Wedi'u gwneud | 2 Rhagfyr 2003 | ||
Yn dod i rym | 4 Rhagfyr 2003 |
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "ysgol a gynhelir" ("maintained school") yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig.
(3) Yn y Rheoliadau mae cyfeiriad (sut bynnag y caiff ei eirio) at ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig yn cynnwys ysgol newydd a fydd yn ysgol o'r fath a chanddi gorff llywodraethu dros dro pan weithredir cynigion o dan unrhyw ddeddfiad.
(4) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at gorff llywodraethu yn cynnwys corff llywodraethu dros dro ar ysgol newydd sy'n dod o fewn paragraff (3).
(5) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at ysgol gynradd neu ysgol uwchradd yn golygu ysgol gynradd neu ysgol uwchradd a fydd yn ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol.
(6) Yn y Rheoliadau hyn nid yw cyfeiriad (sut bynnag y caiff ei eirio) at ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol yn cynnwys ysgolion nad ydynt yn ysgolion a gynhelir fel y'u diffinnir ym mharagraff (2).
(7) Yn y Rheoliadau hyn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at wariant yn gyfeiriadau at y gwariant hwnnw yn net o'r canlynol -
(8) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at grant penodedig yn gyfeiriad at unrhyw grant a delir i'r awdurdod o dan amodau sy'n gosod cyfyngiadau ar ddibenion penodol yr awdurdod y ceir defnyddio'r grant ar eu cyfer, ond nid yw'n cynnwys -
(9) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at daliad unedol cynllun PFI yn gyfeiriad at daliad sy'n daladwy gan yr awdurdod addysg lleol o dan drafodiad cyllid preifat.
(10) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at drafodiad cyllid preifat yn gyfeiriad at drafodiad fel y diffinnir "transaction" gan reoliad 16 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) 1997[6].
(11) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at fformiwla yn golygu fformiwla a benderfynwyd (ar ôl ymgynghori) gan yr awdurdod addysg lleol cyn dechrau blwyddyn ariannol erbyn pryd y penderfynir ar gyfrannau cyllideb ysgolion yn y flwyddyn ariannol honno gan roi sylw i'r ffactorau, y meini prawf a'r gofynion a ragnodwyd mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 47 o Ddeddf 1998.
(12) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at wariant cyfalaf yn golygu gwariant y mae awdurdod yn bwriadu ei gyfalafu yn eu cyfrifon yn unol ag arferion priodol sef yr arferion cyfrifyddu hynny -
(13) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at CERA yn gyfeiriadau at wariant cyfalaf y mae awdurdod yn disgwyl ei dynnu o gyfrif refeniw'r awdurdod fel y'i diffinnir yn adran 41(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[8].
(14) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at wariant a eithrir yn gyfeiriadau at y dosbarthiadau neu'r disgrifiadau canlynol o wariant -
Dirymu
3.
- (1) Dirymir Rheoliadau 2, 3 a 5 o Reoliadau Cyllido Ysgolion a Gynhelir 1999 ac Atodlen 2 iddynt[11] (i'r graddau y byddent wedi parhau mewn grym yn rhinwedd Deddf Dehongli 1978[12]) ar 1 Ebrill 2004.
(2) Ond bydd y rheoliadau hynny a'r Atodlen honno yn parhau i fod yn gymwys at ddibenion cyllido ysgolion a gynhelir mewn unrhyw flwyddyn sy'n dod i ben cyn 1 Ebrill 2004.
Cyllideb ysgolion
4.
- (1) Drwy hyn rhagnodir y dosbarthiadau neu'r disgrifiadau o wariant awdurdod addysg lleol a bennir ym mharagraff (2) at ddibenion adran 45A(2) o Ddeddf 1998 a phenderfynu ar gyllideb ysgolion awdurdod addysg lleol.
(2) Dyma'r dosbarthiadau neu'r disgrifiadau o wariant awdurdod addysg lleol -
ond ddim ond i'r graddau nad yw gwariant o'r fath -
Cyllideb yr AALl
5.
