Gwnaed
4 Mawrth 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
6 Mawrth 2008
Yn dod i rym
31 Mawrth 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi(1).
Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd(2).
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3) cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra oedd y Rheoliadau canlynol yn cael eu llunio.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2008, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 31 Mawrth 2008.
2. Yn y Rheoliadau hyn –
mae i "anifeiliaid hela" yr ystyr a roddir i "game" yn Rheoliad 853/2004;
mae i "anifeiliaid hela a ffermir" yr ystyr a roddir i "farmed game" ym mhwynt 1.6 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;
mae i "anifeiliaid hela gwyllt" yr ystyr a roddir i "wild game" ym mhwynt 1.5 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;
ystyr "yr Asiantaeth" ("the Agency") yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;
mae i "carnolion domestig" yr ystyr a roddir i "domestic ungulates" ym mhwynt 1.2 o Atodiad I i Reoliadau 853/2004;
mae i "cig" yr ystyr a roddir i "meat" ym mhwynt 1.1 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;
mae i "cig anifeiliaid hela" yr ystyr a roddir i "game meat" yn Rheoliad 853/2004;
mae i "cig ffres" yr ystyr a roddir i "fresh meat" ym mhwynt 1.10 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;
ystyr "costau staff lladd-dŷ a gytunwyd" ("agreed slaughterhouse staff costs") o ran unrhyw ladd-dŷ lle cigyddir dofednod neu lagomorffiaid yw–
y gyfran (a fynegir fel swm o arian) o'r cyflogau (gan gynnwys taliadau goramser a chyfraniadau pensiwn ac Yswiriant Gwladol y cyflogwyr) a delir i staff y lladd-dŷ hwnnw o ran cyfnod cyfrifyddu y bydd yr Asiantaeth a gweithredydd y lladd-dŷ yn cytuno arni fel y gyfran y gellir ei phriodoli i unrhyw staff o'r fath sy'n cynorthwyo gyda rheolaethau swyddogol drwy gyflawni tasgau penodol yno yn ystod y cyfnod hwnnw o dan Erthygl 5.6 o Reoliad 854/2004; plws
25% o'r swm hwnnw;
mae i "Cyfarwyddeb 2004/41" ("Directive 2004/41"), "Rheoliad 178/2002" ("Regulation 178/2002"), "Rheoliad 852/2004" ("Regulation 852/2004"), "Rheoliad 853/2004" ("Regulation 853/2004"), "Rheoliad 854/2004" ("Regulation 854/2004"), "Rheoliad 882/2004" ("Regulation 882/2004"), "Rheoliad 1688/2005" ("Regulation 1688/2005"), "Rheoliad 2073/2005" ("Regulation 2073/2005"), "Rheoliad 2074/2005" ("Regulation 2074/2005"), "Rheoliad 2075/2005" ("Regulation 2075/2005") a "Rheoliad 2076/2005" ("Regulation 2076/2005") yr ystyron a roddir iddynt yn eu trefn yn Atodlen 1;
ystyr "cyfnod cyfrifyddu" ("accounting period") yw cyfnod sy'n llai na blwyddyn y penderfynir arno gan yr Asiantaeth;
ystyr "cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr" ("employers' National Insurance contributions") yw'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol hynny y mae cyflogwyr yn atebol amdanynt o dan Ran I o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(4);
mae i "dofednod" yr ystyr a roddir i "poultry" ym mhwynt 1.3 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;
ystyr "ffi rheolaethau swyddogol" ("official controls charge") yw'r ffi a gyfrifir yn unol ag Atodlen 2 ac a hysbysir yn unol â rheoliad 3(1), (2) neu (3);
ystyr "gweithredydd" ("operator") yw gweithredydd busnes bwyd sy'n rhedeg busnes lladd-dŷ, sefydliad trin anifeiliaid hela neu safle torri neu gynrychiolydd y gweithredydd a awdurdodwyd yn briodol;
mae i "gweithredydd busnes bwyd" yr ystyr a roddir i "food business operator" yn Erthygl 3.3 o Reoliad 178/2002;
ystyr "gwirhau" ("verification") yw gwirio, drwy archwilio a darparu tystiolaeth wrthrychol;
mae i "lagomorffiaid" yr ystyr a roddir i "lagomorphs" ym mhwynt 1.4 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;
ystyr "lladd-dŷ" ("slaughterhouse") yw sefydliad a ddefnyddir i gigydda a thrin anifeiliaid, y mae eu cig wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl ac sydd –
wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31.2 o Reoliad 882/2004; neu
(er nad oes ganddo'r gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol sy'n ofynnol o dan Erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) a oedd, ar 31 Rhagfyr 2005, yn gweithredu fel lladd-dŷ trwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995(5) neu Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningod (Hylendid ac Arolygu) 1995(6);
