Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Grantiau Dysgu y Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2006 Rhif 1794 (Cy.189)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061794w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 1794 (Cy.189)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Grantiau Dysgu y Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
5 Gorffennaf 2006 | |
|
Yn dod i rym |
7 Gorffennaf 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau yn adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[
1], yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
RHAN 1
CYFFREDINOL
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Dysgu y Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 7 Gorffennaf 2006.
2.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
3.
—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr "awdurdod academaidd" ("academic authority"), mewn perthynas â sefydliad, yw'r corff llywodraethu neu'r corff arall sydd â swyddogaethau corff llywodraethu ac mae'n cynnwys person sy'n gweithredu gydag awdurdod y corff hwnnw;
ystyr "blwyddyn academaidd gyfredol" ("current academic year") yw'r flwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ond ar neu cyn 31 Awst 2006;
ystyr "blwyddyn academaidd nesaf" ("next academic year") yw'r flwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond ar neu cyn 31 Awst 2007;
ystyr "blwyddyn academaidd newydd" ("new academic year") yw blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006;
ystyr "Coleg" ("College") yw Coleg Ewrop;
ystyr "cwrs cyfredol" ("current course") yw'r cwrs dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef;
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "Deddf 1998" ("1998 Act") yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
ystyr "dyddiad symud" ("moving date") yw'r dyddiad y mae'r ceisydd yn symud i Wlad Belg, yr Eidal neu Wlad Pwyl, yn ôl fel y digwydd, er mwyn—
(a) bod yn bresennol ar y cwrs hyfforddiant iaith hwnnw mewn unrhyw achos lle mae'r sefydliad Ewropeaidd perthnasol yn ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bresennol ar gwrs dwys o hyfforddiant iaith yn union cyn y cwrs dynodedig; neu
(b) bod yn bresennol ar y cwrs dynodedig, mewn unrhyw achos arall;
ystyr "dyfarniad statudol" ("statutory award") yw unrhyw ddyfarniad a roddir, unrhyw grant a delir neu unrhyw gymorth arall a ddarperir yn rhinwedd Deddf 1998 neu Ddeddf Addysg 1962[2], neu unrhyw ddyfarniad, grant neu gymorth arall cyffelyb mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs sy'n cael ei dalu o'r cronfeydd cyhoeddus;
ystyr "y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr" ("student loans legislation") yw Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990, Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990, Deddf Addysg (Yr Alban) 1980 a rheoliadau a wnaed odani, Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998 a rheoliadau a wnaed odano neu Ddeddf 1998 a rheoliadau a wnaed odani;
ystyr "ffoadur" ("refugee") yw person a gydnabuwyd gan lywodraeth Ei Mawrhydi fel ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy'n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951[3] fel y'i hestynnwyd gan y Protocol a ddaeth i rym ar 4 Hydref 1967[4];
ystyr "grantiau at gostau byw a chostau eraill" ("grants for living and other costs") yw'r grantiau sy'n daladwy o dan reoliadau 23 neu 25;
ystyr "grantiau atodol" ("supplementary grants") yw'r grantiau sy'n daladwy o dan Bennod 4 o Ran 4;
ystyr "y Gymuned Ewropeaidd" ("European Community") yw tiriogaeth Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd fel y'i cyfansoddir o dro i dro;
ystyr "myfyriwr Cyfarwyddeb" ("Directive student") yw person sydd—
(a) yn syrthio o fewn paragraff 6 o Ran 2 o Atodlen 1 yn rhinwedd y ffaith ei fod—
(i) yn berson hunangyflogedig o'r EEA;
(ii) yn berson hunangyflogedig o'r Swistir;
(iii) yn aelod o deulu person hunangyflogedig o'r EEA neu berson hunangyflogedig o'r Swistir;
(iv) yn berthynas uniongyrchol ddibynnol yn llinach esgynnol gweithiwr mudol o'r EEA neu'n briod neu'n bartner sifil i weithiwr o'r fath;
(b) yn syrthio o fewn paragraff 3 o Ran 2 o Atodlen 1;
(c) yn syrthio o fewn paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yn rhinwedd y ffaith ei fod yn aelod o deulu gwladolyn o'r GE;
(ch) yn syrthio o fewn paragraff 8 o Ran 2 o Atodlen 1;
ystyr "myfyriwr Cyfarwyddeb cyfredol" ("current Directive student") yw myfyriwr Cyfarwyddeb a ddechreuodd y cwrs cyfredol cyn 1 Medi 2006;
ystyr "myfyriwr cyfredol" ("current student") yw myfyriwr—
(a) a ddechreuodd y cwrs cyfredol cyn 1 Medi 2006;
(b) y dyfarnwyd bod ganddo hawl i gael cymorth mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw cyn 7 Gorffennaf 2006 yn unol â rheoliadau o dan Ddeddf 1998; ac
(c) a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru yn union cyn y dyddiad symud;
mae i "myfyriwr cymwys" ("eligible student") yr ystyr a roddir yn rheoliad 11;
ystyr "myfyriwr newydd" ("new student") ac eithrio yn Atodlen 2 yw myfyriwr—
(a) sy'n dechrau'r cwrs cyfredol ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond ar neu cyn 31 Awst 2007;
(b) y dyfarnwyd bod ganddo hawl i gael cymorth mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw yn unol â Rheoliadau 2000 cyn 7 Gorffennaf 2006; ac
(c) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru;
ystyr "Rheoliadau 2000" ("2000 Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Sefydliadau Ewropeaidd) 2000[5];
ystyr "Sefydliad" ("Institute") yw Sefydliad Prifysgol Ewrop;
ystyr "sefydliad Ewropeaidd" ("European institution") yw—
(a) Canolfan Bologna;
(b) Coleg Ewrop;
(c) y Sefydliad.
(2) Os yw'r Rheoliadau hyn yn cyfeirio at benderfyniad a wnaed (neu nas gwnaed) neu at beth arall a wnaed (neu nas gwnaed) gan y Cynulliad Cenedlaethol, yna, mewn perthynas ag unrhyw amser cyn i swyddogaeth gwneud y penderfyniad neu'r peth gael ei throsglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol pan oedd y swyddogaeth o dan sylw yn swyddogaeth i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Reoliadau 2000, mae'r cyfeiriad at y Cynulliad Cenedlaethol i gael ei ddarllen fel cyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol[6].
Dirymu, arbed a darpariaethau trosiannol
4.
Mae Rheoliadau 2000, Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Sefydliadau Ewropeaidd) (Diwygio) 2001[7] a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Sefydliadau Ewropeaidd) (Diwygio) (Rhif 2) 2001[8] wedi'u dirymu mewn perthynas â Chymru.
5.
Mae Rheoliadau 2000 yn parhau yn gymwys mewn perthynas â Chymru mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd cyn 1 Medi 2005.
6.
Yn ddarostyngedig i reoliadau 7 i 10, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd newydd yn unig.
7.
—(1) Mae unrhyw daliad cymorth sydd wedi'i wneud neu a oedd i'w wneud o dan Reoliadau 2000 i fyfyriwr cyfredol mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol i gael ei drin fel taliad sydd wedi'i wneud neu a oedd i'w wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff y Cynulliad Cenedlaethol ailasesu, yn unol â'r Rheoliadau hyn, swm y cymorth sy'n daladwy i fyfyriwr cyfredol mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol.
(3) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy i fyfyriwr cyfredol yn unol â pharagraff (2) a bod swm y cymorth sy'n daladwy i'r myfyriwr yn gostwng, swm y cymorth sy'n daladwy i'r myfyriwr yw'r swm y penderfynwyd ei fod yn daladwy i'r myfyriwr o dan Reoliadau 2000.
(4) Caiff myfyriwr cyfredol wneud cais o dan y Rheoliadau hyn am gymorth mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd gyfredol os nad oedd wedi gwneud cais am gymorth o dan Reoliadau 2000 cyn 7 Gorffennaf 2006.
8.
—(1) Os bu cyn 7 Gorffennaf 2006—
(a) i fyfyriwr cyfredol neu ddarpar fyfyriwr wneud cais am gymorth o dan Reoliadau 2000 mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd nesaf; a
(b) nad oedd penderfyniad wedi'i wneud, os yw hynny'n berthnasol, o ran a oedd gan y myfyriwr hawl i gael cymorth mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar y cwrs cyfredol neu o ran swm y cymorth a oedd yn daladwy, os oedd cymorth yn daladwy o gwbl, i'r myfyriwr hwnnw,
mae'r cais i'w drin fel pe bai wedi'i wneud o dan y Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.
(2) Mae unrhyw daliad cymorth a wnaed neu sydd i'w wneud o dan Reoliadau 2000 i fyfyriwr cyfredol neu fyfyriwr newydd mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd nesaf cyn 7 Gorffennaf 2006 i'w drin fel taliad a wnaed neu sydd i'w wneud o dan y Rheoliadau hyn.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff y Cynulliad Cenedlaethol ailasesu, yn unol â'r Rheoliadau hyn, swm y cymorth y penderfynwyd cyn 7 Gorffennaf 2006 ei fod yn daladwy i fyfyriwr cyfredol neu fyfyriwr newydd mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd nesaf.
(4) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy i fyfyriwr cyfredol yn unol â pharagraff (2) a bod swm y cymorth sy'n daladwy i'r myfyriwr yn gostwng, swm y cymorth sy'n daladwy i'r myfyriwr yw'r swm y penderfynwyd ei fod yn daladwy i'r myfyriwr o dan Reoliadau 2000.
(5) At ddibenion paragraff (1), ystyr "darpar fyfyriwr" yw person—
(a) sy'n dechrau'r cwrs cyfredol yn y flwyddyn academaidd nesaf; a
(b) a wnaeth gais am gymorth o dan Reoliadau 2000 mewn perthynas â'r cwrs hwnnw cyn 7 Gorffennaf 2006; ond
(c) nad oedd penderfyniad wedi'i wneud cyn 7 Gorffennaf 2006 ar ei gymhwystra i gael cymorth mewn cysylltiad â'r cwrs cyfredol.
9.
—(1) Os oedd penderfyniad wedi'i wneud cyn 7 Gorffennaf 2006 o dan Reoliadau 2000 nad oedd person a oedd yn dechrau cwrs yn y flwyddyn academaidd gyfredol neu yn y flwyddyn academaidd nesaf yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs sydd wedi'i ddynodi at ddibenion rheoliad 4 o Reoliadau 2000—
(a) caniateir trin cais y person hwnnw fel cais am gymorth a wnaed o dan y Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy; a
(b) caniateir i benderfyniad gael ei wneud felly, yn unol â'r Rheoliadau hyn, o ran a yw'r ceisydd yn fyfyriwr cymwys ac os felly, ar swm y cymorth sy'n daladwy iddo mewn perthynas â'r canlynol (os oes cymorth yn daladwy o gwbl)—
(i) yn achos person a ddechreuodd ei gwrs yn y flwyddyn academaidd gyfredol, y flwyddyn academaidd gyfredol a'r flwyddyn academaidd nesaf; a
(ii) yn achos person sy'n dechrau ei gwrs yn y flwyddyn academaidd nesaf, y flwyddyn academaidd honno.
10.
Caiff myfyriwr Cyfarwyddeb cyfredol wneud cais o dan y Rheoliadau hyn am gymorth neu am swm ychwanegol o gymorth mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd gyfredol.
RHAN 2
CYMHWYSTRA
Myfyrwyr cymwys
11.
—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael cymorth ariannol mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu—
(a) ei fod yn syrthio o fewn un o'r categorïau yn Rhan 2 o Atodlen 1; a
(b) y dylai fod ganddo hawl, ar sail teilyngdod, i gael cymorth mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.
