Wedi'u gwneud | 30 Mawrth 2004 | ||
Yn dod i rym | 31 Mawrth 2004 |
1. | Teitl, cymhwyso a chychwyn |
2. | Dehongli |
3. | Trwyddedau, awdurdodiadau a chymeradwyaethau |
4. | Hysbysiadau daliadau |
5. | Cofnodion symud |
6. | Cofnodion lladd-dai |
7. | Cofnodion gwerthu mewn arwerthiant |
8. | Cofnod o'r nifer o foch ar ddaliad |
9. | Cadw cofnodion |
10. | Marc adnabod |
11. | Gofynion ar gyfer tagiau clust |
12. | Slapfarc |
13. | Marciau ychwanegol |
14. | Adnabod moch dros 12 mis a symudir oddi ar ddaliad |
15. | Adnabod moch o dan 12 mis a symudir oddi ar ddaliad |
16. | Adnabod moch a symudir i ddaliad o'r tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd |
17. | Gofynion adnabod ychwanegol |
18. | Symud moch 12 mis oed neu'n iau i ladd-dy |
19. | Symud moch i sioeau, arddangosfeydd, ac at ddibenion bridio |
20. | Symud moch i'w hallforio |
21. | Symud moch |
22. | Trwyddedau cerdded ar gyfer moch anwes |
23. | Daliadau cymeradwy |
24. | Dileu marc adnabod |
25. | Amnewid marc adnabod |
26. | Cyflwyno dogfennau a chofnodion |
27. | Gorfodi |
28. | Dirymu |
ATODLEN | COFNOD SYMUDIADAU'R DALIAD |
Trwyddedau, awdurdodiadau a chymeradwyaethau
3.
Rhaid i unrhyw drwydded, awdurdodiad neu gymeradwyaeth o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig, gall fod yn amodol ar amodau a chaniateir ei hatal, diwygio neu ddirymu yn ysgrifenedig ar unrhyw amser.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi cod alffaniwmerig ar gyfer pob cenfaint o foch ar y daliad ("marc y genfaint"), ar ôl i'r wybodaeth ym mharagraff (1) gael ei darparu.
(3) Rhaid i geidwad hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol am unrhyw newid neu y chwanegiad at yr wybodaeth ym mharagraff (1) o fewn un mis ar ôl y newid neu'r ychwanegiad.
(4) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i geidwad sydd eisioes wedi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol.
(5) Rhaid i unrhyw hysbysiad y mae ei angen o dan yr erthygl hon fod yn ysgrifenedig.
Cofnodion symud
5.
- (1) Rhaid i geidwad gofnodi pob un o symudiadau mochyn i'w ddaliad ac oddi yno o fewn 36 awr ar ôl y symud.
(2) Rhaid i'r cofnod fod yn y ffurf a nodir yn yr Atodlen.
(3) Os yw'r symud ar gyfer unrhyw ddiben y cyfeirir ato yn erthyglau 19 neu 20 rhaid i'r ceidwad hefyd gofnodi'r rhif adnabod unigol unigryw.
Cofnodion Lladd-dai
6.
- (1) Rhaid i feddiannydd lladd-dy, yn ychwanegol at ofynion erthygl 5, gofnodi manylion unrhyw fochyn y deuir ag ef i ladd-dy -
(2) Rhaid i'r manylion i'w cofnodi gael eu cadw ar wahân i'r wybodaeth sy'n ofynnol gan erthygl 5 a rhaid iddynt gynnwys hefyd -
Cofnodion gwerthu mewn arwerthiant
7.
- (1) Mewn marchnad lle gwerthir moch trwy arwerthiant rhaid i feddiannydd y farchnad, ar gyfer pob lot of foch, gofnodi -
(2) Rhaid i'r cofnod gael ei wneud o fewn 36 awr ar ôl y gwerthiant.
Cofnod o'r nifer o foch ar ddaliad
8.
O leiaf unwaith y flwyddyn rhaid i'r ceidwad gadw cofnodion uchafswm nifer y moch sy'n bresennol fel rheol ar y daliad.
Cadw cofnodion
9.
- (1) Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo wneud cofnodion o dan y Gorchymyn hwn eu cadw am o leiaf 6 blynedd o ddiwedd y flwyddyn y gwnaed y cofnod ynddi.
(2) Caiff cofnodion fod yn ysgrifenedig neu ar ffurf electronig.
(2) At ddibenion erthyglau 19 a 20 rhaid i farc y genfaint ym mharagraff (1) gael ei ddilyn gan rif adnabod unigol unigryw a neilltuir i'r mochyn gan y ceidwad.
Gofynion ar gyfer tagiau clust
11.
Rhaid i dag clust -
Slapfarc
12.
Tatw o farc y genfaint a roddir ar ddwy ysgwydd flaen y mochyn yw slapfarc.
Marciau ychwanegol
13.
Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn yn atal ceidwad rhag marcio'r mochyn ag unrhyw wybodaeth arall, neu rhag ychwanegu gwybodaeth ychwanegol at y marc adnabod, ar yr amod nad yw'r marciau hyn yn effeithio ar y gallu i darllen y marc adnabod neu'r slapfarc.
Adnabod moch o dan 12 mis oed a symudir oddi ar ddaliad
15.
- (1) Ni chaiff neb symud mochyn 12 mis oed neu'n iau oddi ar ddaliad oni bai ei fod wedi'i adnabod yn unol ag erthygl 14 neu â marc dros dro.
(2) Rhaid i farc dros dro -
Adnabod moch a symudir i ddaliad o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd
16.
