Gwnaed
6 Chwefror 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
7 Chwefror 2008
Yn dod i rym
3 Mawrth 2008
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2008, daw i rym ar 3 Mawrth 2008 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn–
mae i'r ymadrodd "hectar cymwys" yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd "eligible hectare" yn Erthygl 44(2) o Reoliad y Cyngor 1782/2003;
ystyr "mapiau dynodedig ("designated maps") yw'r ddwy gyfrol o fapiau wedi'u Rhif o 1 a 2 gyda phob cyfrol wedi'i marcio "Cyfrol o Fapiau ardaloedd ffermio llai ffafriol yng Nghymru" a chyda Rhif y gyfrol dyddiedig 20 Mai 1999 wedi'i llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac wedi'i hadneuo yn Swyddfeydd Adran Amaethyddiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;
ystyr "Rheoliad y Cyngor 1782/2003" ("Council Regulation 1782/2003") yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac sy'n sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr ac sy'n diwygio Rheoliadau penodol(3);
ystyr "taliad Tir Mynydd" ("Tir Mynydd payment") yw cymorth ariannol a delir yn unol â Rheoliad 3 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006(4).
ystyr "tir cymwys" ("eligible land") yw'r rhan honno o'r tir cymhwysol sydd o fewn ardal lai ffafriol;
ystyr "tir llai ffafriol" ("less favoured area") yw tir tan anfantais neu tir tan anfantais ddifrifol;
ystyr "tir tan anfantais" ("disadvantaged land") (ac eithrio yn yr ymadrodd "tir tan anfantais ddifrifol") yw unrhyw ardal o dir a ddangosir â lliw glas ar y mapiau dynodedig.
ystyr "tir tan anfantais ddifrifol" ("severely disadvantaged land") yw'r ardal o dir a ddangosir â lliw pinc ar y mapiau dynodedig;
2.–(1) Mae Paragraffau (2) a (3) o'r erthygl hon erthygl yn cael eu heffaith at ddibenion asesu cynhwysedd cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno yn uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr paragraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
(2) Os gellir defnyddio'r tir dan sylw, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwrol yn yr awyr agored, neu ffrwythau fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, yna
(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o Atodlen 1 gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a
(b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 12 Medi 2007, fel yr incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw fel y'i darllenir gydag unrhyw nodyn perthnasol i'r Atodlen honno.
(3) Os yw tir, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, sy'n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net yn gymwys i dderbyn taliad Tir Mynydd (fel a grybwyllir yng nghofnod 4 yng ngholofn 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn) neu os oedd wedi'i neilltuo rhag cynhyrchu yn 2006 (fel a grybwyllir yng nghofnod 5 yn y golofn honno), neu os oedd yn hectar cymwys yn 2006 (fel a grybwyllir yng nghofnod 6 yn y golofn honno), yna–
(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a
(b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 12 Medi 2007, fel yr incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw.
3. Dirymir Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2007(5).
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
6 Chwefror 2008
Erthygl 2
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Defnydd Ffermio | Uned gynhyrchu | Incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu (£) | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
1. Y ffigur ar gyfer anifeiliaid y byddid yn eu cadw am 12 mis yw hwn. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata ohono.
2. Y ffigur ar gyfer anifeiliaid (waeth beth fo'u hoed) y byddid yn eu cadw am 12 mis yw hwn. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata ohono.
3. Mae'r ffigur hwn yn cynnwys y premiwm cnwd protein y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 76 o Reoliad y Cyngor 1782/2003.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu cynhwysedd cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn gosod y swm sydd i gael ei ystyried fel yr incwm blynyddol net o bob uned o'r fath am y flwyddyn o 12 Medi 2007 i 11 Medi 2008 gan gynnwys y dyddiadau hynny at ddibenion penodol yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986 ("Deddf 1986"). Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2007.
Mae asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol tir amaethyddol yn ofynnol wrth benderfynu a yw'r tir o dan sylw yn "uned fasnachol o dir amaethyddol" ai peidio at ddibenion y darpariaethau olynu yn Neddf 1986: gweler yn benodol adrannau 36(3) a 50(2). Uned o dir amaethyddol yw "uned fasnachol o dir amaethyddol" sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn gallu cynhyrchu incwm blynyddol net nad yw'n llai na chyfanswm enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd amser-llawn sydd yn 20 oed neu drosodd (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986). Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn darparu mai wrth benderfynu'r ffigur incwm blynyddol hwn, pryd bynnag y bydd defnydd ffermio penodol a grybwyllir yng ngholofn 1 o'r Atodlen yn berthnasol i'r asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol y tir dan sylw, yr unedau cynhyrchu a'r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofnau 2 a 3 yn ôl eu trefn fydd sail yr asesiad hwnnw.
Mae'r ffigurau incwm blynyddol net yng ngholofn 3 o'r Atodlen yn rhagnodi'r incwm blynyddol net o un uned gynhyrchu. Mewn rhai achosion bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am y cyfnod llawn o ddeuddeng mis. Mewn achosion eraill bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am ran o'r flwyddyn yn unig, a gall y bydd mwy nag un gylchred gynhyrchu yn y cyfnod o ddeuddeng mis. Bydd yr asesiad o gynhwysedd cynhyrchu'r tir yn cymryd i ystyriaeth yr holl gynhyrchu yn ystod blwyddyn.
Mae'r Gorchymyn hwn yn cynnwys ffigurau incwm blynyddol net ar gyfer tir a oedd yn 2006 yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 (O.J. Rhif L270, 21.10.2003, t.1), sy'n sefydlu'r Cynllun Taliad Sengl. Mae yna ffigurau ar wahân yn yr Atodlen ar gyfer tir tan anfantais ddifrifol, tir tan anfantais a thir arall. Mae yna hefyd ffigurau ar wahân ar gyfer tir a oedd wedi'i neilltuo rhag cynhyrchu yn 2006.
1986 p.5. Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044 ac maent bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Back [2]
OJ Rhif L270, 21.10.2003, t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 552/2007 (OJ Rhif L131, 23.5.2007, t.10). Back [3]
O.S. 2006/3343 (Cy.304). Back [4]
O.S. 2007/2398, Cy.199. Back [5]