Wedi'u gwneud | 5 Hydref 2004 | ||
Yn dod i rym | 18 Hydref 2004 |
(2) Er gwaethaf paragraff (1)(c) uchod, caniateir i fynegiad daearyddol gael ei ddefnyddio i ddynodi gwin bwrdd a geir drwy gyfuno gwinoedd fel y'i caniateir gan Erthygl 51(2) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999.
(3) At ddibenion paragraff (1)(e), rhaid ystyried bod gwin o safon organoleptig foddhaol ar gyfer gwin rhanbarthol -
(4) Yn ddarostyngedig i bwynt A, paragraff 2, o Atodiad VII i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999, rhaid peidio â defnyddio unrhyw fynegiad daearyddol heblaw enw uned ddaearyddol wrth labelu neu wrth hysbysebu gwin i'r bwrdd a gynhyrchir mewn unrhyw ran o Gymru.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr "uned ddaearyddol" yw unrhyw un o'r unedau daearyddol y mae Atodlen 7 yn gymwys iddi.
(6) Yn y rheoliad hwn a rheoliad 6 -
Achrediad yn drefnydd panel asesu organoleptig
6.
- (1) Rhaid i gais am achrediad fel trefnydd panel asesu organoleptig gael ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid iddo bennu -
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol -
(b) gwrthod y cais mewn unrhyw achos arall.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r ceisydd o'i benderfyniad o dan baragraff (2) cyn pen pedwar diwrnod ar ddeg ar ôl dod i benderfyniad.
(4) Pan fo'r penderfyniad a hysbyswyd o dan baragraff (3) yn benderfyniad i wrthod achredu, rhaid i'r hysbysiad gynnwys y rheswm dros y penderfyniad hwnnw.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan fo achrediad yn cael ei roi o dan baragraff (2), bydd yn aros mewn grym am unrhyw gyfnod a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn yr achrediad.
(6) Rhaid i drefnydd achrededig ddethol aelodau panel yn unol â'r meini prawf a bennir yn ei gais a rhaid iddo ei gwneud yn ofynnol i unrhyw banel a benodir ddefnyddio'r dull asesu a bennir yn y cais hwnnw a gwneud penderfyniadau ynghylch a gafwyd bod y gwin o safon foddhaol ar gyfer gwin rhanbarthol ar y sail a bennir yn y cais hwnnw.
(7) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddileu achrediad trefnydd panel asesu organoleptig pan fo'n ymddangos iddo nad yw'r person sydd wedi'i achredu yn berson ffit a phriodol i drefnu panel o'r fath neu ei fod wedi methu â chydymffurfio â gofynion paragraff (6).
(8) Pan fo'r Cynulliad cenedlaethol yn dileu achrediad yn unol â pharagraff (7), rhaid iddo gyflwyno i'r trefnydd o dan sylw hysbysiad -
(9) Bernir bod achrediad trefnydd panel asesu organoleptig wedi'i ddileu mewn achos lle mae'r person sydd wedi'i achredu yn gofyn i'w achrediad gael ei ddileu a bydd dilead o'r fath yn effeithiol o'r dyddiad dileu a bennir gan y person hwnnw.";
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Hydref 2004
Y mesurau sy'n cynnwys y darpariaethau Cymunedol | Cyfnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd: Cyfeirnod |
1.
Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 357/79 ar arolygon ystadegol o arwynebeddau sydd o dan winwydd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2329/98 (OJ Rhif L 29, 30.10.98, t.2 ) |
OJ Rhif L 54, 5.3.79, t.124 |
2.
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 1907/85 ar y rhestr o amrywogaethau o winwydd a'r rhanbarthau sy'n darparu gwin wedi'i fewnforio ar gyfer gwneud gwinoedd pefriol yn y Gymuned |
OJ Rhif L 179, 11.7.85, t.21 |
3.
Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 3805/85 yn addasu Rheoliadau penodol ynghylch y sector gwin, oherwydd ymuno Sbaen a Phortiwgal |
OJ Rhif L 367, 31.12.85, t.39 |
4.
Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2392/86 yn sefydlu cofrestr Gymunedol o winllannoedd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1631/98 (OJ Rhif L 210, 28.7.98, t.14) |
OJ Rhif L 208, 31.7.86, t.1 |
5.
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 649/87 yn nodi rheolau manwl ar gyfer sefydlu cofrestr Gymunedol o winllannoedd, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 1097/89 (OJ Rhif L 116, 28.4.89, t.20) |
OJ Rhif L 62, 5.3.87, t.10 |
6.
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2676/90 yn pennu dulliau Cymunedol ar gyfer dadansoddi gwinoedd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 128/2004 (OJ Rhif L 19, 27.1.2004, t.3) |
OJ Rhif L 272, 3.10.90, t.1 |
7.
Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1601/91 yn nodi rheolau cyffredinol ar ddiffinio, disgrifio a chyflwyno gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru a choctêls o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 2061/96 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 277, 30.10.96, t.1) |
OJ Rhif L 149, 14.6.91, t.1 |
8.
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2009/92 yn pennu dulliau dadansoddi Cymunedol ar gyfer ethyl alcohol o darddiad amaethyddol a ddefnyddir i baratoi diodydd gwirodydd, gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru a choctêls o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru |
OJ Rhif L 203, 21.7.92, t.10 |
9.
Penderfyniad y Cyngor 93/722/EC ynghylch gwneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth Bwlgaria ar gyd-ddiogelu a chyd-reoli enwau gwinoedd |
OJ Rhif L 337, 31.12.93, t.11 |
10.
Penderfyniad y Cyngor 93/723/EC ynghylch gwneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Hwngari ar gydsefydlu cwotâu tariff ar gyfer gwinoedd penodol |
OJ Rhif L 337, 31.12.93, t.83 |
11.
Penderfyniad y Cyngor 93/726/EC ynghylch gwneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Romania ar gyd-ddiogelu a chyd-reoli enwau gwinoedd |
OJ Rhif L 337, 31.12.93, t.177 |
12.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 122/94 yn gosod rheolau manwl ar gymhwyso Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1601/91 ar ddiffinio, disgrifio a chyflwyno gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru, a choctêls o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru |
OJ Rhif L 21, 26.1.94, t.7 |
13.
Penderfyniad y Cyngor 94/184/EC ynghylch gwneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd ac Awstralia ar fasnachu gwin |
OJ Rhif L 86, 31.3.94, t.1 |
14.
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 |
OJ Rhif L 179, 14.7.1999, t.1 |
15.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1227/2000 yn gosod rheolau manwl ar gymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin, o ran y potensial ar gyfer cynhyrchu, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1203/2003 (OJ Rhif L 168, 5.7.2003, t.9) |
OJ Rhif L 143, 16.6.2000, t.1 |
16.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1607/2000 yn gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin, yn benodol y Teitl ynglyn â gwin o ansawdd a gynhyrchir mewn rhanbarthau penodedig |
OJ Rhif L 185, 25.7.2000, t.17 |
17.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1622/2000 yn nodi rheolau manwl penodol ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin ac yn sefydlu cod Cymunedol o arferion a phrosesau gwinyddol, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1410/2003 (OJ Rhif L 201, 8.8.2003, t.9) |
OJ Rhif L 194, 31.7.2000, t.1 |
18.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1623/2000 yn gosod rheolau manwl ar gymhwyso Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin o ran mecanweithiau'r farchnad, fel y diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1710/2003 (OJ Rhif L 243, 27.9.2003, t.98) |
OJ Rhif L 194, 31.7.2000, t.45 |
19.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2729/2000 yn nodi rheolau gweithredu manwl ar ddulliau rheoli yn y sector gwin |
OJ Rhif L 316, 15.12.2000 , t.16 |
20.
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 678/2001 ynghylch gwneud Cytundebau ar ffurf Cyfnewid Llythyron rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth Bwlgaria, Gweriniaeth Hwngari a Romania ar gyd-gonsesiynau masnachu ffafriol ar gyfer gwinoedd a gwirodydd penodol, ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 933/95 |
OJ Rhif L 94, 4.4.2001, t.1 |
21.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 883/2001 yn gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 ynghylch y fasnach â thrydydd gwledydd mewn cynhyrchion yn y sector gwin, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2338/2003 (OJ Rhif L 346, 31.12.2003, t.28) |
OJ Rhif L 128, 10.5.2001, t.1 |
22.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2001 yn gosod rheolau cymhwyso manwl ynglyn â'r dogfennau sydd i fynd gyda chynhyrchion gwin wrth iddynt gael eu cludo ac ynglyn â'r cofnodion sydd i'w cadw yn y sector gwin, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1782/2002 (OJ Rhif L 270, 8.10.2002, t.4) |
OJ Rhif L 128, 10.5.2001, t.32 |
23.
