Gwnaed
2 Ebrill 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 32(3) o Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2008.
2. Daw adrannau 18(1) i (4) o Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007 i rym ar 18 Ebrill 2008.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
2 Ebrill 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw'r ail Orchymyn Cychwyn sy'n gymwys o ran Cymru a wneir o dan Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007(1) ac fe ddaw ag adrannau 18(1) i (4) o'r Ddeddf honno i rym. Mae adran 18(1) yn diwygio adran 57 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(2). Mae a wnelo adran 57 â phwerau Gweinidogion Cymru i ymyrryd mewn sefydliadau addysg bellach. Mae adran 18(2) yn mewnosod is-adran (2)(d) yn adran 57 ac yn galluogi Gweinidogion Cymru i arfer eu pwerau ymyrryd os ydynt wedi'u bodloni bod sefydliad yn perfformio yn sylweddol waeth nag y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddo berfformio o dan yr holl amgylchiadau neu yn methu neu'n debygol o fethu â rhoi safon dderbyniol o addysg neu hyfforddiant. Mae adran 18(3) yn mewnosod is-adran (5A) yn adran 57 fel bod cyfarwyddiadau y gellir eu rhoi i gorff llywodraethu o dan yr adran honno yn gallu cynnwys cyfarwyddyd sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu wneud trefniadau i gydweithio ag unrhyw gyrff a bennir yn y cyfarwyddyd. Mae adran 18(4) yn mewnosod is-adrannau (6A) a (6B) yn adran 57 sy'n darparu na chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo corff llywodraethu i ddiswyddo aelod o staff, ond cânt roi i'r corff llywodraethu unrhyw gyfarwyddiadau sy'n angenrheidiol i roi effaith i weithdrefnau sy'n gymwys i ystyried achos dros ddiswyddo aelod o staff.