- (1) Drwy hyn rhagnodir y dosbarthiadau neu'r disgrifiadau o wariant awdurdod addysg lleol a bennir yn Atodlen 1 at ddibenion adran 45A(1) o Ddeddf 1998 a phenderfynu ar gyllideb AALl awdurdod addysg lleol, ac eithrio i'r graddau y mae gwariant o'r fath yn wariant a eithrir neu'n dod o fewn paragraff (2).
(2) Daw gwariant o fewn y paragraff hwn os yw'n wariant -
Cyllideb ysgolion unigol
6.
Caiff awdurdod addysg lleol ddidynnu o'i gyllideb ysgolion unrhyw un neu'r cyfan o'r dosbarthiadau neu'r disgrifiadau o wariant cynlluniedig a nodir yn Atodlen 2, yn llwyr neu'n rhannol, er mwyn gweld beth yw ei gyllideb ysgolion unigol ar gyfer y flwyddyn ariannol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[15].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Rhagfyr 2003
6.
Gwariant a dynnir wth baratoi ac adolygu cynllun sy'n nodi'r trefniadau a wneir, neu y bwriedir eu gwneud, gan yr awdurdod mewn cysylltiad ag addysg plant ag anawsterau ymddygiad o dan adran 527A o Ddeddf 1996[17].
7.
Gwariant ar gyflawni swyddogaethau'r awdurdod o dan Ddeddf Plant 1989[18] ac o dan adran 175[19] o Ddeddf 2002 a swyddogaethau eraill sy'n ymwneud ag amddiffyn plant.
8.
Gwariant a dynnir wrth ymglymu i drefniant neu a dynnir wedyn yn unol â threfniant o dan adran 31 o Ddeddf Iechyd 1999[20].
9.
Gwariant wrth ddarparu cymorth meddygol arbennig ar gyfer disgyblion unigol i'r graddau na thelir gwariant o'r fath gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol[21]) neu'r Bwrdd Iechyd Lleol[22] neu'r Cynulliad Cenedlaethol.
Gwelliannau mewn ysgolion
10.
Gwariant a dynnir gan yr awdurdod mewn perthynas â chamau i gefnogi gwella safonau yn ysgolion yr awdurdod, gan gynnwys, yn benodol -
Mynediad i addysg
11.
Gwariant mewn perthynas â'r materion canlynol -
(c) swyddogaethau'r awdurdod mewn perthynas â gwahardd disgyblion o ysgolion neu unedau cyfeirio disgyblion, heb gynnwys darparu unrhyw addysg i'r disgyblion hynny, ond gan gynnwys cyngor i rieni disgybl a waharddwyd;
(ch) gweinyddu'r system i dderbyn disgyblion i ysgolion (gan gynnwys apelau derbyn ac ymgynghori o dan adran 89(2) o Ddeddf 1998);
(d) gwariant a dynnir mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod o dan adran 85A o Ddeddf 1998[25] (sydd yn darparu ar gyfer sefydlu a chynnal fforymau derbyn);
(dd) swyddogaethau'r awdurdod o dan adran 509 a 509AA i 509AC[26] o Ddeddf 1996 (cludiant o'r cartref i'r ysgol ac o'r cartref i'r coleg);
(e) swyddogaethau'r awdurdod o dan adrannau 510 a 514 o Ddeddf 1996 (darparu a gweinyddu grantiau dilladu a grantiau byrddio), ac yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 518(1)(c)[27]) o Ddeddf 1996.
12.
Gwariant ar y Gwasanaeth Lles Addysg a gwariant arall sy'n deillio o swyddogaethau'r awdurdod o dan Bennod II o Ran VI o Ddeddf 1996 (presenoldeb yn yr ysgol).
13.
Gwariant ar ddarparu cefnogaeth i fyfyrwyr o dan adran 1(1) o Ddeddf Addysg 1962[28] ac o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[29]).
14.
Gwariant ar grantiau disgresiynol o dan adran 1(6) neu 2 o Ddeddf Addysg 1962 (dyfarndaliadau ar gyfer cyrsiau dynodedig a chyrsiau eraill).
15.
