Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Tai (Gorchmynion Rheoli a Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag) (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2006 Rhif 2822 (Cy.245)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062822w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 2822 (Cy.245)
TAI, CYMRU
Rheoliadau Tai (Gorchmynion Rheoli a Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag) (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
25 Hydref 2006 | |
|
Yn dod i rym |
26 Hydref 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 145 o Ddeddf Tai 2004[
1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tai (Gorchmynion Rheoli a Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag) (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar y 26 Hydref 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn —
(a) ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Tai 2004;
(b) ystyr "gorchymyn" ("order") yw
(i) gorchymyn rheoli interim[2];
(ii) gorchymyn rheoli terfynol[3];
(iii) GRhAG interim[4]; neu
(iv) GRhAG terfynol[5];
(c) ystyr "mangre" ("premises") yw tŷ([6] y mae Pennod 1 o Ran 4 o'r Ddeddf yn gymwys iddo neu annedd[7] y mae Pennod 2 o Ran 4 o'r Ddeddf yn gymwys iddi; ac
(ch) ystyr "y person perthnasol" ("the relevant person"), mewn perthynas â les mangre (neu ran o fangre), yw'r person (ac eithrio, yn ôl y digwydd, adran 107(5) neu 116(5) o'r Ddeddf, neu baragraff 2(6) neu 10(6) o Atodlen 7 iddi) sy'n lesddeiliad o dan y les.
Darpariaethau atodol
3.
—(1) Os yw awdurdod tai lleol, o dan —
(a) adran 107 (5) neu 116(5) o'r Ddeddf; neu
(b) paragraff 2(6) neu 10(6) o Atodlen 7 i'r Ddeddf,
i'w drin fel lesddeiliad mangre (neu ran o fangre) o dan les[8], mae'r paragraffau a ganlyn yn gymwys.
(2) Cyn gynted ag y gwneir gorchymyn rhaid i'r awdurdod tai lleol sy'n gwneud y gorchymyn gyflwyno i lesydd uniongyrchol y person perthnasol ("y lesydd") hysbysiad yn cynnwys y manylion a ganlyn —
(a) y math o orchymyn drwy gyfeirio at ddarpariaeth berthnasol y Ddeddf y mae'r gorchymyn wedi'i wneud oddi tani;
(b) y dyddiad y daw'r gorchymyn i rym;
(c) crynodeb o'r effaith a gaiff y gorchymyn ar ddilysrwydd y les, drwy gyfeirio at y ddarpariaeth berthnasol yn y Ddeddf; ac
(ch) enw a chyfeiriad yr awdurdod tai lleol ac unrhyw berson a awdurdodir i dderbyn ar eu rhan unrhyw alwad yn y dyfodol am dalu rhent tir, taliadau gwasanaeth neu daliadau eraill sy'n ddyledus, neu unrhyw hysbysiadau neu ddogfennau eraill mewn cysylltiad â'r fangre.
(3) O'r dyddiad y daw'r gorchymyn i rym nid yw'r awdurdod tai lleol na'r person perthnasol i fod yn atebol am dalu rhent tir, taliadau gwasanaeth neu daliadau eraill sy'n ddyledus o dan y les, p'un a ydynt yn ddyledus cyn neu ar ôl dyddiad y gorchymyn —
(a) os yw'r hysbysiad a ddisgrifir ym mharagraff (2) wedi'i gyflwyno i'r lesydd; a
(b) os yw'r lesydd yn methu ag anfon at yr awdurdod tai lleol ac unrhyw berson a awdurdodir yn unol â pharagraff 3(2)(ch) i alw am y cyfryw daliad.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff 3(3) o'r dyddiad y daw'r gorchymyn i rym —
(a) mae'r awdurdod tai lleol yn atebol am dalu unrhyw rent tir, taliadau gwasanaeth neu daliadau eraill y gelwir am iddynt eu talu ac sy'n dod yn ddyledus o dan y les mewn cysylltiad â chyfnod ar ôl y cyfryw ddyddiad;
(b) caiff awdurdod tai lleol dalu unrhyw rent, taliadau gwasanaeth neu daliadau eraill sy'n parhau'n ddyledus mewn cysylltiad â chyfnod cyn y cyfryw ddyddiad;
(c) caiff awdurdod tai lleol gwestiynu pa mor rhesymol yw unrhyw alwadau am y cyfryw daliadau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) neu (b), p'un ai ar eu rhan hwy eu hunain neu ar ran y person perthnasol; ac
(ch) rhaid i awdurdod tai lleol anfon copi o unrhyw alwad am dalu rhent tir, taliadau gwasanaeth neu daliadau eraill, neu unrhyw hysbysiad arall neu ddogfen arall y maent yn ei dderbyn neu ei derbyn gan y lesydd, at y person perthnasol (os gwyddys ble mae'r person perthnasol) a hynny o fewn 10 niwrnod i'r alwad ddod i law.
(5) Os bydd y person perthnasol y mae copi o alwad am dalu, o hysbysiad neu o ddogfen arall o dan baragraff (4)(ch) yn dod i'w law, yn dymuno herio unrhyw fater a gaiff ei gynnwys ynddo neu ynddi, rhaid i'r awdurdod tai lleol ddarparu'r cyfryw wybodaeth a'r cyfryw gymorth ag y gall fod yn rhesymol i'r person perthnasol ofyn amdano neu amdani.
