British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cyflenwi Gwybodaeth Ar Gyfer Cymorth I Fyfyrwyr I Gyrff Llywodraethu (Cymru) 2006 Rhif 2828 (Cy.250)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062828w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 2828 (Cy.250)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Cyflenwi Gwybodaeth Ar Gyfer Cymorth I Fyfyrwyr I Gyrff Llywodraethu (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
24 Hydref 2006 | |
|
Yn dod i rym |
27 Hydref 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 45 a 47(5) o Ddeddf Addysg Uwch 2004[
1], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyflenwi Gwybodaeth ar Gyfer Cymorth i Fyfyrwyr i Gyrff Llywodraethu (Cymru) 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 27 Hydref 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Dehongliad
2.
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr "awdurdod cymorth i fyfyrwyr" ("student support authority") yw—
(a) Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
(b) unrhyw awdurdod sy'n cwympo o fewn adran 45(7)(e) o Ddeddf 2004; ac
(c) unrhyw berson sy'n cwympo o fewn adran 45(7)(f) o Ddeddf 2004;
ystyr "cais am gymorth i fyfyrwyr" ("student support application") yw cais am gymorth sy'n daladwy o dan y cynllun cymorth i fyfyrwyr am flwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007;
ystyr "corff llywodraethu" ("governing body") yw person sy'n cwympo o fewn adran 45(2)(a) o Ddeddf 2004;
ystyr "cynllun cymorth i fyfyrwyr" ("student support scheme") yw darpariaethau'r rheoliadau o dan adran 22 o Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[2];
ystyr "Deddf 2004" ("2004 Act") yw Deddf Addysg Uwch 2004;
ystyr "gwybodaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr" ("student support information"), mewn perthynas ag awdurdod cymorth i fyfyrwyr, yw unrhyw wybodaeth y mae'r awdurdod cymorth i fyfyrwyr yn ei dal mewn cysylltiad â, neu o ganlyniad i, arfer unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â gweithredu'r cynllun cymorth i fyfyrwyr;
ystyr "noddwr yr ymgeisydd" ("applicant's sponsor") yw rhiant ymgeisydd, partner ymgeisydd neu bartner rhiant ymgeisydd y mae'n ofynnol iddo o dan y cynllun cymorth i fyfyrwyr[3] ddarparu gwybodaeth mewn cysylltiad â chais yr ymgeisydd am gymorth i fyfyrwyr; ac
ystyr "ymgeisydd" ("applicant") yw person sy'n gwneud cais am gymorth i fyfyrwyr.
Cyflenwi gwybodaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr
3.
—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 4, caiff awdurdod cymorth i fyfyrwyr gyflenwi gwybodaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr o ddisgrifiad a ragnodir yn rheoliad 5 i gorff llywodraethu at y dibenion a ragnodir ym mharagraff (2).
(2) Y dibenion a ragnodir yw'r dibenion o gynorthwyo'r corff llywodraethu—
(a) i benderfynu a yw'r ymgeisydd yn gymwys ar gyfer bwrsari (neu gymorth ariannol arall) sy'n cael ei gynnig gan y corff hwnnw ac os yw, swm y bwrsari (neu'r cymorth ariannol arall) sy'n daladwy i'r ymgeisydd; a
(b) i dalu i'r ymgeisydd swm y bwrsari (neu'r cymorth ariannol arall) y mae'r corff llywodraethu wedi penderfynu sy'n daladwy iddo.
Gwybodaeth ragnodedig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr i'w chyflenwi gyda chydsyniad yn unig
4.
—(1) Ni chaiff awdurdod cymorth i fyfyrwyr gyflenwi gwybodaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr o ddisgrifiad a ragnodir yn rheoliad 5(a) neu (c) heb gydsyniad yr ymgeisydd.
(2) Ni chaiff awdurdod cymorth i fyfyrwyr gyflenwi gwybodaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr o ddisgrifiad a ragnodir yn rheoliad 5(b) heb gydsyniad noddwr yr ymgeisydd.
Gwybodaeth ragnodedig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr
5.
