Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007 Rhif 947 (Cy.81)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070947w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2007 Rhif 947 (Cy.81)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007
|
Wedi'u gwneud |
20 Mawrth 2007 | |
|
Yn dod i rym |
29 Mawrth 2007 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, trwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 157(1), 160(1), 168 a 210(7)[
1] o Ddeddf Addysg 2002 drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007, a deuant i rym ar 29 Mawrth 2007.
Diwygio Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003
2.
—(1) Diwygir Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003[
2] fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), mewnosoder y canlynol yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor —
"
ystyr "tystysgrif cofnod troseddol briodol"("appropriate criminal record certificate"), mewn perthynas â pherson a gyflogir mewn ysgol, yw —
(i) pan fo'r person yn dal yn yr ysgol swydd a grybwyllir yn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002[3] tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir yn unol ag adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997[4]; neu
(ii) pan na fo'r person yn dal swydd o'r fath, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddir o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997[5];
ar yr amod, yn y ddau achos, pan fo'r person yn dal swydd a grybwyllir yn adran 113C(5) o Ddeddf yr Heddlu 1997[6], fod y dystysgrif hefyd yn cynnwys yr wybodaeth a bennir yn adran 113C(1) o'r Ddeddf honno."; ac
mae i "sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol" yr ystyr a roddir i "looked after by a local authority" gan adran 22(1) o Ddeddf Plant 1989".
(3) Yn rheoliad 3(ch), ychwaneger y canlynol ar ôl y gair "perchennog" —
"
neu gan berson wedi'i awdurdodi gan y perchennog i roi'r dystysgrif ar ran y perchennog".
(4) Ar ddiwedd paragraff 2(2)(b) o'r Atodlen, mewnosoder y canlynol —
"
ac (yn ddarostyngedig i is-baragraff (5) isod) ar gyfer pob aelod o'r gorfforaeth, y ffyrm neu'r corff, ei enw llawn, unrhyw enwau blaenorol y cafodd ei adnabod oddi wrthynt, ei gyfeiriad preswyl arferol a'i ddyddiad geni."
(5) Ar ddiwedd paragraff 2 o'r Atodlen, mewnosoder yr is-baragraff a ganlyn —
"
(5) At ddibenion y paragraff hwn, pan fo'r perchennog yn gorfforaeth sydd yn gwmni cyfyngedig trwy gyfrannau (yn ystyr Deddf Cwmnïau 1985), nid yw person i gael ei drin fel aelod o'r gorfforaeth oni bai ei fod yn dal o leiaf 5% o gyfalaf cyfrannau'r cwmni."
(6) Ar ôl paragraff 5 o'r Atodlen, mewnosoder y paragraff canlynol —
"
5A.
Nifer y disgyblion yn yr ysgol sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol."
(7) Yn lle paragraff 7(ch) o'r Atodlen, rhodder —
“pan fo'r person yn berson y mae'n rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol ddyroddi tystysgrif cofnod troseddol o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 drosto mewn ymateb i gais a wnaed yn briodol am dystysgrif o'r fath, cadarnhad fod tystysgrif cofnod troseddol briodol ar gael i'r perchennog mewn perthynas â'r person hwnnw.
(8) Ar ddiwedd paragraff 10(c) o'r Atodlen, mewnosoder —
"
(ac eithrio nad oes unrhyw wybodaeth ynghylch cymwysterau yn ofynnol yn achos athro sydd wedi peidio â bod yn gyflogedig)".
(9) Yn lle paragraff 10(ch) o'r Atodlen, rhodder —
“yn achos person sydd wedi cychwyn ar ei gyflogaeth, pan fo'n berson y mae'n rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol ddyroddi tystysgrif cofnod troseddol o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 drosto mewn ymateb i gais a wnaed yn briodol am dystysgrif o'r fath, cadarnhad i gydymffurfedd â pharagraff 4(bb) o'r Atodlen i Reoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2003 (tystysgrif cofnod troseddol i fod ar gael cyn penodi) ddigwydd cyn penodi'r person.
(10) Ar ôl paragraff 13 mewnosoder y paragraff canlynol —
"
14.
Pan fo newid wedi digwydd yn aelodaeth unrhyw gorfforaeth, ffyrm Albanaidd neu gorff o bersonau a enwir fel perchennog yn y gofrestr, mewn perthynas ag unrhyw aelod newydd a gaiff ei drin fel aelod at ddibenion paragraff 2 o'r Atodlen hon, yr wybodaeth a bennir yn is-baragraff (2) o'r paragraff hwnnw."
Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2003
3.
—(1) Diwygir Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2003[7] fel a ganlyn.
(2) Yn Rheoliad 2, yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder y canlynol —
"
ystyr "tystysgrif cofnod troseddol briodol" ("appropriate criminal record certificate"), mewn perthynas â pherson a gyflogir mewn ysgol, yw —
(i) pan fo'r person yn dal yn yr ysgol swydd a grybwyllir yn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir yn unol ag adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997; neu
(ii) pan na fo'r person yn dal swydd o'r fath, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddir o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997;
ar yr amod, yn y ddau achos, pan fo'r person yn dal swydd a grybwyllir yn adran 113C(5) o Ddeddf yr Heddlu 1997, fod y dystysgrif hefyd yn cynnwys yr wybodaeth a bennir yn adran 113C(1) o'r Ddeddf honno."; ac
ystyr "yr unigolyn cyfrifol" ("responsible individual") yw—
(i) yr unigolyn sydd â rheolaeth gyflawn dros redeg yr ysgol o ddydd i ddydd; neu
(ii) pan fo'r rheolaeth honno wedi'i rhannu rhwng dau neu fwy o unigolion, yr un ohonynt sydd wedi'i enwebu gan y perchennog fel yr unigolyn cyfrifol."
