If you found BAILII useful today, could you please make a contribution?
Your donation will help us maintain and extend our databases of legal information. No contribution is too small. If every visitor this month donates, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
Gwnaed | 8 Hydref 2007 | ||
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru | 9 Hydref 2007 | ||
Yn dod i rym | 31 Hydref 2007 |
1. | Enwi, cymhwyso a chychwyn |
2. | Dehongli |
3. | Cymhwyso'r Rheoliadau |
4. | Y gofyniad am benderfyniad sgrinio |
5. | Trothwyon |
6. | Cais am benderfyniad sgrinio |
7. | Y penderfyniad sgrinio |
8. | Y gofyniad am gydsyniad |
9. | Barnau cwmpasu |
10. | Darparu gwybodaeth |
11. | Y cais am gydsyniad |
12. | Gwybodaeth ychwanegol |
13. | Y weithdrefn pan allai prosiect sylweddol yng Nghymru effeithio ar Wladwriaeth AEE arall |
14. | Y weithdrefn pan allai prosiect sylweddol mewn Gwladwriaeth AAE arall effeithio ar Gymru |
15. | Y penderfyniad cydsynio |
16. | Gofynion ychwanegol ynglyn â'r Rheoliadau Cynefinoedd |
17. | Yr amodau cydsynio |
18. | Y weithdrefn ar ôl penderfyniad cydsynio |
19. | Prosiectau trawsffiniol |
20. | Adolygiad o benderfyniadau a chydsyniadau |
21. | Tramgwydd cyflawni gwneud gwaith prosiect heb benderfyniad o dan y Rheoliadau hyn |
22. | Tramgwydd gwneud gwaith yn groes i amod |
23. | Tramgwydd sicrhau penderfyniad drwy ddarparu gwybodaeth anwir |
24. | Hysbysiadau stop |
25. | Y cosbau am fynd yn groes i hysbysiad stop |
26. | Hysbysiadau adfer |
27. | Y gosb am fynd yn groes i hysbysiad adfer |
28. | Y terfynau amser ar gyfer dwyn achos cyfreithiol |
29. | Pwerau mynediad a phwerau diofyn |
30. | Apelau yn erbyn hysbysiadau |
31. | Apelau yn erbyn penderfyniadau sgrinio a phenderfyniadau cydsynio |
32. | Dyfarnu apelau drwy sylwadau ysgrifenedig |
33. | Dyfarnu apelau drwy wrandawiad neu ymchwiliad lleol |
34. | Cais i'r llys gan berson a dramgwyddir |
35. | Dehongli'r Rhan hon |
36. | Diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) 2004 |
37. | Dirymu |
38. | Darpariaethau trosiannol |
ATODLEN 1 — | Trothwyon |
ATODLEN 2 — | Y meini prawf dethol ar gyfer penderfyniad sgrinio |
ATODLEN 3 — | Gwybodaeth i'w chynnwys yn y datganiadau amgylcheddol |
ATODLEN 4 — | Adolygiad benderfyniadau a chydsyniadau |
ATODLEN 5 — | Dirprwyo swyddogaethau apeliadol |
(2) Mae i ymadroddion Cymraeg eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn cael eu defnyddio yn y Gyfarwyddeb AEA neu'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag ystyr yr ymadroddion Saesneg cyfatebol hynny yn y Gyfarwyddeb berthnasol.
(3) Rhaid gwneud neu roi mewn ysgrifen bob cais, hysbysiad, sylw, archiad, cymeradwyaeth a chytundeb o dan y Rheoliadau hyn.
(4) Mae "ysgrifen" ym mharagraff (3), ac eithrio pan fo'n gymwys i hysbysiadau o dan reoliad 24 a 26, yn cynnwys cyfathrebiad electronig o fewn ystyr "electronic communication" yn Neddf Cyfathrebu Electronig 2000[12], ond dim ond drwy gyfrwng cyfathrebiad electronig y caniateir i hysbysiadau, y mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru eu rhoi, gael eu rhoi i unrhyw berson os yw'r derbynnydd arfaethedig—
(5) Caniateir i hysbysiadau neu ddogfennau, y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir eu cyflwyno, eu hanfon neu eu rhoi o dan y Rheoliadau hyn, gael eu hanfon drwy'r post.
Cymhwyso'r Rheoliadau
3.
—(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw brosiect ailstrwythuro neu brosiect tir heb ei drin, onid yw'n esempt o dan baragraff (2) neu (3).
(2) Mae prosiect ailstrwythuro neu brosiect tir heb ei drin yn esempt—
(3) Mae prosiect yn esempt o dan y paragraff hwn i'r graddau y mae Gweinidogion Cymru, yn unol ag Erthygl 2(3) o'r Gyfarwyddeb AEA, yn cyfarwyddo y bydd yn esempt rhag rheoliadau 4 i 35 o'r Rheoliadau hyn.
(4) Yn achos prosiect y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu y bydd yn debyg o gael effaith sylweddol ar safle Ewropeaidd (p'un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â phrosiectau eraill), dim ond i'r graddau y sicrheir cydymffurfedd â'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd mewn perthynas â'r prosiect y bydd y pwer i gyfarwyddo bod y prosiect yn esempt o dan baragraff (3) yn arferadwy.
(5) Pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu rhoi cyfarwyddyd o dan baragraff (3), rhaid iddynt—
(7) Yn y rheoliad hwn, ystyr "ardal sensitif" ("sensitive area") yw—
Cais am benderfyniad sgrinio
6.
—(1) Rhaid i gais am benderfyniad sgrinio—
(2) Os yw Gweinidogion Cymru yn credu nad oes ganddynt ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad sgrinio, cânt ofyn i'r ceisydd ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae arnynt ei hangen.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r ceisydd o'r dyddiad y mae'r cais am benderfyniad sgrinio yn dod i'w llaw.
Y penderfyniad sgrinio
7.
—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru, yn unol â pharagraff (2) a'r meini prawf dethol yn Atodlen 2, benderfynu a yw prosiect yn debyg o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd (a yw'n "brosiect sylweddol").
(2) Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod prosiect yn debyg o gael effeithiau sylweddol ar safle Ewropeaidd (naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â phrosiectau eraill), ac nad yw'r prosiect yn uniongyrchol gysylltiedig â rheoli'r safle nac yn angenrheidiol i'w reoli, rhaid i'r prosiect gael ei drin fel petai'n debyg o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd.