(3) Nid yw person yn fyfyriwr cymwys—
(a) os yw'r person hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (4), wedi bod yn bresennol ar gwrs cymwys;
(b) os yw wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;
(c) os yw'r person hwnnw wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynglyn â benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed; neu
(ch) os yw'r person hwnnw, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n berson addas i gael cymorth.
(4) Nid yw paragraff (3)(a) yn gymwys os yw'r person wedi bod yn bresennol ar gwrs cymwys ond bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu, o roi sylw i amgylchiadau penodol achos y person hwnnw, ei bod yn briodol talu cymorth iddo mewn cysylltiad â'r cwrs cyfredol.
(5) At ddibenion paragraff (3)(b) ac (c), ystyr "benthyciad" yw benthyciad sy'n cael ei wneud o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.
(6) Mewn achos lle mae'r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud—
(a) cyn 25 Medi 1991; a
(b) gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur
y mae paragraff 3(c) yn gymwys.
(7) Ni chaiff myfyriwr cymwys y mae blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn dechrau mewn perthynas ag ef ar neu ar ôl 1 Medi 2000 fod â hawl i gael cymorth at fwy nag un cwrs dynodedig ar unrhyw adeg.
(8) Mae person yn fyfyriwr cymwys hefyd at ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a) os yw—
(i) yn fyfyriwr cyfredol; neu
(ii) yn fyfyriwr newydd; a
(b) nad oedd penderfyniad wedi'i wneud cyn 7 Gorffennaf 2006 na ddylai fod ganddo hawl mwyach i gael cymorth mewn cysylltiad â'r cwrs cyfredol.
(9) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr "cwrs cymwys" yw cwrs—
(a) sydd—
(i) yn gwrs ôl-raddedig neu'n gwrs tebyg; a
(ii) yn para am o leiaf ddwy flwyddyn academaidd; a
(b) y cafodd y myfyriwr ddyfarniad statudol mewn perthynas ag ef heblaw dyfarniad y bwriedid iddo helpu gyda gwariant ychwanegol yr oedd yn rhaid i'r myfyriwr ei dynnu mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar y cwrs oherwydd anabledd sydd neu a oedd ganddo am o leiaf ddwy flwyddyn academaidd o'r cwrs.
Cyrsiau dynodedig
12.
Mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 11 os yw—
(a) yn gwrs ôl-raddedig neu'n gwrs tebyg;
(b) yn gwrs amser-llawn;
(c) yn para am o leiaf un flwyddyn academaidd; ac
(ch) yn cael ei ddarparu gan sefydliad Ewropeaidd.
Cyfnod cymhwystra
13.
—(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, bydd statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd pryd y byddai'r sefydliad Ewropeaidd perthnasol yn disgwyl fel arfer i'r myfyriwr gwblhau'r cwrs ("cyfnod cymhwystra").
(2) Mae cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn dod i ben pan fydd y myfyriwr—
(a) yn tynnu'n ôl o'i gwrs dynodedig o dan amgylchiadau lle na fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn trosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys yn unol â rheoliad 14; neu
(b) yn rhoi'r gorau i'w gwrs dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.
(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol derfynu cyfnod cymhwystra'r myfyriwr os yw wedi'i fodloni bod ymddygiad y myfyriwr wedi dangos nad yw'n addas i gael cymorth.
(4) Os bydd cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn dod i ben o dan baragraff (1) cyn diwedd y flwyddyn academaidd pryd y bydd y myfyriwr yn cwblhau'r cwrs mewn gwirionedd, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, ar unrhyw adeg, ymestyn neu adnewyddu'r cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod y bydd yn penderfynu arno.
(5) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod myfyriwr cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rheoliadau hyn neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud un neu fwy o'r canlynol—
(a) terfynu cyfnod cymhwystra'r myfyriwr;
(b) penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw fath penodol o gymorth neu unrhyw swm penodol o gymorth;
(c) trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr eisoes fel gordaliad y caniateir ei adennill yn unol â rheoliad 42.
Trosglwyddo cymhwystra
14.
—(1) Pan fydd myfyriwr cymwys yn trosglwyddo i gwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad Ewropeaidd, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys—
(a) os daw cais i law oddi wrth y myfyriwr cymwys i wneud hynny;
(b) os yw wedi'i fodloni bod y myfyriwr cymwys wedi dechrau bod yn bresennol ar y cwrs arall hwnnw ar argymhelliad yr awdurdod academaidd; ac
(c) os nad yw statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys wedi dod i ben.
(2) Mae myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) i gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo weddill y cymorth a aseswyd gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.
(3) Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol asesu cymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo oddi wrtho ond cyn i'r myfyriwr gwblhau'r flwyddyn honno, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo, wneud cais am grant arall o fath y mae eisoes wedi gwneud cais amdano o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.
RHAN 3
GWNEUD CAIS AM GYMORTH A RHOI GWYBODAETH
Ceisiadau am gymorth ariannol
15.
—(1) Rhaid i berson (y "ceisydd") wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennau y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdanynt.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth a swm y cymorth sy'n daladwy, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r ceisydd a oes gan y ceisydd hawl neu beidio i gael cymorth ac, os oes gan y ceisydd hawl, swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.
Terfynau amser
16.
—(1) Y rheol gyffredinol yw bod rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol erbyn 31 Awst 2006.
(2) Nid yw'r rheol gyffredinol ym mharagraff (1) yn gymwys—
(a) os yw'r cais yn cael ei wneud gan fyfyriwr cyfredol fel y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 7(4), ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol erbyn 30 Ionawr 2007 fan bellaf;
(b) os yw'r cais yn cael ei wneud gan fyfyriwr Cyfarwyddeb cyfredol mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol erbyn 30 Ionawr 2007 fan bellaf;
(c) os bydd un o'r digwyddiadau a ddisgrifir ym mharagraff (3) yn digwydd, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o naw mis sy'n dechrau gyda'r diwrnod y mae'r digwyddiad perthnasol yn digwydd;
(ch) os yw'r ceisydd yn gwneud cais am y grant sy'n daladwy o dan reoliad 27, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol; neu
(d) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau'r achos penodol, y dylid llacio'r terfyn amser, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir ganddo.
(3) Dyma'r digwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(c)—
(a) bod priod, partner sifil neu riant y ceisydd—
(i) yn cael ei gydnabod fel ffoadur; neu
(ii) yn dod yn berson a chanddo ganiatâd i ddod i mewn neu aros fel y'i disgrifir ym mharagraff 1 o Ran 1 o Atodlen 1;
(b) bod gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd a bod y ceisydd yn un o wladolion y wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu person sy'n un o wladolion y wladwriaeth honno;
(c) bod y ceisydd yn dod yn aelod o deulu gwladolyn o'r GE;
(ch) bod y ceisydd yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a)(iii) neu (vi) o Ran 2 o Atodlen 1; neu
(d) bod y ceisydd yn dod yn blentyn i wladolyn o'r Swistir.
Gwybodaeth
17.
Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais am wneud hynny, rhaid i bob ceisydd a phob myfyriwr cymwys roi i'r Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu bod arno ei hangen at ddibenion y Rheoliadau hyn.
18.
Rhaid i bob ceisydd a phob myfyriwr cymwys roi gwybod ar unwaith i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhoi'r manylion iddo os bydd unrhyw rai o'r canlynol yn digwydd—
(a) ei fod yn tynnu'n ôl o'r cwrs, yn rhoi'r gorau iddo neu'n cael ei ddiarddel oddi arno;
(b) ei fod yn trosglwyddo i gwrs arall yn yr un Sefydliad Ewropeaidd;
(c) ei fod yn rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar y cwrs ac nad yw'n bwriadu parhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd neu nad yw'n cael caniatâd i barhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd;
(ch) ei fod yn absennol o'r cwrs am fwy na 60 diwrnod oherwydd salwch neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall;
(d) bod y mis ar gyfer dechrau'r cwrs neu ei gwblhau yn newid;
(dd) bod ei gyfeiriad gartref neu ei gyfeiriad yn ystod y tymor yn newid.
19.
Rhaid i'r wybodaeth a roddir i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â'r Rheoliadau hyn fod yn y ffurf y gofynnir amdani gan y Cynulliad Cenedlaethol ac, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn bod yr wybodaeth yn cael ei llofnodi gan y person sy'n ei rhoi, mae llofnod electronig ar unrhyw ffurf a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn bodloni'r gofyniad hwn.
RHAN 4
CYMORTH ARIANNOL
Cyffredinol
20.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), y rheol gyffredinol yw—
(a) bod gan fyfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs dynodedig a ddarperir gan Ganolfan Bologna ("myfyriwr yng Nghanolfan Bologna") hawl i gael cymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd ar y cwrs hwnnw yn unol â darpariaethau Pennod 1;
(b) bod gan fyfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs dynodedig a ddarperir gan Goleg Ewrop ("myfyriwr yng Ngholeg Ewrop") hawl mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd ar y cwrs hwnnw i gael—
(i) grant at ffioedd a grantiau at gostau byw a chostau eraill yn unol â Phennod 2; a
(ii) grantiau atodol yn unol â Phennod 4; ac
(c) bod gan fyfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs dynodedig a ddarperir gan y Sefydliad ("myfyriwr yn y Sefydliad") hawl mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd i gael—
(i) grantiau at gostau byw a chostau eraill yn unol â Phennod 3; a
(ii) grantiau atodol yn unol â Phennod 4.
(2) Os yw'r flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi yn flwyddyn o ailadrodd astudiaethau, caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu—
(a) nad oes gan y myfyriwr hawl i gael math neu swm penodol o gymorth mewn perthynas â'r flwyddyn o ailadrodd astudiaethau; neu
(b) nad oes gan y myfyriwr hawl i gael dim cymorth mewn perthynas â'r flwyddyn o ailadrodd astudiaethau.
(3) Wrth benderfynu a ddylai fod gan fyfyriwr cymwys hawl i gael rhyw gymorth neu unrhyw gymorth yn unol â pharagraff (2) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw i amgylchiadau'r achos ac yn benodol i'r rhesymau pam y gofynnwyd i'r myfyriwr ailadrodd blwyddyn academaidd.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr "blwyddyn o ailadrodd astudiaethau" yw blwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr wedi bod yn bresennol arni o'r blaen ond y mae'r Sefydliad Ewropeaidd perthnasol yn ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bresennol arni eto.
PENNOD 1
GRANTIAU AT FFIOEDD I FYFYRWYR YNG NGHANOLFAN BOLOGNA
Grant at ffioedd
21.
—(1) Mae gan fyfyriwr yng Nghanolfan Bologna hawl i gael grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs cyfredol wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), swm y grant at ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw cyfanswm y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyrwyr mewn perthynas â bod yn bresennol ar y cwrs yn ystod y flwyddyn academaidd honno, neu fel arall mewn cysylltiad â bod yn bresennol arno.
(3) Er gwaethaf paragraff (2), nid yw'r grant at ffioedd sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn i fod yn fwy na 22,700 ewro.
PENNOD 2
GRANTIAU I FYFYRWYR YNG NGHOLEG EWROP
Grant at ffioedd
22.
—(1) Mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop hawl i gael grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs cyfredol wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), swm y grant at ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw cyfanswm y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â bod yn bresennol ar y cwrs yn ystod y flwyddyn academaidd honno, neu fel arall mewn cysylltiad â bod yn bresennol arno.
(3) Er gwaethaf paragraff (2), nid yw swm y grant at ffioedd i fod yn fwy na'r canlynol—
(a) mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol, 9,450 ewro; a
(b) mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd arall, 10,250 ewro.
