysgol Fetropolitan Abertawe (Swansea Metropolitan University)";
(f) "UHI Millenium Institute"; ac
(ff) "University of the West of Scotland".
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
12 Mawrth 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2007 yn yn rhestru'r holl gyrff hynny yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn gyrff cydnabyddedig o fewn adran 214 (2) (a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 ("Deddf 1988"). Mae cyrff o'r fath naill ai:
(a) yn brifysgolion, yn golegau neu'n gyrff a awdurdodwyd drwy Siarter neu drwy Ddeddf Seneddol neu oddi tani i ddyfarnu graddau; neu
(b) yn gyrff eraill a ganiateir am y tro gan unrhyw gorff sy'n cwympo o fewn paragraff (a) i weithredu ar ei ran wrth ddyfarnu graddau.
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2007 ac yn diweddaru'r rhestr o gyrff a geir yn yr atodlen i'r Gorchymyn hwnnw. Caiff nifer o gyrff eu hepgor o'r Atodlen gan nad oes ganddynt bellach bwerau i ddyfarnu graddau neu am eu bod wedi cyfuno â chyrff eraill. Cafodd nifer o gyrff newydd eu mewnosod yn yr Atodlen gan ei bod yn ymddangos i Weinidogion Cymru fod y cyrff hynny bellach yn cwympo o fewn naill ai (a) neu (b) uchod. Cafodd nifer o fân newidiadau hefyd eu gwneud i'r Atodlen i gymryd ystyriaeth o newidiadau i enwau a wnaed ers pan wnaed Gorchymyn 2007.