(3) Cyn gwneud penderfyniad sgrinio, caiff Gweinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw un o'r cyrff ymgynghori.
(4) Ar ôl gwneud penderfyniad sgrinio, rhaid i Weinidogion Cymru—
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru wneud penderfyniad sgrinio, a hysbysu'r ceisydd ohono, o fewn 35 o ddiwrnodau, neu gyfnod hwy y cytunir arno gyda'r ceisydd, i'r diweddaraf o'r dyddiadau canlynol—
(6) Os bydd Gweinidogion Cymru wedi methu â gwneud penderfyniad sgrinio neu hysbysu ohono o fewn y cyfnod ym mharagraff (5), caiff y ceisydd hysbysu Gweinidogion Cymru ei fod yn bwriadu trin y methiant hwnnw fel penderfyniad bod y prosiect yn brosiect sylweddol.
(7) Pan fo'r ceisydd wedi hysbysu Gweinidogion Cymru felly, bernir bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ar ddyddiad yr hysbysiad hwnnw fod y prosiect yn brosiect sylweddol.
(8) Os bydd Gweinidogion Cymru, wedi iddynt wneud, neu y bernir eu bod wedi gwneud, penderfyniad bod y prosiect yn brosiect sylweddol—
rhaid iddynt gymryd yr holl gamau ym mharagraff (4) mewn cysylltiad â'r penderfyniad newydd hwnnw.
(9) Os na fydd y prosiect y mae penderfyniad sgrinio yn ymwneud ag ef wedi dechrau o fewn cyfnod o dair blynedd gan ddechrau o'r dyddiad —
bydd y penderfyniad sgrinio yn peidio â bod yn effeithiol.
Darparu gwybodaeth
10.
—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys—
(2) Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i'r corff ymgynghori—
(3) Caiff corff ymgynghori godi ffi resymol ar y ceisydd am yr wybodaeth a ddarparwyd gan y corff hwnnw o dan baragraff (2)(b), i adlewyrchu'r gost o drefnu bod yr wybodaeth berthnasol ar gael.
(4) Nid yw paragraff (2)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i gorff ymgynghori ryddhau i'r ceisydd unrhyw wybodaeth—
(5) Os nad yw corff ymgynghori yn awdurdod cyhoeddus o fewn ystyr "public authority" yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, bydd paragraff (4) yn gymwys fel petai'n awdurdod cyhoeddus o'r fath.
Y cais am gydsyniad
11.
—(1) Rhaid i gais am gydsyniad gynnwys datganiad amgylcheddol a rhaid iddo gael ei wneud i Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid i'r ceisydd am gydsyniad ddarparu i Weinidogion Cymru gymaint o gopïau o'r cais ag y mae arnynt angen rhesymol amdanynt.
(3) Ar ôl cael y cais am gydsyniad, rhaid i Weinidogion Cymru —
Gwybodaeth ychwanegol
12.
—(1) Os bydd Gweinidogion Cymru ar ôl cydymffurfio â rheoliad 11(3) yn penderfynu y dylai datganiad, a gynhwyswyd gyda chais am gydsyniad, sy'n honni ei fod yn ddatganiad amgylcheddol gynnwys gwybodaeth ychwanegol er mwyn bod yn ddatganiad amgylcheddol, rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd o'r wybodaeth y mae ei hangen (ac o nifer y copïau), a rhaid i'r ceisydd ddarparu'r wybodaeth honno i Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi mewn papur newydd sy'n cael ei gylchredeg ym mro'r tir perthnasol ac ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru hysbysiad—
Y weithdrefn pan allai prosiect sylweddol yng Nghymru effeithio ar Wladwriaeth AEE arall
13.
—(1) Cyn gynted â phosibl ar ôl cael cais am gydsyniad ar gyfer prosiect sylweddol, rhaid i Weinidogion Cymru bwyso a mesur a fyddai'r prosiect hwnnw yn debyg o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE arall.
(2) Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn bod effeithiau o'r fath yn debygol, neu os yw Gwladwriaeth AEE y mae'r prosiect yn debyg o gael effeithiau sylweddol arni yn gofyn am hynny, rhaid i Weinidogion Cymru anfon at y Wladwriaeth AEE honno—
(3) Os yw'r Wladwriaeth AEE yn mynegi ei bod yn dymuno cymryd yn yr weithdrefn o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i Weinidogion Cymru—
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol hefyd—
(5) Yn unol ag Erthygl 7(4) o'r Gyfarwyddeb AEA, rhaid i Weinidogion Cymru—
Y weithdrefn pan allai prosiect sylweddol mewn Gwladwriaeth AEE arall effeithio ar Gymru
14.
—(1) Os yw Gweinidogion Cymru yn cael oddi wrth Wladwriaeth AEE arall wybodaeth a ryddhawyd o dan Erthygl 7(1) a 7(2) o'r Gyfarwyddeb AEA (sy'n ymwneud â gwybodaeth ynghylch prosiect mewn un Wladwriaeth AEE sy'n debyg o gael effeithiau sylweddol ar amgylchedd Gwladwriaeth AEE arall) mewn perthynas â phrosiect sylweddol yn y Wladwriaeth AEE honno, rhaid i Weinidogion Cymru—
(2) Yn unol ag Erthygl 7(4) o'r Gyfarwyddeb AEA, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol hefyd—
(3) Os yw Gwladwriaeth AEE arall wedi gwneud penderfyniad i roi neu i wrthod cydsyniad a'i bod wedi hysbysu Gweinidogion Cymru o'r penderfyniad hwnnw yn unol ag Erthygl 9(2) o'r Gyfarwyddeb AEA, rhaid i Weinidogion Cymru gymryd y camau y maent yn ystyried eu bod yn briodol i ddwyn at sylw'r cyhoedd unrhyw wybodaeth a gafwyd gan y Wladwriaeth AEE honno mewn perthynas â'r penderfyniad hwnnw.
Y penderfyniad cydsynio
15.