Grantiau at gostau byw a chostau eraill
23.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop hawl mewn perthynas â blwyddyn academaidd i gael y grantiau at gostau byw a chostau eraill a bennir ym mharagraffau (3) i (7) ac a gyfrifir yn unol â hwy.
(2) Nid oes gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop hawl i gael yr un o'r grantiau sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.
(3) Mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop hawl i gael grant at gostau byw sy'n hafal i swm (A + B) lle—
(4) Mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop hawl i gael grant at fwrdd a llety o 6,000 ewro.
(5) Mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop hawl i gael grant i deithio adref am swm sy'n hafal i (A− B) lle—
A yw'r swm y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu mai dyna gost tair siwrnai ddychwel o gyfeiriad cartref y myfyriwr i'r Coleg; a
B yw—
(i) mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol, £93; a
(ii) mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd arall, £95.
(6) Mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop hawl i gael grant at deithio colegol am unrhyw swm y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio o breswylfa'r myfyriwr tra bydd yn bresennol yn y Coleg i'r Coleg.
(7) Mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop hawl i gael grant at deithio ar gyfer ymchwil am unrhyw swm y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio sydd wedi'i thynnu er mwyn cwblhau cyfnodau o ymchwil a awdurdodwyd gan y Coleg yn ystod y flwyddyn academaidd y gwneir cais am gymorth mewn perthynas â hi.
24.
Caniateir didynnu yn unol â Rhan 5 o'r swm sy'n daladwy mewn perthynas ag unrhyw un o'r grantiau a gyfrifir yn unol â rheoliad 23.
PENNOD 3
GRANTIAU I FYFYRWYR YN Y SEFYDLIAD
Grantiau at gostau byw a chostau eraill
25.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae gan fyfyriwr yn y Sefydliad hawl mewn perthynas â blwyddyn academaidd i gael y grantiau at gostau byw a chostau eraill a bennir ym mharagraffau (4) i (8) ac a gyfrifir yn unol â hwy.
(2) Nid oes gan fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael yr un o'r grantiau sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.
(3) Nid oes gan fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael y grant sy'n daladwy o dan baragraff (8) os un flwyddyn academaidd neu lai yw cyfnod arferol y cwrs dynodedig y penderfynwyd bod y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad ag ef
(4) Mae gan fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael grant at gostau byw—
(a) mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol, o 12,760 ewro; a
(b) mewn unrhyw achos arall, o 12,840 ewro.
(5) Mae gan fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael grant i deithio adref am y swm y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu mai dyna gost resymol un siwrnai ddychwel o gyfeiriad cartref y myfyriwr i'r Sefydliad;
(6) Mae gan fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael grant ar gyfer teithio colegol am y swm y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio o breswylfa'r myfyriwr tra bydd yn bresennol yn y Sefydliad i'r Sefydliad.
(7) Mae gan fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael grant at deithio ar gyfer ymchwil am y swm y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio sydd wedi'i thynnu er mwyn cwblhau cyfnodau o ymchwil a awdurdodwyd gan y Sefydliad yn ystod y flwyddyn academaidd y gwneir cais am gymorth mewn perthynas â hi.
(8) Mae gan fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael grant at yswiriant meddygol am y swm y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu mai dyna gost resymol yswirio'r myfyriwr yn erbyn rhwymedigaeth i dalu cost triniaeth feddygol a ddarperir y tu allan i'r Deyrnas Unedig os yw cyfnod arferol y cwrs yn fwy nag un flwyddyn academaidd.
26.
Caniateir didynnu yn unol â Rhan 5 o'r swm sy'n daladwy mewn perthynas ag unrhyw un o'r grantiau a gyfrifir o dan baragraffau (4) i (7) o reoliad 25.
PENNOD 4
GRANTIAU ATODOL
Lwfans i fyfyrwyr anabl— amodau cymhwyso
27.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop neu fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael lwfans i fyfyrwyr anabl i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod rhaid i'r myfyriwr ei dynnu oherwydd anabledd sydd ganddo mewn perthynas â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig.
(2) Nid oes gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop neu fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael lwfans i fyfyrwyr anabl os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.
Swm y lwfans i fyfyrwyr anabl
28.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), swm y lwfans i fyfyrwyr anabl yw'r swm y mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei fod yn briodol yn unol ag amgylchiadau'r myfyriwr.
(2) Rhaid i swm y lwfans i fyfyrwyr anabl beidio â bod yn fwy na'r canlynol—
(a) mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol—
(i) £11,840 mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd ar gyfer gwariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;
(ii) £4,680 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra ar gyfer gwariant ar eitemau pwysig o offer arbenigol;
(iii) unrhyw wariant ychwanegol a dynnir—
(aa) yn y wlad y lleolir y sefydliad perthnasol ynddi er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad; a
(bb) yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi er mwyn teithio i'r sefydliad perthnasol er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs perthnasol;
(iv) £1,565 mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd am unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant a dynnir at y dibenion y cyfeirir atynt ym mharagraff (i) neu (ii) sy'n fwy na'r uchafsymiau a bennwyd;
(b) mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd arall—
(i) £12,135 mewn perthynas â blwyddyn academaidd am wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;
(ii) £4,795 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra am wariant ar eitemau pwysig o offer arbenigol;
(iii) unrhyw wariant ychwanegol a dynnir—
(aa) yn y wlad y lleolir y sefydliad perthnasol ynddi er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad; a
(bb) yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi er mwyn teithio i'r sefydliad perthnasol er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs perthnasol;
(iv) £1,605 mewn perthynas â blwyddyn academaidd am unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant a dynnir at y dibenion y cyfeirir atynt ym mharagraff (i) neu (ii) sy'n fwy na'r uchafsymiau a bennwyd.
Grant ar gyfer dibynyddion
29.
—(1) Mae'r grant ar gyfer dibynyddion yn cynnwys yr elfennau canlynol—
(a) grant dibynyddion mewn oed; a
(b) lwfans dysgu rhieni.
(2) Nodir amodau hawlio pob elfen a'r symiau sy'n daladwy yn rheoliadau 30 i 33.
Grant dibynyddion mewn oed
30.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop neu fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael grant dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Mae'r grant dibynyddion mewn oed ar gael mewn perthynas â'r canlynol—
(a) partner y myfyriwr; neu
(b) dibynnydd mewn oed i'r myfyriwr nad yw ei incwm net yn fwy na'r canlynol—
(i) mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol, £3,345;
(ii) mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd arall, £3,530.
(3) Nid oes gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop neu fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael y grant sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.
31.
—(1) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 33, a'r swm sylfaenol yw—
(a) mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol, £2,395; a
(b) mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd arall—
(i) £2,455; neu
(ii) pan fo'r person y mae'r myfyriwr yn gwneud cais mewn perthynas ag ef am grant dibynyddion mewn oed yn preswylio fel arfer y tu allan i'r Deyrnas Unedig, unrhyw swm nad yw'n fwy na £2,455 sydd ym marn y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol yn yr amgylchiadau.
Lwfans dysgu rhieni
32.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop neu fyfyriwr yn y Sefydliad hawl mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig i gael y lwfans dysgu rhieni os oes ganddo un neu fwy o blant dibynnol.
(2) Nid oes gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop neu fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael y grant sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.
(3) Mae swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 33, a'r swm sylfaenol yw—
(a) mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol, £1,365;
(b) mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd arall, £1,400.
Cyfrifo
33.
—(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, y swm sy'n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr yng Ngholeg Ewrop neu'r myfyriwr yn y Sefydliad hawl i'w gael o dan reoliadau 29 i 32 yw swm yr elfen honno sy'n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes y daw i ben neu hyd nes nad oes elfen yn dal yn daladwy o dan reoliadau 29 i 32, swm sy'n hafal i (A− B) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol—
(a) i ostwng swm sylfaenol y grant dibynyddion mewn oed os oes gan y myfyriwr hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 30; a
(b) i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu rhieni os oes gan y myfyriwr hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 32.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), os yw B yn fwy na neu'n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr hawl i'w chael yn daladwy.
(3) Os yw (A− B) yn hafal i neu'n fwy na chyfanswm symiau sylfaenol elfennau'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w gael, y swm sy'n daladwy mewn perthynas â phob elfen yw dim.
(4) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan baragraff (1) yn cael ei ostwng o hanner—
(a) os yw partner y myfyriwr—
(i) yn fyfyriwr cymwys; neu
(ii) yn dal dyfarniad statudol; a
(b) os cymerir dibynyddion y partner hwnnw i ystyriaeth wrth gyfrifo swm y cymorth y mae gan y partner hwnnw hawl i'w gael neu'r taliad y mae ganddo hawlogaeth i'w gael o dan y dyfarniad statudol.
(5) Os yw swm y lwfans dysgu rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy yw £50.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a) mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol—
A yw cyfanswm incwm net pob un o ddibynyddion y myfyriwr cymwys; a
B yw £1,050 os nad oes gan y myfyriwr blentyn dibynnol;
£3,145 os nad yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
£4,195 os nad yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol;
£4,195 os yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
£5,250 os yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol;
(b) mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd arall—
A yw cyfanswm incwm net pob un o ddibynyddion y myfyriwr cymwys; a
B yw £1,075 os nad oes gan y myfyriwr blentyn dibynnol;
£3,225 os nad yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
£4,300 os nad yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol;
£4,300 os yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
£5,380 os yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.
34.
Caniateir didynnu yn unol â Rhan 5 o'r swm sy'n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol yn y grant ar gyfer dibynyddion a gyfrifir yn unol â rheoliadau 30 i 33.
Dehongli
35.
—(1) At ddibenion rheoliadau 30 i 33—
(a) ystyr "dibynnydd mewn oed" ("adult dependant"), mewn perthynas â myfyriwr, yw person mewn oed sy'n dibynnu ar y myfyriwr heblaw plentyn y myfyriwr, partner y myfyriwr (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn bod y myfyriwr wedi gwahanu oddi wrtho) neu gyn-bartner y myfyriwr;
(b) mae "plentyn" ("child") mewn perthynas â myfyriwr yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr sy'n ddibynnol ar y myfyriwr ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr gyfrifoldeb rhiant drosto sy'n ddibynnol arno;
(c) ystyr "dibynnydd" ("dependant"), mewn perthynas â myfyriwr, yw partner y myfyriwr, plentyn dibynnol y myfyriwr neu ddibynnydd mewn oed i'r myfyriwr, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;
(ch) ystyr "dibynnol" ("dependent") yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;
(d) ystyr "rhiant unigol" ("lone parent") yw myfyriwr nad oes ganddo bartner ac sydd â phlentyn dibynnol neu blant dibynnol;
(dd) mae i "incwm net" ("net income") yr ystyr a roddir ym mharagraff (2);
(e) yn ddarostyngedig i is-baragraffau (f), (ff) ac (g), ystyr "partner" ("partner") yw unrhyw un o'r canlynol—
(i) priod myfyriwr;
(ii) partner sifil myfyriwr;
(iii) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr fel pe bai'r person hwnnw'n briod i'r myfyriwr—
(aa) os oedd y myfyriwr hwnnw yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn perthynas â hi; a
(bb) os dechreuodd y myfyriwr hwnnw y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;
(iv) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr fel pe bai'r person hwnnw'n bartner sifil i'r myfyriwr—
(aa) os oedd y myfyriwr hwnnw yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn perthynas â hi; a
(bb) os dechreuodd y myfyriwr hwnnw y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
(f) oni nodir fel arall, nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (e) i'w drin fel partner—
(i) os yw'r person hwnnw a'r myfyriwr, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi'u gwahanu; neu
(ii) os yw'r person yn byw fel arfer y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nad yw'n cael ei gynnal gan y myfyriwr;
(ff) at ddibenion diffinio "dibynnydd mewn oed", mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (e) oni bai am y ffaith nad oedd y myfyriwr y mae'r person yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn perthynas â hi;
(g) at ddibenion diffinio "plentyn" a "rhiant unigol", mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (e) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr y cwrs dynodedig neu'r ffaith nad oedd y myfyriwr y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn perthynas â hi.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell am y flwyddyn academaidd o dan sylw wedi'i ostwng yn ôl swm y dreth incwm a'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy'n daladwy mewn perthynas â hi ond gan anwybyddu—
(a) unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;
(b) budd-dal plant sy'n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992[9];
(c) unrhyw gymorth ariannol sy'n daladwy i'r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002[10];
(ch) unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;
(d) yn achos dibynnydd y mae plentyn sy'n derbyn gofal awdurdod lleol wedi'i fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i'r dibynnydd hwnnw at ddibenion adran 23 o Ddeddf Plant 1989[11];
(dd) unrhyw daliadau a wneir i'r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn perthynas â pherson nad yw'n blentyn i'r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o'r Ddeddf honno; ac
(e) unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002.
