Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cwn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 Rhif 702 (Cy.59)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070702w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2007 Rhif 702 (Cy.59)
CWN, CYMRU
RHEOLI CWN
Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cwn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007
|
Wedi'u gwneud |
6 Mawrth 2007 | |
|
Yn dod i rym |
15 Mawrth 2007 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sef y person priodol o ran Cymru fel y'i diffinnir yn adran 66(b) o Ddeddf Cymunedau Glân a'r Amgylchedd 2005[
1], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 55(4) a (5), 56(1), (3), (4) a (5) a 67(1) o'r Ddeddf honno.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cwn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 15 Mawrth 2007.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr "Awdurdod" ("Authority") yw naill ai prif awdurdod ("primary authority") neu awdurdod eilaidd ("secondary authority") fel y'i diffinnir yn adran 58 ("primary and secondary authorities") o'r Ddeddf;
mae i "awdurdod mynediad" a "tir mynediad" yr ystyr a roddir i "access authority" ac "access land" yn Rhan 1 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000[2];
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Cymunedau Glân a'r Amgylchedd 2005;
ystyr "fforwm mynediad lleol" ("local access forum") yw fforwm mynediad lleol a sefydlwyd o dan adran 94 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000;
ystyr "tir yr effeithir arno" ("affected land") yw tir sy'n ddarostyngedig i orchymyn rheoli cwn neu i fwriad i wneud gorchymyn rheoli cwn.
Ymgynghori cyn gwneud gorchymyn rheoli cwn.
3.
Cyn gwneud gorchymyn rheoli cwn o dan adran 55 o'r Ddeddf, rhaid i Awdurdod—
(a) ymgynghori ar ei fwriad i wneud gorchymyn drwy beri cyhoeddi ar ei wefan hysbysiad—
(i) sy'n dynodi'r tir yr effeithir arno—
(aa) drwy ei ddisgrifio, a
(bb) pan fo cyfeiriad yn y gorchymyn y bwriedir ei wneud at fap, drwy gyhoeddi'r map hwnnw;
(ii) sy'n dynodi unrhyw dir mynediad a gynhwysir o fewn y tir yr effeithir arno;
(iii) sy'n gosod i lawr effaith cyffredinol gwneud y gorchymyn y bwriedir ei wneud;
(iv) sy'n datgan y cyfnod a roddir i wneud sylwadau yn ysgrifenedig neu drwy e-bost (sy'n gyfnod nad yw'n llai na 28 o ddiwrnodau o'r dyddiad pan gaiff yr hysbysiad ei gyhoeddi gyntaf yn unol â'r paragraff hwn);
(v) sy'n datgan y cyfeiriad a'r cyfeiriad e-bost lle dylid anfon y sylwadau;
(b) pan fo hynny'n ymarferol, peri i hysbysiadau o fath y mae'n eu hystyried yn ddigonol gael eu harddangos mewn mannau amlwg ar y tir yr effeithir arno neu gerllaw iddo i dynnu sylw aelodau o'r cyhoedd sy'n defnyddio'r tir hwnnw at effaith gwneud y gorchymyn y bwriedir ei wneud.
4.
Rhaid i'r Awdurdod roi copïau o'r hysbysiad y cyfeirir ato yn rheoliad 3(a)—
(a) i unrhyw Awdurdod arall sydd â phwer o dan adran 55 o'r Ddeddf i wneud gorchymyn rheoli cwn mewn perthynas ag unrhyw ran o'r tir yr effeithir arno;
(b) pan fo unrhyw ran o'r tir yr effeithir arno yn dir mynediad,—
(i) i'r awdurdod mynediad ar gyfer y tir mynediad hwnnw;
(ii) i'r fforwm mynediad lleol ar gyfer y tir mynediad hwnnw; a
(iii) i Gyngor Cefn Gwlad Cymru, mewn perthynas ag unrhyw ran o'r tir mynediad hwnnw nad yw o fewn Parc Cenedlaethol.
Gweithdrefnau ar ôl gwneud gorchymyn rheoli cwn
5.
