British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040315w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif315 (Cy.33) (C.16)
HAWLIAU TRAMWY, CYMRU
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2004
|
Wedi'i wneud |
10 Chwefror 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol trwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 103(3) a (4) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (" y Ddeddf")[
1]:
Enwi a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2004.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Y diwrnod penodedig
2.
Y diwrnod penodedig i'r canlynol ddod i rym -
(a) adran 63 o'r Ddeddf (gorfodi dyletswydd i atal rhwystrau ar briffyrdd);
(b) adran 70(1) a (3) o'r Ddeddf (mân ddiwygiadau i Ddeddf Priffyrdd 1980[2]); ac
(c) paragraffau 1, 6 a 9(5) o Atodlen 6 i'r Ddeddf (darpariaethau sy'n ymwneud â chynlluniau gwella hawliau tramwy a baratowyd o dan adrannau 60 a 61 o'r Ddeddf),
yw 1 Ebrill 2004.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Chwefror 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi grym, ar 1 Ebrill 2004, i adrannau 63 a 70(1) a (3) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf") a pharagraffau 1, 6 a 9(5) o Atodlen 6 iddi mewn perthynas â Chymru,
Mae adran 63 o'r Ddeddf yn mewnosod adrannau 130A, 130B, 130C a 130D yn Neddf Priffyrdd 1980 ("Deddf 1980"). Cyflwynwyd y darpariaethau hyn er mwyn cryfhau'r darpariaethau presennol sy'n ymwneud â symud rhwystrau o hawliau tramwy. Lle bydd unrhyw berson yn credu bod awdurdod priffyrdd lleol ("yr awdurdod") yn methu yn ei ddyletswydd o dan adran 130 o Ddeddf 1980 i atal, cyn belled â phosibl, hawl dramwy rhag cael ei chau neu ei rhwystro, mae adran 130A yn galluogi'r person hwnnw i gyflwyno hysbysiad i'r awdurdod yn gofyn iddo sicrhau bod y rhwystr yn cael ei symud. Lle nad yw'r person a gyflwynodd yr hysbysiad yn fodlon bod y rhwystr wedi'i symud, mae adran 130B yn galluogi'r person hwnnw i geisio gorchymyn llys ynadon er mwyn gorfodi'r awdurdod i fynd ati i sicrhau bod y rhwystr yn cael ei symud. Mae adrannau 130C a 130D yn darparu materion gweithdrefnol cysylltiedig.
Mae adran 70(1) o'r Ddeddf yn ymestyn p
![wcirc](/images/wcirc.gif)
er awdurdod priffyrdd o dan adran 66(3) o Ddeddf 1980 i ddarparu a chynnal a chadw nodweddion diogelwch ar lwybrau troed trwy alluogi'r awdurdod i ddarparu a chynnal a chadw pyst a thrwy ymestyn y ffordd y mae'r adran yn cael ei chymhwyso i gynnwys llwybrau ceffylau.
Mae adran 70(3) o'r Ddeddf yn ymestyn p
![wcirc](/images/wcirc.gif)
er awdurdod i ddefnyddio cerbydau ar droedffyrdd, llwybrau troed a llwybrau ceffylau trwy alluogi'r awdurdod i ddefnyddio cerbydau ac offer o'r fath at ddibenion atal neu symud rhwystrau, niwsans neu ymyriadau eraill.
Mae paragraffau 1, 6 a 9(5) o Atodlen 6 i'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r corff sydd â ph
![wcirc](/images/wcirc.gif)
er i gadarnhau (neu, yn achos paragraff 1, i gadarnhau neu wneud) gorchymyn creu, dileu neu wyro llwybr cyhoeddus i ystyried unrhyw ddarpariaeth berthnasol mewn cynllun gwella hawliau tramwy a baratowyd o dan adrannau 60 a 61 o'r Ddeddf lle mae'r gorchymyn arfaethedig yn effeithio ar dir a gynhwysir yn y cynllun. Cychwynnwyd adrannau 60 a 61 o'r Ddeddf ar 1 Tachwedd 2002 gan Orchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2615) (Cy.253) (C.82).
NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Adran(nau) neu Atodlen(ni)
|
Dyddiad Cychwyn
|
Rhif O.S.
|
46(1)(b) |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
46(3) (yn rhannol) |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
57 (yn rhannol) |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
60 a 61 |
1 Tachwedd 2002 |
O.S. 2002/2615 (Cy.253) (C.82) |
68 |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
70(2) a (4) |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
72 |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Rhan IV (adrannau 82 i 93 ac, yn unol â hynny, Atodlenni 13, 14 a 15) |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
96 |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
99 |
30 Ionawr 2001 |
O.S. 2001/203 (Cy.9) (C.10) |
102 (yn rhannol) |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 4, paragraffau 1, 4, 5 a 6 |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 6, paragraffau 18(a) a 19 (yn rhannol) |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 16, Rhannau I a II (yn rhannol) |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 16, Rhannau V a VI |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Notes:
[1]
2000 p.37.back
[2]
1980 p.66.back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090867 8
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
18 February 2004
|