British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 (Cychwyn) 2006 Rhif 2699 (Cy.231) (C.92)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062699w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 2699 (Cy.231) (C.92)
COMISIYNYDD POBL HŶN, CYMRU
Gorchymyn Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 (Cychwyn) 2006
|
Wedi'i wneud |
10 Hydref 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 23 o Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006[
1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, dehongli a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn yw Gorchymyn Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 (Cychwyn) 2006.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Ddeddf" ("
the Act") yw Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Y Diwrnod Penodedig
2.
14 Hydref 2006 yw'r diwrnod penodedig i adrannau 1 i 22 o'r Ddeddf ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Hydref 2006
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn wedi'i wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006[
3]) ("
y Ddeddf") ac mae'n gymwys i Gymru.
Mae'r Gorchymyn yn dwyn i rym ar 14 Hydref 2006 adrannau 1 i 22 o'r Ddeddf.
Daeth darpariaethau'r Ddeddf a oedd yn weddill i rym ar ddyddiad y Cydsyniad Brenhinol.
Notes:
[1]
2006 p.30.back
[2]
1998 p.38.back
[3]
2006 p.30.back
English version
ISBN
0 11 091402 3
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
18 October 2006
|