Ar ôl gwneud gorchymyn rheoli cwn, rhaid i Awdurdod, ymhen dim llai na saith niwrnod cyn y diwrnod y bydd y gorchymyn yn dod i rym arno—
(a) peri i hysbysiadau o fath y mae'n eu hystyried yn ddigonol gael eu harddangos mewn mannau amlwg ar y tir yr effeithir arno neu gerllaw iddo i dynnu sylw aelodau o'r cyhoedd sy'n defnyddio'r tir hwnnw at y ffaith fod gorchymyn wedi'i wneud ac at effaith gwneud y gorchymyn hwnnw;
(b) cyhoeddi ar ei wefan—
(i) hysbysiad sy'n datgan—
(aa) fod y gorchymyn wedi'i wneud,
(bb) yn lle y gellir cael copïau ohono;
(ii) copi o'r gorchymyn,
(iii) copi o unrhyw fap y cyfeirir ato yn y gorchymyn;
(c) anfon yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (i) o is-baragraff (b) at y personau a bennir yn rheoliad 4.
Diwygio a dirymu gorchmynion rheoli cwn: gofynion gweithdrefnol
6.
Mae Rheoliadau 3, 4 a 5 yn gymwys i ddiwygio ac i ddirymu gorchymyn rheoli cwn megis petai'r cyfeiriadau yn y rheoliadau hynny at orchymyn (neu orchymyn y bwriedir ei wneud) yn gyfeiriadau at ddiwygio neu at ddirymu gorchymyn (neu at ddiwygio neu ddirymu gorchymyn y bwriedir ei wneud, yn ôl y digwydd).
Tramgwyddau a chosbau a ragnodir
7.
—(1) At ddibenion adran 55(4) o'r Ddeddf, y tramgwyddau a ragnodir yw'r rhai hynny a osodir ym mharagraff 1 o bob un o Atodlenni 1 i 5.
(2) Y gosb sydd i'w gosod mewn perthynas ag unrhyw dramgwydd mewn gorchymyn rheoli cwn, ar gollfarn ddiannod, yw dirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(3) Caiff gorchymyn rheoli cwn bennu'r amserau neu'r cyfnodau y gellir cyflawni tramgwydd o'u mewn.
Geiriad penodedig i'w ddefnyddio mewn gorchymyn rheoli cwn, a ffurf y gorchymyn
8.
Rhaid i Awdurdod sy'n gwneud gorchymyn rheoli cwn—
(a) wrth ddarparu ar gyfer unrhyw dramgwydd, defnyddio'r geiriad a bennir yn yr Atodlen sy'n gymwys i'r tramgwydd hwnnw (dan y pennawd "tramgwydd"); a
(b) ym mhob peth arall, wneud y gorchymyn yn y ffurf a osodir yn yr Atodlen, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.
Ffurf gorchymyn sy'n diwygio gorchymyn rheoli cwn
9.
Rhaid i Awdurdod sy'n diwygio gorchymyn rheoli cwn wneud hynny'n unol ag Atodlen 6.
Dyfodiad gorchymyn rheoli cwn i rym
10.
Rhaid i ddyddiad dyfodiad gorchymyn rheoli cwn (gan gynnwys gorchymyn diwygio gorchymyn rheoli cwn) i rym fod dim llai na 14 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad gwneud y gorchymyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Mawrth 2007
ATODLEN 1Rheoliadau 7 ac 8
Y TRAMGWYDD O FETHU Â SYMUD YMAITH FAW CI A FFURF Y GORCHYMYN
1
(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), bydd yn dramgwydd wrth fod â chyfrifoldeb dros gi ar dir y mae gorchymyn rheoli cwn (a ddisgrifir fel "Gorchymyn Baeddu Tir gan Gwn" yn y ffurf a osodir isod) yn gymwys iddo, i beidio â symud ymaith faw a ollyngwyd gan y ci ar unrhyw adeg, neu ar unrhyw adeg yn ystod cyfnodau penodol a ragnodir yn y gorchymyn.
(2) Nid oes tramgwydd yn cael ei gyflawni pan fo gan berson esgus rhesymol dros fethu â symud ymaith y baw, neu os yw perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.
(3) Nid yw'r tramgwydd yn gymwys i berson sydd wedi'i gofrestru fel person dall mewn cofrestr a luniwyd o dan adran 29 o Deddf Cymorth Gwladol 1948[
4], nac i berson ag arno anabledd sy'n effeithio ar ei symudedd, ei ddeheurwydd llaw, ei gydlynedd corfforol neu ei allu i godi, i gario neu i symud teclynnau beunyddiol mewn modd arall, mewn perthynas â chi wedi ei hyfforddi gan Dogs for the Disabled (elusen gofrestredig Rhif 700454), Support Dogs (elusen gofrestredig Rhif 1088281) neu Canine Partners for Independence (elusen gofrestredig Rhif 803680) ac y mae'r person hwnnw yn dibynnu arno am gymorth.
