British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) (Diwygio) 2007 Rhif 2332 (Cy.190)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072332w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2007 Rhif 2332 (Cy.190)
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU
Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) (Diwygio) 2007
|
Gwnaed |
7 Awst 2007 | |
|
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
9 Awst 2007 | |
|
Yn dod i rym |
7 Medi 2007 | |
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 2(4) a 2(8) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[
1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 7 Medi 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr "y Prif Reoliadau" ("the Principal Regulations") yw Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002[2].
Diwygio Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002
3.
—(1) Yn rheoliad 3(3)(f) o'r Prif Reoliadau hepgorer y geiriau "neu berson arall".
(2) Yn rheoliad 4(1)(b) o'r Prif Reoliadau hepgorer y geiriau "neu berson arall".
(3) Yn rheoliad 4A o'r Prif Reoliadau hepgorer y geiriau "neu berson arall".
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
7 Awst 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Gwneir y rheoliadau hyn o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 ac maent yn diwygio Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002. Maent yn diwygio'r eithriadau ar gyfer cofrestru fel ysbyty annibynnol, clinig annibynnol ac fel asiantaeth feddygol annibynnol drwy dynnu'r geiriau "neu berson arall" o reoliadau 3(3)(f), 4(1)(b) and 4A.
Notes:
[1]
2000 p.14. Rhoddir y pwerau i'r "appropriate Minister". Ystyr "Appropriate Minister" o ran Cymru yw'r Cynulliad: gweler adran 121(1) o'r Ddeddf. Trosglwyddir y pwerau i Weinidogion Cymru gan adran 162 a pharagraff 30 o atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru .2006 (P.32).back
[2]
O.S. 2002/325 (Cy.38), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/1703 (Cy.165).back
English version
ISBN
978 0 11 091606 4
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
11 September 2007
|