British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2005 Rhif 423 (Cy.41) (C.19)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050423w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 423 (Cy.41) (C.19)
CEFN GWLAD, CYMRU
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2005
|
Wedi'i wneud |
1 Mawrth 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 103(3) a (4) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf") [
1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, dehongli a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2005.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf a'r Atodlenni iddi.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Y Diwrnod penodedig
2.
28 Mai 2005 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym -
(a) adran 2 (hawl mynediad i dir mynediad);
(b) adran 12 (effaith hawl mynediad ar hawliau a rhwymedigaethau perchenogion);
(c) adran 13 (rhwymedigaeth meddianwyr);
(ch) adran 14 (tramgwydd arddangos hysbysiadau ar dir mynediad sy'n ceisio darbwyllo'r cyhoedd i beidio â defnyddio'r tir);
(d) adran 46(3) (sy'n cyflwyno Atodlen 4) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 4 y cyfeirir atynt ym mharagraff (e) o'r erthygl hon;
(dd) adran 102 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 16 y cyfeirir atynt ym mharagraff (ff) o'r erthygl hon;
(e) Atodlen 2 (y cyfyngiadau i sydd i'w cadw gan bobl sy'n arfer hawl mynediad);
(f) paragraffau 2 (diwygio Deddf Coedwigaeth 1967 [2]) a 3 (diwygio Deddf Amaethyddiaeth 1967 [3]) o Atodlen 4; ac
(ff) i'r graddau nad yw eisoes wedi dod i rym, Rhan I o Atodlen 16 (dirymu).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
1 Mawrth 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi grym i ddarpariaethau penodol Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf") mewn perthynas â Chymru.
Ar wahân i fân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol, mae'n rhoi grym i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ar 28 Mai 2005 -
(a) adran 2 sy'n cyflwyno hawl mynediad cyhoeddus newydd i "dir mynediad";
(b) adrannau 12 a 13, sy'n ymwneud ag effaith yr hawl mynediad ar hawliau a rhwymedigaethau perchenogion a meddianwyr;
(c) adran 14, sy'n creu tramgwydd newydd, sef arddangos hysbysiadau ar dir mynediad sy'n ceisio darbwyllo'r cyhoedd i beidio â defnyddio'r tir hwnnw; a
(ch) Atodlen 2, sy'n cynnwys cyfyngiadau cyffredinol i'w cadw gan bobl sy'n arfer eu hawliau mynediad ar dir mynediad.
O ran Cymru, gan amlaf ystyr "tir mynediad" (diffinir "access land" yn adran 1(1) o'r Ddeddf) yw tir -
(a) a ddangosir fel gwlad agored neu dir comin cofrestredig ar fap a gyhoeddwyd ar ffurf derfynol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru ("CCGC") at ddibenion Rhan I o'r Ddeddf; neu
(b) a gafodd ei gyflwyno gan berson â hawl i wneud hynny o dan adran 16 o'r Ddeddf.
Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi llunio mapiau ar gyfer pob ardal yng Nghymru sy'n dangos yr ardaloedd lle bydd hawliau mynediad yn gymwys. Gellir edrych ar y fersiwn electronig o'r mapiau hynny yn eu ffurf derfynol yn swyddfa leol berthnasol CCGC y mae ei chyfeiriad i'w chael ar wefan CCGC yn www.ccw.gov.uk. Hefyd, gellir edrych ar y mapiau ar raddfa lai ar y wefan honno.
NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Rhoddwyd grym i ddarpariaethau canlynol Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yng Nghymru drwy orchymynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn -
Adran(nau) neu Atodlen(ni)
|
Y Dyddiad Cychwyn
|
Rhif O.S.
|
18, 20 a 46(1)(a) |
21 Mehefin 2004 |
2004/1489 (Cy.154) (C.59) |
46(1)(b) |
1 Mai 2001 |
2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
46(3) (yn rhannol) |
1 Mai 2001 |
2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
57 (yn rhannol) |
1 Mai 2001 |
2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
60 a 61 |
1 Tachwedd 2002 |
2002/2615 (Cy.253) (C.82) |
63 |
1 Ebrill 2004 |
2004/315 (Cy.33) (C.16) |
68 |
1 Mai 2001 |
2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
70(1) |
1 Ebrill 2004 |
2004/315 (Cy.33) (C.16) |
70(2) |
1 Mai 2001 |
2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
70(3) |
1 Ebrill 2004 |
2004/315 (Cy.33) (C.16) |
70(4) |
1 Mai 2001 |
2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
72 |
1 Mai 2001 |
2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Rhan IV (adrannau 82 i 93) (ac, yn unol â hynny, Atodlenni 13 i 15) |
1 Mai 2001 |
2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
96 |
1 Mai 2001 |
2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
99 |
30 Ionawr 2001 |
2001/203 (Cy.9) (C.10) |
102 (yn rhannol) |
1 Mai 2001 |
2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 4, paragraffau 1, 4, 5 a 6 |
1 Mai 2001 |
2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 6, paragraffau 1, 6 a 9(5) |
1 Ebrill 2004 |
2004/315 (Cy.33) (C.16) |
Atodlen 6, paragraffau 18(a) (yn rhannol) a 19 (yn rhannol) |
1 Mai 2001 |
2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 16, Rhan I (yn rhannol) |
1 Mai 2001 |
2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 16, Rhan I (yn rhannol) |
21 Mehefin 2004 |
2004/1489 (Cy.154) (C.59) |
Atodlen 16, Rhan II (yn rhannol) |
1 Mai 2001 |
2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 16, Rhan III i VI |
1 Mai 2001 |
2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Gwnaed y Gorchmynion Cychwyn canlynol o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 mewn perthynas â Lloegr -
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 1) 2001 (O.S. 2001/114) (C.4)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2833) (C.89)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 3) 2003 (O.S. 2003/272) (C.16)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 4) 2004 (O.S. 2004/292) (C.14)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 5) 2004 (O.S. 2004/2173) (C.93)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 6) 2004 (O.S. 2004/3088) (C.128)
Notes:
[1]
2000 p.37.back
[2]
1967 p.10.back
[3]
1967 p.22.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091077 X
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
8 March 2005
|