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1037/2001 yn awdurdodi cynnig a danfon i bobl eu hyfed yn uniongyrchol winoedd penodol sydd wedi'u mewnforio ac sydd wedi mynd drwy brosesau gwinyddol na ddarparwyd ar eu cyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2324/2003 (OJ Rhif L 345, 31.12.2003, t.24) |
OJ Rhif L 145, 31.5.2001, t.12 |
24.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1282/2001 yn gosod rheolau manwl ar gymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 ynghylch casglu gwybodaeth i ddynodi cynhyrchion gwin a monitro'r farchnad win ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1623/2000 |
OJ Rhif L 176, 29.6.2001, t.14 |
25.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2597/2001 yn agor c wotâu tariff Cymunedol ar gyfer gwinoedd penodol sy'n tarddu o Weriniaeth Croatia, yng nghyn Weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia ac yng Ngweriniaeth Slofenia ac yn darparu ar gyfer gweinyddu'r cwotâu hynny |
OJ Rhif L 345, 29.12.2001, t.35 |
26.
Penderfyniad y Cyngor Rhif 2002/51/EC ar wneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth De Affrica ar fasnachu gwin |
OJ Rhif L 28, 30.1.2002, t.3 |
27.
Penderfyniad y Cyngor a'r Comisiwn Rhif 2002/309/EC ynglyn â'r cytundeb ar gydweithrediad gwyddonol a thechnolegol dyddiedig 4 Ebrill 2002 ar wneud saith Cytundeb gyda Chydffederasiwn y Swisdir, yn benodol darpariaethau Atodiad 7 ar Fasnachu cynhyrchion Sector Gwin sydd wedi'u cynnwys yn y Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Chydffederasiwn y Swisdir ar Fasnachu Cynhyrchion Amaethyddol |
OJ Rhif L 114, 30.4.2002, t.1 |
28.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 753/2002 yn gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 ynglyn â disgrifio, dynodi, cyflwyno a diogelu cynhyrchion penodol y sector gwin, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 316/2004 (OJ Rhif L 55, 24.2.2004, t.16). |
OJ Rhif L 118, 4.5.2002, t.1 |
29.
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 527/2003 yn awdurdodi cynnig a danfon i bobl eu hyfed yn uniongyrchol winoedd penodol sydd wedi'u mewnforio o'r Ariannin ac a allai fod wedi bod drwy brosesau gwinyddol na ddarparwyd ar eu cyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1776/2003 (OJ Rhif L 260, 11.10.2003, t.1) |
OJ Rhif L 78, 25.3.2003, t.1 |
30.
Penderfyniad y Comisiwn 2003/898/EC ynghylch gwneud cytundeb yn diwygio'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd ac Awstralia ar fasnachu gwin |
OJ Rhif L 336, 23.12.2003, t.99 |
31.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2303/2003 ar reolau labelu penodol ar gyfer gwinoedd a fewnforiwyd o Unol Daleithiau America |
OJ Rhif L 342, 30.12.2003, t.5 |
32.
Penderfyniad y Comisiwn 2004/91/EC ar wneud cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Chanada ar fasnachu gwinoedd a diodydd gwirodydd |
OJ Rhif L 35, 6.2.2004, t.1" |
"
1.
Rheoliad 1493/1999: Erthyglau 48 a 49 ac Atodiad VII |
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 753/2002 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 316/2004 (OJ Rhif L55, 24.2.2004, t.16). Pob Erthygl ac eithrio Erthyglau 41 i 46, i'r graddau y maent yn ymwneud â gwinoedd pefriol. |
Rheolau cyffredinol a gofynion penodol ynglyn â disgrifio, dynodi, cyflwyno a diogelu cynhyrchion penodol heblaw gwinoedd pefriol |
2.
