Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006 Rhif 1226 (Cy.117)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061226w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 1226 (Cy.117)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
2 Mai 2006 | |
|
Yn dod i rym |
3 Mai 2006 | |
CYNNWYS
RHAN 1
Darpariaethau cyffredinol
RHAN 2
Cyflwyno Atodlenni
RHAN 3
Gweinyddu a gorfodi
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud y Rheoliadau canlynol o dan y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[
1].
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael ei ddynodi[
2] at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â mesurau ym meysydd milfeddygol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd.
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cynnal yr ymgynghori sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu'r Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau mewn perthynas â diogelwch bwyd[
3].
RHAN 1
Darpariaethau cyffredinol
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.
Yr enw ar y Rheoliadau hyn fydd Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006, maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 3 Mai 2006.
Dehongli
2.
—(1) Yn y Rheoliadau hyn–
ystyr "anifail buchol" ("bovine animal") yw gwartheg yn cynnwys buail a byfflo (gan gynnwys byfflos dwr);
ystyr "arolygydd" ("inspector") yw arolygydd a benodwyd o dan reoliad 16, ac ystyr "arolygydd milfeddygol" ("veterinary inspector") yw milfeddyg a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn arolygydd;
ystyr "awdurdod lleol" ("local authority") yw cyngor unrhyw sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr "BSE" ("BSE") yw enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy;
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "lladd-dy" ("slaughterhouse") a (ac eithrio yn Atodlen 6, paragraff 10(2)(c)) "safle torri" ("cutting plant") yw adeilad–
(a) sydd wedi'i gymeradwyo neu ei gymeradwyo'n amodol gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd o dan Erthygl 31(2) o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â rheolau swyddogol a wnaed i sicrhau bod cydymffurfio gyda chyfraith bwydydd a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid yn cael ei ddilysu[5]; neu
(b) sy'n gweithredu fel y cyfryw o dan Erthygl 4(5) o Reoliad (EC) Rhif 853/2004 o Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid[6]hyd nes y ceir cymeradwyaeth o'r fath;
ystyr "Rheoliad TSE y Gymuned" ("Community TSE Regulation") yw Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a dileu rhai mathau o enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy[7], fel y'i diwygiwyd gan, ac fel y'i darllenwyd gyda'r offerynnau sydd wedi eu nodi yn Atodlen 1; ac
ystyr "TSE" ("TSE") yw ensepalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy.
(2) Mae gan ymadroddion nad ydynt wedi eu diffinio yn y Rheoliadau hyn ac sydd yn ymddangos yn Rheoliad TSE y Gymuned yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd ganddynt at ddibenion Rheoliad TSE y Gymuned.
Penodi awdurdod cymwys
3.
Y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad TSE y Gymuned ac eithrio pan nodir yn wahanol yn y Rheoliadau hyn.
Eithriadau ar gyfer ymchwil
4.
—(1) Nid yw'r darpariaethau yn Atodlenni 2 i 6 yn gymwys o ran anifeiliaid a gedwir at ddibenion ymchwil mewn safleoedd sydd wedi'u cymeradwyo at y pwrpas hwnnw o dan y rheoliad hwn gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Os bydd buwch, dafad neu afr a gedwir mewn safle ymchwil sydd wedi'i gymeradwyo neu os bydd ei epil yn marw neu'n cael ei ladd, rhaid i'r meddiannydd ei waredu fel sgil-gynnyrch anifeiliaid Categori 1 yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd am sgil-gynhyrchion anifeiliaid nad ydynt wedi eu bwriadu i'w bwyta gan bobl[8], ac mae peidio â gwneud hyn yn drosedd.
RHAN 2
Cyflwyno Atodlenni
Monitro TSE
5.
Mae Atodlen 2 (monitro TSE) yn effeithiol.
Rheoli a dileu TSE mewn gwartheg
6.
Mae Atodlen 3 (rheoli a dileu TSE mewn gwartheg) yn effeithiol.
Rheoli a dileu TSE mewn defaid a geifr
7.
Mae Atodlen 4 (rheoli a dileu TSE mewn defaid a geifr) yn effeithiol.
Bwydydd anifeiliaid
8.
Mae Atodlen 5 (bwydydd anifeiliaid) yn effeithiol.
Deunydd risg penodedig, cig sydd wedi ei adennill trwy ddulliau mecanyddol a dulliau cigydda a chyfyngiadau ar anfon i Aelod-wladwriaethau eraill ac i drydydd gwledydd.
9.
Mae Atodlen 6 (deunydd risg penodedig, cig sydd wedi ei adennill trwy ddulliau mecanyddol a dulliau cigydda) ac Atodlen 7 (cyfyngiadau ar anfon i Aelod- wladwriaethau eraill ac i drydydd gwledydd) yn effeithiol.
RHAN 3
Gweinyddu a gorfodi
Cymeradwyo, awdurdodi, trwyddedu a chofrestru
10.
—(1) Mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi cymeradwyaeth, awdurdod, trwydded neu gofrestriad o dan y Rheoliadau hyn os yw'n fodlon y cydymffurfir â darpariaethau Rheoliad TSE y Gymuned a'r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i hyn fod yn ysgrifenedig, a rhaid nodi–
(a) cyfeiriad y safle;
(b) enw'r meddiannydd; a'r
(c) diben y mae'n cael ei ganiatáu ar ei gyfer.
(3) Gall fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau sydd eu hangen er mwyn–
(a) sicrhau y cydymffurfir â darpariaethau Rheoliad TSE y Gymuned a'r Rheoliadau hyn; neu
(b) amddiffyn iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid.
(4) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gwrthod rhoi cymeradwyaeth, awdurdod, trwydded neu gofrestriad, neu'n rhoi un ohonynt yn ddarostyngedig i amodau, mae'n rhaid iddo–
(a) roi ei resymau mewn ysgrifen; ac
(b) egluro hawl yr ymgeisydd i wneud sylwadau ysgrifenedig i berson a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(5) Yna mae'r weithdrefn apelio yn rheoliad 14 yn gymwys.
Dyletswydd y meddiannydd
11.
Mae meddiannydd unrhyw safle sydd wedi cael cymeradwyaeth, caniatâd, trwydded neu gofrestriad o dan y Rheoliadau hyn yn troseddu os nad yw ef neu hi yn sicrhau bod–
Atal a diwygio
12.
—(1) Gall y Cynulliad Cenedlaethol atal neu ddiwygio'r gymeradwyaeth, awdurdod, trwydded neu gofrestriad a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn os–
(2) Rhaid i atal neu ddiwygiad–
(3) Rhaid i hysbysiad am atal neu ddiwygio–
(4) Yna mae'r weithdrefn apelio yn rheoliad 14 yn gymwys.
(5) Os na fydd yr atal neu'r diwygio yn effeithiol ar unwaith ac y gwneir sylwadau o dan reoliad 14, ni chaiff fod yn effeithiol tan benderfyniad terfynol y Cynulliad Cenedlaethol oni bai fod y Cynulliad yn ystyried bod rhaid i'r atal neu'r diwygio fod yn effeithiol cyn hynny er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid.
Dirymu caniatâd, etc.
13.
—(1) Gall y Cynulliad Cenedlaethol ddirymu cymeradwyaeth, awdurdod, trwydded neu gofrestriad a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn os yw wedi'i fodloni na fydd y safle yn cael ei redeg yn unol â Rheoliad TSE y Gymuned neu'r Rheoliadau hyn ac os yw–
(2) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn dirymu o dan baragraff (1)(b) neu (1)(c) mae'r weithdrefn apelio yn rheoliad 14 yn gymwys ond mae'r dirymu yn parhau mewn grym yn ystod y weithdrefn apelio.
Y weithdrefn apelio
14.
—(1) Lle bo'r rheoliad hwn yn gymwys, gall person wneud sylwadau ysgrifenedig ynglŷn â phenderfyniad i berson a benodwyd at y pwrpas gan y Cynulliad Cenedlaethol o fewn 21 diwrnod o roi hysbysiad o'r penderfyniad
(2) Rhaid i'r person a benodir roi adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi hysbysiad ysgrifenedig i'r apelydd o'i benderfyniad terfynol a'r rhesymau amdano.
Prisio
15.
—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo rhaid cael prisiad o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Caiff y perchennog a Chynulliad Cenedlaethol Cymru gytuno ar y cyfryw brisiad.
(3) Os na all y perchennog a'r Cynulliad Cenedlaethol gytuno ar y cyfryw brisiad, cânt benodi prisiwr ar y cyd.
(4) Os na all y perchennog a'r Cynulliad Cenedlaethol gytuno ar bwy fydd y prisiwr, rhaid i Lywydd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig enwebu'r prisiwr, a rhaid i'r perchennog a'r Cynulliad Cenedlaethol ill dau dderbyn yr enwebiad.
(5) Rhaid i'r prisiwr gyflawni'r prisiad a'i gyflwyno ynghyd ag unrhyw wybodaeth a dogfennaeth berthnasol arall i'r Cynulliad Cenedlaethol, a rhoi copi i'r perchennog.
(6) Mae gan y perchennog a chynrychiolydd y Cynulliad Cenedlaethol ill dau yr hawl i fod yn bresennol mewn prisiad.
(7) Mae'r prisiad yn rhwymo'r perchennog a'r Cynulliad Cenedlaethol ill dau.
Penodi arolygwyr
16.
Mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol a'r awdurdod lleol benodi arolygwyr at bwrpas gorfodi'r Rheoliadau hyn ac eithrio fel y nodwyd yn Atodlen 6.
Pwerau i gael mynediad
17.
—(1) Mae'n rhaid i arolygwr, ar ôl dangos, lle bo'r angen, dogfen ddilys yn dangos ei awdurdod, gael yr hawl ar bob awr resymol, i fynd mewn i unrhyw safle (gan gynnwys unrhyw safle domestig os yw'n cael ei ddefnyddio at unrhyw bwrpas mewn cysylltiad â Rheoliad TSE y Gymuned a'r Rheoliadau hyn) er mwyn sicrhau y cydymffurfir â Rheoliad TSE y Gymuned a'r Rheoliadau hyn; ac yn y rheoliad hwn mae "safle"yn cynnwys unrhyw gerbyd, cynhwysydd neu strwythur (symudol neu beidio).
(2) Gydag ef neu hi gall arolygwr fynd â–
(3) Os bydd arolygydd yn mynd mewn i unrhyw safle sydd heb ei feddiannu mae'n rhaid iddo ei adael wedi ei ddiogelu yr un mor effeithiol yn erbyn mynediad anawdurdodedig ag yr oedd pan aeth iddo.
Pwerau arolygwyr
18.
—(1) Gall arolygydd–
(a) gymryd i'w feddiant unrhyw–
(i) anifail;
(ii) corff anifail, ac unrhyw rannau o'r corff (gan gynnwys y gwaed a'r croen) ac unrhyw semen, embryo neu ofwm; neu
(iii) brotein anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid a all gynnwys protein anifeiliaid,
a'u gwaredu fel bo'r angen;
(b) cynnal unrhyw ymholiadau, ymchwiliadau, archwiliadau a phrofion;
(c) casglu, corlannu ac archwilio unrhyw anifail ac at y pwrpas hwn gall fynnu bod ceidwad unrhyw anifail o'r fath yn trefnu i gasglu a chorlannu'r anifail;
(ch) archwilio unrhyw gorff anifail ac unrhyw rannau o'r corff (gan gynnwys y gwaed a'r croen) ac unrhyw semen, embryo neu ofwm;
(d) archwilio unrhyw ran o'r safle, unrhyw gyfarpar, cyfleuster, gwaith neu weithdrefn;
(dd) cymryd unrhyw samplau;
(e) cael hawl gweld unrhyw gofnodion, a'u harchwilio a'u copïo (ym mha bynnag ffurf y maent) er mwyn penderfynu a gydymffurfir â'r Rheoliadau hyn, gan gynnwys cofnodion a gedwir o dan Reoliad TSE y Gymuned a'r Rheoliadau hyn, neu gymryd y cofnodion er mwyn eu copïo;
(f) cael mynediad at unrhyw gyfrifiadur a'i archwilio a gwirio ei weithrediad, ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy'n cael ei ddefnyddio neu wedi cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad ag unrhyw gofnod; ac at y diben hwn, efallai bydd rhaid i unrhyw berson sy'n gyfrifol am, neu'n gysylltiedig â gweithrediad y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, roi cymorth iddo fel sy'n ofynnol yn rhesymol (gan gynnwys rhoi unrhyw gyfrinair angenrheidiol) a, lle cedwir cofnod ar gyfrifiadur, gall fod yn ofynnol i'r cofnodion gael eu cynhyrchu mewn ffurf y gellid eu cymryd ymaith;
(ff) marcio unrhyw beth (gan gynnwys anifail) yn electronig neu fel arall, at ddiben adnabod; a
(g) cloi neu selio unrhyw gynhwysydd neu storfa.
