British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (Cyfnodau Rhagnodedig ar gyfer Strategaethau a Chynlluniau Hygyrchedd ar gyfer Ysgolion) (Cymru) 2003 Rhif 2531 (Cy.246)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032531w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 2531 (Cy.246)
POBL ANABL, CYMRU
Rheoliadau Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (Cyfnodau Rhagnodedig ar gyfer Strategaethau a Chynlluniau Hygyrchedd ar gyfer Ysgolion) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
1 Hydref 2003 | |
|
Yn dod i rym |
8 Hydref 2003 | |
Drwy arfer y pwerau a freiniwyd yn y Cynulliad Cenedlaethol gan adrannau 28D(1), (2), (8) a (9), a 67(3)(a), o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995[1], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol[2]:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (Cyfnodau Rhagnodedig ar gyfer Strategaethau a Chynlluniau Hygyrchedd ar gyfer Ysgolion) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 8 Hydref 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Cyfwng rhagnodedig ar gyfer paratoi strategaethau hygyrchedd a chynlluniau hygyrchedd
2.
At ddibenion is-adrannau (1) ac (8) o adran 28D o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995, rhaid paratoi strategaethau hygyrchedd a chynlluniau hygyrchedd bob tair blynedd.
Cyfnod rhagnodedig ar gyfer strategaethau hygyrchedd a chynlluniau hygyrchedd
3.
At ddibenion is-adrannau (2) a (9) o adran 28D o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995, tair blynedd fydd y cyfnod rhagnodedig ym mhob achos, gan gychwyn ar 1 Ebrill a bydd cyfnod y strategaeth hygyrchedd cyntaf ac (yn ddarotyngedig i reoliad 4) y cynllun hygyrchedd gyntaf yn cychwyn ar 1 Ebrill 2004.
4.
Mewn perthynas ag ysgol sydd yn cael ei sefydlu wedi 1 Ebrill 2004, at ddibenion adran (9) o adran 28D o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995, bydd cyfnod rhagnodedig cynllun hygyrchedd yr ysgol honno yn cychwyn ar y dyddiad y mae'r ysgol yn cael ei sefydlu ac yn gorffen ar y dyddiad y byddai'r cynllun hygyrchedd presennol wedi gorffen pe bai'r ysgol wedi ei sefydlu ar 1 Ebrill 2004, neu cyn hynny.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
1 Hydref 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, a wneir o dan adran 28D o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995, yn rhagnodi:
- ei bod yn rhaid i awdurdodau addysg lleol baratoi strategaethau hygyrchedd bob tair blynedd;
- ei bod yn rhaid i gyrff cyfrifol ar gyfer ysgolion baratoi cynlluniau hygyrchedd bob tair blynedd;
- bod strategaethau hygyrchedd a chynlluniau hygyrchedd i bara am dair blynedd gan gychwyn ar 1 Ebrill ac yn gorffen ar 31 Mawrth; a bod y strategaeth gyntaf a'r cynllun cyntaf i gychwyn ar 1 Ebrill 2004 ac i orffen ar 31 Mawrth 2007; a
- pan fydd ysgol yn cael ei sefydlu ar ôl 1 Ebrill 2004, bydd cyfnod rhagnodedig cyntaf yr ysgol yn cychwyn ar y dyddiad pan gaiff ysgol ei sefydlu ac yn dirwyn i ben ar y dyddiad y byddai'r cynllun presennol ar gyfer yr ysgol wedi dirwyn i ben pe bai'r ysgol wedi ei sefydlu ar 1 Ebrill 2004 neu cyn hynny.
Notes:
[1]
1995, p.50; mewnosodwyd adran 28D gan Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (p.10), adran 14(1).back
[2]
Am ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 28D(17) o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995.back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 090789 2
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
8 October 2003
|