—(1) Wrth benderfynu a ddylid rhoi cydsyniad ar gyfer prosiect sylweddol, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried—
(ch) unrhyw effeithiau cymdeithasol neu economaidd a allai fod yn ganlyniad i benderfyniad i wrthod cydsyniad ar gyfer y prosiect.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â dod i benderfyniad o dan baragraff (1) tan y diweddaraf o'r canlynol—
(c) y dyddiad y daw unrhyw gyfnod y cytunir arno gyda Gwladwriaeth AEE arall o dan reoliad 13(5)(b) i ben,
p'un bynnag yw'r dyddiad olaf.
Gofynion ychwanegol sy'n ymwneud â'r Rheoliadau Cynefinoedd
16.
—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â rhoi cydsyniad ar gyfer prosiect a fyddai'n golygu gwneud unrhyw beth a fyddai'n anghyfreithlon o dan reoliadau 39, 41 neu 43 o'r Rheoliadau Cynefinoedd (ond nid yw hynny'n cynnwys unrhyw beth y cafodd trwydded ei rhoi ar ei gyfer o dan reoliad 44 o'r Rheoliadau hynny).
(2) Bydd paragraffau (3) a (6) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu a ddylent roi cydsyniad ar gyfer prosiect sy'n debyg o gael effaith sylweddol ar safle Ewropeaidd (naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â phrosiectau eraill) (prosiect y cyfeirir ato yn y paragraffau hynny fel "y prosiect").
(3) Oni fydd paragraff (4) yn gymwys, dim ond os yw Gweinidogion Cymru wedi pwyso a mesur goblygiadau'r prosiect ar gyfer y safle Ewropeaidd (gan gynnwys asesiad priodol o'r goblygiadau gyda golwg ar amcanion cadwraeth y safle hwnnw) a'u bod wedi'u bodloni na fydd y prosiect yn effeithio'n andwyol ar gyfanrwydd y safle y cânt roi cydsyniad ar gyfer y prosiect.
(4) Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod rhaid i'r prosiect gael ei gyflawni am resymau hanfodol, sef bod hyn er budd cyhoeddus tra phwysig (a all, yn ddarostyngedig i baragraff (5) isod, fod o natur cymdeithasol neu economaidd) ac nad oes unrhyw ateb arall, cânt roi cydsyniad ar gyfer y prosiect er gwaethaf y ffaith bod yr asesiad o'i oblygiadau i safle Ewropeaidd yn negyddol.
(5) Pan fo'r safle Ewropeaidd yn lletya math o gynefin naturiol â blaenoriaeth neu rywogaeth â blaenoriaeth, rhaid i'r rhesymau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) fod naill ai—
(6) Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu rhoi cydsyniad ar gyfer y prosiect yn unol â pharagraff (4), rhaid iddynt sicrhau bod unrhyw fesurau iawndal angenrheidiol yn cael eu cymryd i sicrhau bod cydlyniad cyffredinol Natura 2000 (o fewn ystyr rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau Cynefinoedd) yn cael ei ddiogelu.
Yr amodau cydsynio
17.
—(1) Mae unrhyw gydsyniad a roddir o dan reoliad 15 i fod yn ddarostyngedig i—
(2) Yr amodau sy'n ofynnol o dan baragraff (1)(a) yw—
(3) Ar ôl i gydsyniad ddirwyn i ben yn unol â pharagraff (2)(b), caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i gais pellach am gydsyniad yn unol â pharagraff (5) gael ei wneud mewn cysylltiad ag unrhyw weithrediadau pellach neu ddefnyddiau pellach sy'n rhan o'r prosiect.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo unrhyw ddiwygiadau pan fo ceisydd yn gofyn amdanynt, ond bydd yn ofynnol gwneud cais pellach am gydsyniad yn unol â pharagraff (5) i wneud unrhyw newid o bwys i'r gweithrediadau awdurdodedig neu'r dulliau defnyddio awdurdodedig.
(5) Caniateir i geisiadau pellach am gydsyniad o dan baragraffau (3) a (4) fod yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad yn y Rheoliadau hyn sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.
(6) Yn y rheoliad hwn, mae prosiect "wedi'i gwblhau" ("completed") os yw'r holl waith a ganiateir o dan y cydsyniad wedi'i gyflawni a bod yr holl newidiadau yn y defnydd ar y tir perthnasol, neu yn lefel y defnydd hwnnw, wedi'u rhoi ar waith.
Y weithdrefn yn dilyn penderfyniad cydsynio
18.
Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud penderfyniad cydsynio mewn cysylltiad â phrosiect rhaid iddynt—
(b) hysbysu'r cyhoedd o'u penderfyniad drwy gyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd yn y fro y mae'r tir perthnasol wedi'i leoli ynddi neu drwy unrhyw ddulliau eraill y maent yn credu eu bod yn rhesymol o dan yr amgylchiadau; ac
(c) rhyddhau i'r cyhoedd ei archwilio ddatganiad sy'n cynnwys—
Prosiectau trawsffiniol
19.
—(1) Yn achos prosiect trawsffiniol lle mae'r rhan fwyaf o'r tir perthnasol wedi'i leoli yng Nghymru, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Ysgrifennydd Gwladol cyn—
(2) Ac eithrio pan ddeuir i gytundeb i'r gwrthwyneb o dan baragraff (4), yn achos prosiect trawsffiniol lle bo'r rhan fwyaf o'r tir wedi'i leoli yn Lloegr, yr unig Reoliadau y bydd y prosiect hwnnw'n ddarostyngedig iddynt yw'r Rheoliadau cyfatebol sy'n gymwys i'r prosiect yn Lloegr.
(3) Yn achos cais mewn cysylltiad â phrosiect trawsffiniol y byddai'r Rheoliadau hyn fel arall yn gymwys iddynt, os bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gofyn am hynny, caiff Gweinidogion Cymru gytuno i'r cais fod yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau cyfatebol, sy'n gymwys i'r prosiect yn Lloegr, yn unig.
(4) Os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn am hynny, a bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cytuno, bydd prosiect trawsffiniol y byddai paragraff (2) yn gymwys iddo fel arall yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn yn unig.
Adolygiad o benderfyniadau a chydsyniadau
20.
