Gwnaed
1 Hydref 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
2 Hydref 2008
Yn dod i rym
27 Hydref 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 130, 131, 132 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008 a deuant i rym ar 27 Hydref 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl (Cymru) 2007(2).
2.–(1) Diwygir rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli) fel a ganlyn.
(2) Yn y diffiniad o "teulu" ("family"), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder–
"(aa) yn rheoliad 5(1)(ch) mewn perthynas â pherson sy'n derbyn lwfans cyflogi a chefnogi y mae iddo'r ystyr sydd iddo yn rheoliad 2 o'r Rheoliadau Lwfans Cyflogi a Chefnogi 2008(3),".
(3) Yn y testun Cymraeg, yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniad a ganlyn–
"ystyr "lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm" ("income-related employment and support allowance") yw lwfans seiliedig ar incwm o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007 (lwfans cyflogi a chefnogi)(4);".
3.–(1) Diwygir rheoliad 5 (1) o'r prif Reoliadau (hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn) fel a ganlyn.
(2) Ar ôl is-baragraff (b), mewnosoder–
"(bb) sy'n derbyn lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm;".
(3) Yn nhestun Cymraeg is-baragraff (d) ar ôl "lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm" mewnosoder "lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm".
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
1 Hydref 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007 ("y prif Reoliadau").
Mae'r prif Reoliadau'n darparu fod pobl sydd naill ai'n cael budd-daliadau gwladwriaeth penodol neu sydd ar incwm isel yn cael peidio â thalu ffioedd penodol, ac yn cael ad-daliad am ffioedd penodol, sef ffioedd a fyddai'n daladwy fel arall o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, ac yn cael taliad am dreuliau teithio sy'n cael eu hysgwyddo wrth sicrhau rhai o wasanaethau'r GIG ("treuliau teithio GIG").
Wrth gyfrifo adnoddau a gofynion person o dan y prif Reoliadau er mwyn canfod a oes gan berson hawl i beidio â thalu taliadau GIG a thalu treuliau teithio GIG, defnyddir fersiwn addasedig o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r diffiniad o "teulu" ("family") yn Rheoliad 2 i'r prif Reoliadau ac yn diwygio rheoliad 5 (hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael ad-daliad llawn) i ddarparu y bydd gan berson sy'n derbyn lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm hawl i gael ad-daliad llawn o daliad GIG a thaliad llawn o dreuliau teithio GIG heb fod angen iddo hawlio taliad neu ad-daliad o'r fath.
Maent hefyd yn diwygio testun Cymraeg y prif Reoliadau i fewnosod yn nhestun Cymraeg rheoliad 2 (dehongli) y diffiniad o "lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm" ac i gyfeirio at y lwfans hwn yn nhestun Cymraeg is-baragraff (d) o reoliad 5(1) (hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn).
2006 p.42. Back [1]
O.S. 2007/1104 (Cy.116) ("y Rheoliadau"); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2008/1480 (Cy.153) a 2008/1879 a fewnosododd y diffiniad o "income-related employment and support allowance" yn nhestun Saesneg rheoliad 2 ac a ychwanegodd y geiriau "income-related employment and support allowance" i destun Saesneg rheoliad 5(1)(d) o'r Rheoliadau. Back [2]
O.S. 2008/794. Back [3]