British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041814w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif1814 (Cy.199) (C.74)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2004
|
Wedi'i wneud |
13 Gorffennaf 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 121(5) a 122(3)(b) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ("y Ddeddf")[
1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2004.
Y dyddiad a bennwyd ar gyfer darpariaethau sy'n ymwneud â Chynllun Gofodol Cymru
2.
Y dyddiad a bennwyd i adran 60 o'r Ddeddf ddod i rym yw'r 14 Gorffennaf 2004.
Darpariaeth Drosiannol
3.
Bydd unrhyw gam a gymerwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â darparu Cynllun Gofodol Cymru[
2], gan gynnwys unrhyw ymgynghoriad gydag unrhyw berson mewn perthynas â darpariaethau'r Cynllun, i'w drin fel un a gymerwyd er mwyn cyflawni'r dyletswyddau a osodwyd ar y Cynulliad Cenedlaethol gan adran 60 o'r Ddeddf, boed i'r cam hwnnw gael ei gymryd cyn y dyddiad a bennwyd gan erthygl 2 neu ar y dyddiad hwnnw neu wedi hynny.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Gorffennaf 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 60 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ("y Ddeddf") yn gosod dyletswydd ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") i baratoi cynllun gofodol (Cynllun Gofodol Cymru), i ymgyhgori gyda'r cyhoedd ar ei ddarpariaethau ac i'w gymeradwyo a'i gyhoeddi.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dod ag adran 60 o'r Ddeddf i rym ar 14 Gorffennaf 2004.
Gan fod y gwaith o baratoi Cynllun Gofodol Cymru, gan gynnwys ymgynhori â'r cyhoedd arno, wedi'i gychwyn, o dan bwerau cyffredinol y Cynulliad Cenedlaethol, cyn fod adran 60 o'r Ddeddf wedi dod i rym, mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn darparu fod camau a gymerwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â'r cynllun hwnnw cyn i'r adran honno ddod i rym i'w trin, serch hynny, fel camau a gymerwyd yn unol â'r dyletswyddau perthnasol o dan yr adran honno.
Notes:
[1]
2004 p.5.back
[2]
Gweler adran 58(1) o'r Ddeddf.back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090992 5
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
23 July 2004
|