Mae Atodlen 4 yn gymwys os, ar ôl dyddiad—
daw safle yn safle Ewropeaidd a bod Gweinidogion Cymru yn credu y byddai cyflawni neu gwblhau (o fewn ystyr "wedi'i gwblhau" yn rheoliad 17(6)) y prosiect yn debyg o gael effaith sylweddol ar y safle hwnnw ac na fyddai'n uniongyrchol gysylltiedig â rheoli'r safle nac yn angenrheidiol i'w reoli.
yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y rheoliad hwn sy'n ymwneud â phrosiect tir heb ei drin, tybir bod unrhyw ddarn o dir y mae'r erlyniad yn honni ei fod yn dir heb ei drin yn dir heb ei drin oni ddygir tystiolaeth ddigonol i ddangos nad yw'n dir heb ei drin, ac os dygir tystiolaeth o'r fath, rhaid i'r erlyniad brofi y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y tir yn dir heb ei drin.
Tramgwydd gwneud gwaith yn groes i amod
22.
Bydd unrhyw berson sy'n cyflawni unrhyw weithgaredd yn groes i unrhyw un o amodau'r cydsyniad a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Tramgwydd sicrhau penderfyniad drwy ddarparu gwybodaeth anwir
23.
—(1) Bydd unrhyw berson sydd, er mwyn sicrhau penderfyniad penodol ar gais a wnaed o dan y Rheoliadau hyn—
yn euog o dramgwydd.
(2) Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored—
Hysbysiadau stop
24.
—(1) Os yw person wedi dechrau prosiect tir heb ei drin neu brosiect ailstrwythuro —
caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad ("hysbysiad stop") yn gwahardd ar unwaith y cyfan neu ran o'r gwaith.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad stop i unrhyw berson y mae'n ymddangos iddynt fod ganddo fuddiant yn y tir perthnasol neu ei fod yn cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd sy'n cael ei wahardd gan yr hysbysiad.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru dynnu hysbysiad stop yn ei ôl ar unrhyw adeg (heb effeithio ar eu pwerau i gyflwyno un arall) drwy gyflwyno hysbysiad i'r perwyl hwnnw i'r personau y cyflwynwyd yr hysbysiad stop iddynt.
(4) Mae effaith hysbysiad stop yn peidio os bydd —
Cosbau am fynd yn groes i hysbysiad stop
25.
—(1) Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i hysbysiad stop a gyflwynwyd iddo yn euog o dramgwydd.
(2) Caniateir i gyhuddiad gael ei ddwyn am dramgwydd o dan y rheoliad hwn drwy gyfeirio at unrhyw ddiwrnod neu gyfnod amser hwy, a chaniateir i berson gael ei gollfarnu o ail dramgwydd neu dramgwydd dilynol o dan y rheoliad hwn drwy gyfeirio at unrhyw gyfnod amser yn dilyn y gollfarn flaenorol am dramgwydd o'r fath.
(3) Mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at fynd yn groes i hysbysiad stop yn golygu achosi neu ganiatáu hynny.
(4) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored—
Hysbysiadau adfer
26.
—(1) Os yw person wedi cyflawni prosiect tir heb ei drin neu brosiect ailstrwythuro—
caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad ("hysbysiad adfer") i'r person y mae'n ymddangos iddynt ei fod yn gyfrifol.
(2) Caiff hysbysiad adfer ei gwneud yn ofynnol i'r person—
(3) Rhaid dweud yn yr hysbysiad adfer beth yw'r cyfnod y mae'r gwaith adfer i'w wneud ynddo.
Y gosb am fynd yn groes i hysbysiad adfer
27.
Mae unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ofynion hysbysiad adfer yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod—
Y terfynau amser ar gyfer dwyn achos cyfreithiol
28.
—(1) Caniateir i achos cyfreithiol am unrhyw dramgwydd o dan reoliadau 21 i 23, rheoliad 25 neu 27 gael ei ddwyn o fewn y cyfnod o chwe mis gan ddechrau ar y dyddiad y daeth tystiolaeth, a oedd yn ddigon ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau'r achos cyfreithiol, yn hysbys iddo.
(2) Ni chaniateir i achos cyfreithiol am dramgwydd gael ei gychwyn fwy na dwy flynedd ar ôl y dyddiad y cyflawnwyd y tramgwydd.
(3) At ddibenion paragraff (2), mae tystysgrif a lofnodwyd gan neu ar ran yr erlynydd, ac sy'n datgan ar ba ddyddiad y daeth tystiolaeth a oedd yn ddigon yn ei farn ef i gyfiawnhau'r achos cyfreithiol yn hysbys iddo, yn dystiolaeth derfynol am y ffaith honno.
(4) Bernir bod tystysgrif sy'n datgan y mater hwnnw ac sy'n honni ei bod wedi'i llofnodi felly yn dystysgrif sydd wedi'i llofnodi felly oni phrofir y gwrthwyneb.
Pwerau mynediad a phwerau diofyn
29.
—(1) Caiff unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru fynd ar unrhyw dir a'i arolygu, ar unrhyw adeg resymol, er mwyn—
(2) Caiff unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru ac y mae ganddo sail resymol dros amau bod person wedi cyflawni tramgwydd o dan reoliad 23, fynd i mewn i unrhyw fangre (ond nid mangre a ddefnyddir fel annedd yn unig) sydd, neu y mae gan y person le i gredu ei bod, wedi'i meddiannu gan, neu ym meddiant, y person y credir ei fod yn gyfrifol am gyflawni'r tramgwydd, a chaiff arolygu unrhyw gofnodion y mae ganddo le rhesymol i gredu eu bod yn berthnasol i'r tramgwydd a amheuir a chymryd copïau ohonynt.
(3) Os nad oes unrhyw fesurau sy'n ofynnol gan hysbysiad adfer neu gan hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff 5 o Atodlen 4 wedi'u cymryd o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad—
(4) Caiff person a awdurdodwyd o dan baragraff (1) i fynd ar unrhyw dir neu fangre gymryd oddi yno—
er mwyn canfod a gyflawnwyd tramgwydd ar y tir hwnnw neu mewn cysylltiad ag ef.
(5) Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i berson a awdurdodwyd o dan baragraff (1), (2) neu (3) i fynd ar unrhyw dir neu fangre ddangos tystiolaeth am ei awdurdod i fynd ar y tir neu'r fangre.
(6) Caiff person a awdurdodwyd o dan baragraff (1), (2) neu (3) i fynd ar unrhyw dir neu fangre ddod ag unrhyw bersonau eraill neu unrhyw gyfarpar gydag ef sy'n angenrheidiol yn ei farn ef.
