British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040999w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif999 (Cy.105) (C.43)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
CYFRAITH TROSEDD, CYMRU
YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2004
|
Wedi'i wneud |
30 Mawrth 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 93(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003[
1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chymhwyso
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2004.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar 31 Mawrth 2004
2.
Mae darpariaethau canlynol Rhan 6 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 yn dod i rym ar 31 Mawrth 2004 mewn perthynas â Chymru -
(a) adran 40 (cau mangreoedd swnllyd);
(b) adran 41 (cau mangreoedd swnllyd: atodol);
(c) adran 42 (ymdrin â s n yn y nos);
(ch) adran 43 (hysbysiadau cosbau ar gyfer graffiti a gosod posteri);
(d) adran 44 (ystyr tramgwydd perthnasol);
(dd) adran 45 (derbynebau a derbyniadau cosbau);
(e) adran 47 (dehongli etc.);
(f) adran 48 (hysbysiadau cael gwared ar graffiti);
(ff) adran 49 (adennill gwariant);
(g) adran 50 (canllawiau);
(ng) adran 51 (apelau);
(h) adran 52 (esemptiad rhag atebolrwydd mewn perthynas â hysbysiadau cael gwared ar graffiti);
(i) adran 55 (gwastraff a adawyd yn anghyfreithiol etc.); ac
(l) adran 56 (estyn pwerau awdurdod sbwriel i gymryd camau adfer).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mawrth 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 31 Mawrth 2004, mewn perthynas â Chymru, ddarpariaethau penodol o Ran 6 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (" y Ddeddf"), sef:
(a) adran 40, sy'n rhoi per i awdurdodau lleol i wneud gorchmynion cau mewn perthynas â mangreoedd swnllyd;
(b) adran 41, sy'n gwneud darpariaethau atodol mewn perthynas â gorchmynion cau;
(c) adran 42, sy'n diwygio Deddf S n 1996 i estyn y cymhwysiad adrannau 2 i 9 o'r Ddeddf honno at ardal pob awdurdod lleol, i roi disgresiwn i ymchwilio i gwynion am s n yn y nos yn lle'r ddyletswydd y mae awdurdodau lleol ar hyn o bryd yn ddarostyngedig iddi, ac i roi per i wneud darpariaeth, drwy reoliadau, ar gyfer pa ddibenion y ceir defnyddio'r derbyniadau cosb sy'n dod i law o dan adran 8 o'r Ddeddf honno;
(ch) adran 43, sy'n rhoi per i awdurdodau lleol i ddyroddi hysbysiadau cosbau penodedig i bersonau sydd wedi cyflawni tramgwydd perthnasol yn ardal yr awdurdod;
(d) adran 44, sy'n diffinio ystyr "relevant offence" at ddibenion adran 43;
(dd) adran 45, sy'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â'r cosbau sy'n daladwy yn unol â'r hysbysiadau cosbau penodedig o dan adran 43;
(e) adran 47, sy'n gwneud darpariaeth o ran dehongli termau penodol ac sy'n rhoi per i'r person priodol (a ddiffinnir, mewn perthynas â Chymru, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru) i gyhoeddi canllawiau mewn perthynas â hysbysiadau cosbau penodedig o dan adran 43;
(f) adran 48, sy'n rhoi per i awdurdodau lleol gyflwyno hysbysiadau cael gwared ar graffiti i bersonau sy'n gyfrifol am arwynebau a ddifwynwyd gan graffiti;
(ff) adran 49, sy'n rhoi per i awdurdodau lleol adennill oddi wrth y personau y cyflwynwyd hysbysiadau cael gwared ar graffiti iddynt unrhyw wariant a dynnwyd yn rhesymol gan yr awdurdod wrth gael gwared ar y difwyniad;
(g) adran 50, sy'n gosod dyletswydd ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol yng Nghymru at ddibenion adrannau 48 a 49, ac sy'n gosod dyletswydd ar yr awdurdodau lleol hynny i roi sylw i'r canllawiau hynny;
(ng) adran 51, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer apelau yn erbyn hysbysiadau cael gwared ar graffiti;
(h) adran 52, sy'n esemptio awdurdodau lleol a phersonau penodol rhag atebolrwydd dros ddifrod a ddaw o arfer neu honni arfer pwerau penodol ynghylch hysbysiadau cael gwared ar graffiti;
(i) adran 55, sy'n diwygio Deddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989 a Deddf yr Amgylchedd 1995 i estyn pwerau gorfodi awdurdodau casglu gwastraff, ac sy'n mewnosod darpariaethau newydd yn Neddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 i roi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi cyfarwyddiadau ynghylch y categorïau o wastraff a ddylai gael blaenoriaeth o dan adran 59 o'r Ddeddf honno a dyroddi hysbysiadau yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparu gwybodaeth mewn perthynas ag arfer pwerau o dan adrannau 33(1) a 59 o'r Ddeddf honno; ac
(l) adran 56, sy'n diwygio adran 92 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 i estyn y categorïau o dir y caiff prif awdurdodau sbwriel gymryd camau mewn perthynas â hwy.
NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi cael neu yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru yn ogystal â Lloegr gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Adran neu Atodlen
|
Dyddiad cychwyn
|
Rhif O.S.
|
1 i 11 |
20 Ionawr 2004 |
2003/3300 |
18 |
27 Chwefror 2004 |
2003/3300 |
23 |
27 Chwefror 2004 |
2003/3300 |
25 i 29 |
27 Chwefror 2004 |
2003/3300 |
30 i 38 |
20 Ionawr 2004 |
2003/3300 |
39(1), (2), (3) (yn rhannol), (4), (5) a (6) |
20 Ionawr 2004 |
2003/3300 |
39(3) (y gweddill) |
30 Ebrill 2004 |
2003/3300 |
53 |
20 Ionawr 2004 |
2003/3300 |
57 i 59 |
20 Ionawr 2004 |
2003/3300 |
60 i 64 |
27 Chwefror 2004 |
2003/3300 |
85(1), (2), (3) a (4) (yn rhannol) |
20 Ionawr 2004 |
2003/3300 |
85(8) |
27 Chwefror 2004 |
2003/3300 |
86(3) (yn rhannol) |
20 Ionawr 2004 |
2003/3300 |
87 |
20 Ionawr 2004 |
2003/3300 |
89(1), (2), (3), (4), (6) a (7) |
20 Ionawr 2004 |
2003/3300 |
92 (yn rhannol) |
20 Ionawr 2004 |
2003/3300 |
Atodlen 3 (yn rhannol) |
20 Ionawr 2004 |
2003/3300 |
Notes:
[1]
2003 p. 38.back
[2]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 090918 6
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
7 April 2004
|