British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Taliadau i Bersonau sy'n darparu Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2007 Rhif 1112 (Cy.117)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071112w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2007 Rhif 1112 (Cy.117)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Taliadau i Bersonau sy'n darparu Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2007
|
Wedi'u gwneud |
27 Mawrth 2007 | |
|
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) o'r Rheoliadau hyn |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 88 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006[
1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Taliadau i bersonau sy'n darparu Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2007.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym yn syth ar ôl i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007[
2] ddod i rym ar 1 Ebrill 2007.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol)1992[3].
ystyr "Rheoliadau Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar" ("the Charges for Drugs and Appliances Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007;
ystyr "y Rheoliadau Swyddogaethau Rhagnodedig " ("the Prescribed Functions Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Taliadau gan Awdurdodau Lleol i Awdurdodau Iechyd) (Swyddogaethau Rhagnodedig) (Cymru) 2001[4];
ystyr "y Rheoliadau Symiau Dangosol" ("the Indicative Amounts Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Symiau Dangosol) 1997[5];
Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau
3.
Yn rheoliad 2(1) o'r prif Reoliadau (dehongli), yn y man priodol yn nhrefn y wyddor, mewnosoder-
"
"the 2006 Act" means the National Health Service (Wales) Act 2006[6];".
Amnewid rheoliad 18 o'r prif Reoliadau
4.
Am reoliad 18 o'r prif Reoliadau (safonau cyffuriau ac offer, a thaliadau amdanynt), amnewidier—
"
Provisions relating to determinations under section 88 of the 2006 Act
18.
With regard to determining remuneration under section 88 of the 2006 Act—
(a) determinations under that section by the National Assembly for Wales (the aggregate of the determinations made by the National Assembly for Wales, acting as a determining authority, is known as "the Drug Tariff") may be made by reference to rates or conditions of remuneration of any persons or any description of persons which are fixed or determined, or will be fixed or determined, otherwise than by way of a determination under that section;
(b) determinations under that section by the National Assembly for Wales may be made by reference to scales, indices or formula of any kind, and where a determination falls to be made by reference to any such scale, index or formula, the determination may provide that the relevant price calculation is to be made by reference to the scale, index or formula which is—
(i) in the form current at the time of the determination, and
(ii) in any subsequent form taking effect after that time;
(c) determining authorities may make determinations which take effect in relation to remuneration in respect of a period beginning on or after the date specified in the determination, which may be the date of the determination or an earlier or later date, but it may be an earlier date only if, taking the determination as a whole, it is not detrimental to the persons to whose remuneration it relates;
(d) where a determination included in the Drug Tariff does not specify a date as mentioned in paragraph (c), it will have effect in relation to remuneration in respect of the period beginning on the date on which the change to the Drug Tariff is published;
(e) the National Assembly for Wales will publish the Drug Tariff, and any amendments to it, in such format as it thinks fit (including, as regards publishing any amendments, by publishing a consolidated version of the Drug Tariff with the amendments included in it) and at such intervals as it thinks fit (having regard to the provisions of paragraphs (c) and (d);
(f) consultation pursuant to section 89(1) by a determining authority prior to the inclusion of or a change to the price of a drug or appliance will be by way of consultation on the process for determining the price to be included or changed, not on the proposed price itself (unless it is impossible to carry out an effective consultation in any other way);
(g) where the National Assembly for Wales states in the Drug Tariff that the determining authority for a particular fee, allowance or other remuneration is to be the Local Health Board of the chemist to whom the remuneration relates—
(i) the Local Health Board must consult the relevant Local Pharmaceutical Committee[7] before making the determination; and
(ii) the determination made by the Local Health Board must include the arrangements for claiming the remuneration and will be published by the Local Health Board in such manner as it thinks suitable for bringing the determination to the attention of the chemists on its pharmaceutical list; and
(h) payments under—
(i) the Drug Tariff must be made by the Local Health Board, in accordance with arrangements for claiming and making payments which are to be set out in the Drug Tariff, and
(ii) a determination mentioned in paragraph (g) must be made by the Local Health Board, in accordance with arrangements for claiming and making payments set which are to be set out in the determinations,
but are in either case to be subject, as appropriate, to any deduction that may or must be made from the remuneration of a chemist under these Regulations, the 2006 Act or any other Regulations under the 2006 Act.".
Diwygio rheoliad 18A o'r prif Reoliadau
5.
Yn rheoliad 18A o'r prif Reoliadau (taliadau i fferyllwyr a ataliwyd), hepgorer paragraff (4).
Diwygio rheoliad 22 o'r prif Reoliadau
6.
Yn rheoliad 22(1)(e) o'r prif Reoliadau (cyhoeddi manylion), yn lle'r geiriau "determinations made by the Health Authority by virtue of regulation 18(1A)" rhodder "determinations made by the Local Health Board as a consequence of regulation 18(g)".
