British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) (Diwygio Rhif 3) 2006 Rhif 3119 (Cy.289)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063119w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 3119 (Cy.289)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF
Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) (Diwygio Rhif 3) 2006
|
Wedi'u gwneud |
21 Tachwedd 2006 | |
|
Yn dod i rym |
22 Tachwedd 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 121(5) a 122(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004[
1], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) (Diwygio Rhif 3) 2006 a daw i rym ar 22 Tachwedd 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005
2.
Yn yr Atodlen i Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005[
2], hepgorer y geiriau "Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro" a "Cyngor Sir Penfro".
Llofnodwyd ar ran y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Rosemary Thomas
Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cynulliad Cymru
Dyddiad 21/11/06
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â'r trefniadau trosiannol i ben a wnaed o dan Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005 ("Gorchymyn Rhif 4") o ran Cyngor Sir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ("yr Awdurdodau").
O dan y trefniadau hynny, mae pob awdurdod cynllunio lleol a restrir yng Ngorchymyn Rhif 4 yn gallu parhau â'r broses sy'n arwain yn y pen draw at fabwysiadu ei gynllun datblygu unedol o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, yn hytrach na gorfod dechrau ar y gwaith o baratoi cynllun datblygu lleol o dan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004.
Mae'r Gorchymyn hwn yn tynnu'r Awdurdodau oddi ar y rhestr awdurdodau cynllunio lleol yn yr Atodlen i Orchymyn Rhif 4 ac felly mae'n gosod dyletswydd ar y Cyngor i baratoi cynllun datblygu lleol ar gyfer ei ardal.
Notes:
[1]
2004 p.5.back
[2]
O.S. 2005/2722 (Cy. 193) (C.110) a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/842 (Cy. 72) a 2006/1700 (Cy. 162).back
English version
ISBN
0 11 091458 9
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
4 December 2006
|