Gwariant ar dalu lwfansau i bobl dros oedran ysgol gorfodol yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 518(1)(b)[30] o Ddeddf 1996.
16.
Gwariant ar dalu i bobl dros oedran ysgol gorfodol mewn cysylltiad â'r addysg neu'r hyfforddiant a ragnodwyd yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 181(1) o Ddeddf 2002.
Addysg bellach a hyfforddiant i bobl ifanc ac oedolion
17.
Gwariant ar ddarparu addysg a hyfforddiant a gweithgareddau amser hamdden wedi'i drefnu a darpariaeth arall o dan adran 15A a 15B o Ddeddf 1996[31].
18.
Gwariant ar y ddarpariaeth gan yr awdurdod addysg lleol o dan adrannau 15A a 508 o Ddeddf 1996 o adloniant a hyfforddiant cymdeithasol a chorfforol, ac ar ddarpariaeth yr awdurdod o wasanaethau o dan adran 123 o Ddeddf 2000 i annog a galluogi'r bobl ifanc i gymryd rhan mewn addysg a hyfforddiant.
Rheoli strategol
19.
Gwariant yn rhinwedd ei swyddogaeth fel awdurdod addysg lleol mewn perthynas â'r canlynol -
a phob gweinyddu ariannol cysylltiedig;
(e) swyddogaethau'r awdurdod o dan adran 28 o Ddeddf 2002 (darparu cyfleusterau cymunedol gan gyrff llywodraethu);
(f) tasgau eraill sy'n angenrheidiol i gyflawni cyfrifoldebau prif swyddog cyllid yr awdurdod o dan adran 151 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[34];
(ff) recriwtio, hyfforddi, datblygu proffesiynol parhaus, rheoli perfformiad a rheoli personél yn achos staff a gyllidir o wariant na thelir amdano gan gyfrannau cyllideb ysgolion ac a delir am wasanaethau a gyflawnir mewn perthynas â swyddogaethau a gwasanaethau'r awdurdod y cyfeirir atynt yn yr Atodlen hon;
(g) ymchwiliadau a wneir gan yr awdurdod ar gyflogeion neu gyflogeion posibl yr awdurdod neu gyrff llywodraethu ysgolion, neu bersonau a gymerir ymlaen fel arall neu sydd i'w cymryd ymlaen (gyda thâl neu'n ddi-dâl) i weithio yn yr ysgolion neu drostynt;
(ng) swyddogaethau'r awdurdod mewn perthynas â blwydd-daliadau, gan gynnwys gweinyddu pensiwn athrawon, heblaw swyddogaethau sydd wedi eu dirprwyo i gyrff llywodraethu ysgolion;
(h) aelodaeth ôl-weithredol o gynlluniau pensiwn ac etholiadau ôl-weithredol a wneir mewn perthynas â phensiynau pan na fyddai'n briodol disgwyl i gorff llywodraethu ysgol i dalu'r gost o gyfran cyllideb yr ysgol;
(i) cyngor, yn unol â swyddogaethau statudol yr awdurdod, i gyrff llywodraethu mewn perthynas â staff a delir, neu sydd i'w talu, i weithio mewn ysgol, a chyngor mewn perthynas â rheoli'r holl staff ar y cyd mewn unrhyw ysgol unigol ("gweithlu'r ysgol"), gan gynnwys yn benodol y cyngor o ran newidiadau mewn cyflog, amodau gwasanaeth a chyd-gyfansoddiad a chyd-drefniadaeth gweithlu ysgol o'r fath;
(j) penderfynu amodau gwasanaeth ar gyfer y staff nad ydynt yn addysgu a chynghori'r ysgolion ar raddau staff felly;
(l) swyddogaethau'r awdurdod ynghylch penodi neu ddiswyddo cyflogeion;
(ll) ymgynghori, a swyddogaethau yn barod ar gyfer ymgynghori â chyrff llywodraethu, disgyblion a phobl a gyflogir mewn ysgolion neu eu cynrychiolwyr personol, neu â chyrff eraill sydd â buddiant;
