British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Dŵr 2003 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042916w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif2916 (Cy.255) (C.120)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Gorchymyn Deddf Dŵr 2003 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2004
|
Wedi'i wneud |
9 Tachwedd 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 105(3) a (6) o Ddeddf Dŵr 2003[
1] ("y Ddeddf"), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Dŵr 2003 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2004.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Y Diwrnod Penodedig
2.
11 Tachwedd 2004 yw'r diwrnod penodedig y daw darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym -
(a) adran 77 (cynlluniau llifogydd: cyforgronfeydd dŵr mawr);
(b) adran 78 (diogelwch y wlad);
(c) adran 80 (cymhwysiad i'r Goron);
(ch) adran 81 (dyletswydd i annog arbed dŵr);
(d) adran 86(2)(f), ac is-adran (1) i'r graddau y mae'n berthnasol i'r paragraff hwnnw (tir halogedig: llygru dyfroedd a reolir);
(dd) adran 101(1), i'r graddau y mae'n berthnasol i'r diwygiad a wneir gan baragraff 38 o Atodlen 7; ac
(e) adran 101(2), i'r graddau y mae'n berthnasol i adrannau 147 i 149 ac adran 222(1) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991[2] ac adran 101(1) o Ddeddf Amgylchedd 1995[3] a bennir yn Atodlen 9.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Tachwedd 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â rhai o ddarpariaethau Deddf Dŵr 2003 i rym yng Nghymru ar 11 Tachwedd 2004, sef adrannau 77, 78, 80, 81 ac 86(2)(f) (ac adran 86(1) i'r graddau y mae'n berthnasol i'r paragraff hwnnw).
Mae adrannau 77, 78 ac 80 yn diwygio Deddf Cronfeydd Dŵr 1975[
5] ("Deddf 1975").
Mae adran 77 yn mewnosod adran 12A newydd yn Neddf 1975, sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol (i'w ddehongli fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghymru) i'w gwneud yn ofynnol i ymgymerwyr baratoi cynlluniau yn nodi'r camau y byddant yn eu cymryd pe bai cyforgronfeydd dŵr mawr yn gorlifo.
Mae adran 78 yn mewnosod adrannau 2(2A) a 12B newydd yn Neddf 1975, sy'n rhoi'r pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar sail diogelwch y wlad, gyfarwyddo Asiantaeth yr Amgylchedd i beidio â chynnwys gwybodaeth benodol mewn cofrestrau a gedwir o dan Ddeddf 1975; i beidio ag ymgynghori â phersonau wrth baratoi'r cynlluniau y cyfeirir atynt yn adran 12A o Ddeddf 1975; ac i beidio â chyhoeddi'r fath gynlluniau.
Mae adran 80 yn mewnosod adran 27A newydd yn Neddf 1975, sy'n cymhwyso darpariaethau Deddf 1975 i'r Goron.
Mae adran 81 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd camau i annog arbed dŵr, ac yn ei alluogi i wneud Gorchymyn a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol iddo baratoi adroddiadau ar y fath gamau.
Mae adran 86 yn diwygio Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[
6] fel y mae'n ymwneud â thir halogedig a llygru dyfroedd a reolir. Mae adran 86(2)(f) yn egluro'r diffiniad o ddyfroedd a reolir yn adran 78A(9)(a) o'r Ddeddf honno.
Mae adran 101(1) a (2) yn cychwyn yn rhannol Atodlen 7 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) ac Atodlen 9 (diddymiadau a dirymiadau).
NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Daeth darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn Nhabl 1 isod i rym yng Nghymru ac yn Lloegr drwy Orchymynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn -
TABL 1
Y Ddarpariaeth
|
Y Dyddiad Cychwyn
|
Rhif O.S.
|
Adran 6(1) (yn rhannol) |
1 Ebrill 2004 |
2004/641 |
Adran 9 |
1 Ebrill 2004 |
2004/641 |
Adran 10(11) |
1 Ebrill 2004 |
2004/641 |
Adran 15 |
1 Ebrill 2004 |
2004/641 |
Adran 16 (ar wahân i is-a drannau (4) a (5)) |
1 Ebrill 2004 |
2004/641 |
Adran 18 |
1 Ebrill 2004 |
2004/641 |
Adran 19(4) |
1 Ebrill 2004 |
2004/641 |