(3) Os yw myfyriwr neu bartner y myfyriwr yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd gynt yn cael eu gwneud gan y myfyriwr yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr, incwm net y partner yw'r incwm net wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2) wedi'i ostwng yn ôl—
(a) swm sy'n hafal i'r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os cafodd y rhwymedigaeth, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, ei hysgwyddo'n rhesymol; neu
(b) unrhyw swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol pe gallai rhwymedigaeth lai fod wedi'i hysgwyddo'n rhesymol, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.
(4) At ddibenion paragraff (2)—
(a) os yw'r dibynnydd yn blentyn dibynnol;
(b) os yw'r flwyddyn academaidd berthnasol yn flwyddyn academaidd newydd; ac
(c) os oes taliadau'n cael eu gwneud i'r myfyriwr tuag at gynhaliaeth y plentyn;
mae'r taliadau hynny i gael eu trin fel incwm i'r plentyn.
RHAN 5
CYFRANIADAU
Cyfraniad y myfyriwr
36.
—(1) Cyfraniad myfyriwr yng Ngholeg Ewrop neu fyfyriwr yn y Sefydliad mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw'r swm a gyfrifir o dan Atodlen 2, os oes unrhyw swm o gwbl.
(2) At ddibenion arfer swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr roi o dro i dro unrhyw wybodaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdani er mwyn asesu cyfraniad y myfyriwr.
Cymhwyso cyfraniad y myfyriwr
37.
—(1) Rhaid i'r cyfraniad a gyfrifir yn unol â rheoliad 36 gael ei gymhwyso—
(a) yn achos myfyriwr yng Ngholeg Ewrop yn unol â rheoliad 38; a
(b) yn achos myfyriwr yn y Sefydliad yn unol â rheoliad 39.
38.
—(1) Yn achos myfyriwr yng Ngholeg Ewrop, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymhwyso cyfraniad y myfyriwr—
(a) yn gyntaf, i ostwng swm y grant at gostau byw a gyfrifir o dan reoliad 23(3);
(b) yn ail—
(i) yn achos myfyriwr sy'n gymwys i gael y grant ar gyfer dibynyddion, i ostwng—
(aa) yn gyntaf, swm y grant ar gyfer dibynyddion a gyfrifir yn unol â rheoliad 33; a
(bb) yn ail, swm y grant ar gyfer bwrdd a llety a gyfrifir yn unol â rheoliad 23(4);
(ii) mewn unrhyw achos arall, swm y grant at fwrdd a llety a gyfrifir o dan reoliad 23(4);
(c) yn drydydd, i ostwng swm y grant ar gyfer teithio adref a gyfrifir yn unol â rheoliad 23(5);
(ch) yn bedwerydd, i ostwng swm y grant at deithio colegol a gyfrifir yn unol â rheoliad 23(6);
(d) yn bumed, yn ddarostyngedig i baragraff (2), i ostwng swm y grant ar gyfer teithio i ymchwilio a gyfrifir yn unol â rheoliad 23(7).
(2) Os yw'r cyfraniad sydd ar gael i ostwng swm y grant ar gyfer teithio i ymchwilio yn unol â pharagraff (1)(d) yn fwy na swm y grant hwnnw a gyfrifir o dan reoliad 23(7), swm y grant hwnnw sy'n daladwy i'r myfyriwr yw dim.
39.
—(1) Yn achos myfyriwr yn y Sefydliad, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymhwyso cyfraniad y myfyriwr—
(a) yn gyntaf, i ostwng swm y grant at gostau byw a gyfrifir yn unol â rheoliad 25(4);
(b) yn ail—
(i) yn achos myfyriwr sy'n gymwys i gael y grant ar gyfer dibynyddion, i ostwng—
(aa) yn gyntaf, swm y grant ar gyfer dibynyddion a gyfrifir yn unol â rheoliad 33;
(bb) yn ail, swm y grant ar gyfer teithio adref a gyfrifir yn unol â rheoliad 25(5); ac
(cc) yn drydydd, swm y grant ar gyfer teithio colegol a gyfrifir yn unol â rheoliad 25(6);
(ii) mewn unrhyw achos arall, i ostwng swm y grant ar gyfer teithio colegol a gyfrifir yn unol â rheoliad 25(6);
(c) yn drydydd, yn ddarostyngedig i baragraff (2), i ostwng swm y grant ar gyfer teithio i ymchwilio a gyfrifir yn unol â rheoliad 25(7).
(2) Os yw'r cyfraniad sydd ar gael i ostwng swm y grant ar gyfer teithio i ymchwilio yn unol â pharagraff (1)(c) yn fwy na swm y grant hwnnw a gyfrifir o dan reoliad 26(7), swm y grant hwnnw sy'n daladwy i'r myfyriwr yw dim.
RHAN 6
TALIADAU
Talu grant at ffioedd
40.
—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thalu'r grant at ffioedd y mae gan fyfyriwr hawl i'w gael nes ei fod wedi cael cais dilys am y taliad oddi wrth yr awdurdod academaidd.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud taliadau'r grant at ffioedd i'r awdurdod academaidd mewn unrhyw randaliadau ac ar unrhyw adegau y mae'n credu eu bod yn briodol.
Talu grantiau at gostau byw a chostau eraill a grantiau atodol
41.
—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu'r grantiau at gostau byw a chostau eraill a'r grantiau atodol y mae gan fyfyriwr hawl i'w cael mewn unrhyw randaliadau ac ar unrhyw adegau y mae'n credu eu bod yn briodol.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, os yw'n credu ei bod yn briodol gwneud hynny, dalu'r grant sy'n daladwy o dan reoliad 23(4) neu reoliad 25(4) i'r awdurdod academaidd perthnasol er mwyn i'r awdurdod dalu'r grant perthnasol ar ran y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Os na all asesiad terfynol o swm y grantiau at gostau byw a chostau eraill neu'r grantiau atodol sy'n daladwy i fyfyriwr gael ei wneud ar sail yr wybodaeth a roddwyd gan y myfyriwr, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud taliadau dros dro o'r grantiau hynny hyd nes y ceir yr asesiad terfynol.
(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, os yw'n credu bod hynny'n briodol, wneud taliad o lwfans i fyfyrwyr anabl cyn dechrau'r flwyddyn academaidd y mae'r taliad hwnnw'n ddyledus mewn perthynas â hi.
(5) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â gwneud taliadau cymorth i fyfyriwr sydd wedi tynnu'n ôl o'r cwrs, wedi rhoi'r gorau iddo neu wedi'i ddiarddel oddi arno ar ôl y dyddiad y mae'r myfyriwr yn tynnu'n ôl o'r cwrs, yn rhoi'r gorau iddo neu'n cael ei ddiarddel oddi arno oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny gan gymryd amgylchiadau achos y myfyriwr i ystyriaeth.
(6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â gwneud taliadau cymorth i fyfyriwr sy'n absennol o'r cwrs—
(a) am fwy na 60 diwrnod oherwydd salwch; neu
(b) am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall,
oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny gan gymryd amgylchiadau achos y myfyriwr i ystyriaeth.
Gordalu
42.
—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill unrhyw ordaliad grant at ffioedd oddi wrth yr awdurdod academaidd.
(2) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd i'r myfyriwr hwnnw o dan Ran 4 sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y cymorth y mae gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael o dan Ran 4.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[12]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Gorffennaf 2006
ATODLEN 1Rheoliad 11
MYFYRWYR CYMWYS
RHAN
1
Dehongli
1.
—(1) At ddibenion yr Atodlen hon—
oni nodir fel arall, ystyr "aelod o'r teulu" ("family member") yw—
(a) mewn perthynas â gweithiwr ffin yr EEA, gweithiwr mudol o'r EEA, person hunangyflogedig ffin yr EEA neu berson hunangyflogedig o'r EEA—
(i) ei briod neu ei bartner sifil;
(ii) ei blentyn ef neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil; neu
(iii) perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol ef neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;
(b) mewn perthynas â pherson cyflogedig o'r Swistir, person cyflogedig ffin y Swistir, person hunangyflogedig ffin y Swistir neu berson hunangyflogedig o'r Swistir—
(i) ei briod neu ei bartner sifil; neu
(ii) ei blentyn ef neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil;
(c) mewn perthynas â gwladolyn o'r GE nad yw'n hunangynhaliol—
(i) ei briod neu ei bartner sifil; neu
(ii) disgynyddion uniongyrchol iddo ef neu i'w briod neu ei bartner sifil sydd—
(aa) o dan 21 oed;
(bb) yn ddibynyddion iddo ef neu i'w briod neu ei bartner sifil;
(ch) mewn perthynas â gwladolyn o'r GE sy'n hunangynhaliol—
(i) ei briod neu ei bartner sifil;
(ii) disgynyddion uniongyrchol iddo ef neu i'w briod neu ei bartner sifil sydd—
(aa) o dan 21 oed; neu
(bb) yn ddibynyddion iddo ef neu i'w briod neu ei bartner sifil;
(iii) perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol ef neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;
(d) mewn perthynas â gwladolyn o'r Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9—
(i) ei briod neu ei bartner sifil; neu
(ii) disgynyddion uniongyrchol iddo ef neu i'w briod neu ei bartner sifil sydd—
(aa) o dan 21 oed; neu
(bb) yn ddibynyddion iddo ef neu i'w briod neu ei bartner sifil;
ystyr "Cyfarwyddeb 2004/38" ("Directive 2004/38") yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 29 Ebrill 2004 ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau eu teuluoedd i symud a phreswylio'n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau;
ystyr "gweithiwr" ("worker") yw gweithiwr o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr EEA, yn ôl fel y digwydd;
mae i "gweithiwr ffin yr EEA" ("EEA frontier worker") yr ystyr a roddir gan is-baragraff (3);
ystyr "gweithiwr mudol o'r EEA" ("EEA migrant worker") yw gwladolyn o'r EEA sydd neu, yn achos gwladolyn o'r EEA sy'n gwneud cais am gymorth ar ôl y dyddiad symud, a oedd yn weithiwr, heblaw gweithiwr ffin yr EEA, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr "gwladolyn o'r Deyrnas Unedig" ("United Kingdom national") yw person sydd i'w drin fel un o wladolion y Deyrnas Unedig at ddibenion Cytuniadau'r Gymuned;
ystyr “gwladolyn o'r EEA ("EEA national") yw gwladolyn o un o Aelod-wladwriaethau'r EEA heblaw'r Deyrnas Unedig;
ystyr "gwladolyn o'r GE" ("EC national") yw gwladolyn o un o Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd;
ystyr "Gwladwriaeth EEA" ("EEA State") yw Aelod-wladwriaeth yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd;
ystyr "hawl i breswylio'n barhaol" ("right of permanent residence") yw hawl sy'n codi o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;
ystyr "person â chaniatâd i ddod i mewn neu aros" ("person with leave to enter or remain") yw person sydd—
(a) wedi cael gwybod gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref y credir ei bod yn gywir caniatáu iddo ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu aros yno, er na fernir bod y person yn gymwys i'w gydnabod fel ffoadur;
(b) wedi cael caniatâd i ddod i mewn neu aros yn unol â hyn; ac
(c) wedi bod yn preswylio fel arfer yn Ynysoedd Prydain drwy gydol y cyfnod ers cael caniatâd i ddod i mewn neu aros;
ystyr "person cyflogedig" ("employed person") yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
mae i "person cyflogedig ffin y Swistir" ("Swiss frontier employed person") yr ystyr a roddir yn is-baragraff (4);
ystyr "person cyflogedig o'r Swistir" ("Swiss employed person") yw gwladolyn o'r Swistir sydd neu, yn achos person sy'n gwneud cais am gymorth ar ôl y dyddiad symud, a oedd yn berson cyflogedig, heblaw person cyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr "person hunangyflogedig" ("self-employed person") yw—
(a) mewn perthynas â gwladolyn o'r EEA, person sy'n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr EEA, yn ôl fel y digwydd; neu
(b) mewn perthynas â gwladolyn o'r Swistir, person sy'n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
mae i "person hunangyflogedig ffin yr EEA" ("EEA frontier self-employed person") yr ystyr a roddir gan is-baragraff (2);
mae i "person hunangyflogedig ffin y Swistir" ("Swiss frontier self-employed person") yr ystyr a roddir yn is-baragraff (5);
ystyr "person hunangyflogedig o'r EEA" ("EEA self-employed person") yw gwladolyn o'r EEA sydd neu, yn achos gwladolyn o'r EEA sydd wedi gwneud cais am gymorth ar ôl y dyddiad symud, a oedd yn berson hunangyflogedig, heblaw person hunangyflogedig ffin yr EEA, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr "person hunangyflogedig o'r Swistir" ("Swiss self-employed person") yw gwladolyn o'r Swistir sydd neu, yn achos person sy'n gwneud cais am gymorth ar ôl y dyddiad symud, a oedd yn berson hunangyflogedig, heblaw person hunangyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr "hunangynhaliol" ("self-sufficient") yw hunangynhaliol o fewn ystyr Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38;
mae i "wedi setlo" yr ystyr a roddir i "settled" gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971[13].
