Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20043144w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif3144 (Cy.272) (C.136)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2004
|
Wedi'i wneud |
30 Tachwedd 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adrannau 47(5) a 52(6), o Ddeddf Addysg Uwch 2004[
1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a dehongli
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2004.
2.
Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru yn unig.
3.
Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a'r Atodlenni iddi.
Diwrnodau penodedig
4.
Y diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw 1 Rhagfyr 2004.
5.
Y diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw 1 Ionawr 2005.
Darpariaeth drosiannol
6.
Er gwaethaf dwyn i rym adran 20 ac adran 46, mae gan ymwelydd sefydliad cymwys awdurdodaeth mewn perthynas â -
(a) unrhyw gŵ yn sy'n dod o fewn adran 20(2) neu (3) os cyflwynwyd y gŵ yn honno i'r ymwelydd cyn 1 Ionawr 2005; a
(b) unrhyw gŵ yn sy'n dod o fewn adran 46(1) os cyflwynwyd y gŵ yn honno i'r ymwelydd cyn 1 Ionawr 2005.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2]
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Tachwedd 2004
YR ATODLENErthyglau 4 a 5
RHAN
1
Y darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Rhagfyr 2004
Y ddarpariaeth
|
Y pwnc
|
Adran 11 |
Sefydliadau cymwys |
Adran 12 |
Cwynion cymwys |
Adran 13 |
Dynodiad y gweithredydd |
Adran 14 |
Dyletswyddau gweithredydd dynodedig |
Adran 15 |
Dyletswyddau sefydliadau cymwys |
Adran 16 |
Terfynu dynodiad |
Adran 17 |
Braint mewn perthynas â chyfraith difenwi |
Adran 18 |
Y ddarpariaeth os yw dynodiad gweithredydd yn dod i ben |
Adran 21 |
Dehongli |
Atodlen 1 |
Amodau i'w bodloni gan weithredydd cynllun cwynion myfyrwyr |
Atodlen 2 |
Amodau i'w bodloni gan gynllun cwynion myfyrwyr |
Atodlen 3 |
Dyletswyddau gweithredydd dynodedig |
Atodlen 4 |
Terfynu dynodiad gweithredydd |
RHAN
2
Y darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Ionawr 2005
Y ddarpariaeth
|
Y pwnc
|
Adran 20 |
Hepgor awdurdodaeth ymwelydd mewn perthynas â chwynion myfyrwyr |
Adran 46 |
Hepgor awdurdodaeth ymwelydd mewn perthynas ag anghydfod staff |
Adran 50 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atloden 7 isod |
Diddymiadau |
Yn Atodlen 7 diddymiadau yn Neddf Diwygio Addysg 1988 (p.40) |
Diddymiadau |
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym yng Nghymru ar 1 Rhagfyr 2004 ac 1 Ionawr 2005 y darpariaethau hynny yn Neddf Addysg Uwch 2004 a bennir yn Rhannau 1 a 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn. Mae'r Gorchymyn hefyd yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn perthynas â chwynion myfyrwyr a staff a gyflwynwyd i'r ymwelydd cyn 1 Ionawr 2005.
Yn fyr, mae'r darpariaethau hyn yn Neddf Addysg Uwch 2004 yn darparu ar gyfer terfynu awdurdodaeth yr ymwelydd dros anghydfod staff a chwynion myfyrwyr. Maent hefyd yn darparu y bydd corff a ddynodir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn gweithredu cynllun i adolygu cwynion myfyrwyr. Mae cyfranogi yn y cynllun yn orfodol i sefydliadau cymwys.
Mae effaith pob darpariaeth o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a bennir yn yr Atodlen fel a ganlyn -
Mae adran 11 yn nodi'r sefydliadau cymwys a fydd yn ddarostyngedig i'r cynllun newydd i adolygu cwynion myfyrwyr. Y sefydliadau hyn yw prifysgolion, colegau cyfansoddol y prifysgolion, corfforaethau addysg uwch a sefydliadau a ddynodir gan y Cynulliad Cenedlaethol Cymru eu bod yn gymwys i'w cyllido gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Mae adran 12 yn diffinio cwynion cymwys at ddibenion y cynllun. Mae'r rhain yn gwynion yn erbyn sefydliadau cymwys mewn perthynas â gweithredoedd neu anweithiau'r sefydliadau hynny. Unigolion sy'n gwneud y cwynion a rhaid iddynt wneud hynny fel myfyrwyr neu gynfyfyrwyr o'r sefydliadau neu fyfyrwyr sy'n astudio am ddyfarniad o sefydliad cymwys. Ni chynhwysir cwynion ynghylch barn academaidd yn y cynllun.
Mae adran 13 ac Atodlenni 1 a 2 yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol i ddynodi corff i weithredu'r cynllun cwynion myfyrwyr yng Nghymru ac yn nodi'r amodau y mae'n rhaid eu bodloni cyn y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddynodi corff o'r fath ("y gweithredydd dynodedig"). Mae'r amodau'n cynnwys gofyniad bod y corff yn cydymffurfio ag Atodlen 1 a bod darpariaethau'r cynllun y mae'n eu gweithredu yn cydymffurfio ag Atodlen 2.
Mae adran 14 ac Atodlen 3 yn darparu cyhyd â bod corff yn parhau fel y gweithredydd dynodedig rhaid iddo gydymffurfio â'r dyletswyddau a nodir yn Atodlen 3. Mae'r rhain yn cynnwys dyletswydd i ddarparu cynllun, dyletswydd i gyhoeddi'r cynllun, dyletswydd i gydymffurfio â'r gofynion a osodir gan y cynllun a dyletswydd i lunio adroddiad blynyddol.
Mae adran 15 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu sefydliadau cymwys gymryd rhan mewn cynllun a ddarperir gan y gweithredydd dynodedig. Rhaid i'r sefydliadau hynny gydymffurfio â'r rhwymedigaethau a osodir arnynt gan y cynllun, gan gynnwys unrhyw rwymedigaeth i dalu'r gweithredydd dynodedig.
Mae adran 16 ac Atodlen 4 yn rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol, mewn amgylchiadau penodol, y pŵer i derfynu dynodiad corff fel gweithredydd dynodedig. Gall y Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r terfyniad os nad yw'r gweithredydd bellach yn bodloni'r amodau ar gyfer y dynodiad a gall y gweithredydd hysbysu ei fwriad i roi pen ar weithredu'r cynllun.
Mae adran 17 yn darparu braint mewn perthynas â difenwi mewn cysylltiad ag adolygu cwynion myfyrwyr.
Mae adran 18 yn darparu pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud darpariaeth drosiannol amgen (gan gynnwys darpariaeth o ran taliadau) os ceir cytundeb neu hysbysiad i derfynu dynodiad gweithredydd, neu os bydd y gweithredydd wedi peidio â bodoli.
Mae adran 20 yn disodli awdurdodaeth ymwelwyr y sefydliadau cymwys dros gwynion myfyrwyr, gan gynnwys cwynion am dderbyn myfyrwyr i sefydliadau cymwys.
Mae adran 21 yn cynnwys diffiniadau.
Mae adran 46 yn disodli awdurdodaeth ymwelwyr dros anghydfod staff.
Mae adran 50 ac Atodlen 7 yn darparu ar gyfer diddymiadau.
Notes:
[1]
2004 p.8.back
[2]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11091039 7
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
7 December 2004
|