British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Iechyd (Cymru) 2003 (Cychwyn Rhif 1) 2003 Rhif 2660 (Cy.256)(C.102)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032660w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 2660 (Cy.256)(C.102)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Iechyd (Cymru) 2003 (Cychwyn Rhif 1) 2003
|
Wedi'i wneud |
14 Hydref 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y p
erau a roddwyd iddo gan adrannau 8(2) a (3) a 10(2) o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: -
Enwi a dehongli
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd (Cymru) 2003 (Cychwyn Rhif 1) 2003.
(2) Yn y Gorchymyn hwn -
(3) ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Iechyd (Cymru) 2003;
(4) ystyr "Deddf 1977" ("the 1977 Act") yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[2].
Y dyddiau a bennwyd ar gyfer darpariaethau yngl
n â'r Cynghorau Iechyd Cymuned ac Arbedion
2.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) 20 Hydref 2003 yw'r dydd a bennwyd i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym at bob diben -
(i) adran 1 ac Atodlen 1;
(ii) paragraffau 5, 14 ac 16 o Atodlen 3 ac adran 7(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â hwy; a
(iii) adran 7(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 4 heblawr cyfeiriad at adran 22(4) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth lechyd Gwladol a Phroffesiynnau Gofal Iechyd 2002.
(2) Dim ond yngl
n â Chymru y mae'r darpariaethau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yn cael eu dwyn i rym.
(3) Er gwaethaf diddymu Atodlen 7 i Ddeddf 1977, bydd Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 1996[3] a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymdeithas y Cynghorau Iechyd Cymuned) 1977[4] yn parhau i gael effaith.
Y dyddiau a bennwyd ar gyfer darpariaethau yngl
n â Chanolfan Iechyd Cymru
3.
- (1) 20 Hydref 2003 yw'r dydd a bennwyd i adrannau 2 a 3 o'r Ddeddf, a pharagraff 10 o Atodlen 2 iddi, ddod i rym at ddibenion gwneud rheoliadau yn unig.
(2) 1 Ebrill 2005 yw'r dydd a bennwyd i adrannau 2, 3 a 7(1) o'r Ddeddf, ac Atodlenni 2 a 3 o'r Ddeddf heblaw paragraff 16 o Atodlen 3, ddod i rym at bob diben sy'n weddill.
Y dydd a bennwyd ar gyfer darpariaethau ynglyn â Phroffesiynau Iechyd Cymru a darpariaethau atodol a darpariaethau cyffredinol.
4.
20 Hydref 2003 yw'r dydd a bennwyd i adrannau 4, 5 a 6 o'r Ddeddf ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Hydref 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Dyma'r Gorchymyn Cychwyn cyntaf o dan Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003 ("y Ddeddf").
Mae Erthygl 2 yn dwyn i rym adran 1 o'r Ddeddf ac Atodlen 1 iddi. Mae'r rhain yn ymwneud â Chynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru. Mae'r cynghorau a sefydlwyd o dan adran 20 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd 1977 i barhau mewn bodolaeth a rhoddir p
er i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud rheoliadau yngl
n â'u swyddogaethau. Yn ychwanegol, caiff y Cynulliad sefydlu corff statudol i gynghori a chynorthwyo Cynghorau Iechyd Cymuned yngl
n â chyflawni eu swyddogaethau.
Bydd cynghorau cymuned yn Lloegr yn parhau i fodoli tan ddyddiad cychwyn adran 22 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002.
Mae Erthygl 3 yn cychwyn at ddibenion gwneud rheoliadau yn unig (ynghylch aelodaeth a swyddogaethau), adrannau 2 a 3 o'r Ddeddf, a pharagraff 10 o Atodlen 2 iddi. Mae'r rhain yn ymwneud â Chanolfan Iechyd Cymru. Mae'r Ganolfan i'w sefydlu, gyda golwg ar ymgymryd â swyddogaethau ynghylch diogelu a gwella iechyd yng Nghymru, ar 1 Ebrill 2005 pan gychwynnir adran 2 a 3 ac Atodlen 2 at bob diben arall.
Ymhlith y darpariaethau a gychwynnir gan Erthygl 2 o'r Gorchymyn y mae darpariaethau yngl
n â Phroffesiynau Iechyd Cymru. Mae adrannau 4 a 5 o'r Ddeddf yn rhoi p
er i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sefydlu corff a elwir Proffesiynau Iechyd Cymru ac i wneud darpariaeth i Broffesiynau Iechyd Cymru gyflawni swyddogaethau yngl
n â phroffesiynau gofal iechyd a chymorth gofal iechyd.
Mae'r Gorchymyn yn cychwyn diwygiadau a diddymiadau canlyniadol hefyd.
Notes:
[1]
2003 p.4.back
[2]
1977 p.49.back
[3]
OS 1996/640 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/479 (Cy.20).back
[4]
OS 1977/874.back
[5]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090795 7
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
21 October 2003
|