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), ystyr "person hunangyflogedig ffin yr EEA" ("EEA frontier self-employed person") yw gwladolyn o'r EEA sydd—
(a) yn berson hunangyflogedig yng Nghymru; a
(b) yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth un o wladwriaethau'r EEA heblaw'r Deyrnas Unedig ac yn dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y wladwriaeth honno yn yr EEA, yn ôl fel y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos.
(3) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), ystyr "gweithiwr ffin yr EEA" ("EEA frontier worker") yw gwladolyn o'r EEA sydd—
(a) yn weithiwr yng Nghymru; a
(b) yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth un o wladwriaethau'r EEA heblaw'r Deyrnas Unedig ac yn dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y wladwriaeth honno yn yr EEA, yn ôl fel y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos.
(4) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), ystyr "person cyflogedig ffin y Swistir" ("Swiss frontier employed person") yw gwladolyn o'r Swistir sydd—
(a) yn berson cyflogedig yng Nghymru; a
(b) yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth un o wladwriaethau'r EEA heblaw'r Deyrnas Unedig ac yn dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y wladwriaeth honno yn yr EEA, yn ôl fel y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos.
(5) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), ystyr "person hunangyflogedig ffin y Swistir" ("Swiss frontier self-employed person") yw gwladolyn o'r Swistir sydd—
(a) yn berson hunangyflogedig yng Nghymru; a
(b) yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth un o wladwriaethau'r EEA heblaw'r Deyrnas Unedig ac yn dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y wladwriaeth honno yn yr EEA, yn ôl fel y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos.
(6) Os bydd gwladolyn o'r EEA neu wladolyn o'r Swistir yn gwneud cais am gymorth ar ôl y dyddiad symud—
(a) caniateir iddo gael ei drin fel person hunan-gyflogedig ffin yr EEA neu berson hunan-gyflogedig y Swistir, yn ôl fel y digwydd, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni ei fod, yn union cyn y dyddiad symud—
(i) yn berson hunan-gyflogedig yng Nghymru; a
(ii) yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth un o wladwriaethau'r EEA heblaw'r Deyrnas Unedig ac yn dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y wladwriaeth honno yn yr EEA, yn ôl fel y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;
(b) caniateir iddo gael ei drin fel gweithiwr ffin yr EEA neu berson cyflogedig ffin y Swistir, yn ôl fel y digwydd, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni ei fod, yn union cyn y dyddiad symud—
(i) yn weithiwr neu'n berson cyflogedig yng Nghymru; a
(ii) yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth un o wladwriaethau'r EEA heblaw'r Deyrnas Unedig ac yn dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y wladwriaeth honno yn yr EEA, yn ôl fel y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos.
(7) At ddibenion yr Atodlen hon, mae "rhiant" ("parent") yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson sy'n gofalu am blentyn ac mae "plentyn" ("child") i'w ddehongli yn unol â hynny.
(8) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person i'w drin fel pe bai'n preswylio fel arfer yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir pe bai wedi bod yn preswylio felly heblaw am y ffaith—
(a) ei fod ef;
(b) bod ei briod neu ei bartner sifil;
(c) bod ei riant; neu
(ch) yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, bod ei blentyn neu briod neu bartner sifil ei blentyn,
yn cael ei gyflogi neu wedi cael ei gyflogi dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu, yn ôl fel y digwydd, y tu allan i'r diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir.
(9) At ddibenion is-baragraff (8), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig neu'r diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn cynnwys—
(a) yn achos aelodau o lynges, byddin neu lu awyr rheolaidd y Goron, unrhyw gyfnod y maent yn ei dreulio y tu allan i'r Deyrnas Unedig fel aelodau o'r lluoedd hynny; a
(b) yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd un o wladwriaethau'r EEA neu'r Swistir, unrhyw gyfnod y maent yn ei dreulio y tu allan i'r diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir fel aelodau o'r lluoedd hynny.
(10) At ddibenion yr Atodlen hon—
(a) mae ardal—
(i) nad oedd gynt yn rhan o'r Gymuned Ewropeaidd neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd; ond
(ii) sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym wedi dod yn rhan o'r naill neu'r llall o'r ardaloedd hynny neu o'r ddwy,
i'w hystyried fel pe bai bob amser wedi bod yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd;
(b) mae person sy'n sicrhau'r hawl i breswylio'n barhaol ar ôl dechrau blwyddyn gyntaf y cwrs i'w ystyried fel pe bai'r statws hwnnw ganddo ar ddechrau blwyddyn gyntaf y cwrs;
(c) mae person sy'n dod yn blentyn i wladolyn o'r Swistir ar ôl dechrau blwyddyn gyntaf y cwrs i'w ystyried fel pe bai wedi bod yn blentyn o'r fath ar ddechrau blwyddyn gyntaf y cwrs.
RHAN
2
Categorïau
Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig
2.
—(1) Person—
(a) sydd, yn union cyn y dyddiad symud, wedi setlo yn y Deyrnas Unedig heblaw am y rheswm ei fod wedi sicrhau hawl i breswylio'n barhaol;
(b) naill ai—
(i) yn achos person sy'n gwneud cais am gymorth cyn y dyddiad symud, sydd—
(aa) yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad y mae'n gwneud y cais hwnnw; a
(bb) yn bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol y bydd yn preswylio fel arfer yng Nghymru yn union cyn y dyddiad symud; a
(ii) mewn unrhyw achos arall, sy'n bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn preswylio fel arfer yng Nghymru yn union cyn y dyddiad symud;
(c) a oedd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad symud yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd; ac
(ch) nad oedd yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn cael addysg amser-llawn.
(2) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy'n cael ei drin fel pe bai'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(8).
3.
Person—
(a) sydd, yn union cyn y dyddiad symud, wedi setlo yn y Deyrnas Unedig am y rheswm ei fod wedi sicrhau'r hawl i breswylio'n barhaol;
(b) naill ai—
(i) yn achos person sy'n gwneud cais am gymorth cyn y dyddiad symud, sydd—
(aa) fel arfer yn preswylio yng Nghymru ar y dyddiad y mae'n gwneud y cais hwnnw; a
(bb) yn bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol y bydd yn preswylio fel arfer yng Nghymru yn union cyn y dyddiad symud; a
(ii) mewn unrhyw achos arall, sy'n bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn preswylio fel arfer yng Nghymru yn union cyn y dyddiad symud;
(c) a oedd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad symud; ac
(ch) mewn achos lle'r oedd ei breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn cael addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
Ffoaduriaid a phersonau â chaniatâd i ddod i mewn neu aros
4.
Person sydd—
5.
Person sydd—
(a) naill ai—
(i) yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu aros; neu
(ii) yn briod, partner sifil, plentyn neu lys-blentyn i berson â chaniatâd i ddod i mewn neu aros;
(b) naill ai—
(i) yn achos person sy'n gwneud cais am gymorth cyn y dyddiad symud—
(aa) yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad y mae'n gwneud cais am gymorth; a
(bb) yn bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol y bydd yn preswylio fel arfer yng Nghymru yn union cyn y dyddiad symud; neu
(ii) mewn unrhyw achos arall, yn bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn preswylio fel arfer yng Nghymru yn union cyn y dyddiad symud; ac
(c) wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad symud.
Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau eu teuluoedd
6.
—(1) Person—
(a) sydd—
(i) yn weithiwr mudol o'r EEA neu'n berson hunangyflogedig o'r EEA;
(ii) yn berson cyflogedig o'r Swistir neu'n berson hunangyflogedig o'r Swistir;
(iii) yn aelod o deulu person sydd wedi'i grybwyll ym mharagraff (i) neu (ii);
(iv) yn weithiwr ffin EEA neu'n berson hunangyflogedig ffin yr EEA;
(v) yn berson cyflogedig ffin y Swistir neu'n berson hunangyflogedig ffin y Swistir; neu
(vi) yn aelod o deulu person yn (iv) neu (v);
(b) sydd, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2)—
(i) yn achos person sy'n gwneud cais am gymorth cyn y dyddiad symud—
(aa) yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad y mae'n gwneud cais am gymorth; a
(bb) yn bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol y bydd yn preswylio fel arfer yng Nghymru yn union cyn y dyddiad symud; neu
(ii) mewn unrhyw achos arall, yn bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn preswylio fel arfer yng Nghymru yn union cyn y dyddiad symud;
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad symud.
(2) Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys os yw'r person sy'n gwneud cais am gymorth yn syrthio o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).
7.
Person sydd—
(a) naill ai—
(i) yn achos person sy'n gwneud cais am gymorth cyn y dyddiad symud—
(aa) yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad y mae'n gwneud cais am gymorth; a
(bb) yn bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol y bydd yn preswylio fel arfer yng Nghymru yn union cyn y dyddiad symud; neu
(ii) mewn unrhyw achos arall, yn bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn preswylio fel arfer yng Nghymru yn union cyn y dyddiad symud;
(b) wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad symud; ac
(c) a hawlogaeth ganddo i gael cymorth yn rhinwedd erthygl 12 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ar ryddid gweithwyr i symud[14], fel y'i hestynnwyd gan Gytundeb yr EEA.
Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall
8.
—(1) Person—
(a) sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;
(b) a ymadawodd â'r Deyrnas Unedig ac a arferodd hawl i breswylio ar ôl bod wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;
(c) naill ai—
(i) yn achos person sy'n gwneud cais am gymorth cyn y dyddiad symud ac yn ddarostyngedig i baragraff (2)—
(aa) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad y mae'n gwneud cais am gymorth; a
(bb) sy'n bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol y bydd yn preswylio fel arfer yng Nghymru yn union cyn y dyddiad symud; neu
(ii) yn achos person sy'n gwneud cais am gymorth ar ôl y dyddiad symud, sy'n bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn preswylio fel arfer yng Nghymru yn union cyn y dyddiad symud;
(ch) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad symud; a
(d) mewn achos lle'r oedd ei breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (ch) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn cael addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (ch).
(2) At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o'r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu'r dibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr EEA neu Gytundeb y Swistir) neu'n berson sydd â hawl i breswylio'n barhaol ac yntau ym mhob achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr EEA neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth heblaw'r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd â hawl i breswylio'n barhaol, os yw'n mynd i'r wladwriaeth yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir y mae'n wladolyn ohoni neu y mae'r person y mae'n aelod o'i deulu yn wladolyn ohoni.
(3) Caniateir i berson sy'n gwneud cais am gymorth cyn y dyddiad symud ac nad yw'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad y mae'n gwneud cais am gymorth, gael ei drin fel pe bai'n bodloni paragraffau (c)(i)(aa) a (bb) o is-baragraff (1) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni—
(a) nad yw'n preswylio felly am reswm sy'n gysylltiedig ag arfer yr hawl i breswylio y cyfeirir ati ym mharagraff (b) o is-baragraff (1); a
(b) y bydd yn preswylio fel arfer yng Nghymru yn union cyn y dyddiad symud.
Gwladolion o'r GE
9.
—(1) Person—
(a) sydd naill ai—
(i) yn wladolyn o'r GE ar y dyddiad symud; neu
(ii) yn aelod o deulu person o'r fath;
(b) sydd naill ai—
(i) yn achos person sy'n gwneud cais am gymorth cyn y dyddiad symud—
(aa) yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad y mae'n gwneud cais am gymorth; a
(bb) yn bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol y bydd yn preswylio felly yn union cyn y dyddiad symud; neu
(ii) yn achos person sy'n gwneud cais am gymorth ar ôl y dyddiad symud, yn bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn preswylio fel arfer yng Nghymru yn union cyn y dyddiad symud;
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad symud; ac
(ch) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw ei breswylio arferol yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir wedi bod, yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn cael addysg amser-llawn.
(2) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy'n cael ei drin fel pe bai'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn unol â pharagraff 1(8).
(3) Os bydd gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd ar ôl y dyddiad symud a bod person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu gwladolyn o'r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhaid bod yn wladolyn o'r GE ar y dyddiad symud fel pe bai wedi'i fodloni.
10.
—(1) Person—
(a) sy'n wladolyn o'r GE heblaw gwladolyn o'r Deyrnas Unedig ar y dyddiad symud;
(b) sydd naill ai—
(i) yn achos person sy'n gwneud cais am gymorth cyn y dyddiad symud—
(aa) yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad y mae'n gwneud cais am gymorth;
(bb) yn bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol y bydd yn preswylio fel arfer yng Nghymru yn union cyn y dyddiad symud; neu
(ii) mewn unrhyw achos arall, yn bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn preswylio fel arfer yn Lloegr yn union cyn y dyddiad symud;
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn y dyddiad symud; ac
(ch) mewn achos yr oedd ei breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn cael addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(2) Os bydd gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd ar ôl y dyddiad symud a bod person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno, mae'r person yn cael ei drin fel pe bai wedi bodloni'r gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhaid bod yn wladolyn o'r GE heblaw gwladolyn o'r Deyrnas Unedig ar y dyddiad symud.
Plant gwladolion o'r Swistir
11.
Person—
(a) sy'n blentyn i wladolyn o'r Swistir y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth gan y Cynulliad Cenedlaethol yn rhinwedd erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir yn union cyn y dyddiad symud;
(b) sydd naill ai—
(i) yn achos person sy'n gwneud cais am gymorth cyn y dyddiad symud—
(aa) yn preswylio fel arfer yng Nghymru; a
(bb) yn bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol y bydd yn preswylio fel arfer yng Nghymru yn union cyn y dyddiad symud; neu
(ii) mewn unrhyw achos arall, yn bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn preswylio fel arfer yng Nghymru yn union cyn y dyddiad symud;
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch) mewn achos yr oedd ei breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn cael addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
ATODLEN 2Rheoliad 36
CYFRANIAD Y MYFYRIWR
RHAN
1
Dehongli
1.
—(1) Yn yr Atodlen hon—
ystyr "Aelod-wladwriaeth" ("Member State") yw un o Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd;
ystyr "blwyddyn ariannol" ("financial year") yw'r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm person y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau Rhan 2 o'r Atodlen hon yn cael ei gyfrifo mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy'n gymwys iddo;
ystyr "blwyddyn ariannol flaenorol" ("preceding financial year") yw'r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol;
ystyr "blwyddyn berthnasol" ("relevant year") yw'r flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i'w asesu mewn perthynas â hi;
mae i "Gwladwriaeth EEA" ("EEA State") yr ystyr a roddir gan baragraff 1 o Ran 1 o Atodlen 1;
mae i "incwm aelwyd", "incwm yr aelwyd" ac "incwm sydd gan yr aelwyd", ("household income") yr ystyr a roddir ym mharagraff 2;
ystyr "incwm gweddilliol" ("residual income") yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff 3 (yn achos myfyriwr), paragraff 4 (yn achos rhiant myfyriwr yng Ngholeg Ewrop), paragraff 5 (yn achos partner myfyriwr) a pharagraff 6 (yn achos partner rhiant myfyriwr yng Ngholeg Ewrop);
ystyr "incwm trethadwy" ("taxable income"), mewn perthynas â pharagraff 3, mewn perthynas â blwyddyn academaidd y mae cais wedi'i wneud ar ei chyfer o dan reoliad 15 ac, mewn perthynas â pharagraff 4, mewn perthynas (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3), (4) a (5) o baragraff 4) â'r flwyddyn ariannol flaenorol, yw incwm trethadwy person o bob ffynhonnell wedi'i gyfrifo at ddibenion—
(a) y Deddfau Treth Incwm;
(b) deddfwriaeth treth incwm Aelod— wladwriaeth EEA arall neu'r Swistir sy'n gymwys i incwm y person;
(c) os yw deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth EEA neu ddeddfwriaeth Aelod-wladwriaeth EEA a'r Swistir yn gymwys i'r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu y bydd y person yn talu'r swm mwyaf o dreth odani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 4);
ystyr "myfyriwr" ("student") yw myfyriwr yng Ngholeg Ewrop neu fyfyriwr yn y Sefydliad yn ôl fel y digwydd;
mae i "myfyriwr annibynnol cymwys" ("independent eligible student") yr ystyr a roddir yn is-baragraff (2);
ystyr "myfyriwr newydd" ("new student") yw myfyriwr yng Ngholeg Ewrop sy'n dechrau ar gwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2004;
ystyr "myfyriwr presennol" ("existing student") yw myfyriwr yng Ngholeg Ewrop nad yw'n fyfyriwr cymwys newydd;
ystyr "myfyriwr sy'n rhiant" ("parent student") yw myfyriwr yng Ngholeg Ewrop sy'n rhiant i fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop;
ystyr "partner" ("partner") mewn perthynas â myfyriwr yw unrhyw un o'r canlynol—
(i) priod y myfyriwr;
(ii) partner sifil y myfyriwr;
(iii) person sydd fel arfer yn byw gyda'r myfyriwr fel pe bai'n briod i'r myfyriwr os yw'r myfyriwr yn syrthio o fewn paragraff 2(a) a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;
(iv) person sydd fel arfer yn byw gyda'r myfyriwr fel pe bai'n bartner sifil i'r myfyriwr os yw'r myfyriwr yn syrthio o fewn paragraff 2(a) a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
ystyr "partner" ("partner") mewn perthynas â rhiant myfyriwr yng Ngholeg Ewrop yw unrhyw un o'r canlynol heblaw rhiant arall i'r myfyriwr yng Ngholeg Ewrop—
(a) priod rhiant y myfyriwr yng Ngholeg Ewrop;
(b) partner sifil rhiant y myfyriwr yng Ngholeg Ewrop;
(c) person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant y myfyriwr yng Ngholeg Ewrop fel pe bai'n briod i'r rhiant;
(ch) person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant y myfyriwr yng Ngholeg Ewrop fel pe bai'n bartner sifil i'r rhiant;
ystyr "rhiant" ("parent") yw rhiant naturiol neu fabwysiadol ac mae "plentyn" ("child"), "mam" ("mother") a "tad" ("father") i'w dehongli yn unol â hynny.
(2) "Myfyriwr cymwys annibynnol" ("independent eligible student") yw myfyriwr yng Ngholeg Ewrop—
(a) lle'r oedd y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu o dan Reoliadau 2000 a chyn y dyddiad perthnasol, ei fod yn fyfyriwr cymwys annibynnol;
(b) lle mae'n 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol;
(c) lle mae'n briod neu mewn partneriaeth sifil cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol, p'un a yw'r briodas neu'r bartneriaeth sifil yn dal yn bod neu beidio;
(ch) lle nad oes ganddo riant yn fyw;
(d) lle mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni na ellir dod o hyd i'r naill neu'r llall o rieni'r myfyriwr neu nad yw'n rhesymol ymarferol cysylltu â'r naill na'r llall ohonynt;
(dd) lle nad yw'r myfyriwr wedi cyfathrebu â'r naill na'r llall o'i rieni am gyfnod o flwyddyn cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol neu lle y gall y myfyriwr, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, ddangos ar seiliau eraill ei fod wedi ymddieithrio oddi wrth ei rieni mewn ffordd lle nad oes modd cymodi;
(e) lle mae'r myfyriwr, yn unol â gorchymyn gan lys cymwys, wedi bod o dan warchodaeth neu ofal unrhyw berson cyfreithiol nad yw'n rhiant i'r myfyriwr neu wedi cael llety gan berson o'r fath drwy gydol unrhyw gyfnod o dri mis sy'n diweddu ar neu ar ôl y dyddiad y daw'n 16 oed a chyn diwrnod cyntaf y cwrs ("y cyfnod perthnasol") (ar yr amod nad yw'r myfyriwr wedi bod o dan awdurdod neu reolaeth ei rieni mewn gwirionedd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol);
(f) lle mae ei rieni'n preswylio y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd a bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni naill ai—
(i) y byddai asesu incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at eu hincwm gweddilliol yn gosod y rhieni hynny mewn perygl; neu
(ii) na fyddai'n rhesymol ymarferol i'r rhieni hynny anfon unrhyw arian perthnasol i'r Deyrnas Unedig o ganlyniad i gyfrifo unrhyw gyfraniad o dan baragraff 7;
(g) lle mae paragraff 4(9) yn gymwys a lle mae'r rhiant y barnodd y Cynulliad Cenedlaethol mai'r rhiant hwnnw oedd y mwyaf priodol at ddibenion y paragraff hwnnw wedi marw (ni waeth a oedd gan y rhiant o dan sylw bartner neu beidio);
(ng) lle mae'n aelod o urdd grefyddol sy'n preswylio yn un o dai'r urdd honno;
(h) lle mae ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol yn gofalu am berson o dan 18 oed;
(i) lle mae'r myfyriwr wedi'i gynnal ei hun o'i enillion am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy'n diweddu cyn blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod cyfanswm y cyfnodau hynny gyda'i gilydd heb fod yn llai na thair blynedd, a bod y myfyriwr at ddibenion y paragraff hwn i gael ei drin fel pe bai'n ei gynnal ei hun o'i enillion yn ystod unrhyw gyfnod—
(i) pan oedd yn cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi'r di-waith o dan unrhyw gynllun a oedd yn cael ei weithredu, ei noddi neu ei ariannu gan unrhyw un o awdurdodau neu asiantaethau'r wladwriaeth, boed cenedlaethol, rhanbarthol neu leol ("awdurdod perthnasol");
(ii) pan oedd yn cael budd-dal sy'n daladwy gan unrhyw awdurdod perthnasol mewn perthynas â pherson sydd ar gael i'w gyflogi ond sy'n ddi-waith;
(iii) pan oedd ar gael i'w gyflogi a'i fod wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad ynglŷn â chofrestru a osodwyd gan awdurdod perthnasol fel un o amodau'r hawlogaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi neu ar gyfer derbyn budd-daliadau;
(iv) pan oedd ganddo Efrydiaeth Gwladwriaeth neu ddyfarniad tebyg; neu
(v) pan oedd y myfyriwr yn cael unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a oedd yn cael ei dalu gan unrhyw berson oherwydd anabledd sydd ganddo, neu oherwydd cyfyngder, anaf neu salwch.
