British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2003 Rhif 3117 (Cy.295)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033117w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 3117 (Cy.295)
CYNRYCHIOLAETH Y BOBL, CYMRU
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2003
|
Wedi'i wneud |
2 Rhagfyr 2003 | |
|
Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1. |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan erthygl 21(1) a (2) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2003[1], ac ar ôl ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol -
Enwi, cychwyn a dehongli
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2003 a daw i rym y diwrnod ar ôl iddo gael ei wneud.
Talu ffioedd hyfforddi i Swyddogion Canlyniadau
2.
- (1) Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2002[2] yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 3(1)(b) rhodder - "treuliau o'r math a ddisgrifir ym mharagraffau 3(1), 4(1), 5(1), 6(1) a 6A(1) o'r Atodlen, ac".
(3) Yn rheoliad 3(2)(b), yn lle "7(1)" rhodder "5(1) a 6A(1)".
(4) Yn Rhan II o'r Atodlen, ar ôl Paragraff 6 mewnosoder paragraff newydd, sef Paragraff 6A -
"
Taliadau mewn cysylltiad â hyfforddi swyddogion llywyddu:
6A.
- (1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwneud taliad i swyddog canlyniadau mewn cysylltiad â chostau a dynnir wrth hyfforddi swyddogion llywyddu i gyflawni dyletswyddau ar ddiwrnod pleidleisio mewn etholiad Cynulliad.
(2) £40.00 yw'r uchafswm y gellir ei adennill fesul swyddog llywyddu sy'n cael hyfforddiant.
(3) Yn ychwanegol at y costau y gellir eu hadennill o dan baragraff (2) £125.00 yw'r uchafswm y gellir ei adennill fesul etholaeth Cynulliad mewn cysylltiad â pharatoi deunyddiau hyfforddi.
(4) Yn ychwanegol at y costau y gellir eu hadennill o dan baragraffau (2) a (3) £100.00 yw'r uchafswm y gellir ei adennill fesul cyflwyniad hyfforddi a roddir i swyddogion llywyddu.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Rhagfyr 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Erthygl 3 a Rhan II o'r Atodlen i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2002 ("Gorchymyn 2002"), a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2003.
O dan erthygl 21(1) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2003 ("Gorchymyn 2003") mae hawl swyddog canlyniadau mewn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i adennill costau mewn perthynas â gwasanaethau neu dreuliau'r person hwnnw o ran neu mewn cysylltiad ag etholiad o'r fath yn dibynnu ar y canlynol, sef -
(a) bod y gwasanaethau neu'r treuliau yn rhai o'r math a nodir mewn Gorchymyn o dan y ddarpariaeth honno,
(b) bod y gwasanaethau yn cael eu darparu'n briodol a bod y treuliau yn rhai sy'n cael eu tynnu'n briodol, ac
(c) bod y taliadau mewn perthynas â hwy yn rhesymol.
Gwneir y Gorchymyn hwn o dan Erthygl 21(1) a (2) o Orchymyn 2003.
Mewnosodir paragraff newydd, sef Paragraff 6A, yn Rhan II o'r Atodlen i Orchymyn 2002, ac mae'n caniatáu i daliad gael ei wneud i swyddog canlyniadau mewn cysylltiad â hyfforddi swyddogion llywyddu i gyflawni dyletswyddau pleidleisio ar ddiwrnod etholiad.
Notes:
[1]
O.S. 2003 Rhif 284.back
[2]
O.S. 2002 Rhif 3053 (Cy.288).back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090825 2
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
9 December 2003
|