(2) Mae unrhyw berson sy'n difwyno, dileu neu'n tynnu unrhyw farc neu sêl, neu'n tynnu unrhyw glo, fel sy'n gymwys o dan baragraff (1) yn euog o drosedd.
(3) Nid yw arolygwr yn atebol yn bersonol am unrhyw beth y gwna–
os yw'n gweithredu yn y gred onest bod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol neu'n rhoi'r hawl iddo wneud hynny; ond nid yw hyn yn effeithio ar unrhyw atebolrwydd sydd gan ei gyflogwr.
Hysbysiadau
19.
—(1) Os oes rhaid, am unrhyw reswm sy'n gysylltiedig â gorfodi Reoliad TSE y Gymuned neu'r Rheoliadau hyn, gall arolygwr roi hysbysiad i–
(2) Mae'n rhaid i'r hysbysiad fod yn ysgrifenedig, a rhoi'r rhesymau pam bod yr hysbysiad yn cael ei gyflwyno.
(3) Gall yr hysbysiad–
(4) Os bydd arolygwr yn amau bod unrhyw safle, cerbyd neu gynhwysydd y mae Rheoliad TSE y Gymuned neu'r Rheoliadau hyn yn berthnasol iddynt yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, gall roi hysbysiad i'r meddiannydd neu'r person sy'n gyfrifol am y safle, y cerbyd neu gynhwysydd yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r person hwnnw lanhau a diheintio'r safle, y cerbyd neu'r cynhwysydd yn gyfan neu unrhyw ran ohono ac unrhyw gyfarpar sy'n gysylltiedig.
(5) Gall hysbysiad nodi sut mae cydymffurfio â'r hysbysiad, a nodi'r terfynau amser.
(6) Mae'n rhaid cydymffurfio â hysbysiad ar draul y person y mae'r hysbysiad wedi ei roi iddo, ac os na chydymffurfir â'r hysbysiad gall arolygwr drefnu y cydymffurfir â'r hysbysiad ar draul y person hwnnw.
(7) Mae peidio â chydymffurfio â hysbysiad yn drosedd.
Hysbysiadau yn cyfyngu ar symud
20.
—(1) Os cyflwynir hysbysiad yn cyfyngu ar symud, gall arolygydd ar ôl hynny ganiatáu symud gydag awdurdod trwydded.
(2) Mae'n rhaid i berson sy'n cludo o dan awdurdod trwydded gario'r drwydded gydag ef yn ystod symud, a'i ddangos ar gais i arolygydd, ac mae peidio â gwneud hynny yn drosedd.
Rhwystro
21.
Mae person yn euog o drosedd os yw–
Cosbau
22.
Mae person sy'n euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn yn agored–
Troseddau gan gyrff corfforaethol
23.
—(1) Lle bo corff corfforaethol yn euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn, ac y profir bod y drosedd honno wedi ei chyflawni gyda chaniatâd neu oddefiad, neu ei bod wedi ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran–
y mae ef neu hi, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r drosedd.
(2) At bwrpas paragraff (1), ystyr "cyfarwyddwr", mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei fusnes yn cael ei reoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.
Gorfodi
24.
—(1) Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gorfodi Atodlen 2 mewn lladd-dai a safleoedd torri.
(2) Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gorfodi Atodlen 6 mewn lladd-dai a safleoedd torri.
(3) Fel arall mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gorfodi gan yr awdurdod lleol.
(4) Gall y Cynulliad Cenedlaethol, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad arbennig neu unrhyw achos arbennig, roi cyfarwyddyd bod rhaid i ddyletswydd gorfodi a roddir ar awdurdod lleol o dan y rheoliad hwn gael ei weithredu gan y Cynulliad Cenedlaethol ac nid gan yr awdurdod lleol.
Diwygiad i Reoliadau TSE (Cymru) 2002
25.
Ym mharagraff 17(1) o Atodlen 6A i Reoliadau TSE (Cymru) 2002[9]yn lle'r geiriau "yr atodlen hon" rhodder y geiriau "atodlen 4 i Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006".
Dirymu
26.
Diddymir y darpariaethau sydd yn Atodlen 8 yn ogystal â'r rheoliadau canlynol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[12]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Mai 2006
ATODLEN 1Rheoliad 2(1)
Offerynnau sy'n berthnasol i Reoliad TSE y Gymuned
Mae Rheoliad TSE y Gymuned wedi cael ei ddiwygio gan, a rhaid ei ddarllen gyda–
1.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1248/2001 yn diwygio Atodiadau III, X a XI i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas ag arolygaeth epidemiolegol ac arbrofi ensepalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy[13];
2.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1326/2001 yn gosod mesurau trosiannol i ganiatáu newid drosodd i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyfer atal, rheoli a dileu rhai mathau o enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy, a diwygio Atodiadau VII a XI i'r Rheoliad hwnnw[
14];
3.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 270/2002 yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â deunydd risg penodedig ag arolygaeth epidemiolegol ar gyfer enseffalopathïau sbyngffurf tros-glwyddadwy ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1326/2001 mewn perthynas â bwydo anifeiliaid a rhoi defaid a geifr a'u cynhyrchion ar y farchnad[
15];
4.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1494/2002 yn diwygio Atodiadau III, VII a XI i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â monitro enseffalopathïau sbyngffurf mewn gwartheg, dileu enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy, symud deunydd risg penodedig a rheolau ar gyfer mewnforio anifeiliaid byw a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid[
16];
5.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 260/2003 yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â dileu ensffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy mewn defaid a geifr a rheoliadau ar gyfer y fasnach mewn defaid a geifr byw ac embryonau gwartheg[
17];
6.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 650/2003 yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â mewnforio defaid a geifr byw[
18];
7.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1053/2003 yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â phrofion cyflym[
19];
8.
Deddf yn ymwneud ag amodau dod â Gweriniaeth Tsiec, gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithuania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia ac y Weriniaeth Slofac yn aelod wledydd a newidiadau i'r Cytundebau y cafodd yr Undeb Ewropeaidd ei sefydlu arnynt[
20];
9.
Rheoliad (EC) Rhif 1128/2003 o Senedd Ewrop a'r Cyngor yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 mewn perthynas ag ymestyn y cyfnod ar gyfer mesurau trosiannol[
21];
10.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1139/2003 yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â monitro rhaglenni a deunydd risg penodedig[
22];
11.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1234/2003 yn diwygio Atodiadau I, IV a XI i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 1326/2001 mewn perthynas ag enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy a bwydo anifeiliaid[
23];
12.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1809/2003 yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â rheolau ar gyfer mewnforio gwartheg byw a chynhyrchion sy'n dod o wartheg, defaid a geifr o Costa Rica a Caledonia Newydd[
24];
13.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1915/2003 yn diwygio Atodiadau VII, VIII a IX i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â masnachu a mewnforio defaid a geifr a'r mesurau yn dilyn cadarnhau ensepalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy mewn gwartheg, defaid a geifr[
25];
14.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2245/2003 yn diwygio Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â monitro enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy mewn defaid a geifr[
26];
15.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 876/2004 yn diwygio Atodiad VIII i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â masnach mewn defaid a geifr ar gyfer bridio[
27];
16.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1471/2004 yn diwygio Atodiad XI i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â mewnforio cynhyrchion carw o Ganada a'r Unol Daleithiau[
28];
17.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1492/2004 yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â mesurau dileu enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy mewn gwartheg, defaid a geifr, masnachu a mewnforio semen ac embryonau defaid a geifr a deunydd risg penodedig[
29];
18.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1993/2004 yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â Phortiwgal[
30];
19.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 36/2005 yn diwygio Atodiadau III a X i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas ag arolygaeth epidemiolegol ar gyfer enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy mewn gwartheg, defaid a geifr[
31];
20.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 214/2005 yn diwygio Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â monitro enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy mewn geifr[
32];
21.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 260/2005 yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â phrofion cyflym[
33];
22.
Rheoliad (EC) Rhif 932/2005 o Senedd Ewrop a'r Cyngor yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 yn gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a dileu rhai mathau o enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy mewn perthynas ag ymestyn y cyfnod ar gyfer mesurau trosiannol[
34];
23.
Penderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC yn gwahardd rhoi cynhyrchion sy'n deillio o wartheg a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 ar y farchnad at unrhyw bwrpas ac yn eithrio anifeiliaid o'r fath o rai mesurau rheoli a dileu arbennig a osodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001[
35];
24.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1292/2005 yn diwygio Atodiad IV i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â maeth anifeiliaid[
36]; a
25.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1974/2005 yn diwygio Atodiadau X a XI i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â labordai cyfeirio cenedlaethol a deunydd risg penodedig[
37].
26.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 253/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran profion cyflym a mesurau i ddileu TSE mewn anifeiliaid o deulu'r ddafad a'r afr[
38];
27.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 339/2006 sy'n diwygio Atodiad XI i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran y rheolau ar fewnforio anifeiliaid buchol byw a chynnyrch sy'n dod o anifeiliaid buchol, ac o anifeiliaid o deulu'r ddafad a'r afr[
39]; a
28.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 657/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â'r Deyrnas Unedig ac yn dirymu Penderfyniad y Cyngor 98/256/EC a Phenderfyniadau 98/351/EC ac 1999/514/EC[
40].
ATODLEN 2Rheoliad 5
CYNNWYS
RHAN 1
Monitro ar gyfer TSE
RHAN 2
Cynnwys Dulliau Gofynnol o Weithredu (DGW)
RHAN
1
Monitro ar gyfer TSE
Hysbysiadau at ddiben monitro o dan Erthygl 6 o Reoliad TSE y Gymuned
1.
—(1) At ddiben monitro o dan Erthygl 6 o Reoliad TSE y Gymuned, rhaid i berson sydd â chorff buwch yn ei feddiant neu o dan ei ofal y bo'n rhaid ei brofi yn unol â phwynt 3(1) o Ran I o Bennod A yn Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw, neu gorff gafr 18 mis oed neu fwy adeg marwolaeth,–
(a) hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 24 awr o'r amser pan yw'r anifail yn marw neu'n cael ei ladd neu'r corff yn dod i'w feddiant neu o dan ei ofal; a'i
(b) gadw hyd nes y bydd wedi ei gasglu gan y Cynulliad Cenedlaethol neu ar ei ran,
ac mae peidio â gwneud hyn yn drosedd.
(2) Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â geifr sy'n cael eu cigydda i'w bwyta gan bobl neu eu lladd yn unol ag Atodlen 4.
Traddodi a chigydda anifeiliaid buchol sydd dros yr oed
2.
Os cafodd yr anifeiliaid buchol eu geni neu eu magu yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996, mae'n drosedd–
Samplu coesyn yr ymennydd mewn anifeiliaid buchol
3.
—(1) Mae'n rhaid i feddiannydd lladd-dy lle bydd anifeiliaid buchol a nodwyd ym mhwynt 2(1) neu 2(2) o Ran I o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned yn cael eu cigydda–
ac mae peidio â gwneud hyn yn drosedd.
(2) Mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, trwy hysbysiad, hysbysu meddiannydd lladd-dy os bydd anifail yn dod o fewn y categorïau a nodwyd ym mhwynt 2(1) o Ran I o Bennod A i Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned (ac eithrio mewn achos anifail marw a draddodwyd i ladd-dy gyda datganiad ysgrifenedig oddi wrth filfeddyg yn dweud ei fod yn disgyn i un o'r categorïau hynny).
(3) Yn unol â phwynt 5 o Ran 1 o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned, gall y Cynulliad Cenedlaethol roi hysbysiad i feddiannydd lladd-dy yn ei gwneud hi'n ofynnol iddo gymryd sampl o unrhyw anifeiliaid buchol sy'n cael eu cigydda yno a'u hanfon i'w cael eu profi yn unol ag is-baragraff (1).
(4) Mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo labordai sydd i brofi samplau a gymerwyd o dan y paragraff hwn os yw wedi'i fodloni y bydd y labordy–
(5) Yn y paragraff hwn ystyr "labordy profi cymeradwy" yw labordy sydd wedi ei gymeradwyo o dan y paragraff hwn neu labordy mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig a gymeradwywyd gan yr awdurdod cymwys i gynnal y prawf.
Cigydda anifeiliaid buchol dros 30 mis oed
4.
—(1) Mae'n drosedd i feddiannydd ddefnyddio lladd-dy i gigydda anifeiliaid buchol dros 30 mis oed i'w bwyta gan bobl oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cymeradwyo'r Dull Gofynnol o Weithredu ("DGW") ar gyfer y lladd-dy hwnnw a'r meddiannydd hwnnw.