(m) cydymffurfio â dyletswyddau'r awdurdod o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974[35] a'r darpariaethau statudol perthnasol fel y'u diffinnir yn adran 53(1) o'r Ddeddf honno i'r graddau na ellir cael cydymffurfedd yn rhesymol drwy'r tasgau a ddirprwyir i gyrff llywodraethu ysgolion; ond gan gynnwys gwariant a dynnir gan yr awdurdod wrth fonitro perfformiad y tasgau hynny gan gyrff llywodraethu ac os oes angen rhoi cyngor iddynt;
(n) ymchwilio i gwynion a'u datrys gan gynnwys camau a gymerir i helpu corff llywodraethu i ymdrin â chwyn;
(o) gwasanaethau cyfreithiol ynghylch swyddogaethau statudol yr awdurdod;
(p) paratoi ac adolygu cynlluniau sy'n ymwneud â chydweithio â gwasanaethau awdurdod lleol arall neu gydweithio â chyrff cyhoeddus neu wirfoddol;
(ph) paratoi, addasu ac adolygu cynllun datblygu'r blynyddoedd cynnar a gofal plant ar gyfer ei ardal o dan adrannau 120 a 121 o Ddeddf 1998[36] a darparu (ond nid y gwariant a awdurdodir ganddo) partneriaeth datblygu'r blynyddoedd cynnar a gofal plant o dan adran 119 o Ddeddf 1998[37];
(r) darparu gwybodaeth ar gyfer neu ar gais y Cynulliad Cenedlaethol, adran o'r Llywodraeth neu unrhyw gorff sy'n arfer swyddogaethau ar ran y Goron a darparu gwybodaeth arall y mae'r awdurdod o dan ddyletswydd i drefnu ei bod ar gael;
(rh) dyletswyddau'r awdurdod o dan Erthygl 4(2) a (5) o Orchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswyddau Statudol) 2001[38]);
(s) talu'r ffioedd sy'n daladwy i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 4(4) a 9(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 a darparu'r wybodaeth sy'n ofynnol gan y Cyngor yn unol â rheoliadau[39] a wnaed o dan adran 12 o'r Ddeddf honno;
(t) gwariant a dynnir mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 12 o Ddeddf 2002 (awdurdodau'n goruchwylio cwmnïau a ffurfiwyd gan gyrff llywodraethu); a
(th) gwariant a dynnir mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod o dan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995[40] i'r graddau na ellir cael cydymffurfedd yn rhesymol drwy'r tasgau a ddirprwyir i gyrff llywodraethu ysgolion; ond gan gynnwys gwariant a dynnir gan yr awdurdod wrth fonitro perfformiad y tasgau hynny gan gyrff llywodraethu os oes angen rhoi cyngor iddynt.
20.
Gwariant ar sefydlu a chynnal systemau cyfrifiadurol electronig, gan gynnwys storio data, i'r graddau y maent yn cysylltu, neu'n hwyluso cysylltiad yr awdurdod â'r ysgolion a gynhelir ganddo, rhwng ysgolion o'r fath â'i gilydd neu rhwng ysgolion o'r fath â phobl neu sefydliadau eraill.
21.
Gwariant ar fonitro trefniadau asesu'r Cwricwlwm Cenedlaethol sy'n ofynnol gan orchymynion a wneir o dan adran 356 o Ddeddf 1996 ac o dan adran 108 o Ddeddf 2002[41].
22.
Gwariant mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod mewn perthynas â chyngor ymgynghorol sefydlog addysg grefyddol a ffurfiwyd gan yr awdurdod o dan adran 390 o Ddeddf 1996 neu wrth ailystyried a pharatoi cynllun maes llafur cytûn addysg grefyddol yn unol ag Atodlen 31 i Ddeddf 1996.
23.
Gwariant mewn perthynas â diswyddo neu ymddeoliad cynamserol unrhyw berson neu at ddibenion trefnu ymddiswyddiad, neu mewn perthynas â gweithredoedd sy'n gwahaniaethu yn erbyn unrhyw berson.
24.
Gwariant mewn perthynas â thaliadau athrawon o dan adran 19(9) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.
25.