(3) Mae unrhyw fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop sydd â hawl fel myfyriwr cymwys annibynnol o dan is-baragraff (2)(h) mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yn cadw'r statws hwnnw drwy gydol y cyfnod cymhwystra.
RHAN
2
Cyfrifo'r cyfraniad
Incwm yr aelwyd
2.
—(1) Mae swm cyfraniad myfyriwr yng Ngholeg Ewrop neu fyfyriwr yn y Sefydliad yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.
(2) Incwm yr aelwyd yw'r canlynol—
(a) yn achos myfyriwr yng Ngholeg Ewrop nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys wedi'i agregu gydag incwm gweddilliol rhieni'r myfyriwr yng Ngholeg Ewrop (yn ddarostyngedig i baragraff 4(9)) ac—
(i) yn achos myfyriwr newydd yng Ngholeg Ewrop a ddechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2005, incwm gweddilliol partner (heblaw person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil i'r rhiant) rhiant y myfyriwr ar yr amod bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 4(9); neu
(ii) yn achos myfyriwr newydd yng Ngholeg Ewrop a ddechreuodd y cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2005, incwm gweddilliol partner rhiant y myfyriwr (ar yr amod bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 4(9));
(b) yn achos y canlynol—
(i) myfyriwr cymwys annibynnol y mae ganddo bartner, neu
(ii) myfyriwr yn y Sefydliad y mae ganddo bartner,
incwm gweddilliol y myfyriwr wedi'i agregu gydag incwm gweddilliol partner y myfyriwr hwnnw (yn ddarostyngedig i is-baragraff (5)); neu
(c) yn achos y canlynol—
(i) myfyriwr cymwys annibynnol nad oes ganddo bartner; neu
(ii) myfyriwr yn y Sefydliad nad oes ganddo bartner,
incwm gweddilliol y myfyriwr hwnnw.
(3) Wrth bennu incwm yr aelwyd, mae swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (4) i'w ddidynnu—
(a) yn achos myfyriwr yng Ngholeg Ewrop—
(i) am bob plentyn sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar y myfyriwr neu bartner y myfyriwr; neu
(ii) am bob plentyn heblaw'r myfyriwr yng Ngholeg Ewrop sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar riant y myfyriwr yng Ngholeg Ewrop neu bartner rhiant y myfyriwr yng Ngholeg Ewrop y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gymryd i ystyriaeth; a
(b) yn achos myfyriwr yn y Sefydliad am bob plentyn sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar y myfyriwr neu bartner y myfyriwr.
(4) Y swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (3) yw—
(a) mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol, £1,025; a
(b) mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd arall, £1,050.
(5) Er mwyn cyfrifo'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr sy'n rhiant, nid yw incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy'n rhiant i gael ei agregu o dan is-baragraff (2)(b) yn achos myfyriwr sy'n rhiant y mae gan ei blentyn ddyfarniad neu y mae gan blentyn ei bartner ddyfarniad—
(a) y mae incwm yr aelwyd yn cael ei gyfrifo mewn perthynas ag ef gan gyfeirio at incwm gweddilliol y myfyriwr sy'n rhiant neu incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy'n rhiant neu'r ddau; neu
(b) y mae cyfraniad rhieni yn gymwys mewn perthynas ag ef fel arall gan gyfeirio at y myfyriwr sy'n rhiant neu ei bartner.
Cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr
3.
—(1) Er mwyn pennu incwm gweddilliol myfyriwr, didynnir o'i incwm trethadwy (oni bai ei fod wedi'i ddidynnu eisoes wrth bennu'r incwm trethadwy) gyfanswm unrhyw symiau sy'n syrthio o fewn unrhyw un o'r is-baragraffau canlynol—
(a) unrhyw dâl am waith a wnaed yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs y myfyriwr, ar yr amod nad yw'r tâl hwnnw'n cynnwys unrhyw symiau a dalwyd mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pan oedd ganddo ganiatâd i fod yn absennol neu pan oedd wedi'i ryddhau o'i ddyletswyddau arferol er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw;
(b) swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a dalwyd gan y myfyriwr mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273, 619 neu 639 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988[15], neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004[16], neu os yw incwm y myfyriwr yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os oedd y ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm.
(2) Os yw'r myfyriwr yn cael incwm mewn arian cyfredol heblaw sterling, gwerth yr incwm hwnnw at ddibenion y paragraff hwn yw—
(a) os yw'r myfyriwr yn prynu sterling â'r incwm, swm y sterling a gaiff y myfyriwr fel hyn; neu
(b) fel arall, gwerth y sterling y byddai'r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio'r gyfradd a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol[17] ar gyfer y mis y ceir yr incwm ynddo.
Cyfrifo incwm gweddilliol y rhiant
4.
—(1) Er mwyn pennu incwm trethadwy rhiant myfyriwr, ni wneir unrhyw ddidyniadau y disgwylid eu gwneud ac ni chaniateir unrhyw esemptiadau a ganiateid—
(a) ar ffurf y rhyddhad personol y darperir ar ei gyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu, os yw'r incwm yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth EEA arall neu'r Swistir, swm gros unrhyw bremiwm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os oedd y ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm;
(b) yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol nad yw taliadau a fyddai fel arall yn cael eu trin o dan gyfraith y Deyrnas Unedig fel rhan o incwm y person yn cael eu trin felly yn unol â hwy; neu
(c) o dan is-baragraff (2).
(2) Er mwyn pennu incwm gweddilliol rhiant, didynnir o'r incwm trethadwy a bennir o dan is-baragraff (1) gyfanswm unrhyw symiau sy'n syrthio o fewn unrhyw rai o'r is-baragraffau canlynol—
(a) swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a dalwyd gan y myfyriwr sy'n ymwneud â phensiwn (nad yw'n bremiwm sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273, 619 neu 639 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu o dan adran 188 o'r Ddeddf Cyllid, neu os yw incwm y myfyriwr yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth EEA arall neu'r Swistir, swm gros unrhyw bremiwm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os oedd y ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm;
(b) mewn unrhyw achos lle mae incwm yn cael ei gyfrifo yn unol ag is-baragraff (6) unrhyw symiau sy'n cyfateb i'r didyniad a grybwyllwyd yn is-baragraff (a), ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir fel hyn yn fwy na'r didyniadau a fyddai'n cael eu gwneud pe bai'r cyfan o incwm rhiant y myfyriwr mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm; ac
(c) yn achos myfyriwr sy'n rhiant neu riant myfyriwr y mae ganddo ddyfarniad statudol—
(i) os yw'r myfyriwr yn hen fyfyriwr neu'n hen fyfyriwr Cyfarwyddeb sy'n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hen flwyddyn academaidd, £1,025; a
(ii) mewn unrhyw achos arall, £1,050.
(3) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod incwm y rhiant yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol ("y flwyddyn ariannol gyfredol"), o ganlyniad i ryw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y rhiant, yn debyg o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol, fe gaiff y Cynulliad Cenedlaethol, er mwyn galluogi'r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ddarganfod incwm yr aelwyd am y flwyddyn ariannol gyfredol.
(4) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod incwm y rhiant mewn unrhyw flwyddyn ariannol, o ganlyniad i ryw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y rhiant, yn debyg o beidio â bod ac o barhau ar ôl y flwyddyn honno i beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol, fe gaiff y Cynulliad Cenedlaethol, er mwyn galluogi'r myfyriwr i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ddarganfod incwm yr aelwyd am flwyddyn academaidd cwrs y myfyriwr y digwyddodd y digwyddiad hwnnw ynddi drwy gymryd cyfartaledd incwm gweddilliol y rhiant am bob un o'r blynyddoedd ariannol y mae'r flwyddyn academaidd honno'n syrthio ynddynt fel ei incwm gweddilliol.
(5) Os yw rhiant y myfyriwr yn bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol fod ei incwm yn deillio'n gyfan gwbl neu'n bennaf o elw busnes neu broffesiwn y mae'n ei gynnal, yna mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon o'r Atodlen at flwyddyn ariannol flaenorol i'w ddarllen fel cyfeiriad at y cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy'n diweddu ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol flaenorol y mae cyfrifon yn cael eu cadw mewn perthynas ag ef sy'n ymwneud â'r busnes neu'r proffesiwn hwnnw.
(6) Os yw rhiant myfyriwr yn derbyn unrhyw incwm nad yw'n ffurfio rhan o incwm y rhiant hwnnw at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth EEA arall neu'r Swistir dim ond am y rheswm—
(a) nad yw'r rhiant yn preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu, os yw ei incwm yn cael ei gyfrifo fel petai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth EEA arall neu'r Swistir, os nad yw'n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu felly yn yr Aelod-wladwriaeth honno neu'r Swistir;
(b) nad yw'r incwm yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu os yw incwm y rhiant yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth EEA arall neu'r Swistir, nad yw'n codi yn yr Aelod-wladwriaeth EEA honno neu'r Swistir; neu
(c) bod yr incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae'r incwm ohonynt yn esempt rhag treth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,
mae ei incwm trethadwy at ddibenion yr Atodlen hon i'w gyfrifo fel pe bai'r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth EEA arall neu'r Swistir, yn ôl fel y digwydd.
