British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 Rhif 757 (Cy.62)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050757w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 757 (Cy.62)
ARCHWILIO CYHOEDDUS, CYMRU
Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005
|
Wedi'i wneud |
15 Mawrth 2005 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan y deddfiadau a bennir yn yr Atodlen i'r offeryn hwn, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus 2004 (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 1 Ebrill 2005.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru yn unig.
Diwygio is-ddeddfwriaeth
2.
- (1) Diwygir Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cwmnïau) 1995[
1] fel a ganlyn:
(2) Yn erthygl 9, hepgorer y geiriau o "the Audit Commission's consent" hyd at y diwedd, ac yn eu lle rhodder "the consent of -
3.
- (1) Diwygir Gorchymyn Eithrio Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998[2] fel a ganlyn:
(2) Yn erthygl 4(2)(c)(v), ar y diwedd, mewnosoder y geiriau "or the Auditor General for Wales".
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Mawrth 2005
YR ATODLENRhaglith
Deddfiadau sy'n rhoi pwerau a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 1999[4]
Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[5] |
Adran 70(1) a (5) (fel y'i diwygiwyd, yn achos is- adran (5), gan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus 2004[6], adran 66 ac Atodlen 2, paragraffau 10 a 12(1) a (4)). |
Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996[7] |
Adrannau 106(1)(b) a 146(1). |
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio, o ran Cymru, ddau offeryn statudol er mwyn eu gwneud yn unol â darpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 ("y Ddeddf").
Mae'r Ddeddf yn rhoi nifer o swyddogaethau newydd i Archwilydd Cyffredinol Cymru. Effaith mwyaf arwyddocaol y swyddogaethau newydd yw mai'r Archwilydd Cyffredinol, pan fydd y Ddeddf mewn grym yn llwyr, fydd yn arfer y rhan fwyaf o'r swyddogaethau a arferir ar hyn o bryd yng Nghymru gan y Comisiwn Archwilio ar gyfer Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a Lloegr ("y Comisiwn Archwilio").
Mae'r diwygiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn o ganlyniad i'r newid hwnnw.
Mae erthygl 2 yn diwygio Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cwmnïau) 1995, er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael cydsyniad Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn hytrach na'r Comisiwn Archwilio, i benodi person i archwilio cyfrifon cwmnïau o dan eu rheolaeth o fewn ystyr adran 68 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
Mae erthygl 3 yn diwygio Gorchymyn Eithrio Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998, o ran Cymru, er mwyn darparu bod cyrff y mae eu cyfrifon yn ddarostyngedig i archwiliad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cyflawni un o'r amodau ar gyfer cymhwyster i ymrwymo i gontract o dan y fenter cyllid preifat.
Notes:
[1]
O.S. 1995/849.back
[2]
O.S. 1998/648.back
[3]
1998 p.38.back
[4]
O.S.1999/672.back
[5]
1989 p. 42.back
[6]
2004 p. 23.back
[7]
1996 p.53.back
English version
ISBN
0 11 091097 4
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
22 March 2005
|