Gwariant mewn perthynas â swyddogaethau corff priodol o dan reoliadau yn unol ag adran 19(2)(g) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[42].
26.
Gwariant ar benodi llywodraethwyr, gwneud offerynnau llywodraeth, talu treuliau y mae gan lywodraethwyr hawl i'w cael nad ydynt yn daladwy o gyfran cyllideb ysgol a darparu gwybodaeth i lywodraethwyr.
27.
Unrhyw wariant ar yswiriant heblaw am atebolrwydd sy'n codi mewn cysylltiad ag ysgolion neu dir ac adeiladau ysgol.
28.
Gwariant a dynnir mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod o dan adran 47A[43] o Ddeddf 1998 (sefydlu a chynnal a chadw fforymau ysgolion ac ymgynghori â hwy).
Darpariaeth o natur arbenigol
2.
Yn ddarostyngedig i baragraffau 3 a 4, gwariant a dynnir wrth wneud y ddarpariaeth a bennir yn natganiad disgybl o anghenion addysgol arbennig ac eithrio os yw'r disgybl -
3.
Os daw disgybl o fewn paragraff 2(a) neu (b) a bod cost y ddarpariaeth a bennir yn natganiad y disgybl o anghenion addysgol arbennig yn sylweddol yn fwy na'r gost i'r mwyafrif o ddisgyblion yn yr ysgol arbennig, neu sydd yn y lleoedd yn yr ysgol gynradd neu'r ysgol uwchradd o dan sylw, o ba faint y mae swm yn y gwariant a dynnir wrth wneud y ddarpariaeth a bennir yn ei ddatganiad o anghenion addysgol arbennig yn fwy na'r hyn a dynnir wrth ddarparu ar gyfer disgybl sy'n perthyn i'r mwyafrif o'r disgyblion.
4.
Gwariant wrth wneud y ddarpariaeth a bennir yn natganiad disgybl o anghenion addysgol arbennig os daw'r disgybl o fewn paragraff 2(b) ond bod y lleoedd a gydnabyddir gan yr awdurdod fel lleoedd a gedwir i blant ag anghenion addysgol arbennig ar gyfer disgyblion â nam ar eu golwg, eu clyw, eu lleferydd neu eu hiaith neu nam cyfathrebu arall.
5.
Gwariant mewn perthynas â chefnogaeth arbenigol a roddir i gynorthwyo'r cyrff llywodraethu ysgolion i fodloni anghenion penodol disgyblion â datganiadau anghenion addysgol arbennig neu sydd o fewn ystod Gweithredu Gan yr Ysgol a Mwy fel y'i disgrifir yn y Cod Ymarfer[44] a ddyroddwyd o dan adran 313 o Ddeddf 1996 (sef gwariant na fyddai'n briodol disgwyl iddo gael ei dalu o gyfran cyllideb yr ysgol).
6.
Gwariant at ddibenion sy'n gysylltiedig â hybu'r canlynol -
7.
Gwariant mewn perthynas ag addysg heblaw yn yr ysgol o dan adran 19 o Ddeddf 1996 neu mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion fel y'i diffinnir yn yr adran honno.
8.
Gwariant a dynnir (heblaw gwariant a dynnir o dan Atodlen 1 neu unrhyw baragraff arall o'r Atodlen hon) ar wasanaethau y mae eu hangen i weithredu cynllun sy'n nodi'r trefniadau a wnaed, neu y bwriedir eu gwneud, gan yr awdurdod mewn cysylltiad ag addysg plant ag anawsterau ymddygiad o dan adran 527A o Ddeddf 1996[45] ac ar weithgareddau eraill at ddibenion osgoi gwahardd disgyblion o ysgolion.
9.
Gwariant ar dalu ffioedd mewn perthynas â disgyblion ag anghenion addysgol arbennig -
10.
Gwariant ar daliadau i awdurdod addysg lleol arall yn unol ag adran 493 neu 494 o Ddeddf 1996[46] neu adran 207 o Ddeddf 2002[47] (adennill rhwng awdurdodau addysg lleol).
11.
Gwariant ar ddarparu hyfforddiant mewn offerynnau cerdd neu hyfforddiant corawl (naill ai i unigolion neu i grwpiau).
