British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn y Tafod Glas (Cymru) (Digolledu) 2007 Rhif 3010 (Cy.261)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073010w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2007 Rhif 3010 (Cy.261)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn y Tafod Glas (Cymru) (Digolledu) 2007
|
Gwnaed |
22 Hydref 2007 | |
|
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
23 Hydref 2007 | |
|
Yn dod i rym |
22 Hydref 2007 | |
 chymeradwyaeth y Trysorlys, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 32(3) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[
1] ac a freiniwyd bellach ynddynt [
2].
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
O ran y Gorchymyn hwn—
(a) Ei enw yw Gorchymyn y Tafod Glas (Cymru) (Digolledu) 2007;
(b) fe ddaw i rym ar 22 Hydref 2007; ac
(c) mae'n gymwys o ran Cymru.
Digolledu
2.
—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn achosi i unrhyw anifail gael ei gigydda o dan adran 32 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 fel y'i cymhwysir i'r tafod glas gan erthygl 13 o Orchymyn y Tafod Glas 2003[3].
(2) Y digollediad sy'n daladwy gan Weinidogion Cymru o ran anifail yw gwerth yr anifail ar y farchnad yn union cyn iddo gael ei gigydda pe na bai wedi ei effeithio gan y tafod glas, pe na bai amheuaeth ei fod wedi ei effeithio gan y tafod glas neu pe na bai wedi bod yn agored i gael ei heintio gan y tafod glas.
(3) Yn yr erthygl hon ystyr "anifail" yw anifail sy'n cnoi cil.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
22 Hydref 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer digollediad sydd i'w dalu o ran anifail a effeithir gan y tafod glas (y dafod las), yr amheuir ei fod yn cael ei effeithio gan y tafod glas (y dafod las) neu a fu'n agored i gael ei heintio gan y tafod glas (y dafod las) ac a gigyddwyd o dan adran 32 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (p. 22). Swm y digollediad yw gwerth yr anifail ar y farchnad yn union cyn iddo gael ei gigydda, pe na bai wedi ei effeithio felly, neu pe na bai amheuaeth ei fod wedi ei effeithio felly neu pe na bai wedi bod yn agored i gael ei heintio.
Ni luniwyd asesiad effaith reoleiddiol ar gyfer y Gorchymyn hwn, gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio o gwbl ar y sector breifat na'r sector wirfoddol.
Notes:
[1]
1981 p. 22.back
[2]
Swyddogaethau a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae'r pwerau hyn bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.back
[3]
O.S. 2003/326 (Cy.47).back
English version
ISBN
978 0 11 091653 8
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
2 November 2007
|