British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 Rhif 1833 (Cy.149) (C.79)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051833w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1833 (Cy.149) (C.79)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005
|
Wedi'i wneud |
6 Gorffennaf 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 47(5), 52(3), (4) a (6) o Ddeddf Addysg Uwch 2004[
1] a chyda chytundeb yr Ysgrifennydd Gwladol[
2] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a dehongli
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005.
2.
Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym o ran Cymru.
3.
Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a'r Atodlenni iddi.
Darpariaethau sy'n dod i rym
4.
Daw'r darpariaethau canlynol i rym ar 7 Gorffennaf 2005[
a]—
(a) adran 10(2);
(b) adran 44 (1), (2), (5) a (6);
(c) adran 49 i'r graddau mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 6 isod;
(ch) adran 50 i'r graddau mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 7 isod;
(d) yn Atodlen 6, paragraff 7, dileu adran 26(5) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998; ac
(e) yn Atodlen 7, diddymu adran 26(5) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.
5.
Daw'r darpariaethau canlynol i rym ar 1 Medi 2006—
(a) adran 44(3); a
(b) adran 44(4).
Darpariaeth drosiannol ac arbed
6.
Er gwaethaf dwyn i rym adran 44(1) a (2) yn rhinwedd erthygl 4(b) uchod, hyd at 1 Medi 2006 mae swyddogathau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005[3] yn arferadwy mewn perthynas â Chymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unig.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Gorffennaf 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym yng Nghymru ar 30 Mehefin 2005 y darpariaethau a ganlyn yn Neddf Addysg Uwch 2004:
Adran 10(2) sy'n rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i ariannu'n uniongyrchol ymchwil yn y celfyddydau a'r dyniaethau ac mewn gweithgareddau cysylltiedig.
Adran 44(1) sy'n trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol bŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i wneud rheoliadau sy'n pennu'r trefniadau ar gyfer rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr.
Adran 44(2) sy'n rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol (yn gydredol â'r Ysgrifennydd Gwladol) y pŵer, mewn perthynas â Chymru, i wneud darpariaethau penodol yn y rheoliadau sy'n pennu'r trefniadau ar gyfer rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr.
Adran 44(5) sy'n rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol (yn gydredol â'r Ysgrifennydd Gwladol), a hynny cyn trosglwyddo swyddogaethau cymorth i fyfyrwyr, y pŵer i wneud taliadau i gorff neu berson, megis y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, y bydd un o swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol yn arferadwy ganddo ar ôl trosglwyddo pwerau cymorth i fyfyrwyr i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Adran 44(6) sy'n sicrhau bod darpariaethau penodol Deddf Llywodraeth Cymru 1998 yn gymwys i'r swyddogaethau a drosglwyddir, er enghraifft, nad yw gweithdrefnau seneddol yn gymwys i'r gwaith o wneud deddfwriaeth y Cynulliad Cenedlaethol.
Adran 49 ac Atodlen 6 sy'n cynnwys diwygiadau canlyniadol.
Adran 50 ac Atodlen 7 sy'n cynnwys diddymiadau.
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym yng Nghymru ar 1 Medi 2006 y darpariaethau a ganlyn yn Neddf Addysg Uwch 2004:
Adran 44(3) sy'n sicrhau bod rheoliadau, a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac sy'n darparu ar gyfer ad-dalu drwy gyfrwng trethi fenthyciadau a roddwyd i fyfyrwyr (rheoliadau a wnaed o dan adran 22(5) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998), yn gymwys i Gymru dim ond os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu gweithredu system ad-dalu drwy gyfrwng trethi o gasglu'r arian ac yn hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol o'r penderfyniad hwnnw.
Adran 44 (4) sy'n trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i drosglwyddo neu ddirprwyo unrhyw un o'r swyddogaethau sydd ganddo yn rhinwedd y rheoliadau sy'n pennu'r trefniadau ar gyfer rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr.
NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Y Ddarpariaeth
|
Y Dyddiad Cychwyn
|
Rhif O.S.
|
Adran 1 |
16 Rhagfyr 2004 |
2004/3255 |
Adran 2 |
1 Ebrill 2005 |
2005/767 |
Adrannau 3 i 6 |
16 Rhagfyr 2004 |
2004/3255 |
Adrannau 8 a 9 |
16 Rhagfyr 2004 |
2004/3255 |
Adrannau 11 i 18 |
1 Rhagfyr 2004 |
2004/3144 |
Adran 19 |
1 Tachwedd 2004 |
2004/2781 |
Adran 20 |
1 Ionawr 2005 |
2004/3144 |
Adran 21 |
1 Rhagfyr 2004 |
2004/3144 |
Adran 46 |
1 Ionawr 2005 |
2004/3144 |
Adran 49 |
16 Rhagfyr 2004 1 Ebrill 2005 |
2004/3255 2005/767 |
Adran 50 |
1 Ionawr 2005 1 Ebrill 2005 |
2004/3144 2005/767 |
Atodlen 1 |
1 Rhagfyr 2004 |
2004/3144 |
Atodlen 2 |
1 Rhagfyr 2004 |
2004/3144 |
Atodlen 3 |
1 Rhagfyr 2004 |
2004/3144 |
Atodlen 4 |
1 Rhagfyr 2004 |
2004/3144 |
Atodlen 6 |
16 Rhagfyr 2004 1 Ebrill 2005 |
2004/3255 2005/767 |
Atodlen 7 |
1 Ionawr 2005 1 Ebrill 2005 |
2004/3144 2005/767 |
Cafodd amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg Uwch 2004 eu dwyn i rym o ran Lloegr a Gogledd Iwerddon gan yr offerynnau statudol a ganlyn: O.S. 2004/2781 ac O.S. 2004/3255. Cafodd adran 10(3) o Ddeddf Addysg Uwch 2004 ei dwyn i rym o ran yr Alban gan O.S. 2005/33.
Notes:
[1]
2004 p.8.back
[2]
Fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Addysg Uwch 2004, adran 52(4).back
[3][b]
O.S. 2005/52.back
[4]
1998 p.38.back
English version
[a]
Amended by Correction Slip.
Tudalen 4, rheoliad 4; dylai'r dyddiad dod i rym "30 Mehefin 2005" ddarllen fel "7 Gorffennaf 2005"; a
back
[b]
Amended by Correction Slip.
Tudalen 5; dylai troednodyn "(a)" ddarllen fel troednodyn "(1)" (copi argraffedig yn unig).
back
ISBN
0 11 091173 3
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
14 July 2005
|