12.
Gwariant ar gefnogi theatrau teithiol i'r graddau nad oes grantiau penodol ar gyfer y gwariant.
13.
Gwariant mewn cysylltiad â darparu addysgu'r Gymraeg gan athrawon a gyflogir i weithio heblaw mewn ysgol unigol i'r graddau nad oes grantiau penodol ar gyfer y gwariant.
14.
Gwariant ar ddarparu tir ac adeiladau a chyfleusterau i ysgolion ar gyfer gweithgareddau chwaraeon a gweithgareddau y tu allan (gan gynnwys tir ac adeiladau a ddarperir ar safle ysgol er budd y gymuned gyfan).
15.
Gwariant yn unol ag adran 512, 512ZA, 512ZB neu 513 o Ddeddf 1996[48]. Yn achos ysgolion uwchradd mae'n ymwneud â darparu llaeth ac yn achos unrhyw ysgol arall mae'n ymwneud â darparu llaeth neu brydau bwyd a lluniaeth arall.
16.
Gwariant ar drwsio a chynnal a chadw cegin ysgol os didynnir y gwariant ar brydau bwyd mewn perthynas â'r ysgol o dan sylw o gyllideb ysgolion yr awdurdod yn unol â pharagraff 15.
17.
Gwariant ar benderfynu ar gymhwyster disgybl i gael prydau bwyd ysgol yn ddi-dâl.
18.
Gwariant yn unol ag adran 18 o Ddeddf 1996 wrth wneud unrhyw grant neu daliad arall mewn perthynas â ffioedd neu dreuliau (o ba natur bynnag) sy'n daladwy mewn cysylltiad â phresenoldeb disgyblion mewn ysgol nas cynhelir gan unrhyw awdurdod addysg lleol.
Staff
19.
Gwariant wrth dalu, neu lenwi bwlch dros dro, menyw sydd ar seibiant mamolaeth neu i berson ar seibiant mabwysiadu.
20.
Gwariant wrth dalu, neu lenwi bwlch dros dro ar gyfer, personau -
21.
Gwariant wrth dalu, neu wrth ddarparu i lenwi bwch dros dro, ar gyfer person sydd ar secondiad ar sail llawnamser am gyfnod o dri mis neu fwy heblaw i awdurdod addysg lleol neu i gorff llywodraethu ysgol.
22.
Gwariant wrth dalu, neu wrth ddarparu i lenwi bwlch dros dro, i bersonau sydd wedi bod yn absennol o'r gwaith yn ddi-dor oherwydd salwch am 21 diwrnod neu fwy.
23.
Gwariant, nad yw'n dod o fewn Atodlen 1, mewn perthynas â recriwtio, hyfforddi, datblygu proffesiynol parhaus, rheoli perfformiad a rheoli personél yn achos staff sy'n cael eu cyllido o wariant na thelir mohono o gyfrannau cyllideb ysgolion.
Gwariant arall
24.
Gwariant mewn cysylltiad â darparu addysg feithrin ac eithrio os gwneir y ddarpariaeth mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir sydd â chyfran cyllideb o dan adran 45(1A) o Ddeddf 1998[55].
25.
Gwariant ar yswiriant mewn perthynas ag atebolrwydd sy'n codi mewn cysylltiad ag ysgolion a thir ac adeiladau ysgol ac eithrio i'r graddau y mae cyrff llywodraethu yn derbyn cyllid ar gyfer yswiriant fel rhan o'u cyfrannau cyllideb ysgolion.
26.
Gwariant ar ffi trwyddedau neu danysgrifiadau a delir ar ran ysgolion ar yr amod nad yw'r gwariant yn dod i gyfanswm sy'n fwy na 0.2 y cant o gyllideb ysgolion yr awdurdod.
27.
Gwariant a dynnir wrth ymateb i adroddiad arolygiad o dan adran 10 o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996[56].
28.
Gwariant ar wasanaethau llyfrgell a gwasanaethau amgueddfa ar gyfer ysgolion.
29.