(2) Mae'n rhaid i'r DGW, o leiaf–
(3) Mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo'r DGW os yw wedi'i fodloni y cydymffurfir â holl ofynion Rheoliad TSE y Gymuned a'r Rheoliadau hyn, ac mae'n rhaid i'r meddiannydd ddangos hyn trwy asesiad dau ddiwrnod lle bydd anifeiliaid yn cael eu cigydda (gan ddefnyddio gwartheg o dan 30 mis oed oni bai bod y lladd-dy yn gweithredu at ddibenion Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 716/96 sy'n mabwysiadu mesurau cynorthwyol eithriadol ar gyfer y farchnad cig eidion yn y Deyrnas Unedig[41]).
(4) Os bydd gwartheg dros 30 mis oed yn cael eu cigydda i'w bwyta gan bobl ac eithrio yn unol â'r DGW, mae meddiannydd y lladd-dy yn euog o drosedd.
Cadw cynhyrchion a'u gwaredu
5.
—(1) Mewn perthynas ag unrhyw wartheg sy'n cael eu samplu, mae'n rhaid i feddiannydd y lladd-dy, marchnad ledr neu danerdy, at ddibenion pwynt 6(3) o Ran I o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned a hyd nes derbynnir canlyniad y prawf, naill ai–
(2) At ddibenion pwyntiau 6(4) a 6(5) o'r Rhan honno, os derbynnir canlyniad positif ar gyfer anifail sydd wedi ei samplu, mae'n rhaid iddo ar unwaith waredu'r–
yn unol â phwynt 6(4) o'r Rhan honno.
(3) Os nad oes sampl wedi cael ei anfon at labordy profi cymeradwy i gael ei brofi yn unol â pharagraff 3 o'r Atodlen hon, neu os derbynnir canlyniad dim-prawf, mewn perthynas ag anifail y mae'n ofynnol ei brofi o dan yr Atodlen hon, mae'n rhaid i'r meddiannydd ar unwaith waredu'r–
yn unol â phwynt 6(4) o'r Rhan honno; ac at ddiben y paragraff hwn ystyr "canlyniad dim-prawf" yw sampl y mae labordy profi cymeradwy wedi tystio na ellir ei brofi am unrhyw reswm.
(4) Gall y Cynulliad Cenedlaethol roi rhanddirymiad mewn ysgrifen o dan bwynt 6(6) o Ran I o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned os yw wedi'i fodloni bod system wedi ei sefydlu sy'n atal halogiad rhwng carcasau.
(5) Mewn perthynas ag unrhyw ddefaid neu eifr sy'n cael eu samplu, mae'n rhaid i feddiannydd lladd-dy, marchnad ledr neu danerdy–
(6) Yn y paragraff hwn gall pwerau arolygydd gael eu defnyddio hefyd gan berson a benodir felly mewn perthynas â marchnad ledr neu danerdy gan y Comisiwn Cig a Da Byw.
(7) Mae unrhyw berson sy'n peidio â chydymffurfio ag is-baragraffau (1) i (3) neu (5) yn euog o drosedd.
Iawndal
6.
—(1) Os bydd anifail sy'n cael ei gigydda i'w fwyta gan bobl yn cael canlyniad prawf positif, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu iawndal am garcas a phob rhan o gorff (gan gynnwys gwaed a chroen)–
(2) Yn achos anifail lle ceir canlyniad dim-prawf (fel y disgrifiwyd ym mharagraff 5(3)) mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi gwybod i'r perchennog mewn ysgrifen a yw'n bwriadu talu iawndal am–
gan roi'r rhesymau, ac mae'r weithdrefn apelio yn rheoliad 14 yn gymwys.
(3) Yr iawndal yw'r gwerth ar y farchnad, a sefydlwyd naill ai trwy gytundeb o dan y weithdrefn yn rheoliad 15, gyda'r ffi am enwebu'r prisiwr a ffi'r prisiwr yn cael ei dalu gan y meddiannydd.
(4) Nid yw iawndal yn daladwy mewn unrhyw achos arall.
RHAN
2
Cynnwys Dull Gofynnol o Weithredu (DGW)
Adnabod a gwahanu anifeiliaid
7.
—(1) Mae'n rhaid i'r DGW ddisgrifio'r system sy'n–
(a) galluogi anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 i gael eu hadnabod a sicrhau na chânt eu cigydda i'w bwyta gan bobl;
(b) galluogi anifeiliaid buchol dros 30 mis oed ond a anwyd ar 1 Awst 1996 neu ar ôl hynny i gael eu hadnabod a sicrhau eu bod yn cael eu samplu yn unol â'r Atodlen hon; a
(c) galluogi anifeiliaid buchol a nodwyd ym mhwynt 2(1) o Ran I o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned i gael eu hadnabod a sicrhau eu bod yn cael eu samplu yn unol â'r Atodlen hon.
(2) Hefyd mae'n rhaid iddo ddisgrifio'r system sy'n sicrhau bod anifeiliaid dros 30 mis oed–
(a) yn cael eu crynhoi at ei gilydd cyn eu cigydda ar wahân i'r rhai sy'n 30 mis oed neu'n llai; a'u
(b) cigydda mewn llwythi ar wahân i'r rhai sy'n 30 mis oed neu'n llai.
Samplu coesyn yr ymennydd
8.
—(1) Mae'n rhaid i'r DGW ddangos bod–
(2) Mae'n rhaid iddo ddisgrifio sut y byddir yn cydymffurfio â chanllawiau iechyd a diogelwch a gynlluniwyd i leihau'r risg o wneud staff yn agored i BSE yn ystod samplu a phecynnu coesyn yr ymennydd.
Y cydberthyniad rhwng sampl a charcas a rhannau eraill o'r corff
9.
Mae'n rhaid i'r DGW ddisgrifio'r system sy'n cysylltu sampl o goesyn yr ymennydd pob buwch dros 30 mis oed gyda sgerbwd yr anifail hwnnw a phob rhan o gorff yr anifail hwnnw (gan gynnwys y gwaed a'r croen).
Cadw carcasau
10.
—(1) Mae'n rhaid i'r DGW ddisgrifio'r system sy'n sicrhau bod yr holl garcasau a gedwir yn unol â pharagraff 5(1) o'r Atodlen hon yn cael eu cadw yn nhrefn eu cigydda naill ai mewn uned oeri sydd wedi ei selio neu ei gloi neu sydd ar reilen sydd wedi ei selio neu ei chloi y tu mewn i uned oeri heb ei selio hyd nes derbynnir canlyniad y prawf.
(2) Mae'n rhaid iddo ddisgrifio sut bydd y meddiannydd yn sicrhau bod digon o le addas yn yr uned oeri ar gyfer cadw sgerbydau at bwrpas yr Atodlen hon.
Cadw rhannau o'r corff
11.
Mae'n rhaid i'r DGW ddisgrifio'r system sy'n sicrhau y cedwir yr holl rannau o'r corff (gan gynnwys y gwaed a'r croen) yn unol â pharagraff 5(1) o'r Atodlen hon.
Gwaredu cyn derbyn y canlyniad
12.
Mae'n rhaid i'r DGW ddisgrifio'r llwybr gwaredu ar gyfer pob carcas a phob rhan o'r corff (gan gynnwys y gwaed a'r croen) a gadwyd hyd nes derbyn canlyniad y prawf ond a waredwyd cyn derbyn canlyniad y prawf.
Mesurau eraill yn dilyn samplu
13.
Mae'n rhaid i'r DGW ddisgrifio'r systemau sydd wedi eu sefydlu i sicrhau bod–
Tynnu asgwrn y cefn
14.
Mae'n rhaid i'r DGW ddisgrifio'r system sy'n sicrhau, mewn achos lle y ceir canlyniad prawf negyddol ar gyfer anifail buchol–
ATODLEN 3Rheoliad 6
Rheoli a dileu TSE mewn gwartheg
CYNNWYS
Rheoli a dileu TSE - hysbysiad
1.
—(1) At ddibenion Erthygl 11 o Reoliad TSE y Gymuned, mae'n rhaid i unrhyw berson sydd ag unrhyw anifail buchol yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth sydd dan amheuaeth o fod wedi ei heffeithio gan TSE hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith a'i chadw ar y safle hyd nes y bydd wedi cael ei harchwilio gan arolygydd milfeddygol.
(2) Rhaid i unrhyw filfeddyg sy'n archwilio unrhyw anifail o'r fath, hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag sy'n ymarferol bosib.
(3) Rhaid i unrhyw berson (ar wahân i'r Cynulliad Cenedlaethol) sy'n archwilio corff unrhyw anifail buchol neu unrhyw ran ohono, mewn labordy ac sy'n amau'n rhesymol bod TSE yn bresennol hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol, a chadw'r corff ac unrhyw rannau ohono hyd nes y bydd arolygydd milfeddygol wedi awdurdodi ei waredu.
(4) Mae peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn drosedd.
Cyfyngu ar anifail y rhoddwyd hysbysiad yn ei gylch
2.
Os rhoddir hysbysiad am anifail o dan baragraff 1 gall arolygydd roi hysbysiad yn gwahardd ei symud o'r safle hyd nes y ceir penderfyniad a yw dan amheuaeth o fod wedi ei effeithio gan BSE neu beidio.
Cigydda anifail sydd dan amheuaeth
3.
—(1) At ddibenion paragraffau (1) a (2) o Erthygl 12 o Reoliad TSE y Gymuned, os yw arolygydd milfeddygol yn amau bod anifail buchol wedi cael ei effeithio gan BSE, mae'n rhaid iddo naill ai–
(a) ei ladd ar y daliad ar unwaith;
(b) tynnu'r pasbort gwartheg yn ôl a rhoi hysbysiad yn gwahardd symud yr anifail o'r daliad hyd nes y bydd wedi ei ladd; neu
(c) sicrhau bod ei basbort gwartheg wedi ei stampio "Not for human consumption"a rhoi hysbysiad yn cyfarwyddo'r perchennog i'w anfon i safle arall i'w gael ei ladd a gwahardd symud ar wahân i symud yn unol â'r cyfarwyddyd hwnnw.
(2) Mae'n rhaid iddo gyfyngu ar symud anifeiliaid buchol eraill o'r daliad yn unol â'r ail a'r pedwerydd paragraff o Erthygl 12(1) o Reoliad TSE y Gymuned ac Erthygl 2(1)(a) o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC.
(3) Yn unol ag Erthygl 12(3) o Reoliad TSE y Gymuned, os caiff yr anifail ei ladd ar y daliad, mae'n drosedd symud y corff o'r daliad hwnnw ac eithrio yn unol â chyfarwyddyd ysgrifenedig gan arolygydd.
(4) Os na chaiff yr anifail ei ladd ar unwaith, mae'n rhaid i'r ceidwad gael gwared â'i laeth mewn ffordd fel na ellir ei fwyta gan bobl nac anifeiliaid ar wahân i'w llo ei hun neu anifeiliaid a gedwir at bwrpas ymchwil, ac mae peidio â chydymffurfio â'r is-baragraff hwn yn drosedd.
Adnabod a chyfyngu ar epil a chohortau
4.
—(1) Yn unol ag Erthyglau 12(1) a 13(2) o Reoliad TSE y Gymuned, os bydd–
rhaid i arolygydd adnabod–
ac i'r dibenion hyn dyddiad geni'r anifail yw'r un sydd wedi ei ddangos ar ei basbort gwartheg.
(2) Mae'n rhaid i arolygydd roi hysbysiadau yn gwahardd symud yr anifeiliaid hynny o'r daliad lle maent yn cael eu cadw neu lle mae'n amau eu bod yn cael eu cadw (boed yr un daliad â daliad yr anifail sydd dan amheuaeth neu beidio) a thynnu eu pasbort gwartheg.
(3) Os nad yw ef neu hi yn gallu adnabod yr anifeiliaid yn is-baragraff (1) ar unwaith mae'n rhaid i arolygydd wahardd symud pob anifail buchol o'r daliad hyd nes y cânt eu hadnabod.
(4) Ni chaniateir symud anifeiliaid dan gyfyngiadau ac eithrio yn unol â rheoliad 20.
Camau gweithredu yn dilyn cadarnhad
5.
—(1) Yn unol ag Erthygl 13(1)(c) o Atodiad VII a phwynt 2 ohono, i Reoliad TSE y Gymuned, os caiff ei gadarnhau bod yr anifail sydd dan amheuaeth wedi'i effeithio gan BSE mae'n rhaid i arolygydd–
(2) Os na chaiff yr anifail ei ladd ar y daliad, mae'n rhaid i'r arolygydd sicrhau fod ei basbort wedi ei stampio "Not for human consumption" a rhaid iddo gyfarwyddo'r perchennog mewn ysgrifen i'w anfon i safle arall i gael ei ladd fel y nodwyd yn y cyfarwyddiad.
(3) Os bydd y prawf yn negyddol mae'n rhaid iddo dynnu'r holl gyfyngiadau a osodwyd oherwydd yr anifail a oedd dan amheuaeth a dychwelyd y pasbort gwartheg.
