Gwnaed
2 Chwefror 2009
Yn dod i rym
3 Chwefror 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 18, 203 a 204(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 4 o Atodlen 3 iddi(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) (Diwygio) 2009 a daw i rym ar 3 Chwefror 2009.
2. Yn Erthygl 4 o Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) 1998(2), ar ôl y gair "chairman", rhodder y gair "seven" yn lle'r gair "five".
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
2 Chwefror 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) 1998 er mwyn cynyddu nifer y cyfarwyddwyr anweithredol o 5 i 7 (erthygl 2).