ystyr "mangre" ("premises") yw unrhyw ladd-dŷ, sefydliad trin anifeiliaid hela neu safle torri;
ystyr "rheolaethau swyddogol" ("official controls") yw'r rheolaethau y mae'r Asiantaeth yn eu cyflawni o dan Reoliad 854/2004 –
mewn lladd-dai, sefydliadau trin anifeiliaid hela a safleoedd torri, er mwyn gwirhau cydymffurfedd â darpariaethau Rheoliad 853/2004 i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys o ran cig carnolion domestig, cig o ddofednod a lagomorffiaid, cig anifeiliaid hela a ffermir neu, yn ôl y digwydd, cig anifeiliaid hela gwyllt; a
mewn lladd-dai, er mwyn gwirhau cydymffurfedd â darpariaethau Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 1995(7) i'r graddau y maent yn gymwys o ran anifeiliaid a gigyddir yno ar gyfer eu bwyta gan bobl;
mae i "rhoi ar y farchnad" yr ystyr a roddir i "placing on the market" yn Erthygl 3.8 o Reoliad 178/2002;
ystyr "safle torri" ("cutting plant") yw sefydliad a ddefnyddir ar gyfer tynnu esgyrn a/neu dorri cig ffres er mwyn ei roi ar y farchnad ac –
sydd wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31.2 o Reoliad 882/2004; neu
a oedd (er ei fod heb y gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol y mae ei hangen arno o dan erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) yn gweithredu ar 31 Rhagfyr 2005 fel mangre dorri drwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995 neu Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningod (Hylendid ac Arolygu) 1995;
mae i "sefydliad" yr ystyr a roddir i "establishment" yn Erthygl 2.1(c) o Reoliad 852/2004;
ystyr "sefydliad trin anifeiliaid hela" ("game-handling establishment") yw unrhyw sefydliad lle caiff anifeiliaid hela a chig anifeiliaid hela a geir ar ôl hela eu paratoi i'w rhoi ar y farchnad ac –
sydd wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31.2 o Reoliad 882/2004; neu
(er nad oes ganddo'r gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol sy'n ofynnol o dan Erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) a oedd, ar 31 Rhagfyr 2005, yn gweithredu fel cyfleuster trwyddedig i brosesu anifeiliaid hela gwyllt o dan Reoliadau Cig Anifeiliaid Hela Gwyllt (Hylendid ac Arolygu) 1995(8); ac
mae i "torri" yr ystyr a roddir i "cutting up" yn Rheoliad 853/2004.
3.–(1) Rhaid i'r Asiantaeth, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn, hysbysu gweithredydd pob lladd-dŷ, sefydliad trin anifeiliaid hela a safle torri lle'r arferwyd rheolaethau swyddogol mewn unrhyw gyfnod cyfrifyddu o ffi rheolaethau swyddogol o ran y rheolaethau swyddogol hynny cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw.
(2) Os nad yw'r Asiantaeth yn gallu cydymffurfio â pharagraff (1) am nad oes digon o wybodaeth ar gael iddi i'w galluogi i gyfrifo'r ffi rheolaethau swyddogol ar gyfer unrhyw gyfnod cyfrifyddu o ran unrhyw fangre o'r fath a bennir yn y paragraff hwnnw, rhaid iddi hysbysu gweithredydd y fangre honno o ffi interim, sef y swm y mae'r Asiantaeth yn ei amcangyfrif (gan ystyried yr wybodaeth sydd ganddi) yw'r ffi rheolaethau swyddogol.
(3) Os yw'r Asiantaeth wedi hysbysu gweithredydd o ffi interim yn unol â pharagraff (2), a bod gwybodaeth ddigonol yn dod ar gael i'r Asiantaeth gyfrifo'r ffi rheolaethau swyddogol, rhaid iddi gyfrifo'r ffi honno ac–
(a) os yw'n fwy na'r ffi interim, rhaid iddi hysbysu'r gweithredydd o'r ffi derfynol, sef y swm y mae'r ffi rheolaethau swyddogol yn fwy na'r ffi interim; neu
(b) yn ddarostyngedig i baragraff (6), os yw'n llai na'r ffi interim, rhaid iddi roi credyd i'r gweithredydd o'r swm y mae'r ffi interim yn fwy na'r ffi rheolaethau swyddogol.
(4) Mae unrhyw ffi a hysbysir i weithredydd o dan baragraff (1), (2) neu (3) yn daladwy gan y gweithredydd i'r Asiantaeth pan hawlir hi.
(5) Os cafodd unrhyw gostau staff lladd-dŷ a gytunwyd eu defnyddio i gyfrifo ffi y mae angen ei hysbysu i weithredydd o dan baragraff (1), (2) neu (3), rhaid gwrthgyfrifo'r costau hynny yn erbyn swm y ffi honno wrth gyfrifo'r ffi wirioneddol a hysbysir oddi tano, ar yr amod na wneir ad-daliad i'r gweithredydd perthnasol.