(6) Ni chaiff y person perthnasol ofyn i'r awdurdod tai lleol ohirio talu unrhyw rent tir, taliadau gwasanaeth neu daliadau eraill y mae'n rhesymol i'r awdurdod tai lleol fod o'r farn eu bod yn ddyledus neu'n parhau'n ddyledus o dan y les, p'un a yw'r person perthnasol yn cwestiynu galwad am y cyfryw daliad ai peidio.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Hydref 2006
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaethau atodol pan fydd yr awdurdod tai lleol i'w drin fel lesddeiliad o dan les mangre sy'n ddarostyngedig i orchymyn rheoli interim neu derfynol a wnaed o dan Bennod 1 o Ran 4 o Ddeddf Tai 2004 ("y Ddeddf") neu orchymyn rheoli anheddau gwag ("GRhAG"), a hwnnw'n orchymyn interim neu derfynol, a wnaed o dan Bennod 2 o Ran 4 o'r Ddeddf.
Gorchymyn a wnaed gan awdurdod tai lleol mewn cysylltiad â thŷ amlfeddiannaeth fel y'i diffinnir yn adrannau 254 o'r Ddeddf neu â thŷ y mae Rhan 3 o'r Ddeddf yn gymwys iddo yw gorchymyn rheoli interim. Fe'i gwneir i ddiogelu iechyd a diogelwch meddianwyr tŷ neu fangreoedd cyfagos ac i hybu rheoli eiddo'r tŷ. Gorchymyn (sy'n dod i ben heb fod yn fwy na phum mlynedd ar ôl ei wneud ac) a wneir gan awdurdod tai lleol at ddiben sicrhau bod y tŷ'n cael ei reoli'n briodol ar sail hirdymor yn unol â chynllun rheoli a geir yn y gorchymyn yw gorchymyn rheoli terfynol. (Adran 101 o'r Ddeddf).
Mae GRhAG interim yn orchymyn a wneir gan awdurdod tai lleol i'w alluogi i gymryd camau er mwyn sicrhau bod annedd yn cael ei meddiannu, ac yn parhau i fod yn un a feddiennir. Rhaid i awdurdod tai lleol wneud ymdrechion rhesymol i hysbysu'r perchennog perthnasol ei fod yn ystyried gwneud gorchymyn o'r fath ac i ganfod pa gamau y mae'r perchennog perthnasol yn eu cymryd, neu'n bwriadu eu cymryd, i sicrhau bod yr eiddo'n cael ei feddiannu. Gwneir GRhAG terfynol i olynu GRhAG interim er mwyn sicrhau bod annedd yn cael ei meddiannu (adrannau 132 ac 133 o'r Ddeddf).
Unwaith y bydd gorchymyn rheoli interim neu derfynol neu GRhAG mewn grym mae'r awdurdod tai lleol yn caffael, mewn perthynas â'r fangre, hawliau a ddisgrifir ym Mhenodau 1 a 2 o Ran 4 o'r Ddeddf. Nid yw'r awdurdod, fodd bynnag, yn caffael unrhyw ystad neu fuddiant yn y fangre ac nid oes ganddo bwer felly i'w gwaredu. Os yw landlord uniongyrchol y fangre (neu ran o fangre, ac eithrio yn achos GRhAGau) yn lesddeiliad y fangre (neu ran ohoni) o dan les, mae'r awdurdod tai lleol i'w drin fel pe bai'n lesddeiliad yn ei le (ond yn dal heb gaffael ystad neu fuddiant). (Adrannau 107 a 116 o'r Ddeddf, a pharagraffau 2 a 10 o Atodlen 7 iddi).
Mae rheoliad 3 yn gymwys pan fydd awdurdod tai lleol i'w drin fel lesddeiliad mangre yn lle person arall ("y person perthnasol"). Mae'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol hysbysu lesydd uniongyrchol y person perthnasol hwnnw bod gorchymyn rheoli neu GRhAG wedi'i wneud ac iddo egluro canlyniadau'r gorchymyn. Mae'n darparu i'r awdurdod tai lleol fod yn atebol am dalu rhent tir, taliadau gwasanaeth a thaliadau eraill sy'n ddyledus ganddo fel pe bai yn lesddeiliad, a hynny o'r dyddiad y daw'r gorchymyn i rym, ond mae'n ei gwneud yn ofynnol i gopïau o unrhyw hysbysiadau a gyflwynir i'r awdurdod tai lleol gael eu hanfon i'r person perthnasol.
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i wneud mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael oddi wrth Uned y Sector Preifat, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ,
e-bost: housing@wales.gsi.gov.uk
Notes:
[1]
2004 p.34. Mae'r pwer a roddir gan adran 145 yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler y diffiniad o "appropriate national authority" yn adran 261(1) o'r Ddeddf.back
[2]
Gweler adran 101 (3) o'r Ddeddf.back
[3]
Gweler adran 101 (4) o'r Ddeddf.back
[4]
Gweler adran 132 (1)(a) a (2) o'r Ddeddf.back
[5]
Gweler adran 132 (1)(b) a (3) o'r Ddeddf.back
[6]
Caniateir gwneud gorchymyn rheoli anheddau gwag interim neu derfynol mewn cysylltiad â thy amlfeddiannaeth neu dy Rhan 3 (gweler adran 146 o'r Ddeddf ac adrannau 79 a 254).back
[7]
Caniateir gwneud gorchymyn rheoli anheddau gwag interim neu derfynol mewn cysylltiad ag annedd (gweler adran 132(4)(a) a (b)).back
[8]
Am ystyr "les"("lease"), "lesddeiliad" ("lessee") a "lesydd" ("lessor") gweler adran 262(1) i (5) o'r Ddeddf.back
[9]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091424 4
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
1 November 2006
|