Gwnaed
2 Gorffennaf 2008
Yn dod i rym
24 Gorffennaf 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1 ac 8(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1) ac a freinir bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2008.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 24 Gorffennaf 2008.
2. Yn y Gorchymyn hwn–
ystyr "ceidwad" ("keeper") yw unrhyw berson sydd â gofal a rheolaeth dros foch, boed hynny ar sail dros dro neu barhaol, ond nid yw'n cynnwys person nad yw ond yn cludo moch;
ystyr "daliad" ("holding") yw unrhyw sefydliad, adeiladwaith neu, yn achos fferm awyr agored, unrhyw fan lle y mae moch yn cael eu dal, eu cadw neu eu trafod;
mae i "marc cenfaint" ("herdmark") yr ystyr a roddir yn erthygl 4(2).
3. Rhaid i unrhyw hysbysiad, trwydded, awdurdodiad neu gymeradwyaeth o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig, caiff fod yn ddarostyngedig i amodau a chaniateir atal, diwygio neu ddirymu unrhyw un o'r rhain yn ysgrifenedig ar unrhyw amser.
4.–(1) Rhaid i feddiannwr daliad sy'n dechrau cadw moch ar y daliad hwnnw ac unrhyw berson sy'n cymryd meddiannaeth o ddaliad lle y cedwir moch hysbysu Gweinidogion Cymru o'r wybodaeth ganlynol o fewn un mis–
(a) eu henw a'u cyfeiriad; a
(b) cyfeiriad y daliad.
(2) Pan fydd hysbysiad o dan baragraff (1) yn dod i law Gweinidogion Cymru rhaid iddynt ddyroddi cod alffaniwmerig ar gyfer pob cenfaint o foch ar y daliad (y "marc cenfaint").
(3) Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o unrhyw newid i'r wybodaeth ym mharagraff (1) o fewn un mis ar ôl i'r newid gael ei wneud.
5.–(1) O fewn 36 awr ar ôl symud mochyn i ddaliad neu oddi arno, rhaid i'r ceidwad lenwi'r ffurflen yn yr Atodlen.
(2) O leiaf unwaith y flwyddyn rhaid i'r ceidwad gofnodi uchafswm nifer y moch a gedwir fel arfer ar y daliad.
(3) Rhaid i'r ceidwad gadw'r cofnodion am 6 blynedd o leiaf.
6.–(1) Rhaid i dag clust –
(a) bod yn hawdd ei ddarllen drwy gydol oes y mochyn;
(b) bod wedi ei wneud naill ai o fetal neu o blastig neu o gyfuniad o fetal a phlastig;
(c) bod yn amhosibl ymhél ag ef;
(ch) bod yn amhosibl ei ailddefnyddio;
(d) gallu gwrthsefyll gwres yn ddigonol fel na fydd prosesu'r carcas yn sgil cigydda yn difrodi'r tag clust na'r wybodaeth sydd wedi ei hargraffu neu ei stampio arno;
(dd) fod wedi ei ddylunio i barhau i fod ynghlwm wrth y mochyn heb beri niwed iddo.
(2) Rhaid rhoi tatŵ naill ai gan ddefnyddio gefel tatwio, ac yn yr achos hwn rhaid iddo fod ar glust, neu gan ddefnyddio offer slapfarcio, ac yn yr achos hwn rhaid ei roi ar ddwy ysgwydd y mochyn.
(3) Caiff ceidwad farcio mochyn ag unrhyw wybodaeth arall, neu ychwanegu gwybodaeth arall ar y tag clust neu at y tatŵ a ddarperir ar yr amod y gellir gwahaniaethu'n glir rhwng yr wybodaeth ychwanegol a'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwn.
7.–(1) Ni chaiff neb symud mochyn oddi ar ddaliad oni bai bod ganddo–
(a) tag clust ac arno'r llythrennau "UK" ac, yn eu dilyn, y marc cenfaint ar gyfer y daliad y symudir y mochyn ohono; neu
(b) tatŵ yn dangos y marc cenfaint hwnnw (ynghyd â'r llythrennau "UK" neu hebddynt).
(2) Yn achos marchnad–
(a) caniateir symud y mochyn oddi yno os yw wedi ei farcio â'r marc cenfaint ar gyfer y daliad y daeth ohono i gyrraedd y farchnad;
(b) os nad yw wedi ei farcio'n gywir pan fydd yn cyrraedd y farchnad, caiff ceidwad gywiro'r marciau adnabod er mwyn marcio'r mochyn â marc y daliad y daeth ohono i gyrraedd y farchnad, ond os na fydd y ceidwad yn gwneud hynny ni chaniateir ond ei ddychwelyd i'r daliad y daeth ohono.
