British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) (Diwygio Rhif 1) 2007 Rhif 546 (Cy.48)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070546w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2007 Rhif 546 (Cy.48)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) (Diwygio Rhif 1) 2007
|
Wedi'i wneud |
22 Chwefror 2007 | |
|
Yn dod i rym |
23 Chwefror 2007 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 121(5) a 122(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004[
1], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) (Diwygio Rhif 1) 2007 a daw i rym ar 23 Chwefror 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005
2.
Yn yr Atodlen i Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005[
2], hepgorer y geiriau "Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent".
Llofnodwyd ar ran y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Rosemary Thomas
Pennaeth yr Adran Cynllunio Llywodraeth Cynulliad Cymru
22 Chwefror 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn yn dod â'r trefniadau trosiannol i ben a wnaed o dan Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005 ("Gorchymyn Rhif 4") o ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ("y Cyngor").
O dan y trefniadau hynny, mae pob awdurdod cynllunio lleol a restrir yn yr Atodlen i Orchymyn Rhif 4 yn gallu parhau â'r broses sy'n arwain yn y pen draw at fabwysiadu ei gynllun datblygu unedol o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, yn hytrach na gorfod dechrau ar y gwaith o baratoi cynllun datblygu lleol o dan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004.
Mae'r Gorchymyn hwn yn tynnu'r Cyngor oddi ar y rhestr awdurdodau cynllunio lleol yn yr Atodlen i Orchymyn Rhif 4 ac felly mae'n gosod dyletswydd ar y Cyngor i baratoi cynllun datblygu lleol ar gyfer ei ardal.
Notes:
[1]
2004 p.5.back
[2]
O.S. 2005/2722 (Cy.193) (C.110) a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/842 (Cy.72), 2006/1700 (Cy.162) a 2006/3119 (Cy.289).back
English version
ISBN
0 11 091515 1
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
6 March 2007
|