If you found BAILII useful today, could you please make a contribution?
Your donation will help us maintain and extend our databases of legal information. No contribution is too small. If every visitor this month donates, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
Gwnaed
15 Gorffennaf 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
17 Gorffennaf 2008
Yn dod i rym
1 Medi 2008
Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8(1) o Atodlen 8 a pharagraff 3(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004(1) ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru(2).
Mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn o dan y pwerau hyn mewn cysylltiad â rhan o'i ardal.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Heddlu De Cymru yn unol â gofynion paragraff 8(3) o Atodlen 8 a pharagraff 3(4) o Atodlen 10.
Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Gorchymyn hwn:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dinas a Sir Abertawe) 2008 a daw i rym ar 1 Medi 2008.
2. Mae Gweinidogion Cymru'n dynodi'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn–
(a) ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a
(b) ardal gorfodi arbennig.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.
15 Gorffennaf 2008
Erthygl 2
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r cyfan o ddinas a sir Abertawe ac eithrio y darn o Draffordd yr M4 a'i ffyrdd ymuno ac ymadael sydd o fewn y ddinas a'r sir a'r A483 Fabian Way o'i chyffordd â'r A4067 hyd at y ffin â bwrdeistref sirol Castell-Nedd Port Talbot.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn ardal gorfodi sifil ac yn ardal gorfodi arbennig at ddibenion Rhan 6 o Deddf Rheoli Traffig 2004.