8.–(1) Nid yw erthygl 7 yn gymwys mewn perthynas â mochyn nad yw eto'n flwydd oed ar yr amod ei fod wedi ei farcio â marc dros dro sydd–
(a) naill ai ar ei ben ei hun neu drwy gyfeirio at ddogfen sy'n mynd gyda'r mochyn pan gaiff ei symud, yn galluogi'r daliad y symudwyd y mochyn ohono ddiwethaf i gael ei adnabod; a
(b) yn para hyd oni fydd y mochyn yn cyrraedd ei gyrchfan.
(2) Nid yw'r eithriad hwn yn gymwys mewn perthynas â mochyn a symudir–
(a) i farchnad;
(b) i ladd-dy;
(c) at ddibenion masnachu neu allforio o fewn y Gymuned; neu
(ch) i sioe, etc. yn unol ag erthygl 10.
9. Ni chaiff neb symud mochyn oddi ar ddaliad at ddibenion masnachu neu allforio o fewn y Gymuned onid oes ganddo dag clust neu datŵ sy'n dwyn y llythrennau "UK" ac, yn eu dilyn, farc cenfaint a rhif adnabod unigol unigryw.
10. Ni chaiff neb symud mochyn oddi ar ddaliad –
(a) i sioe neu arddangosfa; neu
(b) at ddibenion bridio gyda'r bwriad o ddychwelyd y mochyn i'r daliad y cafodd ei symud ohono,
onid yw wedi ei farcio'n unol ag erthygl 7 ac, at hynny, wedi ei farcio â marc adnabod sy'n cynnwys rhif adnabod unigol unigryw.
11.–(1) Rhaid i berson sy'n mewnforio mochyn o fan y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd atodi tag clust i'r mochyn neu roi arno datŵ a rhaid i'r tag clust ar tatŵ gynnwys yr wybodaeth ganlynol, yn y drefn a ganlyn–
(a) y llythrennau "UK";
(b) y marc cenfaint ar gyfer y genfaint y daw'r mochyn a allforiwyd i berthyn iddi;
(c) unrhyw wybodaeth arall, os bydd y ceidwad yn dymuno cynnwys y cyfryw wybodaeth; ac
(ch) y llythyren "F".
(2) Rhaid atodi'r tag clust i'r mochyn neu roi arno'r tatŵ o fewn 30 o ddiwrnodau ar ôl iddo gyrraedd daliad y gyrchfan, a beth bynnag, cyn iddo gael ei symud o'r daliad hwnnw.
12.–(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo moch gario dogfen, a lofnodwyd gan y ceidwad, sy'n pennu–
(a) y cyfeiriad, gan gynnwys cod post a rhif CPH y daliadau y mae'r mochyn yn cael ei symud ohonynt ac iddynt;
(b) dyddiad symud y moch neu'r mochyn;
(c) nifer y moch y mae'r ddogfen honno'n eu cwmpasu;
(ch) marc adnabod pob un o'r moch a symudir (yn achos symud a bennir yn erthygl 9 neu 10, rhaid i hwn gynnwys y rhif adnabod unigol unigryw y mae'r erthyglau hynny'n ei wneud yn ofynnol); ac
(d) yn achos symud mochyn o farchnad, rhifau lot y moch sy'n cael eu symud.
(2) Rhaid i'r person y cyfeirir ato ym mharagraff (1) roi'r ddogfen i'r ceidwad yn naliad y gyrchfan a rhaid i'r ceidwad ei chadw am 6 mis o leiaf.
(3) Rhaid i'r ceidwad yn naliad y gyrchfan anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) at yr awdurdod lleol o fewn 3 diwrnod ar ôl i'r mochyn gyrraedd.
(4) Rhaid i geidwad mochyn sy'n cael ei symud y tu allan i Gymru anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) at yr awdurdod lleol ar gyfer y daliad traddodi.
(5) Yn yr erthygl hon ystyr "rhif CPH" yw'r rhif y daliad ym mhlwyf y sir a roddir i ddaliad neu ran o ddaliad gan Weinidogion Cymru.
