British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) (Diwygio) 2007 Rhif 844 (Cy.76)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070844w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2007 Rhif 844 (Cy.76)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) (Diwygio) 2007
|
Wedi'u gwneud |
13 Mawrth 2007 | |
|
Yn dod i rym |
31 Mawrth 2007 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi[
1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972[
2] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn o dan y pwerau a roddwyd gan yr adran honno.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) (Diwygio) 2007. Deuant i rym ar 31 Mawrth 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005
2.
—(1) Diwygir Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005[
3] wedi'u diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a) ar ddiwedd y diffiniad o "Rheoliad y Comisiwn" ychwaneger ", fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1468/2006 (OJ Rhif L274, 5.10.2006, t. 6)";
(b) hepgorer y diffiniad o "Rheoliad y Comisiwn 1756/93";
(c) yn y diffiniad o "deddfwriaeth y Gymuned", yn lle ", Rheoliad y Comisiwn, a Rheoliad y Comisiwn 1756/93" rhodder " a Rheoliad y Comisiwn";
(ch) ar ddiwedd y diffiniad o "Rheoliad y Cyngor" ychwaneger ", fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1406/2006 (OJ Rhif L265, 26.9.2006, t. 8)".
(3) Yn rheoliad 7(a), yn lle is-baragraffau (i) i (iii) rhodder—
"
(i) sy'n ddeiliad y cwota a nodir yn y cofnod hwnnw, neu
(ii) sy'n rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol ddatganiad yn ysgrifenedig fod ganddo fuddiant yn naliad deiliad y cwota a nodir yn y cofnod hwnnw; neu".
(4) Yn rheoliad 9(3), yn lle'r geiriau ar ôl "Cynulliad Cenedlaethol" hyd at ddiwedd y paragraff rhodder yn eu lle "heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth yn y flwyddyn gwota pryd y trosglwyddir.".
(5) Yn rheoliad 31(5), yn lle "1 Medi" rhodder "30 Medi".
(6) Yn rheoliad 36 —
(a) ym mharagraff (1), yn lle "(2) a (3)" rhodder "(2A) a (3)";
(b) hepgorer paragraff (2);
(c) ym mharagraff (5) yn lle "paragraffau (2) i (4)" rhodder "paragraffau (2A), (3), (4) a (6A)";
(ch) yn lle paragraff (6) rhodder—
"
(6) Yn ddarostyngedig i Erthygl 8(5) o Reoliad y Comisiwn, os bydd prynwr yn methu â chyflwyno crynodeb y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan Erthygl 8(2) o Reoliad y Comisiwn, cyn diwedd y cyfnod a bennwyd yn Erthygl 8(4), mae o dan rwymedigaeth i dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol gosb sy'n cyfateb i'r ardoll ddamcaniaethol a fyddai'n ddyledus ar 0.01% o'r llaeth yn ôl cyfaint a gwmpesir gan y datganiad hwnnw ar gyfer pob diwrnod o oedi cyn i'r cyflwyniad gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol.";
(d) ar ôl paragraff 6 mewnosoder—
"
(6A) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (7), pan fo prynwr yn methu â darparu neu gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol—
(a) cais neu ddatganiad ynghylch addasu cwota prynwr yn unol â rheoliad 23(2) i (4);
(b) gwybodaeth yn unol â rheoliad 33(2) i (4); neu
(c) cadarnhad neu ddiwygiadau sy'n ymwneud â fersiwn ddiwygiedig o grynodeb yn unol â rheoliad 35(2),
mae o dan rwymedigaeth i dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol gosb sy'n cyfateb i'r ardoll ddamcaniaethol a fyddai'n ddyledus ar 0.01% o'r llaeth yn ôl cyfaint a gwmpesir gan y cais hwnnw, y datganiad hwnnw neu fersiwn ddiwygiedig ohono, neu'r wybodaeth honno, ar gyfer pob diwrnod o oedi cyn i'r cyflwyniad gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol.".
(7) Ym mharagraff 7, yn lle "(6)" rhodder "(6A)".
(8) Yn rheoliad 38, hepgorer paragraff (2).
(9) Yn rheoliad 39(2)(a)(ii), yn lle "yn rhinwedd rheoliad 38(2)" rhodder "o dan erthygl 11(4) o Reoliad y Comisiwn".
(10) Ym mharagraff 2(1) o Atodlen 2, ar ddechrau is-baragraff (f) ac (ff) mewnosoder "os yw'n dal 4,855 neu ragor o litrau o gwota gwerthiannau uniongyrchol,".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mawrth 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, a ddaw i rym ar 31 Mawrth 2007, yn diwygio Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005 (O.S 2005/537) (Cy.47) ("Rheoliadau 2005").
Mae Rheoliadau 2005 yn rhoi Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1788/2003 ar waith sy'n sefydlu ardoll yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth (OJ Rhif L270, 21.10.2003, t. 123) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1406/2006 (OJ Rhif L265, 26.9.2006, t.8), a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 595/2004 sy'n gosod rheolau manwl ar gymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1788/2003 sy'n sefydlu ardoll yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth (OJ Rhif L94, 31.3.2004, t.22) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1468/2006 (OJ Rhif L274, 5.10.2006, t.6) ("Rheoliad y Comisiwn").
Mae rheoliad 2—
(i) yn diweddaru cyfeiriadau ar ddeddfwriaeth y Gymuned.
(ii) yn dileu'r cyfeiriad at asiant deiliad cwota o ran arolygu cofrestrau.
(iii) yn diwygio'r gofyniad i gyflwyno hysbysiad i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar drosglwyddo cwota ynghyd â throsglwyddo tir, drwy les ac fel arall, ar ddau ddyddiad gwahanol fel ei bod yn ofynnol i gyflwyno hysbysiad erbyn un dyddiad yn unig, sef 31 Mawrth yn y ddau achos.
(iv) yn diwygio'r dyddiad ar ei ôl y caniateir adennill ardoll heb dalu.
(v) yn diwygio'r weithdrefn cosb weinyddol pan fo crynodebau o ddanfoniadau yn cael eu cyflwyno yn hwyr gan brynwyr llaeth yn unol â newidiadau yn Rheoliad y Comisiwn fel y'i diwygiwyd.
(vi) yn diwygio'r weithdrefn cosb weinyddol pan fo datganiadau o werthiannau uniongyrchol yn cael eu cyflwyno'n hwyr er mwyn dileu'r ddarpariaeth ar atafaelu'r cwota gan fod hyn wedi'i osod allan yn llawn yn Rheoliad y Comisiwn.
(vii) yn diwygio'r gofynion cadw cofnodion ar gyfer gwerthwyr uniongyrchol llaeth a chynhyrchion llaeth.
Mae arfarniad rheoliadol o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael wedi'i baratoi ac mae copïau ar gael o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Notes:
[1]
O.S. 2005/2766.back
[2]
1972 p.68.back
[3]
O.S. 2005/537 (Cy.47), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/762 (Cy.72).back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
978 0 11 091538 8
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
21 March 2007
|