(6) Os yw swm o dan baragraff (3)(b) i gael ei gredydu i weithredydd, caiff yr Asiantaeth, os yw'n penderfynu gwneud hynny, dalu'r cyfryw swm i'r gweithredydd o dan sylw yn hytrach na'i gredydu i'r gweithredydd.
4. Os cafodd yr Asiantaeth ddyfarniad wedi'i gofnodi yn erbyn gweithredydd unrhyw fangre am unrhyw swm sy'n daladwy iddi o dan reoliad 3(4) ac os yw'r gweithredydd yn methu â bodloni'r dyfarniad o fewn cyfnod rhesymol wedyn, caniateir i'r Asiantaeth (ni waeth beth fo unrhyw rwymedi cyfreithiol arall sydd yn agored iddi) wrthod arfer unrhyw reolaethau swyddogol pellach yn y fangre honno hyd nes y bodlonir y dyfarniad.
5.–(1) Rhaid i unrhyw berson pan hawlir hynny gan yr Asiantaeth, roi–
(a) unrhyw wybodaeth y mae'n rhesymol i'r Asiantaeth fynnu ei chael at ddiben cyfrifo'r ffi rheolaethau swyddogol neu hysbysu gweithredydd ohoni; a
(b) unrhyw dystiolaeth y mae'n rhesymol i'r Asiantaeth fynnu ei chael i'w galluogi i wirhau gwybodaeth a roddwyd iddi o dan is-baragraff (a).
(2) Bydd unrhyw berson sydd –
(a) ac yntau'n honni ei fod yn cydymffurfio â pharagraff (1), yn ddi-hid neu gan wybod hynny, yn rhoi gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys; neu
(b) heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio o fewn cyfnod rhesymol â hawliad a wnaed o dan baragraff (1),
yn euog o dramgwydd a bydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
6. Mae Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) (Rhif 2) 2007(9) wedi'u dirymu.
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
4 Mawrth 2008
Rheoliad 2
Ystyr "Cyfarwyddeb 2004/41" ("Directive 2004/41") yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol ynglyn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC(10);
ystyr "Rheoliad 178/2002" ("Regulation 178/2002") yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(11);
ystyr "Rheoliad 852/2004" ("Regulation 852/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid deunyddiau bwyd(12), fel y'i darllenir gyda Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005;
ystyr "Rheoliad 853/2004" ("Regulation 853/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(13), fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;
ystyr "Rheoliad 854/2004" ("Regulation 854/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl(14), fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2075/2005 a Rheoliad 2076/2005;
ystyr "Rheoliad 882/2004" ("Regulation 882/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirhau(15), fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;
ystyr "Rheoliad 1688/2005" ("Regulation 1688/2005") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 yn gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gigoedd ac wyau penodol i'r Ffindir ac i Sweden(16);
ystyr "Rheoliad 2073/2005" ("Regulation 2073/2005") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer deunyddiau bwyd(17);
ystyr "Rheoliad 2074/2005" ("Regulation 2074/2005") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 yn gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac er mwyn trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(18);
ystyr "Rheoliad 2075/2005" ("Regulation 2075/2005") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2005 sy'n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar Trichinella mewn cig(19); ac
ystyr "Rheoliad 2076/2005" ("Regulation 2076/2005") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol i weithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(20).
Rheoliad 2
1. Yn ddarostyngedig i baragraff 2, y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy gan weithredydd unrhyw fangre am unrhyw gyfnod cyfrifyddu yw'r lleiaf o–
(a) y swm o –
(i) y ffi safonol a dynnir mewn cysylltiad â'r fangre honno am y cyfnod hwnnw, a
(ii) unrhyw ffi ychwanegol a dynnir mewn cysylltiad â'r fangre honno am y cyfnod hwnnw yn rhinwedd paragraff 6; a
(b) y costau amser a gynhyrchir gan y fangre honno am y cyfnod hwnnw.
2.–(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r ffi rheolaethau swyddogol a gyfrifir o dan baragraff 1 am unrhyw gyfnod cyfrifyddu (swm A), pan ychwanegir hi at y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy o ran pob cyfnod cyfrifyddu blaenorol sy'n dod o fewn yr un cyfnod ariannol (swm B), yn cynhyrchu cyfanswm (swm C) sy'n fwy na swm y ffi rheolaethau swyddogol a fyddai'n daladwy o dan baragraff 1 pe bai'r cyfnodau cyfrifyddu hynny yn un cyfnod cyfrifyddu (swm D).
(2) Os yw'r paragraff hwn yn gymwys, y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy gan weithredydd am gyfnod cyfrifyddu yw'r swm y mae swm D yn fwy na swm B.
(3) Yn y paragraff hwn ystyr "cyfnod ariannol" ("financial period") yw–
(a) y cyfnod sy'n dechrau ar 31 Mawrth 2008 ac sy'n dod i ben ar 29 Mawrth 2009; a
(b) ar ôl hynny, y cyfnod sy'n dechrau ar 30 Mawrth 2009 ac sy'n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2009.
