Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041218w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif1218 (Cy.133)
LANDLORD A THENANT, CYMRU
Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2004
|
Wedi'i wneud |
27 Ebrill 2004 | |
|
Yn dod i rym |
30 Ebrill 2004 | |
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986[
1], ac a freiniwyd ynddo bellach[
2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: -
Teitl, cychwyn a dehongli
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 30 Ebrill 2004.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at "yr Atodlen" yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at offeryn y Gymuned Ewropeaidd yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw ac unrhyw ddiwygiad i'r cyfryw offeryn sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn.
(4) Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr "Rheoliad 2529/01 y Cyngor" ("Council Regulation 2529/01") yw Rheoliad (EC) Rhif 2529/01 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig dafad a chig gafr[3];
ystyr "Rheoliad 1251/99 y Cyngor" ("Council Regulation 1251/99") yw Rheoliad (EC) Rhif 1251/99 y Cyngor sy'n sefydlu system gynnal i gynhyrchwyr cnydau âr penodol[4];
ystyr "Rheoliad 1254/99 y Cyngor" ("Council Regulation 1254/99") yw Rheoliad (EC) Rhif 1254/99 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig eidion a chig llo[5].
Asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol y tir
2.
- (1) Mae paragraffau (2) a (3) o'r erthygl hon yn cael effaith at ddibenion asesu cynhwysedd cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno'n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr is-baragraff (1) o baragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
(2) Pan ellir defnyddio'r tir dan sylw, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd, ffrwythau, neu gynnyrch amrywiol, fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 6 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna -
(a) yr uned a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o dir, a
(b) y swm a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen gyferbyn â'r uned gynhyrchu honno fydd y swm a benderfynir am y cyfnod o 12 mis yn dechrau gyda 12 Medi 2002 fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.
(3) Pan fydd tir y gellir ei ddefnyddio, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu incwm blynyddol net, yn wrthrych taliadau Tir Mynydd neu wedi'i ddynodi fel neilltir, fel a grybwyllir yng nghofnodion 7 ac 8 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna -
(a) yr uned a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o'r tir, a
(b) y swm a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen gyferbyn â'r uned gynhyrchu honno fydd y swm a benderfynir am y cyfnod o 12 mis yn dechrau gyda 12 Medi 2003 fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.
(4) Mae'r Atodlen yn cael effaith yn ddarostyngedig i'r Nodiadau i'r Atodlen.
Dirymu
3.
Dirymir Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2003[6].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7].
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Ebrill 2004
YR ATODLENErthyglau 1(2) a 2
RHAGNODI UNEDAU CYNHYRCHU A PHENDERFYNU INCWM BLYNYDDOL NET
Colofn 1
|
Colofn 2
|
Colofn 3
|
Defnydd ffermio
|
Uned gynhyrchu
|
Incwm blynyddol net gan uned gynhyrchu
|
|
|
£
|
1.
Da byw |
Buchod llaeth: |
|
|
Bridiau Ynysoedd y Sianel |
buwch |
373 |
Bridiau eraill |
buwch |
460 |
Buchod bridio cig eidion: |
|
|
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001[8] |
buwch |
43(1) |
Ar dir arall |
buwch |
73(1) |
Gwartheg pesgi cig eidion (lled arddwys) |
pen |
75(2) |
Buchod llaeth i lenwi bylchau |
pen |
35(3) |
Mamogiaid: |
|
|
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 |
mamog |
11(4) |
Ar dir arall |
mamog |
19(5) |
Ŵ yn stôr (gan gynnwys yn benyw a werthir fel hesbinod blwydd) |
pen |
1.00 |
Moch: |
|
|
Hychod a banwesi torrog |
hwch neu fanwes |
85 |
Moch porc |
pen |
1.75 |
Moch torri |
pen |
3.25 |
Moch bacwn |
pen |
5.00 |
Dofednod: |
|
|
Ieir dodwy |
aderyn |
1.00 |
Brwyliaid |
aderyn |
0.12 |
Cywennod ar ddodwy |
aderyn |
0.25 |
Tyrcwn Nadolig |
aderyn |
2.00 |
2.