2
Mewn unrhyw Orchymyn Baeddu Tir gan Gwn, rhaid gosod y tramgwydd o fethu â symud ymaith faw ci i lawr yn llawn fel y'i datgenir yn erthygl 3 yn ffurf y gorchymyn a roddir isod.
3
Ym mhob dim arall, rhaid i Orchymyn Baeddu Tir gan Gwn sy'n darparu ar gyfer y tramgwydd hwnnw fod yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.
Ffurf y Gorchymyn
Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005
Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cwn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007/702 (W.59)
Gorchymyn Baeddu Tir gan Gwn ([X][5]) [X][6]
Mae [X] [
7], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X][
8].
2
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir a bennir yn [Yr Atodlen] [Atodlen 1][
9].
Y Tramgwydd
3
(1) Os bydd ci yn bawa ar unrhyw adeg [yn ystod y cyfnodau a bennir yn Atodlen 2][
10] ar dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo a bod person sydd â chyfrifoldeb dros y ci ar y pryd yn methu â symud y baw ci oddi ar y tir ar unwaith, bydd y person hwnnw yn euog o dramgwydd oni bai—
(a) bod gan y person hwnnw esgus rhesymol dros fethu â gwneud hynny; neu
(b) bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.
(2) Nid oes dim yn yr erthygl hon yn gymwys i berson—
(a) sydd wedi'i gofrestru fel person dall mewn cofrestr a luniwyd o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948; neu
(b) sydd ag anabledd sy'n effeithio ar ei symudedd, ei ddeheurwydd llaw, ei gydlynedd corfforol neu ei allu i godi, i gario, neu i symud teclynnau beunyddiol mewn modd arall, mewn perthynas â chi a hyfforddwyd gan elusen ragnodedig ac y mae'r person hwnnw yn dibynnu arno am gymorth.
(3) At ddibenion yr erthygl hon —
(a) cymerir bod person y mae ci fel rheol yn ei feddiant â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar unrhyw adeg onid oes rhyw berson arall â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar yr adeg honno;
(b) bydd gosod y baw ci mewn cynhwysydd a ddarperir ar y tir at y diben hwnnw, neu ar gyfer gwaredu gwastraff, yn symud ymaith digonol oddi ar y tir;
(c) ni fydd bod yn anymwybodol o'r bawa (p'un ai oherwydd peidio â bod yn y cyffiniau ai peidio), na bod heb declyn i symud y baw ci ymaith neu ddull arall addas o wneud hynny yn esgus rhesymol dros fethu â symud y baw ci ymaith;
(ch) mae pob un o'r canlynol yn "elusen a ragnodwyd"—
(i) Dogs for the Disabled (elusen gofrestredig Rhif 700454);
(ii) Support Dogs (elusen gofrestredig Rhif 1088281);
(iii) Canine Partners for Independence (elusen gofrestredig Rhif 803680).
Y Gosb
4
Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 3 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol
[Dyddiad]
[Cymal ardystio]
[ATODLEN] [ATODLEN 1][11]
[Manyleb/disgrifiad o'r tir, neu'r tiroedd, y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo neu iddynt][12]
[ATODLEN 2
[Manyleb o'r amserau neu'r cyfnodau pan fydd y tramgwydd yn gymwys]][13]
ATODLEN 2Rheoliadau 7 ac 8
Y TRAMGWYDD O BEIDIO Â CHADW CI AR DENNYN A FFURF Y GORCHYMYN
1
(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd yn dramgwydd wrth fod â chyfrifoldeb dros gi ar dir y mae gorchymyn rheoli cwn (a ddisgrifir fel "Gorchymyn Cwn ar Dennyn" yn y ffurf a osodir isod) yn gymwys iddo, i beidio â chadw'r ci ar dennyn neu ar dennyn â'i hyd ar y mwyaf wedi'i ragnodi yn y gorchymyn, yn ystod amserau neu gyfnodau o'r fath ag a gaiff eu rhagnodi.
(2) Nid oes tramgwydd yn cael ei gyflawni pan fo gan berson esgus rhesymol dros fethu â chadw'r ci ar dennyn, neu os yw perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.
2
Mewn unrhyw Orchymyn Cadw Cwn ar Dennyn rhaid gosod y tramgwydd o beidio â chadw ci ar dennyn i lawr yn llawn fel y'i datgenir yn erthygl 3 yn ffurf y gorchymyn a roddir isod.