Diwygio rheoliad 24 o'r prif Reoliadau
7.
Yn rheoliad 24(1) o'r prif Reoliadau (hawliadau a gordaliadau), yn lle'r geiriau "made by the Health Authority by virtue of regulation 18(1A)" rhodder "made by the Local Health Board as a consequence of regulation 18(g).".
Diwygio paragraff 22 o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau
8.
Ym mharagraff 22(4) o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau (materion i'w hystyried wrth roi cyfarwyddiadau ynghylch amserau agor fferyllfeydd), yn lle'r geiriau "under the Drug Tariff" rhodder "in accordance with a determination made as a consequence of regulation 18(g)".
Diwygio'r Rheoliadau Symiau Dangosol
9.
Yn rheoliad 1(2) o'r Rheoliadau Symiau Dangosol (dehongli), yn lle'r diffiniad o "Drug Tariff", rhodder-
"
"Drug Tariff" means the aggregate of the determinations made by the National Assembly for Wales which are published in accordance with regulation 18(e) of the National Health Service (Pharmaceutical Services) Regulations 1992 (provisions relating to determinations);".
Diwygio'r Rheoliadau Swyddogaethau Rhagnodedig
10.
Yn rheoliad 2(2) o'r Rheoliadau Swyddogaethau Rhagnodedig (swyddogaethau rhagnodedig Awdurdodau Iechyd yng Nghymru), yn lle is-baragraff (ch) rhodder yr is-baragraff a ganlyn—
"
(ch) darparu cyfarpar nad yw wedi'i restru yn Rhan IX o'r Tariff Cyffuriau a gyhoeddir yn unol â rheoliad 18(e) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992 (darpariaethau yn ymwneud â phenderfyniadau).".
Diwygio'r Rheoliadau Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar
11.
Yn rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar (dehongli), yn lle'r diffiniad o "Drug Tariff", amnewidier y diffiniad a ganlyn-
"
ystyr "Tariff Cyffuriau" ("Drug Tariff") yw'r cyfuniad o'r holl benderfyniadau a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a gyhoeddir yn unol â rheoliad 18(e) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992 (darpariaethau yn ymwneud â phenderfyniadau);".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
Dyddiad
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992 (O.S.1992/662) ("y prif Reoliadau") ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth arall.
Mae rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn amnewid rheoliad 18 o'r prif Reoliadau. Mae angen yr amnewidiad hwn yn sgil y newidiadau i'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwneud penderfyniadau ynglyn â thaliadau i bersonau sy'n darparu gwasanaethau fferyllol ar ôl i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ddod i rym. Mae rheoliad 18, fel y'i amnewidir, yn cynnwys darpariaethau ynghylch penderfynu ynglyn â thaliadau i bersonau sy'n darparu gwasanaethau fferyllol gan yr awdurdodau sy'n penderfynu.
Mae rheoliad 3 a rheoliadau 5 i 11 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i'r prif Reoliadau ac i is?ddeddfwriaeth berthnasol arall.
Notes:
[1]
{d1}{t1}Mae Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42) ("Deddf 2006") yn Ddeddf cydgrynhoi sy'n diddymu ac yn ailddeddfu yn ei chyflawnder Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49) ("Deddf 1977") ac yn ymgorffori rhai o'r darpariaethau o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 (p.19), Deddf Iechyd 1999 (p.8), Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15), Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43) a Deddf Iechyd 2006 (p.8).{d1}{t1}Mae Adrannau 88 a 203(9) a (10) yn cyfateb i adrannau 43A a 126(4) o Ddeddf 1977.{d1}{t1}Mae'r cyfeiriadau at "Welsh Ministers" a swyddogaethau'r Gweinidogion hynny yn Neddf 2006 yn cael eu trin fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru a swyddogaethau'r Cynulliad fel y'i sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) yn unol â'r addasiadau a gynhwysir yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (p.43), sef yn adran 5 a pharagraff 10 o Atodlen 3.{d1}{t1}Bydd cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i swyddogaethau yn trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn syth ar ôl diwedd yr "initial period" (fel y'i diffinnir yn adran 161(5)) yn unol ag adran 162 a pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).back
[2]
O.S. 2007/121 (Cy.11).back
[3]
O.S.1992/662.back
[4]
O.S.2001/1543 (Csy.108).back
[5]
O.S.1997/980; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S.2005/641.back
[6]
2006 p.42.back
[7]
Yng Nghymru, cyflawnir swyddogaethau Pwyllgorau Fferyllol Lleol (y darperir ar eu cyfer yn adran 90 o Ddeddf 2006) gan bwyllgorau Fferylliaeth Gymunedol Cymru.back
[8]
1998 p.38back
English version
ISBN
978 0 11 091575 3
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
24 April 2007
|