Cnydau âr fferm |
Haidd |
hectar |
186(6) |
Ffa |
hectar |
169(7) |
Had glaswellt |
hectar |
100 |
Ceirch |
hectar |
190(8) |
Rêp had olew |
hectar |
171(9) |
Pys: |
|
|
Sych |
hectar |
194(10) |
Dringo |
hectar |
175 |
Tatws: |
|
|
Cynnar cyntaf |
hectar |
800 |
Prif gnwd (gan gynnwys hadau) |
hectar |
750 |
Betys siwgr |
hectar |
240 |
Gwenith |
hectar |
223(11) |
3.
Cnydau garddwriaethol awyr agored |
Ffa cyffredin |
hectar |
500 |
Ysgewyll Brwsel |
hectar |
1400 |
Bresych, safwy a brocoli blaguro |
hectar |
1800 |
Moron |
hectar |
2700 |
Blodfresych a brocoli'r gaeaf |
hectar |
975 |
Seleri |
hectar |
8000 |
Cennin |
hectar |
3200 |
Letys |
hectar |
4150 |
Wynwns: |
|
|
Bylbiau sych |
hectar |
1305 |
Salad |
hectar |
3800 |
Pannas |
hectar |
2850 |
Riwbob (naturiol) |
hectar |
6000 |
Maip a swêds |
hectar |
1300 |
4.
Ffrwythau'r berllan |
Afalau: |
|
|
Seidr |
hectar |
380 |
Coginio |
hectar |
1150 |
Melys |
hectar |
1250 |
Ceirios |
hectar |
800 |
Gellyg |
hectar |
900 |
Eirin |
hectar |
1150 |
5.
Ffrwythau meddal |
Cyrens Duon |
hectar |
800 |
Mafon |
hectar |
3000 |
Mefus |
hectar |
4000 |
6.
Amrywiol |
Hopys |
hectar |
1700 |
7.
Tir Porthiant |
Tir cymwys fel y'i disgrifir yn rheoliad 2A o Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 |
hectar |
swm y taliad Tir Mynydd y mae'n rhaid ei dalu o dan Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 |
8.
Neilltir |
Tir sydd wedi'i neilltuo o dan Erthygl 2(3) o Reoliad y Cyngor 1251/99, ac eithrio pan fydd tir o'r fath yn cael ei ddefnyddio (yn unol ag erthygl 6(3) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1251/99) ar gyfer darparu deunyddiau ar gyfer cynhyrchu cynhyrchion o fewn y Gymuned nad ydynt wedi eu bwriadu'n bennaf ar gyfer eu bwyta gan bobl nac anifeiliaid |
hectar |
51 |
NODIADAU I'R ATODLEN
(1) Didynner £124 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngl
![ycirc](/images/ycirc.gif)
n â'r premiwm at gynnal buchod sugno (premiwm buchod sugno) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 6 o Reoliad 1254/99 y Cyngor ar gyd-drefnu'r farchnad mewn cig eidion a chig llo.
Ychwaneger £25 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngl
n â graddfa is y premiwm dad-ddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad 1254/99 y Cyngor.
Ychwaneger £50 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngl
n â graddfa uwch y premiwm dad-ddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad 1254/99 y Cyngor.
(2) Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu cadw am 12 mis.
Didynner £105 yn achos anifeiliaid a gedwir am 12 mis nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngl
n â'r premiwm arbennig dros gadw anifeiliaid buchol gwryw (premiwm arbennig cig eidion) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 4 o Reoliad 1254/99 y Cyngor.
Ychwaneger £25 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid a gedwir am 12 mis y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngl
n â graddfa is y premiwm dad-ddwysáu.
Ychwaneger £50 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am y cyfnod hwnnw ac y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngl
n â graddfa uwch y premiwm dad-ddwysáu.
Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis ac nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngl
n â'r premiwm arbennig cig eidion, cyfrifir yr incwm blynyddol net drwy ddidynnu £105 o'r ffigur yng ngholofn 3 ac wedyn gwneud addasiad pro rata o'r ffigur canlyniadol.
Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis ac y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngl
n â'r premiwm arbennig cig eidion, cyfrifir yr incwm blynyddol net i ddechrau drwy ddidynnu £105 o'r ffigur yng ngholofn 3, wedyn gwneud addasiad pro rata o'r ffigur canlyniadol, wedyn ychwanegu at y ffigur hwnnw y swm o £105 ac (pan fydd yr incwm blynyddol net yn cynnwys swm yngl
n â phremiwm dad-ddwysáu) y swm o £25 (pan y telir y premiwm dad-ddwysáu ar y raddfa is) neu £50 (pan y telir y premiwm dad-ddwysáu ar y raddfa uwch).