Adran 20 |
1 Ebrill 2004 |
2004/641 |
Adran 25(1) (yn rhannol), (2) a (4) |
1 Ebrill 2004 |
2004/641 |
Adran 26 |
1 Hydref 2004 |
2004/2528 |
Adran 27 |
1 Ebrill 2004 |
2004/641 |
Adrannau 28 a 29 |
1 Hydref 2004 |
2004/2528 |
Adran 31 |
1 Hydref 2004 |
2004/2528 |
Adran 37 |
1 Ebrill 2004 |
2004/641 |
Adran 38 (yn rhannol) |
1 Hydref 2004 |
2004/2528 |
Adran 48(1) (yn rhannol) |
1 Hydref 2004 |
2004/2528 |
Adran 49 |
1 Hydref 2004 |
2004/2528 |
Adran 50 |
1 Hydref 2004 |
2004/2528 |
Adran 53 |
1 Ebrill 2004 |
2004/641 |
Adrannau 54 a 55 |
1 Hydref 2004 |
2004/2528 |
Adran 56 (yn rhannol) |
1 Ebrill 2004 |
2004/641 |
Adran 57 |
1 Ebrill 2004 |
2004/641 |
Adran 59 |
1 Hydref 2004 |
2004/2528 |
Adrannau 60 a 61 |
1 Ebrill 2004 |
2004/641 |
Adran 62 (yn rhannol) |
1 Hydref 2004 |
2004/2528 |
Adran 63 (yn rhannol) |
1 Hydref 2004 |
2004/2528 |
Adran 64 |
1 Ebrill 2004 |
2004/641 |
Adran 65 |
1 Ebrill 2004 |
2004/641 |
Adran 66 |
1 Ebrill 2004 |
2004/641 |
Adran 68 |
1 Ebrill 2004 |
2004/641 |
Adran 71 |
1 Ebrill 2004 |
2004/641 |
Adran 72 |
1 Ebrill 2004 |
2004/641 |
Adran 74 |
1 Hydref 2004 |
2004/2528 |
Adran 76 |
1 Hydref 2004 |
2004/2528 |
Adran 79 |
1 Hydref 2004 |
2004/2528 |
Adrannau 81 i 83 |
1 Ebrill 2004 |
2004/641 |
Adran 84 |
1 Ebrill 2004 |
2004/641 |
Adran 85 |
1 Ebrill 2004 |
2004/641 |
Adran 87 |
1 Hydref 2004 |
2004/2528 |
Adrannau 90 i 92 |
28 Mai 2004 |
2004/641 |
Adrannau 93 i 97 a 99 |
28 Mai 2004 |
2004/641 |
Adran 100(1) |
1 Hydref 2004 |
2004/2528 |
Adran 100(2) (yn rhannol) |
1 Ebrill 2004 a 28 Mai 2004 |
2004/641 |
Adran 100(2) (yn rhannol) |
1 Hydref 2004 |
2004/2528 |
Adran 100(3) (yn rhannol) |
1 Hydref 2004 |
2004/2528 |
Adran 100(4) (yn rhannol) |
1 Ebrill 2004 |
2004/641 |
Adran 100(4) (yn rhannol) |
1 Hydref 2004 |
2004/2528 |
Adran 100(5) |
1 Ebrill 2004 |
2004/641 |
Adran 100(6) a (7) (yn rhannol) |
17 Mawrth 2004, 1 Ebrill 2004 a 28 Mai 2004 |
2004/641 |
Adran 100(6) a (7) (yn rhannol) |
1 Hydref 2004 |
2004/2528 |
Adran 101(1) (yn rhannol) |
17 Mawrth 2004 a 1 Ebrill 2004 |
2004/641 |
Adran 101(1) (yn rhannol) |
1 Hydref 2004 |
2004/2528 |
Adran 101(2) (yn rhannol) |
17 Mawrth 2004, 1 Ebrill 2004 a 28 Mai 2004 |
2004/641 |
Adran 101(2) (yn rhannol) |
1 Hydref 2004 |
2004/2528 |
Atodlen 7 (yn rhannol) |
1 Ebrill 2004 |
2004/641 |
Atodlen 7 (yn rhannol) |
1 Hydref 2004 |
2004/2528 |
Atodlen 8 (yn rhannol) |
1 Ebrill 2004 |
2004/641 |
Atodlen 8 (yn rhannol) |
1 Hydref 2004 |
2004/2528 |
Atodlen 9 (yn rhannol) |
1 Ebrill 2004 a 28 Mai 2004 |
2004/641 |
Atodlen 9 (yn rhannol) |
1 Hydref 2004 |
2004/2528 |
Daw darpariathau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn Nhabl 2 isod i rym yng Nghymru a Lloegr drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
TABL 2
Y Ddarpariaeth
|
Y Dyddiad Cychwyn
|
Rhif O.S.
|
Adran 24 |
1 Ebrill 2005 |
2004/641 |
Adran 101(1), i'r graddau y mae'n berthnasol i baragraff 27(2) o Atodlen 7 |
29 Rhagfyr 2004 |
2004/2528 |
Daeth darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn Nhabl 3 isod i rym yng Nghymru drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
TABL 3
Y Ddarpariaeth
|
Y Dyddiad Cychwyn
|
Rhif O.S.
|
Adran 67 |
1 Ebrill 2004 |
2004/910 (Cy.93) |
Adran 69 |
1 Ebrill 2004 |
2004/910 (Cy.93) |
Adran 75 |
1 Ebrill 2004 |
2004/910 (Cy.93) |
Adran 101(1) (yn rhannol) |
1 Ebrill 2004 |
2004/910 (Cy.93) |
Atodlen 7 (yn rhannol) |
1 Ebrill 2004 |
2004/910 (Cy.93) |
Atodlen 9 (yn rhannol) |
1 Ebrill 2004 |
2004/910 (Cy.93) |
Notes:
[1]
2003 p.37. Gweler y tabl yn adran 105(6) i gael ystyr "the appropriate authority" mewn perthynas â chychwyniad adrannau 77, 78, 80, 81, 86 a 101 o'r Ddeddf, ac Atodlen 9 iddi.back
[2]
1991 p.57.back
[3]
1995 p.25.back
[4]
1998 p.38.back
[5]
1975 p.23.back
[6]
1990 p.43.back
English version
ISBN
0 11091022 2
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
17 November 2004
|