British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) (Diwygio) 2006 Rhif 762 (Cy.72)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060762w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 762 (Cy.72)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) (Diwygio) 2006
|
Wedi'u gwneud |
14 Mawrth 2006 | |
|
Yn dod i rym |
31 Mawrth 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac yntau wedi'i ddynodi[
1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972[
2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn o dan y pwerau a roddwyd gan yr adran honno.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2006. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005
2.
Diwygir Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005[
3] fel a ganlyn.
3.
Yn rheoliad 16(3), yn lle "Ni chaiff neb drosglwyddo cwota sydd ei angen" rhodder "Ni chaiff neb drosglwyddo'n gwota nas defnyddiwyd gwota y mae ei angen".
4.
Yn rheoliad 23(4)(a), yn lle "cyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na" rhodder "cael ei anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol ar 14 Mai neu cyn".
5.
Yn rheoliad 33(5)—
(a) yn lle "ddarparu ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol" rhodder "anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol";
(b) yn lle "sicrhau bod y rhestr yn ei gyrraedd heb fod yn hwyrach na" rhodder "ar 14 Mai neu cyn".
6.
Yn rheoliad 35—
(a) ym mharagraff (1)(a)—
(i) yn lle "â chyflwyno" rhodder "ag anfon" ac yn lle "gyflwyno" rhodder "anfon";
(ii) hepgorer "fel bod y datganiad yn ei gyrraedd";
(b) ym mharagraff (1)(b)—
(i) yn lle "â chyflwyno" rhodder "ag anfon" ac yn lle "gyflwyno" rhodder "anfon";
(ii) hepgorer "fel bod y crynodeb yn ei gyrraedd";
(c) ym mharagraff (2), yn lle "a gyflwynwyd" rhodder "a anfonwyd".
7.
Yn rheoliad 36—
(a) ym mharagraff (1), yn lle "and (3)" rhodder "i (3)";
(b) ar ôl paragraff (2) rhodder—
"
(2A) Lle mae prynwr—
(a) yn anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol grynodeb o ddatganiadau y mae'n ofynnol eu cyflwyno o dan Erthygl 8(2) o Reoliad y Comisiwn, sy'n anghywir; a
(b) drwy wneud hynny yn achosi gorddatganiad neu danddatganiad ganddo ef neu ganddi hi, o ddanfoniadau a wnaed iddo neu iddi,
mae ef neu hi'n agored i dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol gosb sy'n gyfwerth â swm damcaniaethol yr ardoll a fyddai'n ddyledus ar 0.5% o'r maint yn ôl cyfaint y llaeth sy'n ffurfio'r gorddatganiad neu'r tanddatganiad.";
(c) ym mharagraff (6)—
(i) ar ôl "agored i dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol", rhodder ",os yw'n cyflwyno hysbysiad,";
(ii) ar y diwedd ychwaneger "gan ddechrau ar y degfed diwrnod ar hugain ar ôl cyflwyno'r hysbysiad".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Mawrth 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, a fydd yn dod i rym ar 31 Mawrth 2006, yn diwygio Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005 (O.S. 2005/537) ("Rheoliadau 2005").
Mae Rheoliadau 2005 yn gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1788/2003 sy'n sefydlu ardoll yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth (OJ Rhif L 279, 21.10.2003, t.123) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 595/2004 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1788/2003 sy'n sefydlu ardoll yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth (OJ Rhif L 94, 31.3.2004, t.22) ("Rheoliad y Comisiwn").
Mae rheoliad 3 yn cywiro gwall yn rheoliad 16 o Reoliadau 2005 sy'n atal trosglwyddiad cwotâu sy'n angenrheidiol i ofalu am gynhyrchu sy'n digwydd cyn y dyddiad trosglwyddo. Mae'r diwygiad hwn yn darparu y caniateir trosglwyddo'r cwota hwnnw, ond ni ellir ei gyfrif fel cwota nas defnyddiwyd.
Mae rheoliadau 4 i 6 yn diwygio darpariaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchwyr a phrynwyr llaeth ddarparu gwybodaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol erbyn dyddiad penodedig. Y gofyniad yw bod yr wybodaeth yn cael ei hanfon i'r Cynulliad Cenedlaethol ar y dyddiad hwnnw neu cyn y dyddiad hwnnw.
Mae rheoliad 7 yn cywiro hepgoriad yn rheoliad 36 o Reoliadau 2005 i gosbi prynwyr sy'n anfon crynodebau anghywir ynghylch cynhyrchu y mae'n ofynnol eu cyflwyno o dan Erthygl 8(2) o Reoliad y Comisiwn. Mae hefyd yn darparu bod y gosb ar brynwyr sy'n methu â chyflwyno crynodeb sy'n ofynnol gan Erthygl 8(4) o Reoliad y Comisiwn cyn 1 Gorffennaf yn y flwyddyn pryd y mae ei angen yn gymwys 30 o ddiwrnodau ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno hysbysiad i'r perwyl hwn.
Mae Arfarniad Rheoliadol o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes wedi'i baratoi ac mae copïau ar gael o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Notes:
[1]
O.S. 2005/2766.back
[2]
1972 p. 68.back
[3]
O.S. 2005/537 (Cy.47).back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091297 7
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
20 March 2006
|