British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2005 Rhif 2835 (Cy.200)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052835w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 2835 (Cy.200)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2005
|
Wedi'u gwneud |
11 Hydref 2005 | |
|
Yn dod i rym |
25 Tachwedd 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[
1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[
2] ac wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor[
3] sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2005; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 25 Tachwedd 2005.
Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996
2.
Diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd 1996[
4] (i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru) yn unol â rheoliadau 3 i 7.
3.
Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o "Directive 2000/13", yn lle'r geiriau o "and Commission Directive 2002/67/EC" hyd at y diwedd rhodder y geiriau "Commission Directive 2002/67/EC[
5] on the labelling of foodstuffs containing quinine, and of foodstuffs containing caffeine and Commission Directive 2005/26/EC[
6] establishing a list of food ingredients or substances provisionally excluded from Annex IIIa of Directive 2000/13/EC".
4.
Yn rheoliad 13(8)(c) (trefn y rhestr gynhwysion) mewnosoder ar y diwedd y geiriau "other than, until 25 November 2007, ingredients which originate from an allergenic ingredient and are listed in column 2 of Schedule 2A in relation to that allergenic ingredient".
5.
Yn rheoliad 34B (bwydydd sy'n cynnwys cynhwysion alergenig neu gynhwysion sy'n dod o gynhwysion alergenig)—
(a) ym mharagraff (1) yn lle'r geiriau "Subject to paragraph (2)" rhodder y geiriau "Subject to paragraphs (2) and (3)";
(b) ym mharagraff (2)(b) mewnosoder ar y dechrau y geiriau "subject to paragraph (3) of this regulation";
(c) mewnosoder ar y diwedd y paragraff canlynol—
"
(3) Paragraphs (1) and (2)(b) of this regulation shall not apply before 25th November 2007 as respects any ingredient which originates from an allergenic ingredient and is listed in column 2 of Schedule 2A in relation to that allergenic ingredient.".
6.
Yn rheoliad 50(12)(b)(iii) (darpariaeth drosiannol) mewnosoder ar ôl y rhif "12" y geiriau "(as read with regulation 5 of the Food Labelling (Amendment) (Wales) (No. 2) Regulations 2005)".
7.
Ar ôl Atodlen 2 (dangosiadau o driniaeth) mewnosoder fel Atodlen 2A gynnwys yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Hydref 2005
YR ATODLENRheoliad 7
ATODLEN 2A NEWYDD I'W MEWNOSOD YN RHEOLIADAU LABELU BWYD 1996
"
SCHEDULE 2ARegulations 13(8)(c) and 34B(3)
LIST OF INGREDIENTS WHICH ORIGINATE FROM ALLERGENIC INGREDIENTS AND IN RESPECT OF WHICH THE ALLERGEN LABELLING REQUIREMENTS DO NOT APPLY
Column 1
|
Column 2
|
Allergenic ingredient
Cereals containing gluten
|
Exempt ingredients originating from allergenic ingredient
Wheat based glucose syrups including dextrose¹.
Wheat based maltodextrins¹.
|
Eggs |
Glucose syrups based on barley.
Cereals used in distillates for spirits.
Lysozym (produced from egg) used in wine.
Albumin (produced from egg) used as fining agent in wine and cider.
|
Fish |
Fish gelatine used as carrier for vitamins and flavours.
Fish gelatine or Isinglass used as fining agent in beer, cider and wine.
|
Soybean |
Fully refined soybean oil and fat¹.
Natural mixed tocopherols (E306), natural D-alpha tocopherol, natural D-alpha tocopherol acetate, natural D-alpha tocopherol succinate from soybean sources.
Phytosterols and phytosterol esters derived from vegetable oils obtained from soybean sources.
Plant stanol ester produced from vegetable oil sterols from soybean sources.
|
Milk |
Whey used in distillates for spirits.
Lactitol.
Milk (casein) products used as fining agents in cider and wines.
|
Nuts |
Nuts used in distillates for spirits.
Almonds and walnuts used as flavour in spirits.
|
Celery |
Celery leaf and seed oil.
Celery seed oleoresin.
|
Mustard |
Mustard oil.
Mustard seed oil.
Mustard seed oleoresin.
|
Note
1
And their products, in so far as the process that they have undergone is not likely to increase the level of allergenicity assessed by the European Food Safety Authority for the relevant product from which they originated."
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Labelu Bwyd 1996 ("y prif Reoliadau") i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru. Mae'r Rheoliadau hynny'n rhychwantu Prydain Fawr i gyd. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/26/EC sy'n llunio rhestr o gynhwysion bwyd neu sylweddau a eithriwyd dros dro o Atodiad IIIa o Gyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L75, 22.3.2005, t.33).
2.
Mae'r Rheoliadau hyn—
(a) yn rhoi esemptiad tan 25 Tachwedd 2007 o'r gofynion i labelu alergen yn rheoliad 34B o'r prif Reoliadau yn achos cynhwysion penodol sy'n dod o gynhwysion alergenig (rheoliadau 5 a 7 a'r Atodlen);
(b) yn gwneud rhai diwygiadau canlyniadol (rheoliadau 4 a 6) ac yn diweddaru'r diffiniad o "Directive 2000/13" (rheoliad 3).
3.
Paratowyd arfarniad rheoleiddiol ar yr effaith y bydd y Rheoliadau hyn yn ei chael ar gostau busnes ac fe'i gosodwyd yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut y trosir prif elfennau Cyfarwyddeb 2005/26/EC yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.
Notes:
[1]
1990 p.16; amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o "food") gan O.S. 2004/2990; diwygiwyd adran 53(2) gan Atodlen 6 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p. 28) ac O.S. 2004/2990.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan "the Secretary of State" i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).back
[3]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).back
[4]
O.S. 1996/1499; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1998/1398, 1999/747, 1136, 1483, 2003/832 (Cy.104), 2004/249 (Cy.26), 2004/3022 (Cy.261).back
[5]
OJ Rhif L191, 19.7.2002, t.20.back
[6]
OJ Rhif L75, 22.3.2005, t.33.back
[7]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091191 1
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
19 October 2005
|