(7) Rhaid i unrhyw berson sy'n meddiannu tir neu fangre y mae person a awdurdodwyd o dan baragraff (1), (2) neu (3) wedi mynd arno neu arni, neu y mae'r tir hwnnw neu'r fangre honno yn ei feddiant, roi i'r person a awdurdodwyd felly unrhyw gymorth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdano er mwyn ei alluogi i arfer unrhyw bwer a roddwyd iddo gan y rheoliad hwn.
(8) Bydd person sy'n fwriadol yn rhwystro neu'n atal unrhyw berson sy'n gweithredu drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan y rheoliad hwn neu sydd heb esgus rhesymol yn methu â chydymffurfio ag archiad a wnaed o dan baragraff (7) yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
a chyfeirir at unrhyw hysbysiad o'r fath yn y rheoliad hwn fel yr "hysbysiad perthnasol" ("relevant notice").
(2) Caniateir i apêl gael ei dwyn ar unrhyw un o'r seiliau canlynol—
(3) Rhaid dwyn apêl yn erbyn hysbysiad perthnasol drwy hysbysiad, y mae'n rhaid iddo—
(4) Ac eithrio fel y darperir fel arall gan y rheoliad hwn, caiff Gweinidogion Cymru ddyfarnu'r weithdrefn (a allai gynnwys darpariaeth ar gyfer ymweliadau â'r safle) ar gyfer penderfynu'r apêl.
(5) Caiff apelau o dan y rheoliad hwn gael eu cynnal drwy sylwadau ysgrifenedig neu drwy wrandawiad.
(6) Wrth ddyfarnu ar yr apêl—
(7) Pan fo apêl yn cael ei dwyn yn erbyn hysbysiad stop (oni fydd yr hysbysiad wedi'i dynnu'n ôl gan Weinidogion Cymru) mae'r holl ofynion sydd wedi'u cynnwys ynddo yn cael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn dirymu'r hysbysiad neu'n amrywio'r gofynion.
(8) Os bydd Gweinidogion Cymru yn amrywio gofynion hysbysiad sgrinio neu hysbysiad stop, bydd yr amrywiadau yn cael effaith o'r dyddiad hysbysu o dan baragraff (6)(b).
(9) Pan fo apêl yn cael ei dwyn yn erbyn hysbysiad adfer, ni fydd unrhyw effaith i'r hysbysiad hyd nes y caiff ei gadarnhau neu ei amrywio ar apêl neu hyd nes y tynnir yr apêl yn ôl.
(10) Caiff Gweinidogion Cymru benodi person i arfer ar eu rhan, gyda thaliad neu hebddo, eu swyddogaeth o ddyfarnu'r apêl neu unrhyw fater sy'n rhan o'r apêl a bydd Atodlen 5 yn cael effaith mewn perthynas â phenodiad o'r fath.
Apelau yn erbyn penderfyniadau sgrinio a phenderfyniadau cydsynio
31.
—(1) Caiff y personau a bennir ym mharagraff (2) apelio i Weinidogion Cymru o dan y rheoliad hwn yn erbyn penderfyniad, cydsyniad neu hysbysiad (yn ôl y digwydd) ("penderfyniad perthnasol").
(2) Y personau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yw—
(3) Rhaid dwyn apêl yn erbyn penderfyniad perthnasol o fewn 3 mis i'r dyddiad yr hysbyswyd y person o'r penderfyniad perthnasol.
(4) Rhaid i hysbysiad o apêl—
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno copïau o'r hysbysiad i'r partïon sydd â buddiant cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael yr wybodaeth honno.
(6) Caiff person y cyflwynir iddo gopi o'r hysbysiad o dan baragraff (5) gyflwyno sylwadau mewn cysylltiad â'r apêl cyhyd â'i fod yn hysbysu Gweinidogion Cymru o'i ddymuniad i wneud hynny o fewn 21 o ddiwrnodau i'r dyddiad y mae'n cael copi o'r hysbysiad.
(7) Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu—
a rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r cyfranogwyr yn yr apêl o'u penderfyniad.
(8) Wrth ddyfarnu'r apêl, caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu neu wrthod yr apêl, neu wrth-droi unrhyw ran o'r penderfyniad perthnasol, a chânt ystyried yr apêl fel petaent yn ystyried y penderfyniad am y tro cyntaf.
(9) Caiff Gweinidogion Cymru benodi person i arfer ar eu rhan, gyda thaliad neu hebddo, eu swyddogaeth o ddyfarnu apêl neu unrhyw fater sy'n rhan o'r apêl, a bydd Atodlen 5 yn cael effaith mewn perthynas â phenodiad o'r fath.
(10) Mae is-adrannau (2) i (5) o adran 250 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[28] (ymchwiliadau lleol, tystiolaeth a chostau) yn gymwys mewn perthynas â gwrandawiadau neu ymchwiliadau lleol sy'n cael eu cynnal yn unol â rheoliad 33 yn yr un modd ag y maent yn gymwys i ymchwiliadau lleol o dan yr adran honno, ond fel petai'r cyfeiriadau at "the Minister" yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru a chan hepgor y cyfeiriadau at "local authority".
(11) Mae adran 322A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[29] (gorchmynion ynghylch costau pan nad oes unrhyw wrandawiad neu ymchwiliad yn cael ei gynnal) yn gymwys mewn perthynas â gwrandawiad neu ymchwiliad lleol o dan reoliad 33 yn yr un modd ag y mae'n gymwys i wrandawiad neu ymchwiliad lleol y cyfeirir ato yn yr adran honno.
(12) Ac eithrio fel y darperir fel arall gan y rheoliad hwn neu gan reoliad 32 neu 33, rhaid i Weinidogion Cymru ddyfarnu'r weithdrefn (a all gynnwys darpariaethau ar gyfer ymweliadau â'r safle) ar gyfer penderfynu'r apêl.
(13) Rhaid i'r nifer o gopïau a bennir gan Weinidogion Cymru fynd gydag unrhyw sylwadau, datganiad neu ddogfennau eraill sydd i'w cyflwyno i Weinidogion Cymru o dan reoliad 32 neu 33.
(14) Yn y rheoliad hwn, ystyr "penderfyniad perthnasol" ("relevant decision") yw —
Dyfarnu apelau drwy sylwadau ysgrifenedig
32.