Rheoliad 1493/1999: Erthyglau 48 a 49 ac Atodiad VIII |
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 753/2002 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 316/2004 (OJ Rhif L55, 24.2.2004, t.16). Pob Erthygl ac eithrio Erthyglau 41 i 46, i'r graddau y maent yn ymwneud â gwinoedd hanner pefriol awyredig. |
Rheolau cyffredinol a gofynion penodol ynglyn â disgrifio, dynodi, cyflwyno a diogelu gwinoedd pefriol" |
Colofn 1 | Colofn 2 |
Y ffactor | Y safon i'w chyrraedd |
Cryfdfer alcoholaidd gwirioneddol yn ôl cyfaint | Lleiafswm o 8.5% |
Cryfder alcoholaidd gofynnol yn ôl cyfaint |
(a) yn achos gwin gwyn wedi'i gyfoethogi, uchafswm o 11.5%; (b) yn achos gwin coch a gyfoethogwyd a gwin rosé a gyfoethogwyd, uchafswm o 12%; ac (c) yn achos unrhyw win arall, uchafswm o 15% |
Cryfder alcoholaidd naturiol yn ôl cyfaint | Lleiafswm o 6% |
Cyfanswm echdyniad sych (a geir drwy ddwysfesureg) | Lleiafswm o 14 gram am bob litr |
Cyfanswm asidedd | Lleiafswm o 4 gram am bob litr wedi'i fynegi fel asid tartarig |
Asidedd anweddol | Yn achos gwin melus gyda 45 gram am bob litr neu fwy o siwgr gweddilliol, uchafswm o 1.14 gram am bob litr |
Sylffwr deuocsid rhydd |
(a) yn achos gwin sych, uchafswm o 45 miligram am bob litr, a (b) yn achos unrhyw win arall, uchafswm o 60 miligram am bob litr |
Cyfanswm y sylffwr deuocsid |
(a) yn achos gwin coch gyda llai na 5 gram am bob litr o siwgr gweddilliol, uchafswm o 160 miligram am bob litr; (b) yn achos gwin coch gyda 5 gram am bob litr neu fwy o siwgr gweddilliol, uchafswm o 210 miligram am bob litr; (c) yn achos gwin gwyn neu win rosé gyda llai na 5 gram am bob litr o siwgr gweddilliol, uchafswm o 210 miligram ambob litr; ac (ch) yn achos gwin gwyn neu win rosé gyda 5 gram am bob litr neu fwy o siwgr gweddilliol, uchafswm o 260 miligram am bob litr |
Copr | Uchafswm o 0.5 miligram am bob litr |
Haearn | Uchafswm o 8 miligram am bob litr |
Sterileiddiwch | Rhaid peidio â chael unrhyw arwydd o furumau neu facteria sy'n dueddol o ddifetha'r gwin |
Sefydlogrwydd proteinau | Rhaid i olwg y gwin beidio â newid ar ôl cael ei gadw ar 70° C am 15 munud a'i oeri wedyn i 20°C |
Colofn (1) | Colofn (2) |
Enw'r uned ddaearyddol | Hyd a lled daearyddol yr uned |
1.
Caerdydd |
Yr ardal sy'n cynnwys dinas a sir Caerdydd |
2.
Sir Aberteifi |
Yr ardal sy'n cynnwys sir Aberteifi |
3.
Sir Gaerfyrddin |
Yr ardal sy'n cynnwys sir Gaerfyrddin |
4.
Sir Ddinbych |
Yr ardal sy'n cynnwys sir Ddinbych |
5.
Gwynedd |
Yr ardal sy'n cynnwys sir Gwynedd |
6.
Sir Fynwy |
Yr ardal sy'n cynnwys sir Fynwy |
7.
Casnewydd |
Yr ardal sy'n cynnwys bwrdeistref sirol Casnewydd |
8.
Sir Benfro |
Yr ardal sy'n cynnwys sir Benfro |
9.
Rhondda Cynon Taf |
Yr ardal sy'n cynnwys bwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf |
10.
Abertawe |
Yr ardal sy'n cynnwys dinas a sir Abertawe |
11.
Bro Morgannwg |
Yr ardal sy'n cynnwys bwrdeistref sirol Bro Morgannwg |
12.
Cymru |
Yr ardal sy'n cynnwys yr holl siroedd a'r holl fwrdeistrefi sirol a sefydlwyd gan adran 20 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 |
13.
Wrecsam |
Yr ardal sy'n cynnwys bwrdeistref sirol Wrecsam |
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ac mae ar gael oddi wrth yr Is-adran Polisi Amaethyddiaeth a Physgodfeydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
[3] O.S. 2001/2193 (Cy.155).back
[4] OJ Rhif L 236, 23.9.2003, t.33.back
[5] OJ Rhif L 179, 14.7.1999, t.1.back
[6] OJ Rhif L345, 19.12.2001, t.10.back
[7] OJ Rhif L 118, 4.5.2002, t.1.back
[8] OJ Rhif L55, 24.2.2004, t.16.back
[10] 1972 p.70. Gweler, yn benodol, adran 20 o Ddeddf 1972 ac Atodlen 4 iddi, fel y'u diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, ac unrhyw ddiwygiadau a wnaed i ardaloedd llywodraeth leol drwy orchmynion a wnaed o dan adran 51 o Ddeddf 1972 (diddymwyd adran 51 gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1992 (p.19) ond mae darpariaethau Gorchmynion a wnaed o dan yr adran honno yn parhau mewn grym yn rhinwedd adran 29(3) o Ddeddf 1992) ac adran 17 o Ddeddf 1992.back
[11] 1992 p.19; diwygiwyd adran 17 gan Ddeddf yr Heddlu a Llysoedd Ynadon 1994 (p.29), adran 39(4) a (5); Deddf yr Heddlu 1996 (p.16), paragraff 44 o Atodlen 7; Deddf Llywodraeth Leol ac Ardrethu 1997 (p.29), adran 20(1); Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22), adran 89(3) ac O.S. 2001/3962.back