British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2006 Rhif 3345 (Cy.306)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063345w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 3345 (Cy.306)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2006
|
Wedi'i wneud |
12 Rhagfyr 2006 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2007 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 43(4B)(b), 44(9) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[
1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 1 Ebrill 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn—
mae i "cod cyfathrebu electronig" yr ystyr sydd i "electronic communications code" yn adran 106(1) o Ddeddf Cyfathrebu 2003;
mae "cyfarpar cyfathrebu electronig" ("electronic communications apparatus") yn cynnwys —
(a) cyfarpar o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 1(1) o'r cod cyfathrebu electronig;
(b) strwythurau fel cytiau neu adeiladau eraill o ran eu natur (gan gynnwys strwythurau nad ydynt ond yn rhan o adeilad) a ddefnyddir, neu a ddyluniwyd i'w defnyddio ddim ond i gadw cyfarpar sy'n dod o fewn y disgrifiad ym mharagraff (a); ac
(c) unrhyw gyfarpar atodol a feddiennir yn unig at ddibenion person a drwyddedir o dan adran 1 o Ddeddf Telegraffiaeth Radio 1949[2], a dim ond ar gyfer hynny, neu berson y rhoddwyd iddo fynediad sbectrwm cydnabyddedig o dan adran 159 o Ddeddf Cyfathrebu 2003[3];
ystyr "Deddf 1988" ("the 1988 Act") yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;
ystyr "hereditament a eithrir" ("excepted hereditament") yw hereditament
(a) a ddefnyddir ddim ond ar gyfer arddangos hysbysebion, parcio cerbydau modur, gweithfeydd trin carthion neu gyfarpar cyfathrebu electronig,
(b) sy'n gwt ar y traeth neu'n swyddfa bost,
(c) y mae un neu fwy o baragraffau (a) i (c) o adran 47(2) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo,
(ch) sy'n hereditament a eithrir fel a ddiffinnir yn adran 47(9) o Ddeddf 1988,
(d) sy'n hereditament y Goron fel a ddiffinnir yn adran 65A(4) o Ddeddf 1988, neu
(dd) sydd yn, neu fod rhan ohono yn, adeilad neu ran hunangynhwysol o adeilad fel a ddisgrifir ym mharagraffau (a) a (b) o adran 66(2B) o Ddeddf 1988;
ystyr "swyddfa bost" yw swyddfa bost gyhoeddus o fewn yr ystyr a roddir i "post office"gan adran 42(3) o Ddeddf Gwasanaethau Post 2000[4].
Mwyafswm gwerth ardrethol ar gyfer rhyddhad ardrethi
3.
At ddibenion adran 43(4B)(b)(i) o Ddeddf 1988, y swm a ragnodir ar gyfer hereditament yw £12,000.
Amodau rhyddhad
4.
At ddibenion adran 43(4B)(b)(ii) o Ddeddf 1988, o ran hereditamentau â gwerth ardrethol o £5,000 neu lai, yr amodau i'w bodloni yw—
(a) nad yw'r hereditament yn hereditament a eithrir, a
(b) mae'r heraditament yn cael ei feddiannu'n gyfan gwbl.
5.
At ddibenion adran 43(4B)(b)(ii) o Ddeddf 1988, o ran hereditamentau â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai, yr amod i'w fodloni yw bod yr hereditament, neu fod rhan o hereditament, yn cael ei ddefnyddio fel swyddfa bost.
Swm o E
6.
Y swm o E a ragnodir at ddibenion adran 44(9) o Ddeddf 1988 —
(a) os £2,000 neu lai yw gwerth ardrethol yr hereditament a bod yr amodau yn erthygl 4 wedi'u fodloni, yw 2;
(b) os yw gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy nag £2,000 ond heb fod yn fwy na £5,000 a bod yr amodau yn erthygl 4 wedi'u bodloni, yw 1.333;
(c) os £9,000 neu lai yw gwerth ardrethol yr hereditament a bod yr amod yn erthygl 5 wedi'i fodloni, yw 500,000;
(ch) os yw gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy nag £9,000 ond heb fod yn fwy nag £12,000 a bod yr amod yn erthygl 5 wedi'i fodloni, yw 2.
Dirymu ac arbedion
7.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dirymir y gorchmynion canlynol—
(a) Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Aneddiadau Gwledig) (Cymru) 1998[5]; a
(b) Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi Gwledig) (Cymru) 2002[6].
(2) Mae'r gorchmynion a bennir ym mharagraff (1) i barhau mewn grym fel y maent yn gymwys i unrhyw flwyddyn ariannol sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2007 neu cyn hynny.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Rhagfyr 2006
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2007 ac mae'n gymwys i Gymru. Mae'n darparu ar gyfer cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yng Nghymru yn sgil dod i rym adran 63 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Mae'r adran honno'n gwneud diwygiadau i adran 43 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ("Deddf 1988") (fel bod y cynllun rhyddhad ardrethi gwledig yng Nghymru'n dod i ben ond yn cael ei arbed gan y Gorchymyn hwn mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2007 neu cyn hynny).
Mae erthygl 2 yn diffinio hereditamentau sy'n cael eu heithrio o'r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach.
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi mwyafswm gwerth ardrethol o £12,000 ar gyfer hereditamentau a allai fod yn gymwys i ryddhad.
Mae erthyglau 4 a 5 yn rhagnodi amodau cymhwystra.
Mae erthygl 6 yn rhagnodi'r swm o E yn y fformiwla a geir yn adran 43(4A)(b) o Ddeddf 1988. Mae'r fformiwla honno'n darparu'r mecanwaith ar gyfer cyfrifo'r swm o ardrethi sy'n daladwy o ran hereditamentau penodol.
Effaith erthyglau 4 a 6 yw (a) rhoi rhyddhad ardrethi gorfodol o 50% i hereditamentau sydd â gwerth ardrethol o £2,000 neu lai nad ydynt yn hereditamentau a eithrir fel a ddiffinnir yn erthygl 2 ac sy'n cael eu meddiannu'n gyfangwbl; a (b) rhoi rhyddhad ardrethi gorfodol o 25% i hereditamentau sydd â gwerth ardrethol o fwy nag £2,000 ond o ddim mwy na £5,000 nad ydynt yn hereditamentau a eithrir fel a ddiffinnir yn erthygl 2 ac sy'n cael eu meddiannu'n gyfangwbl.
Effaith erthyglau 5 a 6 yw rhoi rhyddhad gorfodol o 100% i swyddfeydd post â gwerth ardrethol o £9,000 neu lai, a rhoi rhyddhad gorfodol o 50% i swyddfeydd post â gwerth ardrethol o fwy nag £9,000 ond o ddim mwy nag £12,000.
Notes:
[1]
1988 p.41. Cafodd y pwerau hyn eu datganoli, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1999 yn Atodlen 1.back
[2]
1949 p.54.back
[3]
2003 p.21.back
[4]
2000 p.26.back
[5]
O.S. 1998/2963.back
[6]
O.S. 2002/331 (Cy.44).back
[7]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091477 5
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
21 December 2006
|