(4) Pan gaiff anifail ei ladd o dan y rheoliad hwn, mae'n drosedd i symud y carcas oddi ar y safle lle cafodd ei ladd ac eithrio yn unol â chyfarwyddyd ysgrifenedig oddi wrth arolygydd.
Marwolaeth tra o dan gyfyngiad
6.
Os bydd anifail yn marw neu'n cael ei ladd tra ei fod o dan gyfyngiad am unrhyw reswm o dan yr Atodlen hon, mae'n rhaid i'r perchennog hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith, a chadw'r corff ar y safle hyd nes y bydd wedi cael ei gyfarwyddo'n ysgrifenedig gan arolygydd i'w symud neu ei waredu, ac mae'n drosedd peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn neu beidio â chydymffurfio gyda'r cyfarwyddyd o dan y paragraff hwn.
Rhoi epil buchol ar y farchnad
7.
Mae unrhyw berson sy'n rhoi unrhyw anifail buchol ar y farchnad yn groes i Erthygl 15(2) o Reoliad TSE y Gymuned a Phennod B o Atodiad VIII i'r Rheoliad hwnnw yn euog o drosedd.
ATODLEN 4Rheoliad 7
Rheoli a dileu TSE mewn defaid a geifr
CYNNWYS
Hysbysiad o TSE
1.
—(1) At bwrpas Erthygl 11 o Reoliad TSE y Gymuned, mae'n rhaid i unrhyw berson sydd â dafad neu afr yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth sydd dan amheuaeth o fod wedi cael ei effeithio gan TSE hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol a'i gadw ar y safle hyd nes y bydd wedi ei archwilio gan arolygydd milfeddygol.
(2) Bydd rhaid i unrhyw filfeddyg sy'n archwilio neu'n arolygu unrhyw anifail o'r fath, hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
(3) Mae'n rhaid i unrhyw berson (ar wahân i'r Cynulliad Cenedlaethol) sy'n archwilio corff unrhyw ddafad neu afr, neu unrhyw ran ohono, mewn labordy ac sy'n amau yn rhesymol bresenoldeb TSE hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith, a chadw'r corff ac unrhyw rannau ohono hyd nes y bydd arolygydd milfeddygol wedi awdurdodi ei waredu.
(4) Mae peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn drosedd.
Cyfyngu ar anifail y rhoddwyd hysbysiad yn ei gylch
2.
—(1) Os rhoddir hysbysiad am anifail o dan baragraff 1, hyd nes y ceir penderfyniad a ydyw dan amheuaeth neu beidio o fod wedi'i effeithio gyda TSE, gall arolygydd milfeddygol roi hysbysiad yn gwahardd symud yr anifail hwnnw o'i ddaliad, ac yn gwahardd symud unrhyw ddefaid neu eifr eraill i'r daliad neu oddi ar y daliad hwnnw.
(2) Ni chaniateir symud anifeiliaid dan gyfyngiadau ac eithrio yn unol â rheoliad 20.
Cigydda anifail sydd dan amheuaeth
3.
—(1) At ddibenion paragraffau (1) a (2) o Erthygl 12 o Reoliad TSE y Gymuned, os bydd arolygydd milfeddygol yn amau bod dafad neu afr wedi cael ei effeithio gan TSE, mae'n rhaid iddo naill ai–
(a) ei ladd ar y daliad ar unwaith;
(b) rhoi hysbysiad yn gwahardd symud yr anifail o'r daliad hyd nes y bydd wedi cael ei ladd; neu
(c) rhoi hysbysiad yn cyfarwyddo'r perchennog i'w draddodi i safle arall i'w ladd a gwahardd symud ac eithrio yn unol â'r cyfarwyddyd hwnnw.
(2) Yn unol ag Erthygl 12(3) o Reoliad TSE y Gymuned, os caiff yr anifail ei ladd ar y daliad, mae'n drosedd symud y corff o'r daliad ac eithrio yn unol â chyfarwyddyd ysgrifenedig gan arolygydd.
Cyfyngiadau symud
4.
—(1) At ddibenion pwynt 3 o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned, ac Erthygl 12(1) o'r Rheoliad hwnnw, yn dilyn amheuaeth am TSE (boed mewn anifail byw neu drwy'r monitro o dan Atodiad Annex III i Reoliad TSE y Gymuned), mae'n rhaid i arolygydd–
(2) Ni chaniateir symud anifeiliaid dan gyfyngiad ac eithrio yn unol â rheoliad 20.
Camau gweithredu lle nad yw TSE wedi cael ei gadarnhau
5.
Os caiff ei gadarnhau nad oedd yr anifail wedi cael ei effeithio gan TSE, mae'n rhaid i'r arolygydd dynnu'n ôl yr holl gyfyngiadau a roddwyd oherwydd yr anifail a oedd dan amheuaeth.
Cadarnhau TSE mewn defaid
6.
—(1) Os caiff ei gadarnhau bod dafad sydd dan amheuaeth, neu gorff dafad a gafodd ei monitro o dan Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned, wedi cael ei heffeithio gan TSE, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl–
benderfynu pa un o'r dewisiadau sydd wedi eu nodi ym mhwyntiau 2(b)(i) a (ii) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned y mae'n bwriadu ei ymarfer.
(2) Mae'n rhaid i'r Cynulliad wedyn roi hysbysiad i feddiannydd y daliad yn rhoi gwybod iddo pa un o'r dewisiadau yn y paragraffau hynny y mae'n bwriadu ei arfer.
(3) Mae'n rhaid i'r hysbysiad nodi–
(4) Mae'r drefn apelio yn rheoliad 14 yn gymwys.
Cadarnhau TSE mewn geifr
7.
—(1) Os caiff ei gadarnhau bod gafr sydd dan amheuaeth, neu gorff gafr a gafodd ei monitro o dan Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned, wedi cael eu heffeithio gan TSE, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl cynnal yr ymchwiliad a nodwyd yn Erthygl 13(1)(b) o'r Rheoliad hwnnw ac ym mhwynt 1(b) o Atodiad VII i'r Rheoliad hwnnw, roi hysbysiad i feddiannydd y daliad yn rhoi gwybod iddo ei bod yn bwriadu lladd neu ddinistrio'r holl eifr ar y daliad a'r holl embryonau ac ofa o'r anifeiliaid hynny yn unol ag Erthygl 13(1)(c) o, a phwynt 2(b)(i) o Atodiad VII i'r Rheoliad hwnnw.
(2) Mae'r drefn apelio yn rheoliad 14 yn gymwys.
Cadarnhau BSE mewn defaid neu eifr
8.
—(1) Os caiff BSE ei gadarnhau mewn dafad neu afr ar ddaliad, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl cynnal yr ymchwiliad a nodir yn Erthygl 13(1)(b) o Reoliad TSE y Gymuned a phwynt 1 o Atodiad VII i'r Rheoliad hwnnw, roi hysbysiad i feddiannydd y daliad yn rhoi gwybod iddo o'i fwriad i ladd neu ddinistrio'r anifeiliaid, yr embryonau a'r ofa yn unol ag Erthygl 13(1)(c) o, a phwynt 2(c) o Atodiad VII i'r Rheoliad hwnnw.
(2) Mae'r drefn apelio yn rheoliad 14 yn gymwys.
Amser i apelio
9.
Ni chaiff y Cynulliad Cenedlaethol ladd unrhyw ddafad neu afr, na dinistrio unrhyw ofwm neu embryo, o dan yr Atodlen hon hyd nes–
Lladd a dinistrio ar ôl cadarnhad
10.
—(1) Mae'n rhaid i arolygydd sicrhau bod yr holl anifeiliaid a nodir i'w lladd yn yr hysbysiad ym mharagraffau 6(2), 7(1) neu 8(1) yn cael eu lladd a bod yr holl ofa ac embryonau a nodwyd i'w dinistrio yn yr hysbysiad yn cael eu dinistrio.
(2) Os nad yw anifail yn cael ei ladd yn y daliad, mae'n rhaid i arolygydd gyfarwyddo'r perchennog mewn ysgrifen i'w draddodi i safle arall i gael ei ladd fel y nodir yn y cyfarwyddyd.
(3) Pan fydd anifail wedi cael ei ladd o dan y paragraff hwn, mae'n drosedd i symud y corff o'r safle lle cafodd ei ladd ac eithrio yn unol â chyfarwyddyd ysgrifenedig gan arolygydd.
Anifeiliaid wedi'u heintio o ddaliad arall
11.
At ddibenion pwynt 2(b)(iii) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned, os cafodd yr anifail heintiedig ei gyflwyno o ddaliad arall, gall y Cynulliad Cenedlaethol weithredu yn unol â'r Atodlen hon mewn perthynas â daliad y tarddiad yn ogystal â'r daliad lle cadarnhawyd yr haint neu yn lle'r daliad hwnnw.
Pori tir comin
12.
Yn achos anifeiliaid heintiedig ar dir pori comin, gall y Cynulliad Cenedlaethol gyfyngu hysbysiad o dan baragraffau 6(2) neu 7(1) i ddiadell unigol yn unol â phwynt 2(b)(iii) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned.
Nifer o ddiadellau ar ddaliad
13.
Lle cedwir mwy nag un ddiadell ar un daliad, gall y Cynulliad Cenedlaethol gyfyngu hysbysiad o dan baragraffau 6(2) neu 7(1) i ddiadell unigol yn unol â phwynt 2(b)(iii) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned.
Meddiannwyr dilynol
14.
Os oes newid ym meddiant y daliad, mae'n rhaid i'r meddiannydd blaenorol sicrhau bod y meddiannydd dilynol yn gwybod am fodolaeth a chynnwys unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan yr Atodlen hon, ac mae peidio â gwneud hynny yn drosedd.
Cyflwyno anifeiliaid i ddaliad
15.
Mae unrhyw berson sy'n cyflwyno anifail i ddaliad yn groes i bwynt 4 o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned yn euog o drosedd.
Defnyddio cynnyrch cenhedlol defaid
16.
Mae unrhyw berson sy'n defnyddio cynnyrch cenhedlol defaid yn groes i bwynt 5 o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned yn euog o drosedd.
Symud anifeiliaid o ddaliad
17.
Mae unrhyw berson sy'n symud anifail o ddaliad yn groes i bwynt 7 o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned yn euog o drosedd.
Cyfyngiadau amser symud
18.
At ddibenion pwynt 8 o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned mae'n rhaid i'r dyddiadau perthnasol gael eu sefydlu gan y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'r dyddiadau hynny i feddiannydd y daliad.
Marw tra o dan gyfyngiad
19.
Os bydd unrhyw anifail 18 mis oed neu fwy yn marw neu'n cael ei ladd tra bo o dan gyfyngiad am unrhyw reswm o dan yr Atodlen hon neu Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned, mae'n rhaid i'r perchennog hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith, a chadw'r corff ar y safle hyd nes y caiff gyfarwyddiadau ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol i'w symud neu i'w waredu, ac mae'n drosedd peidio â chydymffurfio gyda'r paragraff hwn neu beidio â chydymffurfio gyda chyfarwyddyd o dan y paragraff hwn.
Rhoi epil defaid a geifr sydd wedi eu heffeithio gan BSE ar y farchnad
20.
Mae unrhyw berson sy'n rhoi unrhyw ddefaid neu eifr sydd wedi eu heffeithio gan BSE ar y farchnad yn groes i Erthygl 15(2) o Reoliad TSE y Gymuned a Phennod B o Atodiad VIII i'r Rheoliad hwnnw yn euog o drosedd.
Hysbysiad tra bo'r daliad dan gyfyngiad
21.
—(1) At ddibenion pwynt 8(d) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned, am y cyfnod y mae'r daliad o dan gyfyngiad yn unol â phwynt 8 o'r Atodiad hwnnw, os yw'r perchennog yn bwriadu traddodi dafad 18 mis oed neu fwy i gael ei chigydda i'w bwyta gan bobl, mae'n rhaid iddo hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o leiaf bedair wythnos cyn ei thraddodi.
(2) Ni chaiff draddodi dafad 18 mis oed neu fwy i'w lladd neu ei chigydda i'w bwyta gan bobl ac eithrio o dan gyfarwyddyd ysgrifenedig o'r Cynulliad Cenedlaethol, ac mae'n rhaid gwneud hynny yn unol â'r cyfarwyddyd hwnnw.
(3) Mae peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn drosedd.
Rhanddirymiadau
22.
—(1) Ni chaiff y Cynulliad Cenedlaethol weithredu'r dewis a ganiatawyd o dan bwynt 7(c) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned.
(2) Gall meddiannydd daliad wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddo weithredu un o'r dewisiadau a ganiatawyd o dan bwynt 9 o'r Atodiad hwnnw neu'r ddau.
