Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006 Rhif 3342 (Cy.303)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063342w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 3342 (Cy.303)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
13 Rhagfyr 2006 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ionawr 2007 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[
1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[
2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "y ddeddfwriaeth Gymunedol" ("Community legislation") yw'r offerynnau hynny a restrir yn yr Atodlen; ac
ystyr "penderfyniad perthnasol" ("a relevant determination") yw unrhyw benderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â chymorth ariannol a hawliadau am gymorth ariannol yn unol â deddfwriaeth Gymunedol neu mewn cysylltiad â'r ddeddfwriaeth honno ac â'r ddeddfwriaeth a ddyfynnir yn rheoliad 4 (a) i (i) o'r Rheoliadau hyn.
Darparu gweithdrefn apelio
3.
—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol sefydlu gweithdrefn neu weithdrefnau er mwyn ystyried penderfyniad perthnasol ymhellach, a hynny ar ran y Cynulliad Cenedlaethol, a bydd y weithdrefn honno neu'r gweithdrefnau hynny yn gweithio fel apêl yn erbyn y penderfyniad perthnasol dan sylw.
(2) Caiff unrhyw weithdrefn a sefydlir yn unol â pharagraff (1) osod unrhyw ddyddiadau cau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu hystyried yn angenrheidiol er mwyn ei gwneud yn ofynnol i ffermwr gyflwyno iddo wybodaeth a dogfennau sy'n gymwys ac i roi hysbysiad o'i fwriad i apelio yn erbyn penderfyniad perthnasol.
(3) Caiff unrhyw weithdrefn a sefydlir o dan baragraff (1) ddarparu ar gyfer apelio ar lafar neu'n ysgrifenedig i'r personau hynny y caiff y Cynulliad Cenedlaethol eu penodi at y diben hwnnw (heb fod mwy na thri ohonynt), gyda'r bwriad eu bod yn llunio adroddiad o'u casgliadau a'u hargymhellion o ran sut y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar yr apêl.
(4) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn sefydlu unrhyw weithdrefn o'r fath a grybwyllir ym mharagraff (3), caiff—
(a) talu i'r personau a benodir felly unrhyw dâl am eu swyddogaethau o dan y weithdrefn honno, ac unrhyw lwfansau teithio a lwfansau eraill, y bydd y Cynulliad yn eu pennu; a
(b) codi ar unrhyw berson yr ystyrir ei apêl o dan y weithdrefn a sefydlwyd felly unrhyw ffi (heb fod yn fwy na £100) y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei bennu.
Diwygio
4.
—(1) Dileer y darpariaethau a ganlyn —
(a) Erthygl 5(b) o Orchymyn Dynodi Ardaloedd sy'n Sensitif yn Amgylcheddol (Uwchdiroedd Cymru — Estyniad) 1987[3];
(b) Erthygl 5(b) o Orchymyn Dynodi Ardaloedd sy'n Sensitif yn Amgylcheddol (Y Preseli) 1994[4];
(c) Erthygl 5(b) o Orchymyn Dynodi Ardaloedd sy'n Sensitif yn Amgylcheddol (Bryniau Clwyd) 1994[5];
(ch) Erthygl 5(b) o Orchymyn Dynodi Ardaloedd sy'n Sensitif yn Amgylcheddol (Maesyfed) 1993[6];
(d) Erthygl 5(b) o Orchymyn Dynodi Ardaloedd sy'n Sensitif yn Amgylcheddol (Ynys Môn) 1993[7];
(dd) Erthygl 5(b) o Orchymyn Dynodi Ardaloedd sy'n Sensitif yn Amgylcheddol (Penrhyn Llŷn) 1987[8];
(e) Rheoliad 10(5) o Reoliadau Cynefinoedd (Coetir Llydanddail) (Cymru) 1994[9];
(f) Rheoliad 10(5) o Reoliadau Cynefinoedd (Lleiniau Arfordirol) (Cymru) 1994[10];
(ff) Rheoliad 10(5) o Reoliadau Cynefinoedd (Gwelltiroedd Cyfoethog eu Rhywogaethau) (Cymru) 1994[11];
(g) Rheoliad 10(5) o Reoliadau Cynefinoedd (Ymylon Dŵr) (Cymru) 1994[12];
(ng) Paragraff 14(6) o Gynllun Premiwm Coetir Fferm 1997[13];
(h) Paragraff 14(3) o'r Cynllun Coetir Fferm 1988[14];
(i) Paragraff 14(3) o'r Cynllun Coetir Fferm 1992[15];
(j) Y geiriau "Cynllun Tir Mynydd " yn yr Atodlen i Reoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2001[16]).
Dirymiadau
5.
Dirymir Rheoliadau Cynllun y Taliad Sengl ac Amrywiol Gynlluniau Cymorth Uniongyrchol (Apelau) (Cymru) 2004[17]) drwy hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[18].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 December 2006
YR ATODLENRheoliad 2
YSTYR "Y DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL"
1.
