Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Etholiadau Lleol (Datganiad Derbyn Swydd) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041508w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif1508 (Cy.157)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Etholiadau Lleol (Datganiad Derbyn Swydd) (Cymru) 2004
|
Wedi'i wneud |
15 Mehefin 2004 | |
|
Yn dod i rym |
1 Medi 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 83(1) a (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[
1], adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[
2], ac adran 52(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[
3], ac a freinir ynddo bellach i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[
4]), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Etholiadau Lleol (Datganiad Derbyn Swydd) (Cymru) 2004, a daw i rym ar 1 Medi 2004.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i bob awdurdod yng Nghymru.
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "awdurdod" ("authority") yw -
(a) cyngor sir,
(b) cyngor bwrdeistref sirol, ac
(c) cyngor cymuned.
Ffurf ar ddatganiad derbyn swydd
3.
Pan fydd awdurdod wedi mabwysiadu darpariaethau gorfodol cod ymddygiad enghreifftiol a wnaed o dan adran 50(2) o Deddf Llywodraeth Leol 2000 ac sy'n gymwys i'r cyngor hwnnw, neu pan fydd darpariaethau gorfodol cod o'r fath yn gymwys i aelodau'r cyngor hwnnw yn unol ag adran 51(5)(b) o'r Ddeddf honno, rhaid i ddatganiad derbyn swydd -
(a) aelod; a
(b) maer etholedig,
fod naill ai ar y ffurf Saesneg a geir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn neu ar y ffurf Gymraeg a geir yn Atodlen 2, neu ar ffurf ac iddi effaith debyg.
Dirymu gorchmynion
4.
Dirymir y gorchmynion canlynol ar 1 Medi 2004 -
(a) Gorchymyn Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Datganiad Derbyn Swydd) 1990[5];
(b) Gorchymyn Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Datganiad Derbyn Swydd) 1990[6];
(c) Gorchymyn Etholiadau Lleol (Datganiad Derbyn Swydd) (Ffurflenni Cymraeg) 1991[7]; a
(ch) Gorchymyn Etholiadau Lleol (Datganiad Derbyn Swydd) (Diwygio) (Cymru) 2001[8]).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9].
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Mehefin 2004
ATODLEN 1 SCHEDULE 1Erthygl 3 Article 3
Declaration of Acceptance of Office
I [ (1)] having been elected to the office of [ (2)] of [ (3)] declare that I take that office upon myself, and will duly and faithfully fulfil the duties of it according to the best of my judgement and ability.
I undertake to observe the code for the time being as to the conduct which is expected of members of [ (4)] and which may be revised from time to time.
Signed ; Date ;
This declaration was made and signed before me,
Signed
Proper officer of the council (5).
(1) Insert the name of the person making the declaration.
(2) Insert "
member"
or "
Mayor"
as appropriate.
(3) and (4) Insert the name of the authority of which the person making the declaration is a member or mayor.
(5) Where the declaration is made before another person authorised by section 83(3) or (4) of the Local Government Act 1972, state instead the capacity in which that person takes the declaration.
ATODLEN 2 SCHEDULE 2Erthygl 4 Article 4
Datganiad Derbyn Swydd
Yr wyf i [ (1)], a minnau wedi fy ethol i swydd [ (2)] [ (3)], yn datgan fy mod yn cymryd arnaf fy hun y swydd honno, ac y byddaf yn cyflawni dyletswyddau'r swydd yn briodol ac yn ffyddlon hyd eithaf fy marn a'm gallu.
Yr wyf yn ymrwymo i barchu'r cod ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth aelodau ac sy'n bodoli am y tro ac a allai gael ei adolygu o dro i dro[ (4)].
Llofnodwyd ; Dyddiad ;
Cafodd y datganiad hwn ei wneud a'i lofnodi ger fy mron,
Llofnodwyd:
Swyddog priodol y cyngor (5).
(1) Mewnosoder enw'r person sy'n gwneud y datganiad.
(2) Mewnosoder "
aelod"
neu "
Maer"
fel y bo'n briodol.
(3) a (4) Mewnosoder enw'r awdurdod y mae'r person sy'n gwneud y datganiad yn aelod ohono neu'n faer yr awdurdod.
(5) Pan wneir y datganiad gerbron person arall a awdurdodwyd gan adran 83(3) neu (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, dylid datgan, yn lle hynny, yn rhinwedd pa swydd y mae'r person hwnnw'n derbyn y datganiad.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi'r ffurfiau ar ddatganiad derbyn swydd ar gyfer aelodau a meiri etholedig cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru yn unol ag adran 83 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys pa un a yw'r cyngor wedi mabwysiadu cod ymddygiad o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ai peidio.
Mae erthygl 3 yn darparu, pan gaiff darpariaethau gorfodol cod ymddygiad enghreifftiol sy'n gymwys i gyngor eu mabwysiadu neu eu cymhwyso iddo, bod rhaid i ffurf y datganiad derbyn swydd fod ar y ffurf a ragnodir naill ai yn Atodlen 1 neu yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn, neu ar ffurff ac iddi effaith debyg.
Mae erthygl 4 yn dirymu, ar 1 Medi 2004, bedwar gorchymyn blaenorol a wnaed o dan adran 83(1) a (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, adran 31(7) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, adrannau 26(3), 27(4) a (5) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, ac adran 52(2) o Deddf Llywodraeth Leol 2000, a oedd yn cynnwys ymrwymiad i barchu'r Cod Cenedlaethol Ymddygiad Llywodraeth Leol. Mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn rhoi codau ymddygiad a wnaed o dan y Ddeddf honno yn lle'r Cod hwnnw.
Mae'r ddwy Atodlen i'r Gorchymyn yn rhagnodi'r ffurfiau Saesneg a Chymraeg ar y datganiad sy'n cynnwys gosodiad bod y rhai sy'n gwneud y datganiad yn ymrwymo i barchu cod ymddygiad eu hawdurdod.
Pan fydd sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru yn mabwysiadu, am y tro cyntaf, god ymddygiad sy'n ofynnol gan adran 51 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, rhaid i holl aelodau ac aelodau cyfetholedig yr awdurdodau hyn, yn ychwanegol at y datganiad a ragnodwyd yn y gorchymyn hwn, roi ymrwymiad ysgrifenedig i'w hawdurdodau y byddant yn parchu'r cod ymddygiad.
Notes:
[1]
1972 p.70.back
[2]
1993 p.38.back
[3]
2000 p.22.back
[4]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[5]
O.S. 1990/932.back
[6]
O.S. 1990/2473.back
[7]
O.S. 1991/1169.back
[8]
O.S. 2001/2963 (Cy. 245).back
[9]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090963 1
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
5 July 2004
|