3
Ym mhob dim arall, rhaid i Orchymyn Cadw Cwn ar Dennyn sy'n darparu ar gyfer y tramgwydd hwnnw fod yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.
Ffurf y Gorchymyn
Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005
Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cwn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 (OS 2007/702 (W.59)
Gorchymyn Cwn ar Dennyn ([X][
14]) [X][
15]
Mae [X] [
16], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X][
17].
2
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir a bennir yn [Yr Atodlen] [Atodlen 1][
18].
Y Tramgwydd
3
(1) Bydd person sydd â chyfrifoldeb dros gi yn euog o dramgwydd [ar unrhyw adeg][yn ystod yr [amserau] [cyfnodau] a bennir yn Atodlen 2][
19], ar unrhyw dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, os na fydd y person hwnnw yn cadw'r ci ar dennyn [heb fod yn hwy na [X o centimetrau / o fetrau][
20],oni bai—
(a) bod gan y person hwnnw esgus rhesymol dros fethu â gwneud hynny; neu
(b) bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.
(2) At ddibenion yr erthygl hon cymerir bod person y mae ci fel rheol yn ei feddiant â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar unrhyw adeg onid oes rhyw berson arall â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar yr adeg honno;
Y Gosb
4
Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 3 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol
[Dyddiad]
[Cymal ardystio]
[ATODLEN] [ATODLEN 1][21]
[Manyleb/disgrifiad o'r tir, neu'r tiroedd, y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo neu iddynt][22]
[ATODLEN 2
[Manyleb o'r amserau neu'r cyfnodau pan fydd y tramgwydd yn gymwys]][23]
ATODLEN 3Rheoliadau 7 ac 8
Y TRAMGWYDD O BEIDIO Â RHOI CI AR DENNYN A'I GADW ARNO, DRWY GYFARWYDDYD A FFURF Y GORCHYMYN
1
(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd yn dramgwydd wrth fod â chyfrifoldeb dros gi ar dir y mae gorchymyn rheoli cwn yn gymwys iddo (a ddisgrifir fel "Gorchymyn Cwn ar Dennyn drwy Gyfarwyddyd" yn y ffurf a osodir isod), i beidio â rhoi'r ci ar dennyn, ac wedi hynny ei gadw arno, neu ar dennyn nad yw'n hwy na'r hyd mwyaf a ragnodir yn y gorchymyn, yn ystod amserau a chyfnodau a gaiff eu rhagnodi, pan geir cyfarwyddyd i wneud hynny gan swyddog awdurdodedig o Awdurdod.
(2) Nid oes tramgwydd yn cael ei gyflawni pan fo gan y person hwnnw esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio â chyfarwyddyd i roi ci ar dennyn a'i gadw arno, nac os yw perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.
2
Mewn unrhyw Orchymyn Cwn ar Dennyn drwy Gyfarwyddyd, rhaid gosod i lawr yn llawn y tramgwydd o beidio rhoi ci ar dennyn a'i gadw yno, drwy gyfarwyddyd, fel y'i datgenir yn erthygl 4 yn ffurf y gorchymyn a roddir isod.
3
Ym mhob dim arall, rhaid i Orchymyn Cwn ar Dennyn drwy Gyfarwyddyd sy'n darparu ar gyfer y tramgwydd hwnnw fod yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.
Ffurf y Gorchymyn
Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005
Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cwn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 (OS 2007/702 (W.59)
Gorchymyn Cwn ar Dennyn drwy Gyfarwyddyd ([X][
24]) [X][
25]
Mae [X][
26] a elwir yn y Gorchymyn hwn "yr awdurdod") yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X][
27].
2
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir a bennir yn [Yr Atodlen] [Atodlen 1][
28].
Y Tramgwydd
3
(1) Bydd person sydd â chyfrifoldeb dros gi yn euog o dramgwydd [ar unrhyw adeg] [yn ystod [yr amserau] [y cyfnodau] a bennir yn Atodlen 2][
29], ar unrhyw dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, os na fydd y person hwnnw yn cydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir gan swyddog awdurdodedig o Awdurdod i roi ci ar dennyn [nad yw'n hwy na X o centimetrau / o fetrau] a'i gadw arno [
30], oni bai—
(a) bod gan y person hwnnw esgus rhesymol dros fethu â gwneud hynny; neu
(b) bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.