13. Caiff Gweinidogion Cymru roi trwydded gerdded i geidwad mochyn anwes i ganiatáu iddo fynd â'r mochyn am dro oddi ar y daliad heb gydymffurfio ag erthygl 5 neu 12, ond rhaid i'r person sy'n mynd â'r mochyn am dro gario copi o'r drwydded tra bydd allan am dro gyda'r mochyn.
14.–(1) Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo daliad at ddibenion symud moch a fwriedir ar gyfer bridio neu besgi.
(2) Rhaid i'r gymeradwyaeth bennu pa ddaliadau y caniateir symud moch ohonynt a pha ddaliadau y caniateir eu symud iddynt.
(3) Nid yw symud mochyn rhwng daliadau sydd wedi eu cymeradwyo o dan yr erthygl hon yn sbarduno'r cyfnod segur yng Ngorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003(2).
15. Ni chaiff neb, oni chaiff ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru, ddileu neu ddifrodi tag clust a atodir neu datŵ a roddir o dan y Gorchymyn hwn.
16.–(1) Ni chaiff neb, oni chaiff ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru, roi marc adnabod newydd yn lle'r marc adnabod a atodir neu a roddir o dan y Gorchymyn hwn oni bai–
(a) bod y marc wedi dod yn amhosibl ei ddarllen;
(b) bod y marc wedi ei ddileu am resymau lles; neu
(c) bod y marc wedi mynd ar goll.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n rhoi marc adnabod newydd yn lle hen un naill ai–
(a) defnyddio marc adnabod union debyg; neu
(b) defnyddio marc adnabod newydd a chroes-gyfeirio'r marc adnabod newydd â'r marc adnabod gwreiddiol yn y cofnod a gedwir o dan erthygl 5.
17. Caiff arolygydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gofnod a wneir o dan y Gorchymyn hwn gael ei gyflwyno os gwneir cais am hynny ac i gopi neu allbrint ohono gael ei wneud.
18.–(1) Gorfodir y Gorchymyn hwn gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu ag unrhyw achos penodol, y byddant hwy yn gorfodi'r Gorchymyn hwn yn lle'r awdurdod lleol.
19. Dirymir Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) 2004(3) mewn perthynas â Chymru'n unig.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
2 Gorffennaf 2008
Erthygl 5
Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2008 | ||||
---|---|---|---|---|
Enw a chyfeiriad y person sy'n cadw'r cofnod | ||||
Dyddiad symud y mochyn/moch | Rhif adnabod neu farc dros dro | Nifer y moch | Daliad y symudwyd y mochyn/moch ohono | Daliad y symudwyd y mochyn/moch iddo |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn parhau i weithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC ar adnabod a chofrestru anifeiliaid (OJ Rhif L 355, 5.12.92, t.0032). Mae'n dirymu ac yn disodli Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2004.
Y prif newid ac eglurhad yw bod yn rhaid i fochyn a symudir o ddaliad ac eithrio marchnad, yn ddarostyngedig i eithriadau o ran moch nad ydynt eto'n flwydd oed, fod wedi ei farcio â'r marc cenfaint ar gyfer y daliad hwnnw (erthyglau 7 ac 8).
Fel o'r blaen, mae'r Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy'n cadw moch ar ddaliad hysbysu Gweinidogion Cymru (erthygl 4) ac yn ei gwneud yn ofynnol i gofnodion gael eu cadw (erthygl 5 a'r Atodlen).
Mae erthyglau 6 i 11 yn ei gwneud yn ofynnol i foch gael eu marcio â thagiau clust neu datŵs, ac maent yn pennu beth, a dibynnu ar yr amgylchiadau, y mae'n rhaid ei gynnwys yn y marciau adnabod.
Mae erthyglau 12 i 14 yn ymdrin â'r ddogfennaeth y mae'n angenrheidiol iddi fynd gyda'r moch pan gânt eu symud.
Mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei orfodi gan yr awdurdod lleol (erthygl 18).
Mae torri'r Gorchymyn hwn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, ac mae'n dwyn cosb yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.
1981 p. 22. Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers", i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd OS 1999/672. Trosglwyddwyd swyddogaethau un o Weinidogion y Goron, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd OS 2004/3044. Mae adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 p.32 ac Atodlen 11 iddi yn breinio'r swyddogaethau hyn yng Ngweinidogion Cymru. Back [1]
O.S. 2003/1966 (Cy.211). Back [2]
O. S. 2004/996 (Cy. 104). Back [3]