Gwariant y byddai addysg disgyblion mewn ysgol hebddo yn cael ei handwyo'n ddifrifol ac na fyddai'n rhesymol disgwyl oherwydd naill ai -
i'r corff llywodraethu ei dalu o gyfran cyllideb yr ysgol.
30.
Gwariant ar ychwanegiadau at gyfran cyllideb yr ysgol y mae'r ysgol â hawl iddynt yn rhinwedd fformiwla'r awdurdod neu ailbenderfynu cyfrannau'r gyllideb o dan awdurdod y Cynulliad Cenedlaethol neu wariant ar gywiro gwallau.
31.
Gwariant at ddibenion nad ydynt yn dod o fewn unrhyw baragraff arall o'r Atodlen hon ar yr amod nad yw'r gwariant yn dod i gyfanswm sy'n fwy na 0.1 y cant o gyllideb ysgolion yr awdurdod.
32.
CERA a dynnir at ddibenion nad ydynt yn dod o fewn unrhyw baragraff arall o'r Atodlen neu Atodlen 1.
33.
Gwariant a dynnir yn unol â pharagraff 7 o Atodlen 11 i Ddeddf 1998 neu adran 22 o Ddeddf Addysg 2002 [57] wrth hyfforddi llywodraethwyr i'w galluogi i gyflawni eu swyddogaethau yn effeithiol i'r graddau na ddarperir hyn gan grantiau penodol.
34.
Gwariant a dynnir mewn perthynas â hyfforddi clercod byrddau llywodraethu i'w gallugoi i gyflawni eu swyddogaethau yn effeithiol.
Mae rhan 2 o Reoliadau Cyllido Ysgolion a Gynhelir 1999 ac Atodlen 2 iddynt (Rheoliadau 1999) yn diffinio LSB ac ISB.
Mae adran 45A o Ddeddf 1998 fel y'i mewnosodwyd gan adran 41(1) o Ddeddf Addysg 2002 (sy'n disodli'r hen adran 46 a ddiddymir gan Ddeddf 2002) yn awr yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau addysg lleol ddyrannu gwariant yn dair cyllideb:
Pennir categorïau cyllideb newydd yr AALl, cyllideb ysgolion a chyllideb ysgolion unigolion yn y rheoliadau hyn ac maent yn disodli Rhan II o Atodlen 2 i Reoliadau 1999.
Mae'r rheoliadau hyn yn rhagnodi'r gwariant sy'n llunio cyllideb awdurdod addysg lleol a chyllideb ysgolion ar gyfer blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004.
Disgrifir dosbarthiadau neu ddisgrifiadau o'r gwariant cynlluniedig sy'n llunio cyllideb yr AALl yn rheoliad 5 ac yn Atodlen 1. Disgrifir y gyllideb ysgolion yn rheoliad 4.
Mae Atodlen 2 yn pennu natur y gwariant cynlluniedig y caiff awdurdod addysg lleol ei ddidynnu o'i gyllideb ysgolion mewn blwyddyn ariannol er mwyn gweld ei gyllideb ysgolion unigol ar gyfer y flwyddyn ariannol honno. Cyllideb ysgolion unigol awdurdod yw'r swm a rennir rhwng yr ysgolion a gynhelir ganddo ar ffurf cyfrannau cyllideb ar gyfer pob ysgol.
Mae rheoliad 3 yn dirymu rhannau perthnasol Rheoliadau 1999.