(2) At ddibenion yr erthygl hon —
(a) cymerir bod person y mae ci fel rheol yn ei feddiant â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar unrhyw adeg onid oes rhyw berson arall â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar yr adeg honno;
(b) ni chaiff swyddog awdurdodedig o Awdurdod roi cyfarwyddyd o dan y Gorchymyn hwn i roi ci ar dennyn a'i gadw arno oni fo'r cyfryw lyffethair yn rhesymol angenrheidiol i atal niwsans neu ymddygiad gan y ci sy'n debygol o beri aflonyddwch i unrhyw berson arall neu o darfu arno [ar unrhyw dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo] neu o beri trafferth i unrhyw anifail neu unrhyw aderyn neu o aflonyddu arnynt.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "swyddog awdurdodedig o Awdurdod" yw cyflogai o'r Awdurdod sydd wedi'i awdurdodi yn ysgrifenedig gan yr Awdurdod at ddibenion rhoi cyfarwyddiadau o dan y Gorchymyn hwn.
Y Gosb
4
Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 4 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
[Dyddiad]
[Cymal ardystio]
[ATODLEN] [ATODLEN 1][31]
[Manyleb/disgrifiad o'r tir, neu'r tiroedd, y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo neu iddynt][32]
[ATODLEN 2
[Manyleb o'r amserau neu'r cyfnodau pan fydd y tramgwydd yn gymwys]][33]
ATODLEN 4Rheoliadau 7 ac 8
Y TRAMGWYDD O GANIATÁU I GI FYND AR DIR Y MAE WEDI'I WAHARDD ODDI ARNO A FFURF Y GORCHYMYN
1
(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), bydd yn dramgwydd wrth fod â chyfrifoldeb dros gi ar dir y mae gorchymyn rheoli cwn (a ddisgrifir fel "Gorchymyn Gwahardd Cwn" yn y ffurf a osodir isod) yn gymwys iddo, i fynd â'r ci ar y cyfryw dir, neu i ganiatáu iddo fynd arno neu aros arno, yn ystod amserau neu gyfnodau o'r fath ag a gaiff eu pennu yn y gorchymyn.
(2) Nid oes tramgwydd yn cael ei gyflawni pan fo gan berson esgus rhesymol dros fynd â'r ci ar y tir, neu ganiatáu iddo fynd arno neu aros arno, nac os yw perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.
(3) Nid yw'r tramgwydd yn gymwys i berson sydd wedi'i gofrestru fel person dall mewn cofrestr a luniwyd o dan adran 29 o Deddf Cymorth Gwladol 1948, i berson byddar mewn perthynas â chi a hyfforddwyd gan Hearing Dogs for Deaf People (elusen gofrestredig Rhif 293358), nac i berson ag arno anabledd sy'n effeithio ar ei symudedd, ei ddeheurwydd llaw, ei gydlynedd corfforol neu ei allu i godi, i gario neu i symud teclynnau beunyddiol mewn modd arall, mewn perthynas â chi wedi ei hyfforddi gan Dogs for the Disabled (elusen gofrestredig Rhif 700454), Support Dogs (elusen gofrestredig Rhif 1088281) neu Canine Partners for Independence (elusen gofrestredig Rhif 803680) ac y mae'r person hwnnw yn dibynnu arno am gymorth.
2
Mewn unrhyw Orchymyn Gwahardd Cwn, rhaid gosod y tramgwydd o fynd â chi ar dir y mae wedi'i wahardd oddi arno, neu ganiatáu iddo fynd arno neu aros arno, i lawr yn llawn fel y'i datgenir yn erthygl 3 yn ffurf y gorchymyn a roddir isod.
3
Ym mhob dim arall, rhaid i Orchymyn Gwahardd Cwn sy'n darparu ar gyfer y tramgwydd hwnnw fod yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.
Ffurf y Gorchymyn
Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005
Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cwn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 (OS 2007/702 (W.59)
Gorchymyn Gwahardd Cwn [X][
34] [X][
35]
Mae [X][
36], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X][
37].
2
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir a bennir yn [Yr Atodlen] [Atodlen 1][
38].
Y Tramgwydd
3
(1) Bydd person sydd â chyfrifoldeb dros gi yn euog o dramgwydd [ar unrhyw adeg] [yn ystod [yr amserau] [y cyfnodau] a bennir yn Atodlen 2][
39] os bydd y person hwnnw yn mynd â'r ci ar unrhyw dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, neu yn caniatáu iddo fynd arno neu aros arno oni bai—
(a) bod gan y person hwnnw esgus rhesymol dros wneud hynny; neu
(b) bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw wneud hynny.
