British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040871w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif871 (Cy.86)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Cymru) 2004
|
Wedi'u gwneud |
23 Mawrth 2004 | |
|
Yn dod i rym |
5 Ebrill 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[
1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 5 Ebrill 2004.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl 1988[
2].
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau
2.
Yn rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli), ar ôl y diffiniad o "relevant income" mewnosoder y diffiniad canlynol -
"
mae " severe disability element" i'w ddehongli yn unol ag adran 11(6)(d) o Ddeddf Credydau Treth 2002[3];".
Diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau
3.
- (1) Mae Rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (disgrifiad o bersonau sydd â hawl i beidio â thalu ac i gael taliadau llawn) yn cael ei ddiwygio yn unol â darpariaeth ganlynol y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff (2)(e) -
(a) Yn y geiriau cloi, yn lle "£14,200" rhodder "£14,600";
(b) yn is-baragraff (ii), ar ôl "disability element" mewnosoder "or severe disability element".
Diwygio Rhan I o Atodlen 1 i'r prif Reoliadau
4.
- (1) Diwygir Tabl A o Ran I o'r prif Reoliadau (addasiadau i ddarpariaethau Rheoliadau Cymhorthdal Incwm 1987[4] at ddibenion Rhan I o'r Atodlen hon) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn y cofnod sy'n ymwneud â rheoliad 53 yn lle "£12,000" rhodder £12,250" ac yn lle "£19,500" rhodder "£20,000".
(3) Yn y cofnod sy'n ymwneud â rheoliad 45 -
(a) ym mharagraff (b), yn lle "£19,500" rhodder "£20,000";
(b) ym mharagraff (c), yn lle "£12,000" rhodder "£12,250".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Mawrth 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988 ("y prif Reoliadau") sy'n darparu ar gyfer peidio â chodi taliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ("GIG") ac ar gyfer talu treuliau teithio mewn achosion penodol.
Mae gan rai personau hawl awtomatig i beidio â thalu taliadau'r GIG ac i gael taliadau am dreuliau teithio am eu bod yn cael budd-daliadau penodedig y wladwriaeth.
Mae Rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (disgrifiad o bersonau sydd â'r hawl i beidio â thalu ac i gael taliadau llawn) i fewnosod ffigur uwch ar gyfer y terfyn incwm perthnasol a ddefnyddir i gyfrifo'r hawl i gael credyd treth gwaith a chredyd treth plant.
Nid oes gan lawer o bersonau hawl awtomatig i beidio â thalu taliadau'r GIG ac i gael taliadau am dreuliau teithio. Mae'r prif Reoliadau'n cynnwys darpariaeth ar gyfer cyfrifo incwm, cyfalaf a gofynion hawlydd (a rhai ei deulu, lle y bônt yn berthnasol). Gwneir y cyfrifiad hwn trwy gymhwyso darpariaethau wedi'u haddasu Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 a nodir yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau.
Mae Rheoliad 4 yn diwygio Tabl A o Atodlen 1 i'r prif Reoliadau er mwyn uwchraddio'r terfynau cyfalaf sy'n cael eu defnyddio mewn cyfrifiadau ynghylch peidio â chodi tâl ac ad-daliadau sy'n ymwneud â phersonau sy'n byw yn barhaol mewn gofal preswyl neu mewn cartrefi nyrsio.
Notes:
[1] 1977 p.49 ("Deddf 1997"); mewnosodwyd adran 83A gan adran 14(1) o Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1988 (p.7) ac fe'i diwygiwyd gan baragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), gan baragraff 18(5) o Atodlen 9 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 (p.19) ("Deddf 1990") a chan baragraff 40 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17).
Diwygiwyd Adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf 1990 a chan Atodlen 4, paragraff 37(6) o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8).
Adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan adran 26(2)(g) ac (i) o Ddeddf 1990 am y diffiniad o "prescribed a "regulations".
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(5).back
[2]
O.S.1988/551 fel y'i diwygiwyd gan O.S.1989/394, 517 a 614, 1990/548, 918 a 661, 1991/557, 1992/1104, 1993/608, 1995/642 a 2352, 1996/410, 1346 a 2362, 1997/748 a 2393, 1998/417, 1999/767 a 2840 (Cy.20), 2001/1397 (Cy.92) a 3322 (Cy.W275), 2003/975 (Cy.134) a 2003/2561 (Cy.250).back
[3]
2002 p.21back
[4]
O.S.1987/1967back
[5]
1998 p.38back
English version
ISBN
0 11 090907 0
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
30 March 2004
|