Wedi'i wneud
13 Chwefror 2007
Yn dod i rym
14 Chwefror 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵ er a roddwyd iddo gan baragraff 3 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Dyddiad Cyfarfod Cyntaf y Cynulliad sydd wedi ei Gyfansoddi yn ôl Deddf Llywodraeth Cymru 2006) 2007 a daw i rym ar 14 Chwefror 2007.
2. Dyddiad y cyfarfod cyntaf o'r Cynulliad sydd wedi ei gyfansoddi yn ôl Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ar ôl etholiad 2007 fydd 9 Mai 2007.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Chwefror 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, a wneir o dan baragraff 3 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), yn darparu mai'r dyddiad penodedig ar gyfer cyfarfod cyntaf y Cynulliad sydd wedi ei gyfansoddi yn ôl y Ddeddf honno yw 9 Mai 2007.