(2) Nid oes dim yn yr erthygl hon yn gymwys i berson—
(a) sydd wedi'i gofrestru fel person dall mewn cofrestr a luniwyd o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948; neu
(b) sydd yn fyddar, mewn perthynas â chi wedi'i hyfforddi gan Hearing Dogs for Deaf People (elusen gofrestredig Rhif 293358) ac y mae'r person hwnnw yn dibynnu arno am gymorth; neu
(c) sydd ag anabledd sy'n effeithio ar ei symudedd, ei ddeheurwydd llaw, ei gydlynedd corfforol neu ei allu i godi, i gario neu i symud teclynnau beunyddiol, mewn perthynas â chi wedi ei hyfforddi gan elusen ragnodedig ac y mae'r person hwnnw yn dibynnu arno am gymorth.
(3) At ddibenion yr erthygl hon —
(a) cymerir bod person y mae ci fel rheol yn ei feddiant â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar unrhyw adeg onid oes rhyw berson arall â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar yr adeg honno; a
(b) mae pob un o'r canlynol yn "elusen a ragnodwyd"—
(i) Dogs for the Disabled (elusen gofrestredig Rhif 700454);
(ii) Support Dogs (elusen gofrestredig Rhif 1088281);
(iii) Canine Partners for Independence (elusen gofrestredig Rhif 803680).
Y Gosb
4
Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 3 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
[Dyddiad]
[Cymal ardystio]
[ATODLEN] [ATODLEN 1][40]
[Manyleb/disgrifiad o'r tir, neu'r tiroedd, y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo neu iddynt][41]
[ATODLEN 2
[Manyleb o'r amserau neu'r cyfnodau pan fydd y tramgwydd yn gymwys]][42]
ATODLEN 5Rheoliadau 7 ac 8
Y TRAMGWYDD O FYND Â MWY NA NIFER PENODEDIG O GWN AR DIR A FFURF Y GORCHYMYN
1
(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd yn dramgwydd wrth fod â chyfrifoldeb dros fwy nag un ci ar dir y mae gorchymyn rheoli cwn (a ddisgrifir fel "Gorchymyn Cwn (Uchafswm Penodedig)" yn y ffurf a osodir isod) yn gymwys iddo, mynd â mwy na'r uchafswm o gwn a bennir yn y gorchymyn ar y tir hwnnw yn ystod yr amserau neu'r cyfnodau a gaiff eu pennu yn y gorchymyn.
(2) Nid oes tramgwydd yn cael ei gyflawni pan fo gan berson esgus rhesymol dros fynd â mwy na'r nifer penodedig o gwn ar y tir, nac os yw perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â chyfrifoldeb dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) iddo wneud hynny.
2
Mewn unrhyw Orchymyn Cwn (Uchafswm Penodedig) , rhaid gosod y tramgwydd o fynd â mwy na nifer penodedig o gwn ar dir i lawr yn llawn fel y'i datgenir yn erthygl 4 yn ffurf y gorchymyn a roddir isod.
3
Ym mhob dim arall, rhaid i Orchymyn Cwn (Uchafswm Penodedig) sy'n darparu ar gyfer y tramgwydd hwnnw fod yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.
Ffurf y Gorchymyn
Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005
Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cwn (Darpariaethau Amrywiol) 2007 (OS 2007/702 (W.59)
Gorchymyn Cwn (Uchafswm Penodedig) [X][
43] [X][
44]
Mae [X] [
45], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X][
46].
2
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir a bennir yn [Yr Atodlen] [Atodlen 1][
47].
3
Ar dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, yr uchafswm o gwn y caiff person fynd â hwy arno yw [X][
48].
Y Tramgwydd
4
(1) Bydd person sydd â chyfrifoldeb dros fwy nag un ci yn euog o dramgwydd [ar unrhyw amser][yn ystod [yr amserau] [y cyfnodau] a bennir yn Atodlen 2][
49], os bydd y person hwnnw yn mynd â mwy na'r uchafswm o gwn a bennir yn erthygl 3 o'r Gorchymyn ar unrhyw dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, oni bai—
(a) bod gan y person hwnnw esgus rhesymol dros wneud hynny; neu
(b) bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw wneud hynny.
(2) At ddibenion yr erthygl hon cymerir bod person y mae ci fel rheol yn ei feddiant â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar unrhyw adeg onid oes rhyw berson arall â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar yr adeg honno.