(3) Mae'n rhaid i gais o dan y paragraff hwn fod yn ysgrifenedig ac mae'n rhaid nodi'r rhesymau am y cais yn llawn.
(4) Mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi ei benderfyniad yn ysgrifenedig i'r ymgeisydd, ac mae'n rhaid nodi ei fod naill ai'n–
(5) Oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol yn caniatáu'r cais yn llawn, mae'r weithdrefn apelio yn rheoliad 14 yn gymwys.
ATODLEN 5Rheoliad 8
Bwydydd anifeiliaid
CYNNWYS
RHAN 1
Cyfyngiadau ar fwydo protein i anifeiliaid
RHAN 2
Cynhyrchu protein a bwydydd anifeiliaid
RHAN
1
Cyfyngiadau ar fwydo protein i anifeiliaid
Gwahardd bwydo protein anifeiliaid i anifeiliaid cnoi cil
1.
—(1) At ddibenion Erthygl 7(1) a phwynt (b) o Ran I o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned mae'n drosedd–
(a) bwydo i unrhyw anifail cnoi cil;
(b) cyflenwi i'w fwydo i unrhyw anifail cnoi cil; neu
(c) ganiatáu i unrhyw anifail cnoi cil gael mynediad at,
unrhyw brotein anifeiliaid (neu unrhyw beth sy'n cynnwys protein anifeiliaid) ar wahân i'r proteinau sydd wedi eu nodi ym mhwynt A(a) o Ran II o Atodiad IV i'r Rheoliad hwnnw.
(2) Mae'n drosedd dod ag unrhyw beth a waherddir gan y paragraff hwn i unrhyw safle lle cedwir anifeiliaid cnoi cil, neu fod mewn meddiant ohono ar safle o'r fath, ac eithrio–
(a) bwyd y bwriedir iddo gael ei fwyta gan bobl;
(b) yn unol â pharagraff 3;
(c) safle sydd wedi cael ei gofrestru o dan baragraff 8(6), 10(5) neu 12(8); neu
(ch) lle bo wedi cael ei awdurdodi gan arolygydd a bod mesurau addas wedi cael eu sefydlu i sicrhau nad yw anifeiliaid cnoi cil yn cael mynediad ato.
Gwahardd bwydo protein anifeiliaid i anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil
2.
—(1) At ddibenion Erthygl 7(2) o, a phwynt (a) o Ran I o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned mae'n drosedd–
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), mae'r gwaharddiad yn is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â–
(3) Nid yw'r gwaharddiad yn is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â'r–
(4) Yn y paragraff hwn mae "protein" yn cynnwys unrhyw fwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys protein anifeiliaid.
(5) Mae'n drosedd dod ar unrhyw safle lle cedwir unrhyw anifeiliaid sydd wedi eu nodi yn is-baragraff (1) unrhyw beth sydd wedi ei wahardd gan y paragraff hwn, neu i'w feddiannu ar unrhyw safle o'r fath ac eithrio–
Eithriadau
3.
Nid yw paragraffau 1(2) a 2(5) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw beth sydd wedi ei gynnwys mewn–
ar yr amod–
(a) nad yw'n cael ei fwydo i unrhyw anifeiliaid sy'n cael eu ffermio;
(b) nad yw'n cael ei storio neu ei drin mewn rhannau o'r safle lle –
(i) mae gan anifeiliaid sy'n cael eu ffermio fynediad atynt; neu
(ii) mae bwydydd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu ffermio yn cael eu storio neu eu trin;
(c) nad yw'n dod i gysylltiad â–
(i) bwydydd anifeiliaid y caniateir iddynt gael eu bwydo i anifeiliaid sy'n cael eu ffermio; neu
(ii) drin cyfarpar a ddefnyddir mewn cysylltiad ag unrhyw fwydydd anifeiliaid o'r fath; ac
(ch) nad yw anifeiliaid sy'n cael eu ffermio byth yn cael mynediad at fwydydd anifeiliaid anwes, ac nad ydynt yn cael mynediad at wrtaith organig neu ddeunydd gwella pridd hyd nes y bydd wedi cael ei ddefnyddio ar y tir a bod y cyfnod dim pori a nodir yn rheoliad 11 o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 2003 wedi dod i ben.
Gwahardd a chyfyngu ar symud anifeiliaid
4.
Lle bo gan arolygydd sail resymol i gredu bod anifail a allai gael ei heintio gan TSE wedi cael ei fwydo neu wedi cael mynediad at–
gall roi hysbysiad i'r perchennog neu'r person sy'n gyfrifol am yr anifail yn gwahardd neu gyfyngu ar symud yr anifail o'r safle a ddisgrifiwyd yn yr hysbysiad.
Cigydda anifeiliaid
5.
—(1) Lle bo gan arolygydd sail resymol i gredu bod anifail a allai gael ei heintio gan TSE wedi cael ei fwydo neu wedi cael mynediad at unrhyw ddeunydd y cyfeirir ato ym mharagraff 4, gall roi hysbysiad i'r perchennog neu'r person sy'n gyfrifol am yr anifail yn unol â'r paragraff hwn.
(2) Gall yr hysbysiad naill ai–
Iawndal
6.
—(1) Lle lleddir anifail o dan baragraff 5, gall y Cynulliad Cenedlaethol dalu iawndal os yw'n ystyried hynny'n briodol ym mhob un o'r amgylchiadau ac mae'n rhaid i'r Cynulliad roi ei benderfyniad ynglyn â thalu iawndal neu beidio yn ysgrifenedig.
(2) Yr iawndal yw gwerth yr anifail ar y farchnad ar yr adeg y caiff ei ladd, a benderfynir naill ai trwy gytundeb neu'n unol â'r weithdrefn yn rheoliad 15, gyda'r ffi am enwebu'r prisiwr a ffi y prisiwr yn cael ei dalu gan y perchennog.
(3) Mae'r weithdrefn apelio yn rheoliad 14 yn gymwys mewn perthynas â'i benderfyniad.
Cigydda neu werthu i'w fwyta gan bobl
7.
Mae'n drosedd i unrhyw anifail a allai gael ei heintio gan TSE gael ei draddodi i gael ei gigydda i'w fwyta gan bobl neu ei gigydda i'w gael ei fwyta gan bobl pan fydd pasbort yr anifail wedi cael ei stampio o dan baragraff 5.
RHAN
2
Cynhyrchu protein a bwydydd anifeiliaid
Blawd pysgod i'w fwydo i anifeiliaid sy'n cael eu ffermio ac nad ydynt yn cnoi cil
8.
—(1) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu blawd pysgod ar gyfer ei fwydo i anifeiliaid sy'n cael eu ffermio ac nad ydynt yn cnoi cil wneud hynny yn unol â phwynt B(a) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned.
(2) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys blawd pysgod a fwriedir i'w fwydo i anifeiliaid sy'n cael eu ffermio ac nad ydynt yn cnoi cil wneud hynny–
(a) yn unol â phwynt B(c) o'r Rhan honno, ar safle a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y pwynt hwnnw;
(b) yn unol â phwynt B(c)(i) o'r Rhan honno, ar gyfer unrhyw un sy'n cynhyrchu bwyd cyfansawdd gartref a gofrestrwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y pwynt hwnnw; neu
(c) yn unol â phwynt B(c) (ii) o'r Rhan honno, mewn safle a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y pwynt hwnnw.
(3) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n pecynnu'r bwydydd anifeiliaid eu labelu yn unol â phwynt B(d) o'r Rhan honno, ac mae'n rhaid i unrhyw ddogfennaeth sy'n dod gyda'r bwydydd anifeiliaid fod yn unol â'r pwynt hwnnw.
(4) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n cludo'r bwydydd anifeiliaid mewn llwythi mawr wneud hynny yn unol â'r frawddeg gyntaf ym mhwynt B(e) o'r Rhan honno.
(5) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n defnyddio cerbyd, a ddefnyddiwyd yn flaenorol i gludo bwydydd anifeiliaid o'r fath, i gludo bwydydd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r ail frawddeg ym mhwynt B(e) o'r Rhan honno.
(6) Mae'n rhaid i feddiannydd unrhyw fferm lle cedwir anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r paragraff cyntaf ym mhwynt B(f) o'r Rhan honno oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni y cydymffurfir â darpariaethau'r ail baragraff yn y pwynt hwnnw a'i fod wedi cofrestru'r ffarm o dan y paragraff hwnnw.
Troseddau'n ymwneud â blawd pysgod a bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys blawd pysgod
9.
—(1) Mae peidio â chydymffurfio â pharagraff 8 yn drosedd.
(2) Mae'n drosedd i gynhyrchydd bwydydd cyfansawdd cartref sydd wedi ei gofrestru o dan baragraff 8(2)(b)–
(3) Mae'n drosedd i unrhyw berson sy'n cynhyrchu bwydydd anifeiliaid yn unol â phwynt B(c)(ii) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned–
Bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys ffosffad deucalsiwm neu ffosffad tricalsiwm i'w bwydo i anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil
10.
—(1) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys ffosffad deucalsiwm neu ffosffad tricalsiwm i'w bwydo i anifeiliaid sy'n cael eu ffermio ac nad ydynt yn cnoi cil wneud hynny–
(2) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n pecynnu bwydydd anifeiliaid eu labelu yn unol â phwynt C(b) o'r Rhan honno, ac mae'n rhaid i unrhyw ddogfennaeth sy'n dod gyda'r bwydydd anifeiliaid fod yn unol â'r pwynt hwnnw.
(3) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n cludo'r bwydydd anifeiliaid hynny mewn llwythi mawr wneud hynny yn unol â phwynt C(c) o'r Rhan honno.
(4) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n defnyddio cerbyd a ddefnyddiwyd yn flaenorol i gludo bwydydd anifeiliaid o'r fath ar gyfer anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r ail frawddeg ym mhwynt C(c) o'r Rhan honno.
(5) Mae'n rhaid i feddiannydd unrhyw fferm lle cedwir anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r paragraff cyntaf ym mhwynt C(d) o'r Rhan honno oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni y cydymffurfir â'r darpariaethau yn yr ail baragraff o'r pwynt hwnnw a'i fod wedi cofrestru'r fferm o dan y paragraff hwnnw.
Troseddau'n ymwneud â bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys ffosffad deucalsiwm neu ffosffad tricalsiwm i'w bwydo i anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil
11.
—(1) Mae peidio â chydymffurfio â pharagraff 10 yn drosedd.
(2) Mae'n drosedd i unryw un sy'n cynhyrchu bwyd cyfansawdd gartref sydd wedi ei gofrestru o dan baragraff 10(1)(b)–
(3) Mae'n drosedd i unrhyw berson sy'n cynhyrchu bwydydd anifeiliaid yn unol â phwynt C(a)(ii) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned–
Cynhyrchion gwaed a blawd gwaed
12.
—(1) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu–
sicrhau bod y gwaed yn dod o ladd-dy sydd wedi ei gofrestru gyda'r Cynulliad Cenedlaethol at bwrpas pwynt D(a) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned a'i fod naill ai–
(2) Mae'n rhaid i feddiannydd y lladd-dy draddodi'r gwaed yn unol â phwynt D(a) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned, ac mae'n rhaid i unrhyw gludydd ei gludo yn unol â'r pwynt hwnnw.
(3) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed wneud hynny yn unol â naill ai'r paragraff cyntaf neu'r ail baragraff ym mhwynt D(b) o'r Rhan honno.
(4) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed wneud hynny–
(5) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n pecynnu'r bwydydd anifeiliaid eu labelu yn unol â phwynt D(d) o'r Rhan honno, ac mae'n rhaid i unrhyw ddogfennaeth sy'n mynd gyda'r bwydydd fod yn unol â'r pwynt hwnnw.
(6) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n cludo'r bwydydd anifeiliaid mewn llwythi mawr wneud hynny yn unol â phwynt D(e) o'r Rhan honno.
(7) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n defnyddio cerbyd, a ddefnyddiwyd yn flaenorol i gludo bwydydd anifeiliaid o'r fath, i gludo bwydydd i anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r ail frawddeg ym mhwynt D(e) o'r Rhan honno.
(8) Mae'n rhaid i feddiannydd unrhyw fferm lle cedwir anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r paragraff cyntaf ym mhwynt D(f) o'r Rhan honno oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni y cydymffurfir â'r darpariaethau yn yr ail baragraff o'r pwynt hwnnw a'i fod wedi cofrestru'r fferm o dan y paragraff hwnnw.
Troseddau'n ymwneud â bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed
13.
—(1) Mae peidio â chydymffurfio â pharagraff 12 yn drosedd.