- (1) Rhaid i unrhyw berson sy'n mewnforio mochyn o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd roi tag clust neu datw ar y mochyn sy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol, yn y drefn ganlynol -
(2) Rhaid i'r tag clust neu'r tatw gael ei roi ar y mochyn o fewn 30 diwrnod ar ôl iddo gyrraedd daliad y gyrchfan, a beth bynnag, cyn iddo gael ei symud o'r daliad hwnnw.
(2) Yn yr erthygl hon, ystyr marchnad gigydda yw marchnad i werthu moch y bwriedir eu cigydda yn ddiymdroi.
Symud moch i sioeau, arddangosfeydd ac at ddibenion bridio
19.
Ni chaiff neb symud mochyn oddi ar ddaliad -
oni bai ei fod wedi'i farcio â marc adnabod sy'n cynnwys rhif adnabod unigol unigryw yn unol ag erthygl 10(2).
Symud moch i'w hallforio
20.
- (1) Ni chaiff neb symud mochyn oddi ar ddaliad at ddibenion masnach neu allforio rhyng-Gymunedol oni bai ei fod wedi'i farcio â marc adnabod sy'n cynnwys -
(2) Mae paragraff (1) yn gymwys p'un ai tag clust ynteu tatw yw marc adnabod.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo mochyn roi'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i'r ceidwad yn naliad y gyrchfan a rhaid i'r ceidwad ei chadw am o leiaf 6 mis.
(3) Rhaid i geidwad daliad y gyrchfan anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) at yr awdurdod lleol, a hynny o fewn 3 diwrnod ar ôl i'r mochyn gyrraedd.
(4) Rhaid i geidwad mochyn sy'n cael ei symud y tu allan i Gymru anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) at yr awdurdod lleol ar gyfer y daliad traddodi.
Trwyddedau cerdded i foch anwes
22.
- (1) Caiff ceidwad mochyn anwes wneud cais i'r Ysgrifennydd Gwladol am drwydded ("trwydded gerdded") sy'n caniatáu i'r ceidwad symud y mochyn heb gydymffurfio ag erthyglau 5 a 21.
(2) Rhaid i'r person sy'n symud y mochyn o dan y drwydded hon gario copi ohoni drwy gydol y symud.
Daliadau cymeradwy
23.
- (1) Daliad y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gymeradwyo at ddibenion symud moch y bwriedir eu bridio neu eu pesgi yw daliad cymeradwy.
(2) Rhaid i'r gymeradwyaeth bennu pa ddaliadau y gellir symud moch oddi arnynt a pha ddaliadau y gellir eu symud iddynt.
(3) Nid yw symud moch rhwng daliadau sydd wedi'u cymeradwyo o dan yr erthygl hon yn sbarduno'r cyfnod segur yng Ngorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 [2].
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n amnewid marc adnabod naill ai -
Cyflwyno dogfennau a chofnodion
26.
Caiff arolygydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gofnodion a wneir o dan y Gorchymyn hwn gael eu cyflwyno os gwneir cais ac i gopi neu allbrint ohono gael ei wneud.
Gorfodi
27.
- (1) Mae'r Gorchymyn hwn i'w orfodi gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, fod dyletswydd orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan y Gorchymyn hwn i'w gyflawni gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gan yr Ysgrifennydd Gwladol (yn ôl y digwydd) ac nid gan yr awdurdod lleol.
Dirymu
28.
- (1) Dirymir y canlynol -
(2) Dirymir Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud 1995[6]) mewn perthynas â Chymru yn unig.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mawrth 2004
Ben Bradshaw
Is-ysgrifennydd Seneddol
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
30 Mawrth 2004
Dyddiad y Symud | Marc adnabod, slapfarc neu farc dros dro | Nifer y moch | Daliad y cawsant eu symud oddi arno | Daliad y cawsant eu symud iddo |
Mae Rhan 2 yn nodi gofynion o ran cadw cofnodion, gan gynnwys y gofyniad i gadw cofnodion symud (erthygl 5), cofnodion gwerthu mewn arwerthiant (erthygl 7) a chofnodion am y nifer o foch ar ddaliad (erthygl 8).
Mae Rhan 3 yn diffinio marciau adnabod (erthygl 10) a slapfarciau (erthygl 12) ac yn pennu'r gofynion ar gyfer tagiau clust (erthygl 11). Mae Rhan 6 yn rheoleiddio symud moch (erthygl 21) a moch anwes (erthygl 22) ac yn darparu ar gyfer cymeradwyo daliadau y gellir symud moch oddi arnynt heb sbarduno'r cyfnod segur yng Ngorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 (O.S. 2003/1966) (Cy. 211) yn naliad y gyrchfan (erthygl 23).
Mae Rhan 7 yn gwahardd dileu ac amnewid marciau adnabod, ac eithrio o dan rai amgylchiadau (erthyglau 24 a 25).
Mae'r Gorchymyn yn cael ei orfodi gan yr awdurdod lleol (erthygl 27).
Mae torri'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, ac yn dwyn cosb yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.
Mae Arfarniad Rheoliadol wedi baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn ac fe'i lleolir yn llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol. Gellir cael copïau oddi wrth yr Is-adran Iechyd Anifeiliaid, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
[2] O.S. 2003/1966 (Cy.211).back
[3] O.S. 2002/2303 (Cy. 228).back
[4] O.S. 2003/170 (Cy.30).back
[5] O.S. 2003/2763 (Cy.268).back