Y Gosb
5
Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 4 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
[Dyddiad]
[Cymal ardystio]
[ATODLEN] [ATODLEN 1][50]
[Manyleb/disgrifiad o'r tir, neu'r tiroedd, y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo neu iddynt][51]
[ATODLEN 2
[Manyleb o'r amserau neu'r cyfnodau pan fydd y tramgwydd yn gymwys]][52]
ATODLEN 6Rheoliadau 7 ac 8
FFURF GORCHYMYN SY'N DIWYGIO GORCHYMYN RHEOLI CWN
1
Bydd gorchymyn sy'n diwygio gorchymyn rheoli cwn yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.
2
Pan fo'r disgrifiad o'r tramgwydd yn cael ei ddiwygio, rhaid gwneud y diwygiad drwy dynnu allan yr erthygl gyfan sy'n gosod y tramgwydd, a bydd yr erthygl a roddir i mewn yn ei lle yn gosod i lawr y tramgwydd fel y byddai'n ofynnol ei ddatgan petai yn cael ei gynnwys mewn gorchymyn rheoli cwn sy'n cael ei wneud o'r newydd.
Ffurf y Gorchymyn
Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005
Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cwn (Darpariaethau Amrywiol) 2007 (OS 2007/702 (W.59)
Gorchymyn 702 (W.59)[
53] (Diwygio) [X][
54]
Mae [X][
55], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X][
56].
2
Diwygir [XXXX][
57] fel a ganlyn:
[mewnosoder y diwygiadau][
58].
[Dyddiad]
[Cymal ardystio]
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Pennod 1 (rheolaethau ar gwn) o Ran 6 (cwn) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p. 16) ("Deddf 2005") yn sefydlu cyfundrefn newydd ar gyfer rheoli cwn gan gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned ("awdurdodau"). Mae'r Bennod honno yn galluogi awdurdodau i wneud gorchmynion rheoli cwn mewn perthynas ag unrhyw dir yn eu hardal sydd yn agored i'r awyr, yn ddarostyngedig i fod unrhyw dir wedi'i eithrio drwy orchymyn a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Gorchymyn Rheolaethau ar Gwn (Heb fod yn Gymwys i Dir Dynodedig) (Cymru) 2007 (O.S. 2007 Rhif 702 (W.59) yn dynodi, at ddibenion penodedig, y disgrifiadau a ganlyn o dir fel tir nad yw Pennod 1 o Rhan 6 o Ddeddf 2005 yn gymwys iddo—
(a) tir a gaiff ei osod at ddefnydd y Comisiynwyr Coedwigaeth o dan adran 39(1) o Ddeddf Coedwigaeth 1967 (p. 10); a
(b) tir sy'n ffordd, neu'n rhan o ffordd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi, mewn perthynas â gorchmynion rheoli cwn a wneir o dan adran 55 o Ddeddf 2005—
(a) y gweithdrefnau sydd i'w dilyn gan awdurdodau pan maent yn gwneud, yn amrywio neu yn dirymu gorchmynion rheoli cwn (rheoliadau 3 i 6);
(b) y tramgwyddau y gellir darparu ar eu cyfer mewn gorchymyn rheoli cwn (rheoliad 7(1) a pharagraff 1 o bob un o Atodlenni 1 i 5);
(c) y cosbau uchaf y gellir eu darparu mewn gorchymyn rheoli cwn mewn perthynas â'r tramgwyddau a ragnodir (rheoliad 7(2));
(ch) cynnwys a ffurf gorchymyn rheoli cwn (gan gynnwys gorchmynion sy'n diwygio gorchymyn rheoli cwn) (rheoliadau 8(a) a 9 a pharagraff 2 o bob un o Atodlenni 1 i 5 ac Atodlen 6); a
(d) y dyddiad cynharaf y bydd gorchymyn (gan gynnwys gorchymyn sy'n diwygio gorchymyn rheoli cwn) yn dod i rym arno (rheoliad 10).