(2) Mae'n drosedd i unrhyw berson sy'n casglu gwaed yn unol â'r ail baragraff o bwynt D(a) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned beidio â–
(3) Mae'n drosedd i unrhyw berson sy'n cynhyrchu cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed yn unol â'r ail baragraff ym mhwynt D(b) o'r Rhan honno beidio â –
(4) Mae'n drosedd i unrhyw berson sy'n cynhyrchu bwydydd anifeiliaid yn unol â phwynt D(c)(ii) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned–
(5) Mae'n drosedd i unryw un sy'n cynhyrchu bwyd cyfansawdd gartref sydd wedi ei gofrestru o dan baragraff 12(4)(b)–
Newid y defnydd o gyfarpar
14.
Mae'n drosedd defnyddio cyfarpar a ddefnyddiwyd i gynhyrchu bwydydd i anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil o dan baragraffau 8, 10 neu 12, i gynhyrchu bwydydd i anifeiliaid cnoi cil, oni bai ei fod wedi ei awdurdodi'n ysgrifenedig gan arolygydd.
Amodau sy'n gymwys i storio a chludo llwythi mawr o gynhyrchion protein a bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys protein o'r fath
15.
—(1) Mae'n drosedd storio neu gludo–
ac eithrio yn unol â phwynt C(a) o Ran III o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned.
(2) Mae'n drosedd storio neu gludo llwythi mawr o flawd pysgod, ffosffad deucalsiwm, ffosffad tricalsiwm, cynhyrchion gwaed sy'n dod o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil neu flawd gwaed sy'n dod o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil, ac eithrio yn unol â phwynt C(b) a C(c) o Ran III o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned.
(3) Yn ogystal â gofynion is-baragraffau (1) a (2), mae'n drosedd cludo llwythi mawr o brotein anifeiliaid sydd wedi cael ei brosesu neu unrhyw un o'r deunyddiau a nodwyd yn is-baragraff (2) oni bai bod y cludwr wedi ei gofrestru gyda'r Cynulliad Cenedlaethol i'r diben hwnnw.
Amodau sy'n gymwys i weithgynhyrchu a chludo bwydydd anifeiliaid anwes neu fwydydd anifeiliaid
16.
—(1) Mae'n drosedd gweithgynhyrchu, storio, cludo neu becynnu bwydydd anifeiliaid anwes sy'n cynnwys cynhyrchion gwaed sy'n dod o anifeiliaid cnoi cil neu brotein anifeiliaid wedi ei brosesu, ar wahân i flawd pysgod, ac eithrio yn unol â phwynt D o Ran III o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned.
(2) Mae'n drosedd gweithgynhyrchu neu gludo bwydydd anifeiliaid anwes sy'n cynnwys ffosffad deucalsiwm neu dricalsiwm neu gynhyrchion gwaed sy'n dod o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil ac eithrio yn unol â phwynt D o'r Rhan honno.
Allforio protein anifeiliaid sydd wedi ei brosesu i drydydd gwledydd
17.
—(1) Yn unol â phwynt E(1) o Ran III o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned mae'n drosedd allforio protein anifeiliaid sydd wedi cael ei brosesu sy'n dod o anifeiliaid cnoi cil, ac unrhyw beth sy'n ei gynnwys.
(2) Mae'n drosedd allforio protein anifeiliaid sydd wedi ei brosesu sy'n dod o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil (ac unrhyw beth sy'n ei gynnwys) ac eithrio yn unol â phwnt E(2) o'r Rhan honno a chytundeb yn ysgrifenedig rhwng y Cynulliad Cenedlaethol ac awdurod cymwys y trydydd gwledydd.
Gwrteithiau
18.
—(1) Mae'n drosedd gwerthu neu gyflenwi i'w ddefnyddio fel gwrtaith ar dir amaethyddol, neu i feddu gyda'r bwriad o werthu neu gyflenwi, unrhyw –
(2) Mae'n drosedd defnyddio unrhyw beth sydd wedi ei wahardd yn is-baragraff (1) fel gwrtaith ar dir amaethyddol.
(3) Yn y paragraff hwn–
Cadw cofnodion ar gyfer cludo etc., bwydydd anaddas ar gyfer anifeiliaid
19.
—(1) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n cyflenwi, yn cludo neu'n derbyn unrhyw fwydydd anifeiliaid anwes sy'n cynnwys protein anifeiliaid nad yw wedi ei fwriadu ar gyfer ei ddefnyddio fel bwyd anifeiliaid anwes gofnodi–
(2) Mae'n rhaid iddo gadw'r cofnodion hynny am 2 flynedd.
(3) Mae'n rhaid i'r traddodwr sicrhau bod y bwyd anifeiliaid anwes wedi ei labelu gyda'r wybodaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (1) neu bod dogfennaeth yn gysylltiedig sy'n cynnwys yr wybodaeth honno.
(4) Mae unrhyw berson sy'n peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn euog o drosedd.
Trawshalogi deunyddiau sy'n deillio o safleoedd lle mae proteinau anifeiliaid (heblaw am fwyd pysgod) yn cael eu defnyddio
20.
Mae'n drosedd cyflenwi cynhwysyn bwydydd anifeiliaid os yw'r cynhwysyn hwnnw wedi cael ei gynhyrchu ar safle lle defnyddir unrhyw brotein anifeiliaid (heblaw am fwyd pysgod) wedi ei brosesu mewn unrhyw broses gweithgynhyrchu oni bai bod y label neu'r ddogfennaeth gysylltiedig yn nodi hyn.
ATODLEN 6Rheoliad 9
Deunydd risg penodedig, cig sydd wedi ei adennill trwy ddulliau mecanyddol a dulliau cigydda
CYNNWYS
Penodi'r Asiantaeth Safonau Bwyd fel yr awdurdod cymwys
1.
—(1) Heblaw mewn siopau cigyddion mae'n rhaid i'r Asiantaeth Safonau Bwyd weithredu'r dyletswyddau sydd ar yr aelod-wladwriaeth ym mhwynt 12 o Ran A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned mewn perthynas â'r Atodlen yma, ac mae'n rhaid iddi roi awdurdod at ddibenion pwynt 10(a) o'r Bennod honno.
(2) At ddibenion yr Atodlen hon, mae arolygydd mewn lladd-dy neu safle torri yn–
(3) Gall penodiad fel arolygydd fod yn gyfyngedig i bwerau a dyletswyddau sydd wedi eu nodi yn y penodiad.
(4) Mae gan unrhyw berson sy'n gweithredu pwerau arolygydd o dan yr Atodlen hon yr amddiffyniad a nodir yn rheoliad 18(3).
Dyletswyddau awdurdodau lleol o ran siopau cigyddion
2.
Rhaid i awdurdodau lleol gyflawni dyletswyddau'r Aelod-wladwriaeth ym mhwynt 12 yn Rhan A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned o ran yr Atodlen hon i'r graddau y mae'n ymwneud â thynnu mewn siopau cigyddion y rhannau hynny o asgwrn cefn anifeiliaid buchol, sef y rhannau hynny sy'n ddeunydd risg penodedig, a rhaid iddo roi awdurdodiadau a rhoi effaith i gofrestriadau at ddibenion pwynt 10(b) yn y Rhan honno.
Hyfforddiant
3.
Mae'n rhaid i feddiannydd unrhyw ladd-dy, safle torri neu siop cigydd lle y mae deunydd risg penodedig yn cael ei dynnu–
ac mae peidio â gwneud hynny yn drosedd.
Cig a adenillir trwy ddulliau mecanyddol
4.
—(1) Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â phwynt 3 o Ran A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned (defnydd o esgyrn buchol, defeidiog a gafriog ar gyfer cynhyrchu cig wedi ei adennill yn fecanyddol) yn euog o drosedd.
(2) Mae unrhyw berson sy'n defnyddio unrhyw gig sydd wedi'i adennill trwy ddulliau mecanyddol a gynhyrchir yn groes i'r pwynt hwnnw wrth baratoi unrhyw fwyd ar gyfer ei werthu i'w fwyta gan bobl neu unrhyw fwydydd anifeiliaid yn euog o drosedd.
(3) Yn y paragraff hwn ystyr "cig a adenillir drwy ddulliau mecanyddol" yw'r cynnyrch a geir o gig sy'n weddill ar esgyrn anifeiliaid drwy ddulliau mecanyddol (ar wahân i gig a gynhyrchir trwy ddefnyddio cyllyll trydanol a ddelir a llaw nad ydynt yn defnyddio gwasgedd neu sugnedd â phwer).
Pithio
5.
Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â phwynt 4 o Ran A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned (pithio) yn euog o drosedd.
Cynaeafu tafodau
6.
Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â phwynt 6 o Ran A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned (cynaeafu tafodau) yn euog o drosedd.
Cynaeafu cig pen
7.
Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â phwynt 7 yn Rhan A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned (cynaeafu cig pen) yn euog o dramgwydd.
Tynnu deunydd risg penodedig
8.
—(1) Mae unrhyw berson sy'n tynnu deunydd risg penodedig mewn unrhyw fangre ar wahân i fangre lle y caniateir tynnu'r deunydd risg penodedig hwnnw o dan bwynt 5 neu bwynt 10(a) neu bwynt 10(b) yn Rhan A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned (defnydd o esgyrn buchol, ar gyfer cynhyrchu cig yn euog o dramgwydd.
(2) Yn achos safle torri, mae tynnu'r canlynol yn drosedd–
onid yw'r safle wedi'i awdurdodi o dan baragraff 13(1)(a); neu
(3) Yn achos siop cigydd, mae tynnu unrhyw ran o asgwrn cefn anifail buchol, a honno'n rhan sy'n ddeunydd risg penodedig, os nad yw'r siop wedi'i hawdurdodi a'i chofrestru at y diben hwnnw o dan baragraff 14, neu os yw'r cig sy'n cynnwys y deunydd risg penodedig wedi'i ddwyn i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall, yn dramgwydd.
Anifeiliaid buchol mewn lladd-dy
9.
—(1) Pan gaiff anifail buchol ei gigydda, mae'n rhaid i feddiannydd y lladd-dy dynnu'r holl ddeunydd risg penodedig (ar wahân i'r rhannau hynny o asgwrn y cefn sy'n ddeunydd risg penodedig) cyn gynted ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol ar ôl cigydda ac ym mhob achos cyn yr archwiliad post-mortem.
(2) Mae'n rhaid i feddiannydd y lladd-dy draddodi unrhyw gig sy'n cynnwys y rhannau hynny o'r asgwrn cefn sy'n ddeunydd risg penodedig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol-
(3) Rhaid i feddiannydd y lladd-dy nodi cig sy'n cynnwys asgwrn cefn nad yw'n ddeunydd risg penodedig yn unol â phwynt 14(a) yn Rhan A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned, a rhaid iddo neu iddi ddarparu gwybodaeth yn unol â phwynt 14(b) yn y Rhan honno.
(4) Ni chaniateir i unrhyw berson gynnwys streipen las yn y label y cyfeirir ato yn Erthygl 13 o Reoliad Senedd Ewrop a'r Cyngor (EC) Rhif 1760/2000 sydd yn sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol ac ar gyfer labelu eidion a chynhyrchion eidion ac sydd yn dirymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97[46] ac eithrio yn unol â phwynt 14(a) yn Rhan A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned.
(5) Mae peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn drosedd.
Defaid a geifr mewn lladd-dy
10.
—(1) Pan gaiff defaid neu eifr eu cigydda, mae'n rhaid i feddiannydd y lladd-dy dynnu'r holl ddeunydd risg penodedig (ar wahân i linyn yr asgwrn cefn) cyn gynted ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol ar ôl cigydda ac ym mhob achos cyn yr archwiliad post-mortem.
(2) Mewn achos dafad neu afr dros 12 mis oed adeg cigydda, neu sydd â blaenddant parhaol wedi torri trwy'r deintgig, mae'n rhaid i'r meddiannydd cyn gynted ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol ar ôl cigydda–
(3) Yn is-baragraff (2) (c), ystyr "safle torri" ("cutting plant") yw mangre –
(4) Mae peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn drosedd.
Stampiau wyn a geifr ifanc
11.
—(1) Gall arolygydd stampio dafad neu afr mewn lladd-dy gyda stamp oen ifanc neu stamp gafr ifanc os nad oes gan yr anifail flaenddant parhaol sydd wedi torri trwy'r deintgig ac os nad yw'r ddogfennaeth, os oes dogfennaeth o'r fath, sy'n gysylltiedig â'r anifail yn dangos ei fod dros 12 mis oed adeg cigydda.
(2) Mae'n rhaid i'r stamp farcio'r cig gyda chylch 5 centimetr mewn diamedr gyda'r canlynol mewn llythrennau bras 1 centimetr o ran uchder–
(3) Mae'n drosedd i unrhyw berson ar wahân i arolygydd ddefnyddio'r stamp neu farc sy'n debyg i'r stamp, neu iddynt feddu cyfarpar ar gyfer ei ddefnyddio.