(3) Ym mharagraff 3(6) o'r Atodlen, ar ôl y gair "Cyntaf" mewnosoder "ysgrifenedig".
(4) Yn lle is-baragraffau (a) a (b) ym mharagraff 4 o'r Atodlen, rhodder —
"
(a) yn achos perchennog sy'n unigolyn, os yw'r perchennog wedi gwneud cais am dystysgrif cofnod troseddol briodol a bod y cais hwnnw wedi'i adlofnodi gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion Rhan V o Ddeddf yr Heddlu 1997;
(aa) yn achos perchennog sy'n gorfforaeth, ffyrm Albanaidd neu'n gorff o bersonau, bod yr unigolyn cyfrifol wedi gwneud cais am dystysgrif cofnod troseddol briodol a bod y cais hwnnw wedi'i adlofnodi gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion Rhan V o Ddeddf yr Heddlu 1997;
(b) yn achos perchennog sy'n gorfforaeth, ffyrm Albanaidd neu'n gorff o bersonau, os yw'r perchennog yn sicrhau fod yna dystysgrif cofnod troseddol briodol ar gael mewn perthynas â phob aelod o'r gorfforaeth, y ffyrm neu'r corff, os yw'r ddau amod a ganlyn yn gymwys:
(i) bod yr aelod yn cael ei drin fel aelod at ddibenion paragraff 2 o'r Atodlen i Reoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003 (aelodau sy'n dal llai na 5% o gyfalaf cyfrannau cwmni i gael eu diystyru); a
(ii) bod yr aelod yn unigolyn y mae'n rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol ddyroddi tystysgrif cofnod troseddol o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 drosto mewn ymateb i gais a wneir yn briodol am dystysgrif o'r fath;
(bb) cyn penodi unrhyw aelod o staff i weithio yn yr ysgol, pan fo'r darpar aelod o staff yn unigolyn y mae'n rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol ddyroddi tystysgrif cofnod troseddol o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 drosto, fod y perchennog yn sicrhau —
(i) fod yr unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif cofnod troseddol briodol; a
(ii) fod yr unigolyn yn peri bod y dystysgrif ar gael i'r perchennog;".
(5) Ar ddiwedd paragraff 4 o'r Atodlen, mewnosoder yr is-baragraff a ganlyn —
"
(dd) mae unrhyw wladolyn tramor sy'n gweithio yn yr ysgol neu at ei dibenion yn ddarostyngedig i'r gwiriadau a osodir yng nghanllawiau'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru “Amddiffyn Plant: Atal Pobl Anaddas rhag Gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc yn y Gwasanaeth Addysg (Cylchlythyr 34/02)".
(6) Ym mharagraff 6 o'r Atodlen —
(i) yn is-baragraff (3)(a), ar ôl "crynodeb o'r adroddiad", mewnosoder "a baratowyd gan y corff hwnnw"; a
(ii) ar ddiwedd is-baragraph (5), mewnosoder "ac eithrio nad oes angen anfon adroddiad at riant sydd wedi cytuno fel arall â'r ysgol".
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
20 Mawrth 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud nifer o ddiwygiadau i Reoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003 ("y rheoliadau gwybodaeth") ac i Reoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol 2003 ("y rheoliadau safonau").
Caiff y rheoliadau gwybodaeth eu diwygio er mwyn eglurhau'r gofynion a osodir ar berchnogion ysgolion annibynnol ynglŷn â gwneud gwiriadau cofnodion troseddol a gwiriadau cysylltiedig gyda'r Swyddfa Cofnodion Troseddol ynghylch personau sy'n gweithio mewn ysgol annibynnol. Mae'r diwygiadau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth bellach gael ei darparu ynglŷn ag aelodau corff corfforaethol sydd yn berchennog ysgol annibynnol, ac ynglŷn â'r nifer o blant yr edrychir ar eu hôl sy'n cael eu haddysgu mewn ysgol o'r fath.
Caiff y rheoliadau safonau hefyd eu diwygio er mwyn eglurhau gofynion ynglyn â gwiriadau cofnodion troseddol ac er mwyn pennu'r tystysgrifau cofnodion troseddol hynny y mae'n rhaid rhoi copi ohonynt i'r Cynulliad, sef yr awdurdod cofrestru ar gyfer ysgolion annibynnol yng Nghymru.
Notes:
[1]
2002 p. 32. I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 212(1) o Ddeddf Addysg 2002.back
[2]
O.S. 2003/3230 (Cy. 310).back
[3]
O.S. 2002/233. Mewnosodwyd Rheoliad 5A gan gan O.S. 2006/748 ac fe'i diwygiwyd gan O.S. 2006/2181.back
[4]
1997 p. 50. Mewnosodwyd adrannau 113A gan Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005 (p. 15).back
[5]
Mewnosodwyd adrann 113A gan Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005.back
[6]
Mewnosodwyd Adran 113 gan Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005.back
[7]
O.S. 2003/3234 (Cy. 314), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/2929.back
[8]
1998 c. 38.back
English version
ISBN
978 0 11 091547 0
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
28 March 2007
|