Mae mwy o wybodaeth ar Bennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2005 i'w chael yn y Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2005 sydd ar gael yn http://www.opsi.gov.uk/acts/en2005/ukpgaen_20050016_en.pdf
Notes:
[1]
2005 p. 16.back
[2]
2000 p. 37; am "access authority" gweler adran 1(2) ac am "access land" gweler adran 1(1).back
[3]
1998 p.38.back
[4]
back
[5]
Dynoder, yn benodol neu'n gyffredinol, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.back
[6]
Mewnosoder blwyddyn gwneud y Gorchymyn.back
[7]
Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilaidd sy'n gwneud y Gorchymyn.back
[8]
Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn.back
[9]
Penner pa un sy'n berthnasol.back
[10]
Penner cyfnodau os mai dim ond yn ystod cyfnodau penodol o'r flwyddyn y mae'r Gorchymyn yn gymwys.back
[11]
Penner pa un sy'n berthnasol.back
[12]
Dynoder, naill ai'n benodol neu drwy ddisgrifiad, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.back
[13]
Os yw'n gymwys, cynhwyser Atodlen 2 yn pennu amserau neu gyfnodau.back
[14]
Dynoder, yn benodol neu'n gyffredinol, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.back
[15]
Mewnosoder blwyddyn gwneud y Gorchymyn.back
[16]
Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilyddol sy'n gwneud y Gorchymyn.back
[17]
Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn.back
[18]
Penner pa un sy'n berthnasol.back
[19]
Penner pa rai bynnag o'r opsiynau mewn cromfachau sgwar sy'n gymwys.back
[20]
Os yw hyn i gael ei bennu, mewnosoder uchafswm hyd y tennyn.back
[21]
Penner pa un sy'n berthnasol.back
[22]
Dynoder, naill ai'n benodol neu drwy ddisgrifiad, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.back
[23]
Os yw'n gymwys, cynhwyser Atodlen 2 yn pennu amserau neu gyfnodau.back
[24]
Dynoder, yn benodol neu'n gyffredinol, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.back
[25]
Mewnosoder blwyddyn gwneud y Gorchymyn.back
[26]
Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilaidd sy'n gwneud y Gorchymyn.back
[27]
Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn.back
[28]
Penner pa un sy'n berthnasol.back
[29]
Penner pa rai bynnag o'r opsiynau mewn cromfachau sgwar sy'n gymwys.back
[30]
Os yw hyn i gael ei bennu, mewnosoder uchafswm hyd y tennyn.back
[31]
Penner pa un sy'n berthnasol.back
[32]
Dynoder, naill ai'n benodol neu drwy ddisgrifiad, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.back
[33]
Os yw'n gymwys, cynhwyser Atodlen 2 yn pennu amserau neu gyfnodau.back
[34]
Dynoder, yn benodol neu'n gyffredinol, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.back
[35]
Mewnosoder blwyddyn gwneud y Gorchymyn.back
[36]
Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilaidd sy'n gwneud y Gorchymyn.back
[37]
Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn.back
[38]
Penner pa un sy'n berthnasol.back
[39]
Penner pa rai bynnag o'r opsiynau mewn cromfachau sgwar sy'n gymwys.back
[40]
Penner pa un sy'n berthnasol.back
[41]
Dynoder, naill ai'n benodol neu drwy ddisgrifiad, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.back
[42]
Os yw'n gymwys, cynhwyser Atodlen 2 yn pennu amserau neu gyfnodau.back
[43]
Dynoder, yn benodol neu'n gyffredinol, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.back
[44]
Mewnosoder blwyddyn gwneud y Gorchymyn.back
[45]
Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilaidd sy'n gwneud y Gorchymyn.back
[46]
Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn.back
[47]
Penner pa un sy'n berthnasol.back
[48]
Mewnosoder yr uchafswm.back
[49]
Penner pa rai bynnag o'r opsiynau mewn cromfachau sgwar sy'n gymwys.back
[50]
Penner pa un sy'n berthnasol.back
[51]
Dynoder, naill ai'n benodol neu drwy ddisgrifiad, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.back
[52]
Os yw'n gymwys, cynhwyser Atodlen 2 yn pennu amserau neu gyfnodau.back
[53]
Mewnosoder enw llawn (gan gynnwys blwyddyn gwneud) y Gorchymyn sydd i'w ddiwygio.back
[54]
Mewnosoder flwyddyn gwneud y Gorchymyn diwygio.back
[55]
Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilaidd sy'n gwneud y Gorchymyn.back
[56]
Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn.back
[57]
Mewnosoder enw llawn (gan gynnwys blwyddyn gwneud) y Gorchymyn sydd i'w ddiwygio.back
[58]
Er enghraifft: "Yn lle [Paragraff X o] Erthygl [X] rhodder [y paragraff / yr Erthygl] a ganlyn:…", "ar ôl y geiriau [X] mewnosoder y geiriau a ganlyn: “ yn lle "[X]", rhodder y geiriau "[X]"", etc.].back
English version
ISBN
978 0 11 091533 3
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
20 March 2007
|