(4) Mae'n drosedd marcio dafad neu afr gyda stamp oen ifanc neu stamp gafr ifanc neu stamp sy'n debyg iddynt oni bai ei fod yn anifail y caniatawyd ei ei farcio yn unol ag is-baragraff(1).
Tynnu llinyn asgwrn y cefn o ddefaid a geifr
12.
Mae'n drosedd tynnu llinyn asgwrn y cefn neu unrhyw ran ohono o ddafad neu afr sydd dros 12 mis oed adeg eu cigydda neu ddafad neu afr oedd ag un neu fwy o flaenddannedd parhaol a oedd wedi torri trwy'r deintgig (ar wahân i ddibenion archwiliad milfeddygol neu wyddonol) ac eithrio trwy–
Awdurdodi safleoedd torri gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd
13.
—(1) Rhaid i'r Asiantaeth Safonau Bwyd awdurdodi safle torri i dynnu–
os yw'r Asiantaeth wedi'i bodloni y cydymffurfir â darpariaethau Rhan A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned ac â'r Atodlen hon.
(2) Mae'r gweithdrefnau yn rheoliadau 10, 12, 13 a 14 yn gymwys, ond mae pob cyfeiriad at y Cynulliad Cenedlaethol i'w ddehongli fel cyfeiriadau at yr Asiantaeth.
Awdurdodi a chofrestru siopau cigyddion gan awdurdodau lleol
14.
—(1) Rhaid i awdurdod lleol awdurdodi siop cigydd i dynnu'r rhannau hynny o asgwrn cefn anifeiliaid sydd dros 30 mis oed neu'n iau pan gânt eu cigydda, sef y rhannau hynny sy'n ddeunydd risg penodedig, a rhaid iddo gofrestru'r siop at y diben hwnnw, os yw'r awdurdod wedi'i fodloni y cydymffurfir â darpariaethau Rhan A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned ac â'r Atodlen hon.
(2) Mae'r gweithdrefnau yn rheoliadau 10, 12, 13, a 14 yn gymwys, ond rhaid dehongli pob cyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol fel cyfeiriadau at yr awdurdod lleol dan sylw.
Tynnu deunydd risg penodedig ar safle torri a awdurdodwyd o dan baragraff 13(1)
15.
Bydd meddiannydd safle torri a awdurdodwyd o dan baragraff 13(1) yn tramgwyddo oni fydd, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r cig gyrraedd y safle, a beth bynnag cyn i'r cig gael ei symud oddi ar y safle, yn tynnu o'r cig –
Tynnu asgwrn cefn anifail buchol sy'n ddeunydd risg penodedig ar safle torri nas awdurdodwyd o dan baragraff 13(1)(a)
16.
Yn achos cig sy'n deillio o anifail buchol sy'n 30 mis oed neu'n iau pan gaiff ei gigydda ac na chafodd ei ddwyn i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall, bydd meddiannydd safle torri nas awdurdodwyd o dan baragraff 13(1)(a) yn tramgwyddo oni fydd yn tynnu o'r cig y rhannau hynny o'r asgwrn cefn sy'n ddeunydd risg penodedig a hynny cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, a beth bynnag cyn i'r cig gael ei symud o'r fangre.
Tynnu asgwrn cefn anifail buchol sy'n ddeunydd risg penodedig mewn siop cigydd a awdurdodwyd ac a gofrestrwyd o dan baragraff 14
17.
Yn achos cig sy'n deillio o anifail buchol sy'n 30 mis oed neu'n iau pan gaiff ei gigydda ac na chafodd ei ddwyn i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall, bydd meddiannydd siop cigydd a awdurdodwyd ac a gofrestrwyd o dan baragraff 14 yn tramgwyddo oni fydd yn tynnu o'r cig y rhannau hynny o'r asgwrn cefn sy'n ddeunydd risg penodedig cyn i'r cig gael ei symud o'r fangre.
Cig o Aelod-wladwriaeth arall
18.
At ddibenion pwynt 13 yn Rhan A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned , os caiff cig sy'n cynnwys y rhannau hynny o asgwrn cefn anifail buchol, sef y rhannau hynny sy'n ddeunydd risg penodedig, ei ddwyn i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall, rhaid i'r sawl sy'n ei fewnforio ei anfon ar ei union i safle torri a awdurdodwyd o dan baragraff 13(1)(a), ac mae methu gwneud hynny'n dramgwydd.
Staenio a gwaredu deunydd risg penodedig
19.
—(1) Bydd meddiannydd unrhyw fangre lle y caiff deunydd risg penodedig ei dynnu sy'n methu â chydymffurfio â phwynt 11 yn Rhan A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned (staenio a gwaredu deunydd risg penodedig) yn euog o dramgwydd.
(2) At ddibenion y pwynt hwnnw–
(3) Ni fydd y paragraff hwn yn gymwys o ran unrhyw ddeunydd risg penodedig y bwriedir ei ddefnyddio yn ôl fel y darperir yn Erthygl 1(2)(b) ac (c) o Reoliad TSE y Gymuned.
Anifeiliaid Cynllun
20.
—(1) Ar ôl i'r deunydd risg penodedig gael ei dynnu o anifail buchol a gafodd ei gigydda at ddibenion Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 716/96, sydd yn mabwysiadu mesurau cynnal eithriadol ar gyfer y farchnad eidion yn y Deyrnas Unedig[50]rhaid i'r gweddill (gan gynnwys y croen) gael ei staenio ar unwaith yn unol â pharagraff 1 a hynny yn y fath fodd fel y bydd y lliwiad yn hollol weladwy ac yn parhau'n hollol weladwy dros wyneb cyfan y deunydd.
(2) Bydd methu cydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.
Diogelwch deunydd risg penodedig
21.
—(1) Hyd oni thraddodir neu y gwaredir y deunydd o'r fangre lle y'i tynnwyd, rhaid i feddiannydd y fangre sicrhau bod deunydd risg penodedig yn cael ei gadw'n ddigon ar wahân i unrhyw fwyd, bwydydd anifeiliaid neu gynnyrch cosmetig, fferyllol neu feddygol a'i gadw mewn cynhwysydd anhydraidd ac iddo gaead a bod arno label yn nodi–
(2) Rhaid iddo sicrhau bod y cynhwysydd yn cael ei olchi'n lân cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol bob tro y caiff ei wagu, a'i fod yn cael ei ddiheintio cyn cael ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.
(3) Bydd methu cydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.
Gwaharddiad ar gyflenwi deunydd risg penodedig i'w fwyta gan bobl
22.
Mae gwerthu neu gyflenwi'r canlynol yn dramgwydd–
ATODLEN 7Rheoliad 9
Cyfyngiadau ar anfon i Aelod-wladwriaethau eraill ac i drydydd gwledydd
Cyfyngiadau ar anfon i Aelod-wladwriaethau eraill ac i drydydd gwledydd
1.
Mae i unrhyw berson anfon, neu gynnig anfon, y canlynol i Aelod-wladwriaethau eraill neu i drydydd gwledydd yn dramgwydd–
(a) anifeiliaid buchol a gafodd eu geni neu eu magu yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996;
(b) cig neu chynhyrchion yn deillio o anifeiliaid buchol a gafodd eu geni neu eu magu yn y Deyrnas Unedig ar ôl 31 Gorffennaf 1996 a'u cigydda cyn 15 Mehefin 2005; neu
(c) asgwrn cefn anifeiliaid buchol a gafodd eu geni neu eu magu yn y Deyrnas Unedig ar ôl 31 Gorffennaf 1996 a'u cigydda cyn 3 Mai 2006 a chynhyrchion yn deillio o'r cyfryw asgwrn cefn.
Allforio i drydydd gwledydd
2.
Yn unol â pharagraff olaf pwynt 13 yn Rhan A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned, mae allforio i drydedd wlad bennau anifeiliaid buchol neu anifeiliaid o deulu'r ddafad neu'r afr neu gig ffres sy'n dod ohonynt, a'r rheini'n cynnwys deunydd risg penodedig, yn dramgwydd.
ATODLEN 8Rheoliad 25
Dirymiadau
Offeryn
|
Cyfeirnod
|
Gorchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997 |
O.S. 1997/2964 |
Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997 |
O.S. 1997/2965 |
Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) 1997 |
O.S. 1997/3062 |
Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) 1998 |
O.S. 1998/2405 |
Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig (Dyddiad Dod i Rym) (Diwygio) 1998 |
O.S. 1998/2431 |
Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig (Costau Arolygu) 1999 |
O.S. 1999/539 |
Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) 2000 |
O.S. 2000/2659 |
Gorchymyn Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) 2000 |
O.S. 2000/2811 |
Gorchymyn Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2000 |
O.S. 2000/3387 |
Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) 2001 |
O.S. 2001/2732 |
Rheoliadau Cyfyngu ar Bithio (Cymru) 2001 |
O.S. 2001/1303 |
Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru)(Rhif 2) 2001 |
O.S. 2001/3546 |
Rheoliadau Protein Anifeiliaid wedi'i Brosesu (Cymru) 2001 |
O.S. 2001/2780 |
Rheoliadau TSE (Cymru) 2002 ac eithrio rheoliadau 8,9,84,93,Rhan III o Atodlen 1, RHEOLIAD 17 o Ran IV o Atodlen 6A a rheoliadau 4 ac 8 o Atodlen 7, sydd yn ymwneud â talu iawndal wedi cigydda anifeiliaid Buchol a Defaid a Geifr sydd wedi eu heintio â TSE |
O.S. 2002/1416 |
Rheoliadau TSE (Cymru) (Diwygio) 2005 |
O.S. 2005/1392 |
Rheoliadau TSE (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2005 |
O.S. 2005/2902 |
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn dirymu ac yn ail-wneud gyda diwygiadau Rheoliadau TSE (Cymru) 2002, a oedd yn gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod rheolau i atal, rheoli a dileu rhai mathau o sbyngffurf trosglwyddadwy (OJ Rhif L 147, 31.5.2001, tud. 1) fel y'i diwygiwyd gan, ac fel y'i darllennir gyda, darpariaethau Atodlen 1 (" Rheoliad TSE y Gymuned").
Nid yw darpariaethau iawndal rheoliadau TSE (Cymru) 2002 yn cael eu dirymu ac maent yn parhau mewn grym hyd nes bod darpariaethau iawndal newydd yn dod i rym i dalu iawndal am BSE mewn anuifeiliaid buchol a TSE mewn defaid a geifr
Y Prif Reoliadau
Mae'r Rheoliadau yn darparu mai'r Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad TSE y Gymuned (ac eithrio yn Atodlen 6, lle mai'r Asiantaeth Safonau Bwyd yw'r awdurdod cymwys) (rheoliad 3) ac yn darparu eithriad ar gyfer ymchwil (rheoliad 4).
Mae'r darpariaethau yn Rhan 2 yn cyflwyno'r Atodlenni.
Mae Rhan 3 yn ymwneud â gweinyddu a gorfodi.
Mae Rheoliadau 10 i 14 yn ymwneud â chymeradwyo, awdurdodi, trwyddedu a chofrestru, dyletswyddau'r meddiannydd, atal, diwygio a dirymu cymeradwyaeth, etc., a gweithdrefn apelio. Mae Rheoliad 15 yn ymwneud â phrisio.
Mae Rheoliadau 16 i 18 yn rhoi pwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol a'r awdurdod lleol i benodi arolygwyr, ac i ddelio â phwerau mynediad a phwerau arolygwyr. Mae Rheoliad 19 yn darparu ar gyfer gweithdrefn hysbysu, ac mae rheoliad 20 yn darparu ar gyfer trwyddedau sy'n caniatáu symud yn ystod cyfnod cyfyngu ar symud.
Mae Rheoliadau 21 i 23 yn ymwneud â rhwystro arolygwr, cosbau, a throseddau gan gorff corfforaethol. Mae person sy'n euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn yn atebol–
(a) ar gollfarn ddiannod, am ddirwy o ddim mwy na'r mwyafswm statudol neu garchar am dymor o dri mis neu'r ddau, neu
(b) ar gollfarn ar dditment, am ddirwy neu garchar am dymor o ddim mwy na dwy flynedd neu'r ddau.
Mae Rheoliadau 24 yn delio â gorfodi.
Mae Rheoliad 25 yn delio â diwygiadau i Reoliadau TSE (Cymru) 2002, ac mae Rheoliad 26 yn delio â dirymiadau.
Atodlen 1
Mae Atodlen 1 yn rhestru darpariaethau sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 a rhaid darllen y Rheoliad gyda'r Atodlen.