3. Mae'r ffi safonol am unrhyw gyfnod cyfrifyddu, sy'n daladwy gan weithredydd lladd-dŷ, i'w chyfrifo–
(a) tan ddiwedd 2008, drwy luosi'r gyfradd a bennir yn y Tabl canlynol sy'n gymwys i anifail o fath penodol â nifer yr anifeiliaid o'r math hwnnw a gafodd eu cigydda a/neu eu trin yno yn y cyfnod; a
(b) yn ystod 2009–
(i) yn yr un modd, neu
(ii) drwy luosi'r gyfradd mewn Ewros a bennir ym Mhennod I o Adran B o Atodiad IV i Reoliad 882/2004 sy'n gymwys i anifail o fath penodol a bennir yn y Tabl canlynol â nifer yr anifeiliaid o'r math hwnnw a gafodd eu cigydda a/neu eu trin yno yn y cyfnod a throsi'r swm sy'n deillio o hyn i Sterling drwy ei luosi gan y gyfradd drosi Ewro/Sterling a gyhoeddir yng nghyfres C o Gyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd ar 1 Medi 2008, neu os na chyhoeddir unrhyw gyfradd yn y ddogfen honno ar y dyddiad hwnnw, y gyfradd a gyhoeddir gyntaf ynddi ar ôl hynny,
p'un bynnag sy'n rhoi'r ffi uwch.
4. Mae'r ffi safonol am gyfnod cyfrifyddu sy'n daladwy gan weithredydd sefydliad trin anifeiliaid hela o ran anifeiliaid hela gwyllt a gafodd eu trin yno yn ystod y cyfnod hwnnw i'w chyfrifo–
(a) tan ddiwedd 2008, drwy luosi'r gyfradd a bennir yn y Tabl canlynol sy'n gymwys i anifail o fath penodol sydd yn cael ei gategoreiddio fel anifail hela gwyllt â nifer yr anifeiliaid o'r math hwnnw a gafodd eu trin yno yn y cyfnod; a
(b) yn ystod 2009–
(i) yn yr un modd, neu
(ii) drwy luosi'r gyfradd mewn Ewros a bennir ym Mhennod III o Adran B o Atodiad IV i Reoliad 882/2004 sy'n gymwys i anifail o fath penodol sydd yn cael ei gategoreiddio fel anifail hela gwyllt ac a bennir yn y Tabl canlynol â nifer yr anifeiliaid o'r math hwnnw a gafodd eu trin yno yn y cyfnod a throsi'r swm sy'n deillio o hyn i Sterling drwy ei luosi gan y gyfradd drosi Ewro/Sterling a gyhoeddir yng nghyfres C o Gyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd ar 1 Medi 2008, neu os na chyhoeddir unrhyw gyfradd yn y ddogfen honno ar y dyddiad hwnnw, y gyfradd a gyhoeddir gyntaf ynddi ar ôl hynny,
p'un bynnag sy'n rhoi'r ffi uwch.
Math o anifail | Cyfradd fesul math o anifail mewn Punnoedd Sterling |
---|---|
Anifeiliaid buchol | |
– yn llai na 8 mis oed pan gigyddir hwy | 1.9804 |
– 8 wythnos oed neu fwy pan gigyddir hwy | 3.4350 |
Uncarnolion ac equidae | 3.3587 |
Moch | 0.3817 |
– pwysau carcas llai na 25 kg | |
– pwysau carcas sy'n gytbwys â neu'n fwy na 25 kg | 0.9924 |
Defaid a geifr | |
– pwysau carcas llai na 12 kg | 0.1336 |
– pwysau carcas rhwng 12 a 18 kg yn gynhwysol | 0.2672 |
– pwysau carcas mwy na 18 kg | 0.3817 |
Dofednod | |
– Hwyaid a gwyddau | |
– sy'n pwyso llai na 2 kg | 0.0077 |
– sy'n pwyso o leiaf 2 kg (ac eithrio'r rheini sy'n oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg) | 0.0153 |
– oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5kg | 0.0305 |
– Tyrcwn | |
– unrhyw bwysau (ac eithrio'r rheini sy'n oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg) | 0.0169 |
– oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5kg | 0.0305 |
– Dofednod o fath nas crybwyllir uchod | |
– pob brwyliad; pob iâr gast; dofednod eraill sy'n pwyso llai na 2 kg | 0.0077 |
– dofednod (nad ydynt yn frwyliaid neu'n ieir cast) sy'n pwyso o leiaf 2 kg (ac eithrio'r rheini sy'n oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg) | 0.0153 |
– dofednod (nad ydynt yn frwyliaid neu'n ieir cast) sy'n oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg | 0.0305 |
Cwningod a ffermir | |
– sy'n pwyso llai na 2 kg | 0.0077 |
– sy'n pwyso o leiaf 2 kg (ac eithrio'r rheini sy'n oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg) | 0.0153 |
– oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5kg | 0.0305 |
Adar hela bach | |
– sy'n pwyso llai na 2 kg | 0.0077 |
– sy'n pwyso o leiaf 2 kg (ac eithrio'r rheini sy'n oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg) | 0.0153 |
– oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5kg | 0.0305 |
Helfiold daear bach | |
– sy'n pwyso o llai na 2 kg | 0.0077 |
– sy'n pwyso o leiaf 2 kg (ac eithrio'r rheini sy'n oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg) | 0.0153 |
– oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5kg | 0.0305 |
Adar di-gêl | 0.9924 |
Mamaliaid tir | |
– baeddod | 1.0136 |
– anifeiliaid cnoi cil o bwysau carcas sy ddim mwy na 18 kg | 0.3379 |
– anifeiliaid cnoi cil o bwysau carcas mwy na 18 kg | 0.3817 |
5. Mae'r ffi safonol am unrhyw gyfnod cyfrifyddu, sy'n daladwy gan weithredydd safle torri neu sefydliad trin anifeiliaid hela o ran cig a ddygwyd i'r safle neu'r sefydliad yn ystod y cyfnod hwnnw er mwyn ei dorri neu er mwyn tynnu'r esgyrn ohono yno, i'w chyfrifo–
(a) tan ddiwedd 2008, drwy luosi â £2.29 y nifer o dunelli o'r cyfryw gig; a
(b) yn ystod 2009–
(i) yn yr un modd, neu
(ii) drwy luosi'r gyfradd mewn Ewros a bennir ym Mhennod II o Adran B o Atodiad IV i Reoliad 882/2004 sy'n gymwys i gig sy'n dod o anifail o fath penodol â nifer y tunnelli o gig sy'n dod o anifeiliaid o'r math hwnnw a ddygwyd i'r safle neu'r sefydliad yn ystod y cyfnod er mwyn cael ei dorri neu er mwyn tynnu'r esgyrn ohono yno a throsi'r swm sy'n deillio o hyn i Sterling drwy ei luosi gan y gyfradd drosi Ewro/Sterling a gyhoeddir yng nghyfres C o Gyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd ar 1 Medi 2008, neu os na chyhoeddir unrhyw gyfradd yn y ddogfen honno ar y dyddiad hwnnw, y gyfradd a gyhoeddir ynddi gyntaf ar ôl hynny,
p'un bynnag sy'n rhoi'r ffi uwch.
6.–(1) Os bydd yr Asiantaeth o ran cyfnod cyfrifyddu yn tynnu costau uwch oherwydd aneffeithlonrwydd yng ngweithrediad y fangre, caiff, yn unol â'r paragraff hwn, ychwanegu ffi ychwanegol at y ffi safonol a dynnwyd mewn cysylltiad â'r fangre am y cyfnod hwnnw.
(2) Bydd y ffi ychwanegol yn swm sy'n hafal i'r costau amser a gynhyrchir gan yr aneffeithlonrwydd am y cyfnod cyfrifyddu o dan sylw.
(3) Ni chaiff yr Asiantaeth godi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn onid yw wedi hysbysu'r gweithredydd o'i bwriad i wneud hynny.
(4) Rhaid rhoi'r hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (3) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r Asiantaeth benderfynu ei bod yn dymuno codi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn.
(5) At ddibenion y paragraff hwn ystyr "aneffeithlonrwydd" ("inefficiency") yw aneffeithlonrwydd ar ran y gweithredydd ac mae'n cynnwys yn benodol–
(a) oedi cyn dechrau cigydda y gellir ei briodoli i'r gweithredydd;
(b) torri i lawr mecanyddol oherwydd diffyg cynnal a chadw;
(c) camau gorfodi a gymerir gan yr Asiantaeth neu gan swyddog;
(ch) tangyflogaeth arolygwyr a achosir oherwydd methiant y gweithredydd i lynu wrth yr oriau gwaith neu'r arferion gwaith a gytunwyd at ddibenion y paragraff hwn yn unol ag is-baragraff (6);
(d) darpariaeth annigonol o staff cigydda a achosir gan fethiant y gweithredydd i lynu at oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd at ddibenion y paragraff hwn yn unol ag is-baragraff (6);
(dd) oedi a achosir gan risgiau i iechyd neu ddiogelwch arolygwyr y gellir eu priodoli i'r gweithredydd; ac
(e) unrhyw newid i oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd at ddibenion y paragraff hwn yn unol ag is-baragraff (6) y gellir eu priodoli i'r gweithredydd.
(6) At ddibenion is-baragraffau (5)(ch), (d) ac (e), rhaid i'r Asiantaeth a'r gweithredydd gytuno ar oriau gwaith ac arferion gwaith a pharhau i adolygu'r oriau gwaith a'r arferion gwaith a gytunwyd.
(7) Os yw'n ymddangos i'r Asiantaeth a'r gweithredydd, ar ôl unrhyw adolygiad o'r fath, ei bod yn briodol i wneud hynny, caniateir iddynt drwy gytundeb pellach amrywio unrhyw oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd yn unol ag is-baragraff (6).