[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 211 o Ddeddf Addysg 2002 p.32.back
[5] Sefydlwyd Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant o dan adran 30 o Ddeddf 2000.back
[6] O.S. 1997/319 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/371 a 1999/1852.back
[7] Dyma'r arferion priodol y cyfeirir atynt yn adran 66(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42) ac, ar ddyddiad gwneud y rheoliadau hyn, maent yn cynnwys y Cod Ymarfer ar Gyfrifydda Awdurdodau Lleol ym Mhrydain Fawr 2002, fel y'i diweddarwyd (ISBN 0 85299 947 897 X).back
[9] 1984 p.27, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p.51), Atodlen 5, paragraff 4(10).back
[10] Mewnosodwyd gan adran 40 o Ddeddf 2002 a pharagraff 4 o Atodlen 3 iddi.back
[13] Cymeradwyir a rheoleiddir ysgolion arbennig nas cynhelir gan reoliadau a wneir o dan adran 342 o Ddeddf 1996.back
[14] Sefydlir unedau cyfeirio disgyblion o dan adran 19 o Ddeddf 1996.back
[16] Gwasanaethau partneriaeth â rhieni yw'r gwasanaethau y darperir ar eu cyfer o dan adran 332A o Ddeddf Addysg 1996 i roi cyngor a gwybodaeth i rieni plant ag anghenion addysgol arbennig.back
[17] Mewnosodwyd adran 527A gan adran 9 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44) a diwygiwyd hi gan baragraff 144 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998.back
[19] Caiff adran 175 ei dwyn i rym ar ddiwrnod sydd i'w benodi.back
[21] Diffinnir National Health Service Trusts yn adran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 p.19.back
[22] Sefydlir Byrddau Iechyd Lleol drwy orchymyn a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 16BA o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49) fel y mewnosodwyd hi gan adran 6(1) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17).back
[23] Mewnosodir adran 16A gan adran 57 o Ddeddf 2002 ar ddiwrnod sydd i'w benodi.back
[24] Mewnosodir adran 113A ac Atodlen 7A gan adran 72 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 9 iddi ar ddiwrnod i'w benodi.back
[25] Mae adran 85A o Ddeddf 1998 i'w fewnosod gan adran 46 o Ddeddf 2002 a'r ddiwrnod sydd i'w benodi.back
[26] Mewnosdwyd adrannau 509AA, 509AB a 509AC gan adran 199 o, Ddeddf 2002 ac Atodlen 19 iddi.back
[27] Amnewidiwyd adran 518 gan adran 129 o Ddeddf 1998.back
[30] Amnewidiwyd adran 518 gan adran 129 o Ddeddf 1998.back
[31] Mewnosodwyd adran 15A gan adran 140(1) a pharagraff 63 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998, ac adran 15B gan adran 149 a pharagraffau 1 a 55 o Atodlen 9 i Ddeddf 2000.back
[33] Daw adran 44 i rym ar ddiwrnod i'w benodi.back
[36] Diwygiwyd adrannau 120 a 121 gan adran 150 o Ddeddf 2002.back
[37] Diwygiwyd adran 119 gan adran 150 o Ddeddf 2002.back
[39] Y rheoliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd o dan y ddarpariaeth hon yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Ffioedd) 2002, (O.S. 2002/326 (Cy.39)).back
[41] Adeg gwneud y Rheoliadau hyn y Gorchmynion perthnasol yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/45); Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 2) 1997 (O.S. 1997/2009, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/1977) a Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 1997 (O.S. 1997/2010), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/1889 (Cy.40).back
[42] Y Rheoliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd o dan y ddarpariaeth hon yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/543 (Cy.77)).back
[43] Mewnosodwyd adran 47A gan adran 43 o Ddeddf 2002.back
[44] Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (ISBN 0 7504 2757 4).back
[45] Mewnosodwyd adran 527A gan adran 9 o Ddeddf Addysg 1997 (p.44) ac fe'i diwygiwyd gan baragraff 144 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998.back
[46] Diwygir adran 493 gan adran 208(1) o Ddeddf 2002 ar ddiwrnod i'w benodi.back
[47] Caiff Adran 207 ei dwyn i rym ar ddiwrnod i'w benodi.back
[48] Amnewidiwyd adran 512 a mewnosodwyd adrannau 512ZA a 512ZB gan adran 201 o Ddeddf 2002.back
[51] O.S. 1977/500, a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/1513 a 1999/860.back
[53] O.S. 1981/1794; mewnosodwyd rheoliad 11A gan O.S. 1995/2587 a'i ddiwygio gan O.S. 1999/1925.back
[55] Daw adran 45(1A) i rym ar ddiwrnod i'w benodi.back
[57] Daw adran 22 i rym ar ddiwrnod i'w benodi.back
© Crown copyright 2003 | Prepared 10 December 2003 |