Atodlen 2
Mae Atodlen 2 yn ymwneud â monitro ar gyfer TSE. Mae paragraff 1 yn darparu ar gyfer hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol am stoc trig sydd raid eu profi am TSE o dan y Rheoliad TSE y Gymuned. Mae paragraff 2 yn ei gwneud hi'n drosedd i draddodi anifail sydd dros yr oedran i ladd-dy i'w fwyta gan bobl, ac i gigydda anifail o'r fath i'w fwyta gan bobl. Mae paragraff 3 yn darparu ar gyfer samplu coesyn yr ymennydd mewn gwartheg penodedig.
Mae paragraff 4 yn creu gofyniad i unrhyw un sy'n cigydda anifeiliaid dros 30 mis oed ar gyfer eu bwyta gan bobl i gael Dull Gofynnol o Weithredu.
Mae paragraff 5 yn darparu ar gyfer cadw cynhyrchion a'u gwaredu, ac mae paragraff 6 yn ymwneud ag iawndal.
Mae paragraffau 7 i 14 yn nodi'r gofynion sylfaenol sydd raid eu cynnwys mewn Dull Gofynnol o Weithredu.
Atodlen 3
Mae Atodlen 3 yn ymwneud â rheoli a dileu TSE mewn gwartheg. Mae paragraff 1 yn darparu ar gyfer hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol am anifail dan amheuaeth. Mae paragraffau 2 a 3 yn darparu ar gyfer cyfyngu ar a chigydda'r anifail sydd dan amheuaeth. Mae paragraffau 4 a 5 yn ymwneud ag epil a chohortau'r anifail sydd dan amheuaeth. Mae paragraff 6 yn ymwneud ag iawndal am anifail sy'n marw o dan gyfyngiadau, ac mae paragraff 7 yn ymwneud â rhoi anifail ar y farchnad.
Atodlen 4
Mae Atodlen 4 yn ymwneud â rheoli a dileu TSE mewn defaid a geifr. Mae paragraff 1 yn darparu ar gyfer hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol am anifail sydd dan amheuaeth. Mae paragraffau 2 a 3 yn darparu ar gyfer cyfyngu a chigydda'r anifail sydd dan amheuaeth. Mae paragraffau 4 a 5 yn ymwneud â chyfyngiadau symud. Mae paragraffau 6 i 8 yn darparu ar gyfer gweithredu yn dilyn cadarnhad. Mae paragraff 9 yn darparu ar gyfer amser i apelio, ac mae paragraff 10 yn darparu ar gyfer lladd a dinistrio. Mae paragraffau 11 i 13 yn ymwneud ag anifeiliaid heintiedig o ddaliad arall, pori cyffredin ac aml-ddiadellau ar ddaliad. Mae paragraff 14 yn ymwneud â meddianwyr dilynol y tir.
Mae paragraffau 15 i 21 yn nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn ar ôl lladd neu ddinistrio'r anifeiliaid. Mae paragraff 15 yn cyfyngu ar gyflwyno anifeiliaid i ddaliad. Mae paragraff 16 yn rheoleiddio'r defnydd o gynnyrch cenhedlol defaid, ac mae paragraff 17 yn cyfyngu ar symud anifeiliaid o ddaliad.
Mae paragraff 18 yn nodi pa bryd mae'r amser sy'n ymwneud â chyfyngiadau yn dechrau. Mae paragraff 19 yn darparu ar gyfer hysbysu am anifeiliaid sy'n marw tra eu bod dan gyfyngiadau. Mae paragraff 20 yn ymwneud â rhoi epil ar y farchnad, ac mae paragraff 21 yn ei gwneud hi'n ofynnol i hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol cyn gall y perchennog draddodi defaid dros 18 mis ar gyfer eu cigydda.
Mae paragraff 22 yn ymwneud â rhanddirymiadau o'r gofyniad i ladd a dinistrio defaid a geifr.
Atodlen 5
Mae Atodlen 5 yn ymwneud â bwydydd anifeiliaid. Mae paragraffau 1 i 3 yn gwahardd bwydo bwydydd penodedig i anifeiliaid cnoi cil ac anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil, ac yn darparu ar gyfer eithriadau. Mae paragraffau 4 a 5 yn darparu ar gyfer cyfyngiadau symud a chigydda anifeiliaid sydd dan amheuaeth o fod wedi cael eu bwydo gyda bwydydd gwaharddedig, ac mae paragraff 6 yn darparu ar gyfer iawndal. Mae paragraff 7 yn gwahardd anifeiliaid dan gyfyngiadau rhag cael eu cigydda i'w bwyta gan bobl.
Mae paragraffau 8 a 9 yn rheoleiddio cynhyrchu a defnyddio blawd pysgod i'w fwydo i anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil. Mae paragraffau 10 a 11 yn rheoleiddio bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys ffosffad deucalsiwm neu ffosffad tricalsiwm. Mae paragraffau 12 a 13 yn rheoleiddio bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys cynnyrch gwaed a blawd gwaed.
Mae paragraff 14 yn darparu ar gyfer newidiadau o ran defnyddio cyfarpar. Mae paragraffau 15 a 16 yn rheoli gweithgynhyrchu, storio a chludo protein anifeiliaid wedi'i brosesu a chynhyrchion sy'n ei gynnwys. Mae paragraff 17 yn rheoli allforio, ac mae paragraff 18 yn rheoleiddio gwrtaith sy'n deillio o brotein anifeiliaid. Mae paragraff 19 yn ymwneud â chofnodion, ac mae paragraff 20 yn ymwneud â thrawshalogi.
Atodlen 6
Mae Atodlen 6 yn ymwneud â deunydd risg penodedig, cig sydd wedi'i adennill trwy ddulliau mecanyddol a dulliau cigydda. Mae paragraff 1 yn penodi'r Asiantaeth Safonau Bwyd fel yr awdurdod cymwys ar gyfer yr Atodlen hon. Mae paragraff 2 yn gosod dyletswyddau penodol ar awdurdodau lleol mewn perthynas â siopau cig. Mae paragraff 3 yn darparu ar gyfer hyfforddi staff lladd-dai, safleoedd torri a staff siopau cig.
Mae paragraff 4 yn ymwneud â chig sydd wedi'i adennill trwy ddulliau mecanyddol, mae paragraff 5 yn ymwneud â phithio, mae paragraff 6 yn ymwneud â chynaeafu tafodau, ac mae paragraff 7 yn ymwneud â chynaeafu cig y pen.
Mae paragraff 8 yn rheoli tynnu deunydd risg penodedig, ac mae paragraffau 9 a 10 yn ymwneud â gwartheg a defaid a geifr mewn lladd-dy.
Mae paragraff 11 yn ymwneud â stampiau wyn a geifr ifanc.
Mae paragraff 12 yn ymwneud â thynnu llinyn asgwrn y cefn mewn defaid a geifr.
Mae paragraff 13 yn darparu ar gyfer awdurdodi safleoedd torri, ac mae paragraff 15 yn rheoli tynnu deunydd risg penodedig mewn safleoedd torri.
Mae paragraff 16 yn ymwneud â thynnu llinyn asgwrn y cefn sydd yn ddeunydd risg penodedig mewn safleoedd torri nad sydd wedi eu hawdurdodi o dan baragraff 13.
Mae paragraff 14 yn ymwneud ag awdurdodi a chofrestru siopau cig, ac mae paragraff 17 yn rheoli tynnu deunydd risg penodedig mewn siopau o'r fath.
Mae paragraff 18 yn ymwneud â chig o aelod wladwriaethau eraill.
Mae paragraffau 19 ac 20 yn ei gwneud hi'n ofynnol i staenio deunydd risg penodedig, ac mae paragraff 21 yn darparu ar gyfer diogelwch deunydd risg penodedig.
Mae paragraff 22 yn gwahardd cyflenwi deunydd risg penodedig i'w fwyta gan bobl.
Atodlen 7
Mae Atodlen 7 yn ymwneud â danfon anifeiliaid buchol byw a chynhyrchion sy'n deillio ohonynt i aelod Wladwriaethau eraill ac i drydydd gwledydd.
Atodlen 8
Mae Atodlen 8 yn dirymu Rheoliadau.
Mae arfarniad rheoliadol wedi cael ei baratoi a'i roi yn llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol. Gellir cael copïau oddi wrth Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Notes:
[1]
1972 c.68.back
[2]
O.S. 2003/1246.back
[3]
OJ Rhif . L 31, 1.2.2002, tud.1, fel y'i diwygwyd ddiwethaf gan reoliad (EC) Rhif . 1642/2003 (OJ Rhif . L 245, 29.9.2003, tud. 4).back
[4]
O.S.I. 1998/871, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/2969 ac O.S. 1999/1339.back
[5]
OJ Rhif L 165, 30.04.2004, tud.1. Ceir testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1).back
[6]
OJ Rhif L 139, 30.04.2004, tud.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 yn nawr yn cael ei osod allan mewn Cywiriad (OJ. Rhif L226, 25.6.2004, tud.22).back
[7]
OJ Rhif . L 147, 31.5.2001,tud. 1.back
[8]
OJ Rhif L273, 10.2.2002, tud. 1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 93/2005, OJ Rhif L19, 21.1.2005, tud. 34.back
[9]
OJ Rhif L 173, 27.6.2001, tud.12.back
[10]
OJ Rhif L177, 30.6.2001, tud.60.back
[11]
OJ Rhif L45, 15.2.2002, tud. 4.back
[12]
OJ Rhif L 225, 22.8.2002, tud. 3.back
[13]
OJ Rhif L37, 13.2.2003. tud. 7.back
[14]
OJ Rhif L 95, 11.4.2003, tud.15.back
[15]
OJ Rhif L 152, 20.6.2003, tud.8.back
[16]
OJ Rhif L 236, 23.9.2003, tud.33.back
[17]
OJ Rhif L 160, 28.6.2003, tud.1.back
[18]
OJ Rhif L 160, 28.6.2003, tud.22.back
[19]
OJ Rhif L 173, 11.7. 2003, tud.6.back
[20]
OJ Rhif L265, 16.10.2003, tud.10.back
[21]
OJ Rhif L283, 31.10.2003, tud.29.back
[22]
OJ Rhif L 333, 20.12.2003, tud.28.back
[23]
OJ Rhif L 162, 30.04.2004, tud.52.back
[24]
OJ Rhif L 271, 19.08.2004, tud.24.back
[25]
OJ Rhif L 274, 24.8.2004, tud. 3.back
[26]
OJ Rhif L 344, 20.11.2004, tud.12.back
[27]
OJ Rhif L 10, 13.1.2005, tud.9.back
[28]
OJ Rhif L 37, 10.2.2005, tud.9.back
[29]
OJ Rhif L 46, 17.2.2005, tud.31.back
[30]
OJ Rhif L 163, 23.6.2005, tud 1.back
[31]
OJ Rhif L 204, 5.8.2005, tud 22.back
[32]
OJ Rhif L 205, 6.8.2005, tud 3.back
[33]
OJ Rhif . L 317, 3.12.2005, tud 4.back
[34]
OJ Rhif L44, 15.2.2006, tud 9.back
[35]
OJ Rhif L55, 25.2.2006, tud5.back
[36]
OJ Rhif L116, 29.04.06, tud 9.back
[37]
OJ Rhif L99, 20.4.96, tud.14, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2109/2005 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 716/96 sy'n mabwysiadu mesurau cynorthwyol eithriadol ar gyfer y farchnad cig eidion yn y Deyrnas Unedig, OJ Rhif L337, 22.12.2005, t.25.back
[38]
ISBN 92-1-139097-4.back
[39]
OJ Rhif L273, 10.10.2002. tud.1 fel a ddiwigiwyd gan Reoliad y Cyngor (CE) Rhif 2067/2005, OJ Rhif L331, 17.12.2005. tud. 34.back
[40]
O.S. 2003/2756.back
[41]
OJ Rhif L 139 , 30.04.2004, tud.206.back
[42]
OJ Rhif L.204, 11.8.2004, tud. 1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan y Ddeddf yn ymwneud ag amodau ymuniad y Weriniaeth Siec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithuania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaetgh Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a'r Wriniaeth Slofac a'r newidiadau a wnaethpwyd i'r Cytundebau y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi ei selioa wnaethpwyd 'rback
[43]
OJ Rhif L165, 30.4.2004, tud.1.back
[44]
OJ Rhif L139, 30.4.2004, tud.55.back
[45]
Mae'r Colour Index yn cael ei gyhoeddi gan Gymdeithas y Lliw-wyr yn Perkin House, 82 Grattan Road, Bradford, West Yorkshire BD1 2JB.back
[46]
OJ Rhif L99 20.4.1996, tud.14 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2109/2005 (OJ Rhif L337, 22.12.2005, tud. 25).back
[47]
O.S.2002/1416back
[48]
O.S. 2005/1397(W.111)back
[49]
O.S. 1999/1103back
[50]
1998 p.38back
English version
ISBN
0 11 091343 4
© Crown copyright 2006
Prepared
30 May 2006