(8) Os bydd unrhyw oriau gwaith neu arferion gwaith wedi cael eu hamrywio yn unol ag is-baragraff (7), rhaid eu trin fel pe baent wedi cael eu cytuno yn unol ag is-baragraff (6).
(9) Ni chaniateir codi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn o ran unrhyw gostau uwch a dynnwyd oherwydd unrhyw amrywiad mewn oriau gwaith neu arferion gwaith nad yw'n newid oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd yn unol ag is-baragraff (6).
7.–(1) Caiff gweithredydd nad yw'n cytuno y gellir cyfiawnhau ffi ychwanegol o dan baragraff 6 ofyn am benderfyniad ar y cwestiwn gan berson a enwebwyd at y diben yn unol ag is-baragraff (3)(a).
(2) Rhaid gwneud cais o dan is-baragraff (1) o fewn wythnos ar ôl i'r Asiantaeth roi hysbysiad i'r gweithredydd o dan baragraff 6(3).
(3) Os bydd gweithredydd yn gwneud cais o dan is-baragraff (1)–
(a) rhaid i'r Asiantaeth enwebu person o'r rhestr a sefydlwyd o dan is-baragraff (4) i benderfynu'r mater;
(b) rhaid i'r person a enwebir felly roi cyfle i'r gweithredydd a'r Asiantaeth wneud sylwadau ar y mater sydd i'w benderfynu; ac
(c) rhaid i'r person a enwebir felly, o fewn 1 mis o'i enwebiad, benderfynu a oes ffi ychwanegol yn daladwy a hysbysu'r gweithredydd a'r Asiantaeth o'i benderfyniad.
(4) Rhaid i'r Asiantaeth sefydlu a chadw rhestr o bobl y caniateir eu henwebu at ddibenion y paragraff hwn a rhaid iddi ymgynghori â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddi eu bod yn cynrychioli gweithredwyr cyn cynnwys unrhyw berson ar y rhestr.
8. Cyfrifir y costau amser a gynhyrchir gan unrhyw fangre yn unrhyw gyfnod cyfrifyddu (yn ddarostyngedig i baragraffau 9 a 10) drwy–
(a) lluosi'r amser (a fynegir mewn oriau a ffracsiynau o awr) a dreulir gan bob arolygydd sy'n arfer rheolaethau swyddogol yn y fangre honno yn y cyfnod gan y tâl wrth yr awr sy'n gymwys i'r arolygydd hwnnw a benderfynir neu a amrywir yn unol â pharagraffau 11 i 13;
(b) ychwanegu'r canlyniadau at ei gilydd; ac
(c) ychwanegu unrhyw gostau staff lladd-dŷ a gytunwyd am y cyfnod hwnnw.
9. Mae'r costau amser o ran unrhyw reolaethau swyddogol yn cynnwys unrhyw daliadau goramser neu lwfansau eraill tebyg a delir i'r arolygydd dan sylw o dan ei gontract cyflogaeth neu ei gontract am wasanaethau am arfer y rheolaethau swyddogol hynny.
10. Wrth benderfynu cyfanswm yr amser a dreuliwyd yn arfer rheolaethau swyddogol, mae unrhyw amser a dreuliwyd gan arolygydd–
(a) yn teithio i fangre neu o fangre lle mae'r arolygydd yn arfer rheolaethau swyddogol ac y caiff ei dalu amdano o dan gontract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau;
(b) yn unrhyw fangre yr aeth yr arolygydd iddi at ddibenion arfer rheolaethau swyddogol ac y caiff ei dalu amdano o dan gontract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau (ni waeth a fydd yr arolygydd yn gallu arfer rheolaethau swyddogol yno ai peidio); ac
(c) yn unrhyw le arall–
(i) pan fo'r arolygydd ar gael i arfer rheolaethau swyddogol ond nad yw mewn gwirionedd yn eu harfer, a
(ii) pan gaiff yr arolygydd ei dalu amdano o dan ei gontract cyflogaeth neu ei gontract am wasanaethau,
i'w gyfrifo fel pe bai'n amser yr oedd yr arolygydd yn arfer rheolaethau swyddogol.
11. Rhaid i'r Asiantaeth benderfynu tâl yr awr sy'n gymwys i arolygwyr, a chaiff benderfynu graddau gwahanol i arolygwyr gwahanol neu ddosbarthiadau gwahanol o arolygydd, gan ystyried am lefel cymwysterau a phrofiad arolygwyr gwahanol neu ddosbarthiadau o arolygydd ac ystyried y gost o arfer rheolaethau swyddogol o ran arolygwyr gwahanol neu ddosbarthiadau gwahanol o arolygydd.
