British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Sir Ddinbych (Rhuddlan, y Rhyl, Dyserth a Phrestatyn) 2003 Rhif 3134 (Cy.300)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033134w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 3134 (Cy.300)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Sir Ddinbych (Rhuddlan, y Rhyl, Dyserth a Phrestatyn) 2003
|
Wedi'i wneud |
28 Tachwedd 2003 | |
|
Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2) |
Gan bod Comisiwn Ffiniau Llwyodraeth Leol Cymru wedi cyflwyno adroddiad dyddiedig Ebrill 2002 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[1] ar adolygiad a gyflawnwyd gan Gyngor Sir Ddinbych ar y ffiniau rhwng cymunedau Dyserth, Prestatyn, Rhuddlan a'r Rhyl yn Sir Ddinbych ynghyd â'r cynigion y mae wedi eu llunio amdanynt;
a chan bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion hyn;
a bod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;
mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2] yn awr yn gwneud y Gorchymyn canlynol: -
Enwi a chychwyn
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Ddinbych (Rhuddlan, y Rhyl, Dyserth a Phrestatyn) 2003.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2004 sef y diwrnod penodedig ("appointed day") at ddibenion y Rheoliadau, ond at y dibenion a nodir yn Rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2003.
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "map ffiniau A" ("boundary map A") yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio "Map A Gorchymyn Sir Ddinbych (Rhuddlan, y Rhyl, Dyserth a Phrestatyn) 2003" ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
ystyr "map ffiniau B" ("boundary map B") yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio "Map B Gorchymyn Sir Ddinbych (Rhuddlan, y Rhyl, Dyserth a Phrestatyn) 2003" ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
ystyr "y Rheoliadau" ("the Regulations") yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976[3]; ac
ystyr "Sir Ddinbych" ("Denbighshire") yw Sir Ddinbych.
Newidiadau i Ardaloedd Cymunedau
3.
- (1) Mae'r rhannau hynny o gymuned Rhuddlan sydd yn Sir Ddinbych ac a ddangosir â llinellau croes du ar fapiau ffiniau A a B yn cael eu gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned y Rhyl.
(2) Mae'r rhan honno o gymuned Dyserth sydd yn Sir Ddinbych ac a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau B yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned Prestatyn.
(3) Mae'r rhan o gymuned Rhuddlan sydd yn Sir Ddinbych ac a ddangosir wedi'i arlliwio'n ddu ar fap ffiniau B yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned Prestatyn.
Newidiadau i Wardiau
4.
- (1) Estynir ward y De o gymuned y Rhyl i gynnwys yr ardal a ddangosir â llinellau croes du ar fap ffiniau A.
(2) Estynir ward y De Ddwyrain o gymuned y Rhyl i gynnwys yr ardal a ddangosir â llinellau croes du ar fap ffiniau B
(3) Estynir ward y De Orllewin o gymuned Prestatyn i gynnwys yr ardal a ddangosir â llinellau croes du a'r ardal a ddangosir wedi'i arlliwio'n ddu ar fap B.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Sue Essex
Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
28 Tachwedd 2003
Click here to view map
Click here to view map
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi effaith i gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Effaith y cynigion hynny yw:
(i) y bydd ardaloedd yng nghymuned Rhuddlan (a ddangosir â llinellau croes du yn y mapiau ffiniau A a B y cyfeirir atynt yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) yn dod yn rhan o gymuned y Rhyl; a
(ii) y bydd ardal yng nghymuned Dyserth yng nghyffiniau'r eiddo a elwir "Ffordd Pantycelyn", "Pydew Farm", "Pydew Bungalow", "Little Pydew Farm", ?OQ?Plas Newydd Farm, "Bungalow", a "52 Ffordd Ffynnon" (a ddangosir â llinellau croes du ar fap ffiniau B y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) yn dod yn rhan o gymuned Prestatyn; a
(iii) y bydd ardal yng nghymuned Rhuddlan yng nghyffiniau'r eiddo a elwir "Four Winds Farm" (a ddangosir wedi'i arlliwio'n ddu ar fap ffiniau B y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) hefyd yn dod yn rhan o gymuned Prestatyn.
Mae printiau o'r map ffiniau wedi eu hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Sir Dinbych yn Swyddfeydd y Cyngor, Rhuthun ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).
Mae Erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn darparu bod wardiau De a De Ddwyrain cymuned y Rhyl a ward De Orllewin Cymuned Prestatyn, y cyfeirir atynt yng Ngorchymyn Sir Ddinbych (Trefniadau Etholiadol) 1998 ("Gorchymyn 1998"), yn cael eu hestyn fel bod eu ffiniau yn cyd-redeg â ffiniau'r cymunedau fel y'u diwygiwyd gan y Gorchymyn hwn.
Mae Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) ("Rheoliadau 1976") y cyfeirir atynt yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith a gweithrediad gorchmynion megis y gorchymyn hwn.
Yn rhinwedd Rheoliad 40 o Reoliadau 1976, dehonglir cyfeiriadau yng Ngorchymyn 1998 at gymunedau Rhuddlan a Dyserth fel cyfeiriadau at y cymunedau hynny fel y'u newidir gan y Gorchymyn hwn.
Notes:
[1]
1972 (p.70).back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1976/246, fel y'i diwygiwyd gan amryw offerynnau statudol. Nid yw'r diwygiadau hynny yn berthnasol i'r offeryn statudol hwn.back
English version
ISBN
0 11090848 1
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
20 January 2004
|