Mae gwybodaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr yn wybodaeth o'r disgrifiad a ragnodir os—
(a) yw'n wybodaeth a gyflenwyd i awdurdod cymorth i fyfyrwyr gan yr ymgeisydd mewn cysylltiad â'i gais am gymorth i fyfyrwyr;
(b) yw'n wybodaeth a gyflenwir i awdurdod cymorth i fyfyrwyr gan noddwr yr ymgeisydd mewn cysylltiad â chais yr ymgeisydd am gymorth i fyfyrwyr;
(c) yw'n wybodaeth sy'n ymwneud â—
(i) statws yr ymgeisydd fel myfyriwr cymwys, fel myfyriwr cymwys rhan-amser neu fel myfyriwr cymwys ôl-raddedig at ddibenion y cynllun cymorth i fyfyrwyr;
(ii) cymhwyster yr ymgeisydd ar gyfer cymorth ariannol sy'n daladwy o dan y cynllun cymorth i fyfyrwyr;
(iii) cyfrifo swm y cymorth ariannol sy'n daladwy i'r ymgeisydd o dan y cynllun cymorth i fyfyrwyr; neu
(iv) swm y cymorth ariannol sy'n daladwy i'r ymgeisydd o dan y cynllun cymorth i fyfyrwyr.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Hydref 2006
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Adran 45 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau sy'n gwneud darpariaeth i awdurdod cymorth i fyfyrwyr gyflenwi gwybodaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr pan fo'n wybodaeth o ddisgrifiad rhagnodedig sy'n cael ei rhoi i berson rhagnodedig at ddiben rhagnodedig.
At ddibenion y Rheoliadau hyn ystyr "awdurdod cymorth i fyfyrwyr" yw: Cynulliad Cenedlaethol Cymru, awdurdod lleol neu gorff llywodraethu y trosglwyddwyd swyddogaethau cymorth i fyfyrwyr iddo o dan adran 23(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 a pherson y cafodd swyddogaethau cymorth i fyfyrwyr eu dirprwyo iddo o dan adran 23(4) o'r Ddeddf honno.
Mae'r rheoliadau hyn yn galluogi awdurdod cymorth i fyfyrwyr i gyflenwi gwybodaeth a ddarperir mewn cysylltiad â chais am gymorth i fyfyrwyr naill ai gan y myfyriwr dan sylw neu gan ei noddwyr i gyrff llywodraethu sefydliadau sy'n darparu cyrsiau sy'n gyrsiau wedi eu dynodi at ddibenion y cynllun cymorth i fyfyrwyr. Mae'r Rheoliadau hefyd yn galluogi awdurdodau cymorth i fyfyrwyr i gyflenwi i gyrff llywodraethu wybodaeth sy'n deillio o'r cais, megis a yw'r myfyriwr yn gymwys yn ystyr y cynllun cymorth i fyfyrwyr neu swm y cymorth i fyfyrwyr sy'n daladwy i'r myfyriwr o dan y cynllun hwnnw.
Dim ond at y diben o gynorthwyo cyrff llywodraethu i benderfynu a yw myfyriwr sydd wedi gwneud cais am gymorth i fyfyrwyr yn gymwys am fwrsari (neu gymorth cyllidol arall) sy'n cael ei gynnig gan y sefydliad perthnasol, ac i benderfynu swm y bwrsari sy'n daladwy i'r myfyriwr hwnnw, ac hefyd, os yw'n berthnasol, er mwyn gwneud y taliad angenrheidiol i'r myfyriwr hwnnw, y ceir cyflenwi'r wybodaeth honno.
Ni cheir cyflenwi unrhyw wybodaeth o dan y Rheoliadau hyn heb, yn achos gwybodaeth a roddir gan yr ymgeisydd neu wybodaeth sy'n deillio o'r cais, gydsyniad yr ymgeisydd neu, yn achos gwybodaeth a roddir gan y noddwr, gydsyniad y noddwr.
Notes:
[1]
2004 p. 8.back
[2]
1998 p.30; diwygiwyd adran 22 gan adran 146 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21) ac Atodlen 11 iddi, Atodlen 6 i Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p.1), adran 147 o Ddeddf Cyllid 2003 (p.14), ac adran 42. Diwygiwyd adran 42 ac adran 43 gan Ddeddf Addysg 2002 (p.32), Atodlen 12. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149) (p.79)).back
[3]
Diffinnir "Student support scheme" yn adran 45(8) o Ddeddf Addysg Uwch 2004.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091418 X
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
1 November 2006
|