(3) Mae hwn yn dangos y ffigur ar gyfer anifeiliaid (gan anwybyddu oedran) a gedwir am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata i'r ffigur hwn.
(4) Didynner £18 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngl
n â'r premiwm ar gyfer gwrthbwyso colli incwm gan gynhyrchwyr cig defaid (premiwm blynyddol defaid) y darperir ar ei gyfer yn Erthyglau 4 a 5 o Reoliad 2529/01 y Cyngor ar gyd-drefnu'r farchnad mewn cig defaid a chig geifr.
(5) Didynner £14 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol ar eu cyfer yn cynnwys swm yngl
n â'r premiwm defaid blynyddol.
(6) Didynner £249 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngl
n â iawndal y gall cynhyrchwyr cnydau âr wneud cais amdano (taliad arwynebedd) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 2 o Reoliad 1251/99 y Cyngor.
(7) Didynner £288 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngl
n â thaliad arwynebedd.
(8) Didynner £249 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngl
n â thaliad arwynebedd.
(9) Didynner £250 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngl
n â thaliad arwynebedd.
(10) Didynner £291 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngl
n â thaliad arwynebedd.
(11) Didynner £250 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngl
n â thaliad arwynebedd.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu cynhwysedd cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn nodi'r swm a fernir yn incwm blynyddol net gan bob uned o'r fath ar gyfer y flwyddyn 12 Medi 2003 hyd 11 Medi 2004 yn gynhwysol.
Mae gofyn cael asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol y tir amaethyddol i benderfynu a yw'r tir dan sylw yn "uned fasnachol o dir amaethyddol" at ddibenion darpariaethau olynu yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986: gweler adrannau 36(3) and 50(2) yn arbennig.
Mae "uned fasnachol o dir amaethyddol" yn dir sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, â'r gallu i gynhyrchu incwm blynyddol net nad yw'n llai na chyfanswm enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd amser-llawn 20 oed neu drosodd (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986).
Wrth benderfynu'r ffigur incwm blynyddol hwn, ni ddefnyddir o reidrwydd naill ai'r system ffermio a weithredir ar ddaliad penodol na data hanesyddol o'r daliad hwnnw. Yn hytrach, pryd bynnag y bydd defnydd ffermio penodol a grybwyllir yng ngholofn 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn berthnasol i'r penderfyniad hwnnw, yr unedau cynhyrchu a'r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofnau 2 a 3 yn ôl eu trefn fydd y sail ar gyfer asesu cynhwysedd cynhyrchiol y tir dan sylw.
Mae'r ffigurau incwm blynyddol net yng ngholofn 3 o'r Atodlen yn nodi'r incwm blynyddol net o un uned gynhyrchu. Mewn rhai achosion bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am y cyfnod llawn o ddeuddeng mis. Mewn achosion eraill bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am ran o'r flwyddyn yn unig, a gall y bydd mwy nag un gylchred gynhyrchu yn y cyfnod o ddeuddeng mis. Bydd yr asesiad o gynhwysedd cynhyrchu'r tir yn cymryd i ystyriaeth yr holl gynhyrchu yn ystod blwyddyn.
Notes:
[1]
1986 p.5.back
[2]
Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog (a ddiffiniwyd yn adran 96(1) o'r Ddeddf fel yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Chymru) o dan baragraff 4 o Atodlen 6 o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back
[3]
OJ Rhif L341, 22.12.01, t.3.back
[4]
OJ Rhif L160, 26.6.99, t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1038/01 (OJ Rhif L145, 31.5.01, t.16).back
[5]
OJ Rhif L160, 26.6.99, t.21, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 806/03 (OJ Rhif L122, 16.05.03, t.1).back
[6]
O.S. 2003/4 (Cy.2).back
[7]
1998 p.38.back
[8]
O.S. 2001/496 (Cy.23) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1806 (Cy.176).back
English version
ISBN
0 11090939 9
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
5 May 2004
|