—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo apêl i'w dyfarnu drwy sylwadau ysgrifenedig.
(2) O fewn chwe wythnos i gael hysbysiad bod yr apêl i'w dyfarnu felly, rhaid i'r apelydd—
(3) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cael yr wybodaeth neu'r hysbysiad ym mharagraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru—
(4) Rhaid i unrhyw un o'r cyfranogwyr yn yr apêl sy'n dymuno cyflwyno sylwadau wneud hynny o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y caiff ei hysbysu o'r wybodaeth neu'r awgrym o dan baragraff (3).
(5) Os bydd Gweinidogion Cymru yn cael unrhyw sylwadau o dan baragraff (4), rhaid iddynt anfon copïau o'r sylwadau hynny at y cyfranogwyr eraill yn yr apêl.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu i'r cyfranogwyr yn yr apêl gyfnod o 14 o ddiwrnodau o leiaf i ymateb i unrhyw sylwadau a gyflwynwyd o dan baragraffau (2) neu (4).
(7) Ar ôl i'r cyfnod a ganiateir ym mharagraff (4) ddirwyn i ben, rhaid i Weinidogion Cymru, neu'r person a benodwyd i ddyfarnu'r apêl, ei dyfarnu a hysbysu'r cyfranogwyr yn yr apêl o'r penderfyniad.
Dyfarnu apelau drwy wrandawiad neu ymchwiliad lleol
33.
—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo apêl i'w dyfarnu drwy wrandawiad neu drwy ymchwiliad lleol.
(2) O fewn 6 wythnos i gael hysbysiad bod yr apêl i'w dyfarnu felly, rhaid i'r apelydd gyflwyno i Weinidogion Cymru ddatganiad sy'n cynnwys manylion llawn ei achos a chopïau o unrhyw ddogfennau y mae'n dymuno dibynnu arnynt yn y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol.
(3) Ar ôl cael y datganiadau a'r dogfennau ym mharagraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru anfon copïau ohonynt at y cyfranogwyr eraill yn yr apêl.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(5) Caiff Gweinidogion Cymru amrywio'r amser neu'r lleoliad ar gyfer y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol a rhaid iddynt roi unrhyw hysbysiad o'r amrywiad ag y gwelant yn dda.
(6) Os bydd parti sydd â buddiant yn dymuno cael ei glywed gerbron gwrandawiad neu ymchwiliad lleol rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad yr anfonwyd datganiadau'r apelydd ato o dan baragraff (3).
(7) Pan fo person wedi hysbysu Gweinidogion Cymru yn y modd hwn, caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol iddo gyflwyno datganiad yn cynnwys manylion ei achos a chopïau o unrhyw ddogfennau y mae'n dymuno cyfeirio atynt (ac eithrio dogfennau a gyflwynwyd gan yr apelydd o dan baragraff (2)).
(8) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copïau o unrhyw ddatganiadau a dogfennau sy'n dod i law o dan baragraff (7) at yr apelydd.
(9) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd wedi darparu datganiad iddynt o dan baragraff (2) neu (7) roi iddynt unrhyw wybodaeth bellach a bennir ganddynt mewn perthynas â'r datganiad, a rhaid iddynt anfon copi o'r wybodaeth bellach at bob un o'r cyfranogwyr eraill yn yr apêl.
(10) Cyn bod gwrandawiad neu ymchwiliad lleol yn cael ei gynnal, rhaid i Weinidogion Cymru drefnu bod yr holl ddogfennau a gyflwynwyd ar gael i'w gweld gan unrhyw berson sy'n gofyn am hynny.
(11) Mae hawlogaeth gan y cyfranogwyr yn yr apêl i gael eu clywed gerbron gwrandawiad neu ymchwiliad lleol.
(12) Rhaid i unrhyw gyfranogydd yn yr apêl sy'n bwriadu rhoi tystiolaeth yn yr ymchwiliad drwy ddarllen datganiad tyst anfon copi o'r datganiad tyst, a chrynodeb ysgrifenedig ohono, at Weinidogion Cymru heb fod yn llai na 3 wythnos cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer yr ymchwiliad, a rhaid i Weinidogion Cymru anfon copïau o'r datganiad tyst a'r crynodeb at y cyfranogwyr eraill yn yr apêl.
(13) Wedi i'r gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol ddod i ben, rhaid i'r person a benodwyd i gynnal y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol, oni bai ei fod wedi cael ei benodi i ddyfarnu ar yr apêl, gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru a rhaid i'r adroddiad hwnnw gynnwys—
(14) Os yw'n fwriad gan Weinidogion Cymru i anghytuno â'r argymhelliad a wnaed yn yr adroddiad am eu bod—
rhaid iddynt beidio â dod i benderfyniad heb roi cyfle yn gyntaf i bawb a ymddangosodd gerbron y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol gyflwyno sylwadau o fewn amser rhesymol a bennir ganddynt.
(15) Rhaid i Weinidogion Cymru neu'r person a benodwyd i ddyfarnu ar yr apêl hysbysu'r cyfranogwyr yn yr apêl o'r penderfyniad a'r rhesymau drosto, ac anfon atynt gopi o'r adroddiad a wnaed o dan baragraff (13).
Cais i'r llys gan berson a dramgwyddir
34.
—(1) Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad Gweinidogion Cymru nad yw prosiect yn brosiect sylweddol neu benderfyniad i roi cydsyniad ar gyfer prosiect o bwys wneud cais i'r Uchel Lys am orchymyn i ddileu'r penderfyniad.
(2) Caiff yr Uchel Lys ddileu'r penderfyniad os yw wedi'i fodloni—
(3) Rhaid i gais i'r Uchel Lys o dan y rheoliad hwn gael ei wneud o fewn 6 wythnos i ddyddiad cofnodi'r penderfyniad yn y gofrestr yn unol â rheoliad 7(4)(b) neu ei gyhoeddi'n unol â rheoliad 18(b).
(4) Caiff yr Uchel Lys drwy orchymyn interim, tra disgwylir am ddyfarniad ar gais o dan y rheoliad hwn, atal y penderfyniad rhag cael ei weithredu gan bennu unrhyw amodau y gwêl yn dda.
Dehongli'r Rhan hon
35.
Yn y Rhan hon—
the Environmental Impact Assessment (Agriculture ) (Wales) Regulations 2007.
