British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041813w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif1813 (Cy.198) (C.73)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2004
|
Wedi'i wneud |
13 Gorffennaf 2004 | |
Mae Cynulliad Cendlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 121(5) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ("y Ddeddf")[
1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2004.
Diwrnod penodedig
2.
Y diwrnod a benodwyd i'r darpariaethau canlynol ddod i rym, sef -
(a) adran 62(4) a (5)(g) (ffurf a chynnwys cynlluniau);
(b) adran 63(3)(a) a (7) (pŵer i ragnodi personau y dylid eu cynnwys mewn cynllun cynnwys y gymuned a gofynion paratoi cynlluniau);
(c) adran 75 (canllawiau);
(ch) adran 76(2) a (3), ond yn unig at bwrpas galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau yn rhagnodi'r materion y cyfeirir atynt yn yr is-adrannau hynny (adroddiadau monitro blynyddol);
(d) adran 77 (pwerau gwneud rheoliadau); ac
(dd) adran 78 (dehongli),
yw 1 Awst 2004.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Gorffennaf 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â rhai o ddarpariaethau Rhan 6 (Cymru) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ("y Ddeddf") i rym ar y 1 Awst 2004, sef adrannau 62(4) a (5)(g), 63(3)(a) a (7), 75, 76(2) a (3), 77 a 78.
Mae Rhan 6 o'r Ddeddf (adrannau 60 i 78) yn sefydlu, yng Nghymru, system o gynlluniau datblygu lleol ("cynlluniau") yn lle'r cynlluniau datblygu unedol sy'n ofynnol o dan Bennod I o Ran II o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Effaith y Gorchymyn fydd galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") i wneud rheoliadau ac i roi canllawiau i awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru wrth iddynt baratoi ar gyfer y system cynlluniau datblygu newydd, a ddaw i rym maes o law.
Mae adran 62(4) yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol i ragnodi, drwy reoliadau, ffurf a chynnwys cynlluniau.
Mae adran 62(5)(g) yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol ragnodi, drwy reoliadau, materion ychwanegol i'r rhai a restrwyd yn is-adran (5), y bydd yn rhaid i awdurdodau cynllunio lleol dalu sylw iddynt wrth baratoi cynllun.
Mae adran 63 yn darparu ar gyfer cynlluniau cynnwys y gymuned, a fydd yn datgan polisi awdurdod ar gynnwys personau penodol wrth arfer swyddogaethau'r awdurdod o dan Rhan 6. Mae adran 63(3)(a) yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol i ragnodi, drwy reoliadau, pwy y dylai'r personau hynny gynnwys.
Mae adran 63(7) yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol ragnodi, drwy reoliadau, nifer o faterion sy'n ymwneud â pharatoi cynlluniau.
Mae adran 75 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau, wrth arfer unrhyw swyddogaeth a roddir o dan neu yn rhinwedd Rhan 6, dalu sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae adran 76(2) yn ei gwneud yn ofynnol bod adroddiadau monitro blynyddol a wneir gan awdurdodau o dan is-adran (1) yn cynnwys yr wybodaeth a ragnodir gan y Cynulliad Cenedlaethol drwy reoliadau.
Mae adran 76(3) yn ei gwneud yn ofynnol i adroddiadau monitro blynyddol gael eu gwneud ar yr amserau, i fod yn y ffurf ac i gynnwys yr wybodaeth a ragnodir gan y Cynulliad Cenedlaethol drwy reoliadau.
Mae adran 77 yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol, drwy reoliadau, wneud darpariaeth mewn perthynas ag arfer swyddogaethau o dan Ran 6 ac, yn arbennig, i wneud darpariaeth mewn perthynas â'r materion a restrir yn adran 77(2).
Mae adran 78 yn diffinio termau a ddefnyddir yn Rhan 6 o'r Ddeddf.
NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Daeth y ddarpariaeth ganlynol o Ran 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 i rym ar y dyddiad a nodir isod yn sgil Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1814 (Cy.199) (C.74)).
Darpariaeth
|
Dyddiad
|
Adran 60 |
14 Gorffennaf 2004 |
Notes:
[1]
2004 p.5.back
[2]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090991 7
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
23 July 2004
|