12. Rhaid cyfrifo'r tâl yr awr i unrhyw arolygydd neu ddosbarth o arolygydd fel ei fod yn adlewyrchu y cyfryw gyfrannedd o gostau'r eitemau a restrir yn Atodiad VI i Reoliad 882/2004 a dynnwyd gan yr arolygydd hwnnw neu'r dosbarth hwnnw o arolygydd wrth arfer rheolaethau swyddogol (ond heb gynnwys unrhyw gostau ychwanegol a gymerwyd i ystyriaeth yn unol â pharagraff 9) ag y bydd yr Asiantaeth yn credu ei fod yn briodol ei ddosrannu i'r tâl hwnnw yr awr;
13. Caiff yr Asiantaeth amrywio unrhyw gyfradd a benderfynir yn unol â pharagraff 11 os yw'n ymddangos iddi, o ystyried y ffactorau a nodir ym mharagraff 12, ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny.
14. Cyn penderfynu neu amrywio'r tâl yn ôl yr awr yn unol â pharagraffau 11 i 13, rhaid i'r Asiantaeth ymgynghori â'r gweithredwyr hynny y mae'n debygol yr effeithir arnynt gan y tâl hwnnw yn ôl yr awr.
15. Yn yr Atodlen hon –
(a) mae i "cynorthwyydd swyddogol" a "milfeddyg swyddogol" yr ystyr a roddir i "official auxiliary" a "official veterinarian" yn eu trefn yn Erthygl 2.1(h) ac (f) o Reoliad 854/2004;
(b) ystyr "arolygydd" ("inspector") yw milfeddyg swyddogol neu gynorthwyydd swyddogol;
(c) ystyr "y ffi safonol" ("the standard charge"), yw ffi am unrhyw gyfnod cyfrifyddu a dynnir mewn perthynas â lladd-dŷ, sefydliad trin anifeiliaid hela neu safle torri, ac a gyfrifir yn unol â pharagraff 3, 4 neu 5, yn ôl y digwydd;
(ch) ystyr "costau amser" ("time costs"), o ran unrhyw sefydliad am unrhyw gyfnod cyfrifyddu, yw'r costau a gyfrifir yn unol â pharagraffau 8 i 10; a
(d) mae i unrhyw ymadroddion eraill a ddefnyddir yn yr Atodlen hon ac yn Rheoliad 882/2004 yr ystyr a roddir iddynt yn Rheoliad 882/2004.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Cig (Rheolaethau Swyddogol) (Ffioedd) (Cymru) (Rhif 2) 2007 (O.S. 2007/3461 (Cy.306)).
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi mewn perthynas â Chymru Erthyglau 26 a 27 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau bod cydymffurfedd â'r gyfraith ynglŷn â bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirhau (OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1; mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 bellach wedi ei osod mewn Corigendwm, OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1, y dylid ei ddarllen ar y cyd â Chorigendwm pellach, OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.29), i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n–
(a) ei gwneud yn ofynnol i ffioedd gael eu casglu, neu mewn achosion o fathau penodol o ddofednod (e.e. sofliar) caniatáu i ffioedd gael eu casglu, i dalu'r costau sy'n cael eu peri gan reolaethau swyddogol a gyflawnir ar gig carnolion domestig, cig o ddofednod a lagomorffiaid, cig anifeiliaid hela a ffermir a chig anifeiliaid hela gwyllt o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ L139, 30.4.2004, t.206; mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 bellach wedi ei osod mewn Corigendwm, OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83, y dylid ei ddarllen ynghyd â Chorigendwm pellach (OJ Rhif L204 4.8.2007, t.26); a
(b) ei gwneud yn ofynnol i ffioedd gael eu casglu i dalu'r costau sy'n cael eu peri gan reolaethau swyddogol a gyflawnir i wirhau cydymffurfedd â'r rheolau lles anifeiliaid a nodir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 93/119/EC (OJ Rhif L340, 31.12.93, t.21) i'r graddau y maent yn gymwys o ran anifeiliaid a gigyddir mewn lladd-dai ar gyfer eu bwyta gan bobl.
3. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (1972 p.68) ac mae unrhyw gyfeiriad at offeryn Cymunedol a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'w ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o dro i dro.