(7) Os yw incwm rhiant y myfyriwr yn cael ei gyfrifo fel petai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth EEA arall neu'r Swistir, mae i'w gyfrifo o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon yn arian cyfredol yr Aelod-wladwriaeth EEA honno neu'r Swistir, ac incwm rhiant y myfyriwr at ddibenion yr Atodlen hon yw gwerth sterling yr incwm hwnnw wedi'i bennu yn unol â'r gyfradd ar gyfer y mis y mae diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw yn syrthio ynddo, fel y'i cyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
(8) Os yw un o rieni'r myfyriwr yn marw naill ai cyn neu yn ystod y flwyddyn berthnasol a bod incwm y rhiant hwnnw wedi'i gymryd i ystyriaeth er mwyn pennu incwm yr aelwyd neu y byddai wedi'i gymryd i ystyriaeth felly, yna—
(a) os yw'r rhiant yn marw cyn y flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd i'w bennu drwy gyfeirio at incwm y rhiant sydd wedi goroesi; neu
(b) os yw'r rhiant yn marw yn ystod y flwyddyn berthnasol, cymerir mai cyfanswm y canlynol yw incwm yr aelwyd—
(i) y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir drwy gyfeirio at incwm y ddau riant, sef y gyfran mewn perthynas â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol pan oedd y ddau riant yn fyw; a
(ii) y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir dryw gyfeirio at incwm y rhiant sydd wedi goroesi, sef y gyfran mewn perthynas â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol sy'n weddill ar ôl i'r rhiant arall farw.
(9) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu bod y rhieni wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd i'w bennu drwy gyfeirio at incwm p'un bynnag o'r rhieni y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu mai ef yw'r mwyaf priodol o dan yr amgylchiadau.
(10) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu bod y rhieni wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd yn cael ei bennu drwy gyfeirio at gyfanswm y canlynol—
(a) y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir yn unol ag is-baragraff (9), sef y gyfran mewn perthynas â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol pan oedd y rhieni wedi gwahanu; a
(b) y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir fel arall mewn perthynas â gweddill y flwyddyn berthnasol.
Cyfrifo incwm gweddilliol partner y myfyriwr
5.
—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2), (3) a (4) o'r paragraff hwn a chan eithrio is-baragraffau (8), (9) a (10) o baragraff 4, mae incwm partner myfyriwr i'w bennu yn unol â pharagraff 4, gan ddehongli cyfeiriadau at y rhiant fel pe baent yn gyfeiriadau at bartner y myfyriwr.
(2) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu bod y myfyriwr a'i bartner wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn berthnasol, nid yw incwm y partner yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth bennu incwm yr aelwyd.
(3) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu bod y myfyriwr a'i bartner wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, mae incwm y partner yn cael ei bennu drwy gyfeirio at ei incwm o dan is-baragraff (1) wedi'i rannu â hanner cant a dau ac wedi'u luosi â'r nifer o wythnosau cyflawn yn y flwyddyn berthnasol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu nad oedd y myfyriwr a'i bartner wedi gwahanu.
(4) Os oes gan fyfyriwr fwy nag un partner mewn unrhyw un flwyddyn academaidd, mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob un.
Cyfrifo incwm gweddilliol partner rhiant
6.
Mae incwm partner rhiant myfyriwr newydd y mae ei incwm yn rhan o incwm yr aelwyd yn rhinwedd paragraff 2(2)(a) yn cael ei bennu yn unol â pharagraff 5, gan ddehongli cyfeiriadau at bartner y myfyriwr fel pe baent yn gyfeiriadau at bartner rhiant y myfyriwr newydd, a chan ddehongli cyfeiriadau at y myfyriwr fel pe baent yn gyfeiriadau at riant y myfyriwr.
Cyfrifo'r cyfraniad
7.
—(1) Mae cyfraniad myfyriwr i'w gyfrifo yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) O ran myfyriwr yng Ngholeg Ewrop nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol, myfyriwr yng Ngholeg Ewrop sy'n fyfyriwr cymwys annibynnol ac y mae ganddo bartner a myfyriwr yn y Sefydliad y mae ganddo bartner, y cyfraniad yw—
(3) O ran myfyriwr yng Ngholeg Ewrop sy'n fyfyriwr cymwys annibynnol nad oes ganddo bartner a myfyriwr yn y Sefydliad nad oes ganddo bartner, y cyfraniad yw—
(4) Rhaid i swm y cyfraniad beidio â bod yn fwy na'r canlynol—
(a) os yw'r cyfraniad yn cael ei gyfrifo o dan is-baragraff (2)(a) neu (3)(a), £7,250; a
(b) os yw'r cyfraniad yn daladwy o dan is-baragraff (2)(b) neu (3)(b), £7,430.
(5) Os yw is-baragraff (6) yn gymwys, rhaid i gyfanswm y cyfraniadau sy'n cael eu cyfrifo—
(a) o dan is-baragraff (2)(a) neu (3)(a), beidio â bod yn fwy na'r canlynol—
(i) £7,250; neu
(ii) y cyfraniad a fyddai'n daladwy pe bai dyfarniad gan un myfyriwr yn unig.
(b) o dan baragraff (2)(b) neu (3)(b), beidio â bod yn fwy na'r canlynol—
(i) £7,430; neu
(ii) y cyfraniad a fyddai'n daladwy pe bai dyfarniad gan un myfyriwr yn unig.
(6) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys os yw incwm yr aelwyd wedi'i ffurfio o incwm gweddilliol—
(a) dau neu fwy o fyfyrwyr yng Ngholeg Ewrop mewn perthynas â'r un incwm o dan baragraff 4 neu, os yw incwm gweddilliol partner y rhiant perthnasol yn cael ei gymryd i ystyriaeth, o dan baragraffau 4 a 6; neu
(b) myfyriwr cymwys annibynnol a'i bartner os oes gan y ddau ddyfarniad statudol.
Rhannu cyfraniadau
8.
—(1) Os oes cyfraniad yn daladwy o dan baragraff 7 uchod a bod un neu fwy o'r amodau yn is-baragraff (2) wedi'u bodloni, swm y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr yng Ngholeg Ewrop fydd y swm y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei fod yn gyfiawn ar ôl cymryd i ystyriaeth—
(a) sut mae paragraff 7 o'r Rhan hon o'r Atodlen yn cael ei gymhwyso at fyfyrwyr newydd yng Ngholeg Ewrop a myfyrwyr presennol ill dau; a
(b) amgylchiadau penodol y myfyriwr yng Ngholeg Ewrop.
(2) Yr amodau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) uchod yw—
(a) bod gan fwy nag un o blant rhieni'r myfyriwr yng Ngholeg Ewrop ddyfarniad statudol;
(b) bod gan riant y myfyriwr yng Ngholeg Ewrop ddyfarniad statudol;
(c) bod gan bartner rhiant y myfyriwr yng Ngholeg Ewrop ddyfarniad statudol;
(ch) bod gan bartner y myfyriwr yng Ngholeg Ewrop ddyfarniad statudol.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth i fyfyrwyr a fydd yn cymryd cyrsiau addysg uwch dynodedig yng Nghanolfan Bologna, Coleg Ewrop neu Sefydliad Prifysgol Ewrop ("Sefydliadau Ewropeaidd") mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006. Maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
Yn ychwanegol, mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaethau trosiannol penodol (rheoliadau 7 i 10) mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ond cyn 1 Medi 2006.
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Sefydliadau Ewropeaidd) 2000. Mae Rheoliad 5 yn nodi hyd a lled y dirymu.
Mae Rhan 1 o'r Rheoliadau hyn yn nodi diffiniadau perthnasol, yn ogystal â darpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed.
Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn nodi'r amodau y mae'n rhaid i fyfyriwr eu bodloni er mwyn bod â hawl i gael cymorth mewn cysylltiad â chwrs a ddarperir gan Sefydliad Ewropeaidd. Mae'r Rhan hon hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo rhwng cyrsiau a ddarperir gan Sefydliad Ewropeaidd.
Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn yn ymdrin â'r terfynau amser a'r weithdrefn ar gyfer gwneud cais am gymorth a rhoi gwybodaeth mewn cysylltiad â chais.
Mae Rhan 4 o'r Rheoliadau hyn yn nodi'r amrywiol fathau o grantiau sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n bresennol ar gyrsiau mewn Sefydliad Ewropeaidd a'r amodau y mae'n rhaid i fyfyriwr eu bodloni er mwyn bod â hawl i'w cael. Mae darpariaethau gwahanol yn cael eu gwneud yn unol â pha Sefydliad Ewropeaidd y mae'r myfyriwr yn astudio ynddo.
Mae Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn yn ymdrin â chyfrifo a chymhwyso cyfraniad ariannol gan y myfyriwr yn achos myfyrwyr yng Ngholeg Ewrop ac yn Sefydliad Prifysgol Ewrop.
Mae Rhan 6 o'r Rheoliadau hyn yn ymdrin â thalu cymorth ac adennill gordaliadau.
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith ddarpariaethau Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 29 Ebrill 2004 (OJ L158, 30.04.2004, t.77-123) ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau eu teuluoedd i symud a phreswylio'n rhydd yn nhiriogaeth yr aelod-wladwriaethau i'r graddau y mae'r Gyfarwyddeb yn cyfeirio at gymorth i fyfyrwyr. Bydd gan gategorïau penodol o berson nad oedd ganddynt hawl gynt i gael cymorth mewn cysylltiad â chyrsiau a ddarperir gan y Sefydliadau Ewropeaidd hawl o ganlyniad i'r Gyfarwyddeb. I fod â hawl i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i fyfyriwr syrthio o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1. Mae Atodlen 1 yn cynnwys y categorïau o berson y mae ganddynt hawl i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â chyrsiau a ddarperir gan y Sefydliadau Ewropeaidd o ganlyniad i'r Gyfarwyddeb. Mae copi o'r Nodyn Trawsosod mewn perthynas â rhoi'r Gyfarwyddeb ar waith i'r graddau y mae'n ymwneud â chymorth mewn cysylltiad â chyrsiau a ddarperir gan y Sefydliadau Ewropeaidd ar gael ar wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus
www.opsi.gov.uk. Mae copi wedi'i osod yn llyfrgelloedd dau Dŷ'r Senedd.
Notes:
[1]
1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11; Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6; Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7. Mewn perthynas â Chymru, cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c), (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22.back
[2]
1962 p.12; amnewidiwyd adrannau 1 i 4 ac Atodlen 1 gan y darpariaethau a nodwyd yn Atodlen 5 i Ddeddf Addysg 1980 (p.20). Diwygiwyd adran 1(3)(d) gan Ddeddf Addysg (Grantiau a Dyfarniadau) 1984 (p.11), adran 4. Diwygiwyd adran 4 gan Ddeddf Addysg 1994 (p.30), Atodlen 2, paragraff 2. Cafodd y Ddeddf gyfan ei diddymu gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30), adran 44(2) ac Atodlen 4, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion a nodwyd yng Ngorchymyn Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) 1998 (O.S. 1998/3237), erthygl 3.back
[3]
Cmnd. 9171.back
[4]
Cmnd. 3906 (allan o brint; mae llungopïau ar gael, am ddim, oddi wrth yr Adran Cymorth i Fyfyrwyr, Yr Adran Addysg a Sgiliau, Mowden Hall, Staindrop Road, Darlington DL3 9BG).back
[5]
O.S. 2000/2197, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/563 ac O.S. 2001/2892.back
[6]
Mewn perthynas â Chymru, cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c), (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22: gweler Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) 2004, O.S. 2004/1833 (Cy.149).back
[7]
O.S. 2001/563.back
[8]
O.S. 2001/2892.back
[9]
1992 p. 4.back
[10]
2002 p. 38.back
[11]
1989 p. 41. Diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Plant 2004 (p. 31), adran 49(3).back
[12]
1998 p.38.back
[13]
1971 p.77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p. 61).back
[14]
OJ Rhif L257, 19.10.1968, t2 (OJ/SE 1968 (II) t475).back
[15]
1988 p. 1.back
[16]
2004 p. 12.back
[17]
"Financial Statistics" (ISSN 0015-203X).back
English version
ISBN
0 11 091384 1
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
13 July 2006
|