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1083/2006 dyddiedig 11 Gorffennaf 2006 yn gosod darpariaethau cyffredinol Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Gymdeithasol Ewrop a'r Gronfa Gydlyniant ac yn diddymu Rheoliad (EC) 1260/1999.
2.
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 dyddiedig 20 Medi 2005 ar gefnogi datblygiad gwledig gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD).
3.
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1290/2005 dyddiedig 21 Mehefin 2005 ar gyllido'r polisi amaethyddol cyffredin.
4.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 796/2004 dyddiedig 21 Ebrill 2004 yn gosod rheolau manwl ar gyfer traws-gydymffurfio, modiwleiddio a'r system integredig gweinyddu a rheoli y darperir ar eu cyfer yn Rheoliad y Cyngor Rhif 1782/2003 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr.
5.
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 795/2004 dyddiedig 21 Ebrill 2004 yn gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu cynllun y taliad sengl y darperir ar ei gyfer yn Rheoliad y Cyngor Rhif 1782/2003 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr.
6.
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 dyddiedig 29 Medi 2003 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr ac yn diwygio Rheoliadau (EEC) Rhif 2019/93, (EC) Rhif 1452/2001, (EC) Rhif 1453/2001, (EC) Rhif 1454/2001, (EC) Rhif 1868/94, (EC) Rhif 1251/1999, (EC) Rhif 1254/1999, (EC) Rhif 1673/2000, (EEC) Rhif 2358/71 ac (EC) Rhif 2529/2001.
7.
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 dyddiedig 17 Mai 1999 ar gymorth ar gyfer cefnogi datblygu gwledig gan Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF) ac yn diwygio a diddymu Rheoliadau penodol.
8.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1973/2004 dyddiedig 29 Hydref 2004 yn gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor 1782/2004 parthed y cynlluniau cymorth y darperir ar eu cyfer yn nheitlau IV a IVa o'r Rheoliad hwnnw a'r defnydd o dir sydd wedi ei neilltuo ar gyfer cynhyrchu defnyddiau crai.
9.
Rheoliad y Cyngor (EEC) 2078/92 dyddiedig 30 Mehefin 1992 ar ddulliau cynhyrchu amaethyddol sy'n gydnaws â gofynion diogelu'r amgylchedd a chynhaliaeth cefn gwlad.
10.
Rheoliad y Comisiwn (EC) 817/2004 dyddiedig 29 Ebrill 2004 yn gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor 1257/1999 ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig gan Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop.
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") i sefydlu gweithdrefn apelio i ffermwyr sy'n gwrthwynebu ei benderfyniadau mewn cysylltiad â chyllido elfennau penodol o'r polisi amaethyddol cyffredin a chynlluniau sy'n gysylltiedig ag ef.
Mae rheoliad 2 yn cynnwys darpariaethau dehongli ac, yn benodol, mae'n gosod y ddeddfwriaeth Gymunedol berthnasol y dichon y gweithdrefnau apelau fod yn gymwys iddynt.
Mae rheoliad 3 yn galluogi'r Cynulliad i sefydlu un neu fwy o weithdrefnau apelau. Mae'n darparu y caiff unrhyw weithdrefn apelau a sefydlir yn y modd hwn fod ar ffurf cyflwyniadau llafar neu ysgrifenedig i bersonau a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol gyda'r bwriad iddynt wneud argymhelliad i'r Cynulliad Cenedlaethol ar sut y dylid penderfynu'n derfynol ar y mater; ac y caiff y Cynulliad dalu taliadau a lwfansau i unrhyw berson o'r fath a benodir ac i godi ffi (heb fod yn uwch na £100), o ran costau'r weithdrefn.
Mae rheoliad 4 a 5, yn eu tro, yn diwygio a dirymu deddfwriaeth gynharach, er mwyn galluogi i'r drefn apelau a sefydlir o dan y Rheoliadau hyn gael ei hymestyn i faterion oedd yn ddarostyngedig i'r ddeddfwriaeth honno.
Paratowyd arfarniad rheoliadol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau ohono gan Adran Amgylchedd. Cynllunio a Chefn Gwlad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Notes:
[1]
O.S 2005/2766.back
[2]
1972 p.68.back
[3]
O.S. 1987/2026.back
[4]
O.S. 1994/239.back
[5]
O.S. 1994/238.back
[6]
O.S. 1993/1211.back
[7]
O.S. 1993/1210.back
[8]
O.S. 1987/2027.back
[9]
O.S. 1994/3099.back
[10]
O.S. 1994/3101.back
[11]
O.S. 1994/3102.back
[12]
O.S. 1994/3100.back
[13]
O.S. 1997/829.back
[14]
O.S. 1988/1291.back
[15]
O.S. 1992/905.back
[16]
O.S. 2001/2537 (Cy.212).back
[17]
O.S. 2004/2919 (Cy.258).back
[18]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091482 1
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
8 January 2007
|