4. Mae'r Rheoliadau hyn –
(a) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Asiantaeth hysbysu gweithredydd pob lladd-dŷ, sefydliad trin anifeiliaid hela a safle torri lle'r arferwyd rheolaethau swyddogol, o'r ffi rheolaethau swyddogol sydd bellach i'w chodi o ran y rheolaethau swyddogol hynny (diffinnir y termau "lladd-dŷ", "sefydliad trin anifeiliaid hela", "safle torri", "rheolaethau swyddogol" a "ffi rheolaethau swyddogol" oll yn rheoliad 2) (rheoliad 3);
(b) yn darparu bod unrhyw ffi rheolaethau swyddogol a hysbysir yn y modd hwnnw yn daladwy gan y gweithredydd i'r Asiantaeth pan hawlir hi (rheoliad 3);
(c) yn caniatáu i'r Asiantaeth wrthod arfer unrhyw reolaethau swyddogol eraill mewn mangre benodol, er gwaethaf gorchymyn Llys yn ei gwneud yn ofynnol i weithredydd y fangre dalu ffi rheolaethau swyddogol y mae'n atebol amdani, os yw'r gweithredydd yn methu cydymffurfio â'r gorchymyn (rheoliad 4);
(ch) yn ei gwneud yn ofynnol i bersonau–
(i) rhoi i'r Asiantaeth ar hawliad yr wybodaeth honno y caiff yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol er mwyn cyfrifo'r ffi rheolaethau swyddogol neu hysbysu'r gweithredydd ohoni, a
(ii) rhoi i'r Asiantaeth ar hawliad unrhyw dystiolaeth y mae arni angen rhesymol ei chael er mwyn gwirio'r wybodaeth honno (rheoliad 5);
(d) yn darparu bod y personau y mae hawliad o'r fath wedi ei gyflwyno iddynt yn cyflawni tramgwydd os ydynt –
(i) a hwythau'n honni eu bod yn cydymffurfio â'r hawliad, yn ddi-hid neu gan wybod hynny, yn rhoi gwybodaeth neu dystiolaeth sydd yn anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys, neu
(ii) heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio o fewn cyfnod rhesymol â'r hawliad (rheoliad 5).
5. Mae Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn nodi sut y mae'r ffi'r rheolaethau swyddogol i'w chyfrifo.
6. Mae asesiad effaith reoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.
1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (2006 p.51). Back [1]
O.S. 2005/1971. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [2]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch nifer ac enwau Paneli Gwyddonol parhaol Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3). Back [3]
1992 p. 4. Back [4]
O.S. 1995/539, a ddirymwyd gydag effaith o 1 Ionawr 2006 gan O.S. 2005/3292 (Cy. 252). Back [5]
O.S. 1995/540, a ddirymwyd gydag effaith o 1 Ionawr 2006 gan O.S. 2005/3292 (Cy.252). Back [6]
O.S. 1995/731, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/400, O.S. 1999/1820, O.S. 2000/656. Back [7]
O.S. 1995/2148, a ddirymwyd gydag effaith o 1 Ionawr 2006 ymlaen gan O.S. 2005/3292 (Cy.252). Back [8]
O.S. 2007/3461 (Cy.306). Back [9]
OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12). Back [10]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Back [11]
OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3), y dylid ei ddarllen ynghyd â Chorigendwm pellach (L204, 4.8.2007, t.26). Back [12]
OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22), y dylid ei ddarllen ynghyd â Chorigendwm pellach (L204, 4.8.2007, t.26). Diwygiwyd Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1243/2007, sy'n diwygio Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid (OJ Rhif L281, 25.10.2007, t.8). Back [13]
OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.206. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83), y dylid ei ddarllen ynghyd â Chorigendwm pellach (L204, 4.8.2007, t.26). Diwygiwyd Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006 sy'n addasu Rheoliadau a Phenderfyniadau penodol ym meysydd symud rhydd ar nwyddau, rhyddid i bobl symud, cyfraith cwmnïau, polisi cystadlu, amaethyddiaeth (gan gynnwys deddfwriaeth filfeddygol a ffytoiechydol), polisi trafnidiaeth, treth, ystadegau, ynni, yr amgylchedd, cydweithredu ym meysydd cyfiawnder a materion cartref, undeb tollau, cysylltiadau allanol, polisïau tramor a diogelwch cyffredin a sefydliadau, oherwydd ymaelodaeth Bwlgaria a Romania (OJ Rhif L363, 20.12.2006, p.1). Back [14]
OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1), y dylid ei ddarllen ynghyd â Chorigendwm pellach (L204, 4.8.2007, t.29). Diwygiwyd Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006. Back [15]
OJ Rhif L271, 15.10.2005, t.17. Back [16]
OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.1, fel y'i darllenir gyda' r Corrigenda yn OJ Rhif L278, 10.10.2006, t.32 a OJ Rhif L283, 14.10.2006, t.62 ac fel y'i diwygiwyd gan Reoliad (EC) Rhif 1441/2007 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd (OJ Rhif L332, 7.12.2007, t.12). Back [17]
OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.27, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1244/2007 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 o ran gweithredu mesurau ar gyfer cynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer arolygu cig (OJ Rhif L281, 25.10.2007, t.12). Back [18]
OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.60, a ddiwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1665/2006 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1245/2007 sy'n diwygio Atodiad 1 i Reoliad (EC) Rhif 2075/2005 o ran defnyddio pepsin hylifol i ganfod Trichinella mewn cig (OJ Rhif L281, 25.10.2007, t.19). Back [19]
OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.83, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1246/2007, sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2076/2005 o ran estyn y cyfnod trosiannol a roddir i weithredwyr busnes bwyd sy'n mewnforio olew pysgod a fwriedir ar gyfer ei fwyta gan bobl (OJ Rhif L281, 25.10.2007, t.21). Back [20]