(2) A farmer must not breach a stop notice that has been served on him under regulation 24 of those Regulations.
(3) A farmer must not, without reasonable excuse, fail to comply with any requirement of a remediation notice served on him under regulation 26 of those Regulations.
(4) In this paragraph "uncultivated land project" has the meaning given to it by regulation 2(1) of those Regulations."
Dirymu
37.
Mae'r Rheoliadau canlynol wedi'u dirymu —
Darpariaethau trosiannol
38.
—(1) Mae'r rheoliad hwn yn darparu ar gyfer y dull o drin hysbysiadau penodol a gyflwynwyd o dan Reoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) 2002 ("Rheoliadau 2002").
(2) Mae unrhyw hysbysiad stop a gyflwynwyd o dan reoliad 22 o Reoliadau 2002 i'w drin fel petai wedi'i gyflwyno o dan reoliad 24 o'r Rheoliadau hyn, ac mae rheoliadau 25, 28 a 29 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw gamau gorfodi a gymerwyd mewn cysylltiad â thorri amodau'r hysbysiad.
(4) Nid oes dim ym mharagraff (3) sy'n effeithio ar unrhyw apêl o dan reoliad 24(3) o Reoliadau 2002 a ddygwyd cyn y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
8 Hydref 2007
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
Prosiect ailstrwythuro terfyn | 4 cilometr | 2 gilometr |
Prosiect ailstrwythuro arwynebedd | 100 o hectarau | 50 o hectarau |
Prosiect ailstrwythuro cyfaint | 10,000 o fetrau ciwbig | 5,000 o fetrau ciwbig |
Lleoliad y prosiect
2.
Sensitifrwydd amgylcheddol ardaloedd daearyddol y mae prosiectau yn debygol o effeithio arnynt, gan roi sylw penodol i'r canlynol—
Yr effaith bosibl
3.
Effeithiau sylweddol posibl prosiectau, mewn perthynas â'r meini prawf a nodwyd o dan baragraffau 1 a 2, gan roi sylw penodol i'r materion canlynol—
2.
Amlinelliad o'r prif ddewisiadau eraill a astudiwyd gan y ceisydd am gydsyniad ac awgrym o'r prif resymau dros ei ddewis, gan gymryd i ystyriaeth yr effeithiau amgylcheddol.
3.
Disgrifiad o'r agweddau ar yr amgylchedd y mae'r prosiect arfaethedig yn debyg o effeithio'n sylweddol arnynt, gan gynnwys, yn benodol, poblogaeth, ffawna, fflora, pridd, dwr, aer, ffactorau hinsoddol, asedau materol, gan gynnwys y dreftadaeth bensaernïol ac archeolegol, y tirlun a'r rhyngberthynas rhwng y ffactorau uchod.
4.
Disgrifiad o effeithiau sylweddol tebygol y prosiect ar yr amgylchedd, a ddylai ymdrin ag effeithiau uniongyrchol ac unrhyw effeithiau anuniongyrchol, eilaidd, cronnol, byrdymor, tymor-canolig a hirdymor, parhaol a thros dro, cadarnhaol a negyddol y prosiect, a fydd yn deillio o—
a disgrifiad gan y ceisydd am gydsyniad o'r dulliau darogan a ddefnyddir i asesu'r effeithiau ar yr amgylchedd.
5.
Disgrifiad o'r mesurau a ragwelir i atal, lleihau ac, os yw'n bosibl, i wrthbwyso unrhyw effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.
6.
Crynodeb annhechnegol o'r wybodaeth a ddarparwyd o dan baragraffau 1 i 5 o'r Rhan hon.
7.
Awgrym ynglyn ag unrhyw anawsterau (gan gynnwys diffygion technegol neu ddiffyg arbenigedd) a wynebodd y ceisydd am gydsyniad wrth grynhoi'r wybodaeth angenrheidiol.
3.
Oni fydd Gweinidogion Cymru, yn dilyn yr asesiad, wedi'u bodloni na fydd y prosiect a ganiatawyd drwy'r penderfyniad neu'r cydsyniad yn effeithio'n andwyol ar gyfanrwydd y safle Ewropeaidd, ac nad yw rheoliad 16(4) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru—
a rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu pawb y mae'n ymddangos iddynt fod ganddynt fuddiant yn y tir perthnasol o'u penderfyniad (eu "penderfyniad pellach").
4.
Yn ddarostyngedig i baragraff 5, nid yw penderfyniad pellach yn effeithio ar unrhyw waith sydd eisoes wedi'i wneud mewn perthynas â phenderfyniad neu gydsyniad.
5.
—(1) Os yw—
caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol drwy hysbysiad i'r person sy'n gyfrifol am gyflawni'r gwaith hwnnw, neu unrhyw berson sydd â buddiant yn y tir perthnasol, gyflawni unrhyw waith adfer sy'n rhesymol yn yr amgylchiadau.
(2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) nodi'r cyfnod y mae'n rhaid i'r gwaith gael ei gyflawni ynddo
(3) Mae hawlogaeth gan unrhyw berson sy'n gwneud y gwaith adfer hwnnw, wedi iddo gyflwyno hawliad yn unol â pharagraff 8, adennill oddi wrth Weinidogion Cymru iawndal mewn cysylltiad ag unrhyw dreuliau a dynnwyd yn rhesymol ganddo wrth gyflawni'r gwaith hwnnw.
6.
—(1) Mae rheoliad 31 yn gymwys i benderfyniad a wnaed o dan baragraff 3.
(2) Mae rheoliad 30 yn gymwys i hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff 5.
7.
Os yw person, yn dilyn penderfyniad pellach o dan baragraff 3, wedi tynnu gwariant wrth gyflawni gwaith a wnaed yn ddi-fudd gan y penderfyniad pellach, neu os yw wedi dioddef fel arall golled neu ddifrod y gellir ei phriodoli neu ei briodoli'n uniongyrchol i'r penderfyniad pellach, bydd hawlogaeth ganddo i gael iawndal ar ôl cyflwyno hawliad yn unol â pharagraff 8.
8.
Rhaid i hawliad am iawndal sy'n daladwy o dan baragraff 5(3) neu 7 gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru o fewn 6 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad o'r penderfyniad lle dywedir bod iawndal yn daladwy a rhaid i unrhyw dystiolaeth y mae ar Weinidogion Cymru angen rhesymol amdani ddod gyda'r hawliad hwnnw.
9.
Caniateir i unrhyw anghydfod ynghylch swm yr iawndal sy'n daladwy o dan baragraffau 5(3) a 7 gael ei gyfeirio i'r Tribiwnlys Tiroedd o fewn 6 mlynedd i ddyddiad yr hysbysiad o'r penderfyniad pellach y mae iawndal yn daladwy mewn perthynas ag ef.
10.
Ni fydd dim byd yn yr Atodlen hon yn effeithio ar unrhyw beth a wnaed yn unol â phenderfyniad neu gydsyniad cyn y dyddiad y daeth y safle yn safle Ewropeaidd.
3.
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Atodlen hon, mae gan berson penodedig, mewn perthynas ag unrhyw apêl y mae ei benodiad yn ymwneud â hi neu unrhyw fater y mae'n ymwneud ag ef, yr un pwerau a dyletswyddau â'r rhai sydd gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 30(6), neu reoliad 31(8), (10), (12) a (13) yn ôl y digwydd.
4.
—(1) Mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys i apêl o dan reoliad 30 neu 31 sydd i'w dyfarnu gan berson penodedig ac, yn achos apêl o dan reoliad 31, maent yn gymwys yn lle rheoliad 31(7).
(2) Os yw'r apelydd neu Weinidogion Cymru yn hysbysu'r person penodedig eu bod yn dymuno ymddangos gerbron y person penodedig a chael eu clywed ganddo, rhaid i'r person penodedig roi cyfle iddynt wneud hynny.
(3) Hyd yn oed os nad yw'r apelydd na Gweinidogion Cymru wedi gofyn am gael ymddangos gerbron a chael eu clywed—
(b) rhaid i'r person penodedig, yn achos apêl o dan reoliad 31, gynnal ymchwiliad lleol mewn cysylltiad â'r apêl neu'r mater, os bydd Gweinidogion Cymru yn ei gyfarwyddo i wneud hynny.
(4) Rhaid i'r person penodedig hysbysu'r apelydd, Gweinidogion Cymru, ac unrhyw bersonau a hysbysodd Weinidogion Cymru eu bod yn dymuno cyflwyno sylwadau o dan reoliad 31(6), o benderfyniad y person penodedig i gynnal gwrandawiad neu ymchwiliad lleol (yn ôl y digwydd).
(5) Os bydd person penodedig yn cynnal ymchwiliad lleol neu wrandawiad arall o dan yr Atodlen hon, caiff Gweinidogion Cymru benodi asesydd i eistedd gyda'r person penodedig i'w gynghori ar unrhyw faterion sy'n codi, er gwaethaf y ffaith mai'r person penodedig sydd i ddyfarnu ar y mater neu'r apêl.
(6) Yn ddarostyngedig i reoliad 31(10), rhaid i gostau'r gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol a gynhelir o dan yr Atodlen hon gael eu talu gan Weinidogion Cymru.
5.
—(1) Os caiff penodiad y person penodedig ei ddirymu o dan baragraff 2(c) mewn cysylltiad ag unrhyw apêl neu fater, rhaid i Weinidogion Cymru, onid ydynt yn bwriadu dyfarnu ar yr apêl neu'r mater eu hunain, benodi person arall o dan reoliad 30(10) neu 31(9) i ddyfarnu ar yr apêl neu'r mater yn eu lle.
(2) Os caiff penodiad newydd ei wneud, rhaid i'r broses o ystyried yr apêl neu'r mater, neu unrhyw ymchwiliad lleol neu wrandawiad arall mewn cysylltiad ag ef, ddechrau o'r newydd.
(3) Nid oes dim yn is-baragraff (2) sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i unrhyw berson gael cyfle i gyflwyno sylwadau newydd neu i addasu unrhyw sylwadau a gyflwynwyd eisoes neu eu tynnu yn eu hôl.
6.
—(1) Mae unrhyw beth sydd wedi'i wneud neu sydd heb ei wneud gan berson penodedig wrth iddo arfer, neu honni arfer, unrhyw swyddogaeth y mae'r penodiad yn ymwneud â hi, neu'n gysylltiedig ag arfer neu honni arfer y swyddogaeth honno, i'w drin i bob pwrpas fel rhywbeth sydd wedi'i wneud neu heb ei wneud gan Weinidogion Cymru.
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys—
[2] O.S. 2001/2555 mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â'r gofyniad am asesiad o'r effaith ar yr amgylchedd a fyddai gan brosiectau sy'n debyg o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd.back
[3] O.S. 2000/248 mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â chadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt.back
[5] Gweler adran 128 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43).back
[6] Gweler adran 1(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25).back
[7] O.J. Rhif L175, 5.7.85, t.40.back
[8] O.J. Rhif L156, 25.6.03, t.17.back
[9] O.J. Rhif L206, 22.7.1992, t.7.back
[10] O.J. Rhif L 236, 23.9.2003, t. 667-70. Gweler Atodiad II: y rhestr y cyfeirir ati yn Erthygl 20 o'r Ddeddf Ymaelodi, 16. Yr Amgylchedd, C. Gwarchod natur.back
[11] O.S. 1994/2716, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/3055 a 2007/1843.back
[14] O.S. 1999/293, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/2867.back
[15] O.S. 1999/1783, a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/1399 a 2006/618.back
[21] Gweler Papur Gorchymyn 9424.back
[23] Gweler adran 128 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43).back
[24] 2000 p. 37. Ymdrinnir â gorchmynion sy'n dynodi ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a wnaed cyn i adran 82 o Ddeddf 2000 ddod i rym fel petaent wedi'u gwneud o dan adran 82 yn rhinwedd paragraff 16 o Atodlen 15 i'r Ddeddf honno.back
[25] 1949 p. 97. Cafodd diwygiadau perthnasol eu gwneud gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25), Atodlen 10, paragraff 2.back
[26] 1979 p. 46. Gweler y diffiniad yn adran 1(11).back
[29] 1990 p. 8. Mewnosodwyd adran 332A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p. 34), adran 30(1).back
[31] O.S. 2002/2127 (Cy.214), a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/203 (Cy.17)..back
[32] O.S. 2007/203 (Cy.17).back